Neidio i'r prif gynnwy

Wrth siarad cyn y cyfarfod olaf o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig cyn i’r Deyrnas Unedig gael Prif Weinidog newydd, mae Prif Weinidogion yr Alban a Chymru wedi galw ar y sawl a etholir i’r swydd i ddiystyru ymadael heb gytundeb ar unrhyw gyfrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y byddai eu llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd a gydag eraill i gadw’r Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. 
Dywedodd y ddau:

“Mae ein pryder yn cynyddu o glywed mwy a mwy o rethreg galed am Brexit heb gytundeb a chlywed y sôn am gynigion polisi hollol afrealistig ar gyfer ymadael â’r UE.

“Mae niwed economaidd difrifol yn digwydd yn barod yn sgil yr ansicrwydd parhaus ynglŷn â Brexit ac oherwydd y ffactorau byd-eang ehangach sy’n effeithio ar allu’r DU i gystadlu. Bydd cwmnïau’n gwneud penderfyniadau am swyddi ar sail y llwyddiant a’u cyfleoedd economaidd y maen nhw’n eu rhagweld ar gyfer y dyfodol - fel y gall gweithwyr yn British Steel, Ford, Honda ac mewn llefydd eraill gadarnhau.

“Rydyn ni’n credu y byddai ymadael â’r UE heb gytundeb yn drychineb i economïau’r ynysoedd hyn ac i fywoliaeth cannoedd o filoedd o bobl.

“Byddai Brexit gytundeb yn achosi niwed difrifol i enw da’r DU fel partner rhyngwladol dibynadwy, ac yn tanseilio Cytundeb Dydd Gwener y Groglith a’r broses heddwch ar ynys Iwerddon.

“Rhaid i’r Prif Weinidog nesaf gamu nôl o ymyl dibyn Brexit heb gytundeb, a bod yn onest gyda’r cyhoedd. Os byddant yn parhau ar y trywydd presennol, mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd y DU yn cael ei rhwygo o’r UE ymhen pedwar mis.

“Ni fydd yr UE yn fodlon gwrando ar alwadau i ailddechrau trafod y Cytundeb Ymadael, ac mae’r honiadau y gallem ymadael heb gytundeb a dal i allu masnachu â’r UE heb dariffau wedi cael eu gwrthbrofi.

“Felly, rhaid i’r Prif Weinidog newydd newid ei drywydd a diystyru ymadael heb gytundeb ar unrhyw gyfrif.

“Mae’n amlwg nawr, yn sgil y diffyg cynnydd yn San Steffan, y dylid cynnal refferendwm newydd ynglŷn â’n haelodaeth o’r UE, a byddai ein llywodraethau ni’n dau yn cefnogi aros. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd a gydag eraill sy’n rhannu’r nod hwnnw.”