Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd cyfarfod o Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) yng Nghaerdydd ddoe i barhau â'r trafodaethau ynghylch y trefniadau cyllido a fydd yn cael eu sefydlu pan fydd pwerau trethu newydd yn cael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018 ac mae Deddf Cymru 2014 yn galluogi i'r dreth incwm gael ei datganoli'n rhannol.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yr Athro Mark Drakeford AC, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus David Gauke AS, yn cynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Fe gafodd y Gweinidogion drafodaeth adeiladol ynghylch yr opsiynau posibl ar gyfer y trefniadau cyllid newydd o ran y grant bloc. Yn benodol, trafodwyd y cysylltiad rhwng yr addasiad grant bloc, datganoli trethi, fformiwla Barnett a'r cyllid gwaelodol, a'r ffordd y mae'r rhain yn effeithio ar ei gilydd.

Yn ogystal, bu'r Gweinidogion yn trafod yr achos dros gynyddu terfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r adnoddau rheoli cyllidebau y bydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â'i phwerau newydd.

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
2 Rhagfyr 2016