Heddiw, am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd o ddatganoli, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban, ar yr un pryd, i wrthwynebu'r niwed a fydd yn deillio o Brexit heb gytundeb.
Pleidleisiodd y mwyafrif helaeth o'r Aelodau ar draws y ddwy siambr i gytuno y byddai ymadael heb gytundeb yn gyfan gwbl annerbyniol ac mai estyn Erthygl 50 yw'r ffordd orau ymlaen i amddiffyn Cymru, yr Alban a'r DU yn gyfan.
Roedd y cynigion yn Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn ailddatgan gwrthwynebiad i'r cytundeb a gafodd ei negodi gan Brif Weinidog y DU a fyddai'n peri niwed sylweddol i'r ddwy wlad.
Cymerwyd y cam unedig a hanesyddol hwn i anfon y neges fwyaf eglur bosibl i Lywodraeth y DU a San Steffan fod rhaid i'r cynllun gweithredu anghyfrifol hwn ddod i ben yn awr.
Nid yw'r gyfres o bleidleisiau a gynhelir yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf yn cynnig fawr o gysur inni. Bryd hynny, ni chaiff pleidlais ar estyn Erthygl 50 ei chynnal ond ar ôl ymgais arall i orfodi Aelodau Seneddol i gefnogi cytundeb Prif Weinidog y DU a phleidlais i gefnogi ymadael heb gytundeb.
Pedwar diwrnod ar hugain yn unig sydd ar ôl nes inni gael ein rhwygo allan o'r UE. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i wrthsefyll ymdrech ryfygus y Prif Weinidog i fynd â ni i'r unfed awr ar ddeg.
Heddiw rydym wedi dod ynghyd i nodi ein gwrthwynebiad clir i'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU.
Yr wythnos nesaf rhaid i'r Prif Weinidog a Senedd y DU ddangos eu bod wedi gwrando, diystyru ymadael heb gytundeb ar unrhyw adeg a gofyn am gael estyn Erthygl 50 , a hynny ar fyrder.