Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn cynnal y seibiant i ailystyried a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr haf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen â dau osodwaith celf mawr i ddathlu Blwyddyn y Chwedlau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er hynny, bydd y gwaith ar Gastell y Fflint a’r uwchgynllun ar gyfer y blaendraeth yn mynd yn ei flaen. Mae’n bosib y caiff gosodwaith celf mawr arall fod yn rhan o’r buddsoddiad hwnnw. 

Fel rhan o'r adolygiad, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref y Fflint a nifer o grwpiau a phartneriaid lleol i drafod sut y dylid mynd ati i ddatblygu Castell y Fflint a blaendraeth y Fflint. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn glir ei bod wedi ymrwymo i fuddsoddi arian sylweddol yng Nghastell y Fflint ac i ddarparu uwch-gynllun ar gyfer blaendraeth a Chastell y Fflint, a hynny ar ôl ymgynghori'n llawn â rhanddeiliaid lleol. 

Er i randdeiliaid lleol fynegi peth cefnogaeth i'r cerflun a gynigiwyd, derbyniwyd y byddai'n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch gosodwaith celf mawr gyd-fynd â'r uwchgynllun ehangach. O'r herwydd, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn dod â'r gwaith ar y cerflun i stop ac y byddai'n canolbwyntio yn hytrach ar ddefnyddio peth o'r arian i gynnal yr uwchgynllun, sy'n disgrifio gweledigaeth ar gyfer canolfan defnydd cymysg i ymwelwyr a phobl eraill i gefnogi twristiaeth, cerdded a beicio a mudiadau lleol pwysig gan gynnwys yr RNLI a chlybiau rygbi a phêl-droed lleol. 

 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

 

"Rydyn ni'n cydnabod bod y cynnig ar gyfer cerflun y Cylch Haearn wedi rhannu barn ac yn dilyn cyfarfodydd hynod adeiladol a chynhyrchiol â rhanddeiliaid lleol, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dyluniad dan sylw. Byddwn yn defnyddio'r arian oedd wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith celf i gynnal yr uwchgynllun ehangach ar gyfer y blaendraeth, yn unol â barn pobl leol. Bydd hynny'n cynnwys buddsoddi cyfalaf mewn nifer o brosiectau yn yr ardal a chynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gynyddu dealltwriaeth o hanes y Castell ac arwyddocâd y blaendraeth. Fel Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, rydym am roi blaenoriaeth uchel i ddatblygu'r uwchgynllun.” 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts o Gyngor Sir y Fflint: 

 

"Rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn yn y Castell a'r blaendraeth a'r ymrwymiad i gadw'r adnoddau yn y Fflint. Roedd ein cyfarfod diweddar â Llywodraeth Cymru yn un hynod bositif ac rwy'n teimlo'n hyderus, trwy gydweithio yn y dyfodol, y cawn ganlyniad sy'n ffafriol i dre'r Fflint fydd yn gwella'r Castell hanesyddol â'i gysylltiadau â Rhisiart II a Shakespeare, y blaendraeth a'r gwelliannau sydd wedi'u cynnal yng nghanol y dref dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn hefyd yn parhau i ystyried cynigion ar gyfer gwaith celf mawr fel rhan o uwchgynllun y blaendraeth."