Mae Llywodraeth Cymru, grwpiau cynrychioli busnesau, yr Undebau Llafur ac adwerthwyr hanfodol wedi bod yn cydweithio’n glos dros y dyddiau diwethaf ar y rheolau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfyngu ar werthu eitemau dianghenraid dros y cyfnod atal o 17 niwrnod.
Hynny i atal lledaeniad y coronafeirws ac achub bywydau. Er nad yw Llywodraeth Cymru a’r adwerthwyr yn rhannu’r un weledigaeth o ran sut i wneud, rydyn ni oll yn gytûn bod angen system sy’n diogelu staff siopau, sy’n hawdd i gwsmeriaid a staff ei deall a chadw ati ac sy’n helpu i leihau’r amser y mae pobl yn ei dreulio yn y siopau dros y cyfnod atal.
Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’i chyngor er mwyn ei gwneud yn gliriach i adwerthwyr beth sydd angen ei wneud i roi’r rheolau ar waith a sut y dylai adwerthwyr ymateb pan fydd pobl yn gwneud cais eithriadol am rywbeth sydd ddim ar y rhestr o bethau sy’n gallu cael eu gwerthu. Cytunodd hefyd i edrych ar y ddeddfwriaeth ar ôl y cyfnod atal i ystyried profiadau ac ymateb y diwydiant.
Rydyn ni’n cydnabod y gwaith caled y mae staff siopau ledled Cymru wedi’i wneud a’r angen i’w cadw’n ddiogel yn ystod y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru a’r siopau am atgoffa pobl i fod yn gwrtais a charedig wrth staff siopau sydd yno i’w helpu.
Dros y cyfnod atal, rydyn ni’n galw ar siopwyr yng Nghymru i feddwl a allan nhw ohirio prynu rhywbeth mewn siop os nad yw ar y rhestr o bethau sy’n gallu cael eu gwerthu. Gall siopwyr wrth gwrs ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein a gynigir gan yr archfarchnadoedd mwya a siopau eraill y stryd fawr a chwmnïau ar-lein.