Cyfarfu Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr ar 1 Awst yng Nghanolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ei ail gyfarfod llawn.
Yn y cyfarfod, pwysleisiodd y Cadeirydd Richard Parry-Jones unwaith eto yr angen i sicrhau bod y gwaith a wneir gan aelodau’r Tasglu yn arwain at ganlyniadau go iawn a bod angen canolbwyntio ar greu swyddi.
Rhoddodd Graham Hoare, Cadeirydd Ford Britain, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Tasglu am y broses ymgynghori sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd.
Cafwyd diweddariadau hefyd gan y tri gweithgor a sefydlwyd i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, sef:
- Pobl: I gefnogi'r holl weithwyr a'r teuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol oherwydd bod y ffatri'n cau (swyddi, iechyd, lles, sefydlogrwydd ariannol).
- Potensial: I nodi ac i hyrwyddo cyfleoedd economaidd y safle, i gefnogi’r ardal, y gweithlu, a'r gadwyn gyflenwi er mwyn creu opsiynau masnachol hyfyw a chynaliadwy.
- Lle: I adeiladu ar gydnerthedd economaidd a chymdeithasol cymuned Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cynnal, hyrwyddo a meithrin hyder economaidd.
Dyma rai o benawdau’r diweddariadau:
- Mae llawer o ddiddordeb masnachol wedi’i ddangos yn y Tasglu ac mae’n edrych ar nifer o gynigion buddsoddi ar gyfer y safle a'r ardal gyfagos – mae’r manylion yn sensitif yn fasnachol felly nid oes modd eu datgelu.
- Mae meini prawf ar gyfer y cynigion hyn yn cael eu datblygu i roi blaenoriaeth i gynaliadwyedd ac i ansawdd y swyddi a gynigir.
- Mae taflen wybodaeth am fuddsoddi wedi’i ddatblygu er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth cael gweithlu medrus iawn a ffatri fodern ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
- Mae'r Tasglu wedi nodi asiantaethau perthnasol a all gynnig cymorth i'r bobl yr effeithir arnynt oherwydd ei bod yn bosibl y bydd y ffatri'n cau ac mae wedi cynnwys yr asiantaethau hynny yn y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Yn ogystal â chynnig cymorth gyda chyflogaeth a sgiliau, mae'r Tasglu hefyd yn ystyried y cymorth sydd ei angen oddi wrth bartneriaid ehangach, gan gynnwys y rheini sy'n darparu gwasanaethau iechyd ac yn cynnig cyngor ariannol.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddeall dyheadau'r bobl yr effeithir arnynt gan y cynigion ac i ddeall pa gymorth y mae arnynt ei eisiau a'i angen. Yn rhan o'r gwaith hwn, mae Ford wedi cyflogi Right Management i ddarparu gwasanaeth all-leoli er mwyn cefnogi'r gweithlu.
Bu'r Tasglu'n trafod y cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi yr effeithir arnynt oherwydd ei bod yn bosibl y bydd y ffatri'n cau. Cafodd gyflwyniad am y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma i ddeall yr amrywiaeth o gwmnïau sydd yn y gadwyn gyflenwi a bu’n trafod y math o gymorth y gallai fod ei angen.
Cytunwyd bod angen mynd i'r afael â'r maes gwaith hwn ar lefel uchel a phenderfynwyd y byddai'n fuddiol hoelio sylw ar fynd ati i drafod yn fuan gyda'r cwmnïau sydd yn y gadwyn gyflenwi. Er mwyn symud y gwaith hwnnw yn ei flaen, comisiynodd y Tasglu waith i drafod sut i feithrin cysylltiadau a thrafod â'r gadwyn gyflenwi estynedig cyn y cyfarfod llawn nesaf.
Cytunwyd ar y blaenoriaethau ar gyfer pob gweithgor dros yr wythnosau nesaf fel y bo modd bwrw ymlaen â'r gwaith cyn cyfarfod llawn nesaf y Tasglu ym mis Medi.