Yn dilyn cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch ac yng ngoleuni'r data diweddaraf, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig a Chyfarwyddwr Meddygol NHS England yn argymell y dylid codi Lefel Rhybudd y DU o Lefel 4 i Lefel 5.
“Yn dilyn cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch ac yng ngoleuni'r data diweddaraf, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig a Chyfarwyddwr Meddygol NHS England yn argymell y dylid codi Lefel Rhybudd y DU o Lefel 4 i Lefel 5.
“Mae sawl rhan o systemau iechyd y pedair gwlad eisoes o dan bwysau aruthrol. Mae cyfraddau uchel iawn o drosglwyddo cymunedol ar hyn o bryd, ac mae nifer sylweddol o gleifion COVID mewn ysbytai ac mewn gofal dwys. Mae’r achosion yn cynyddu ym mhobman bron, a’r rheswm am hynny yn y rhan fwyaf o’r wlad yw’r amrywiolyn newydd sy’n fwy trosglwyddadwy. Nid ydym yn hyderus y gall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ymdrin â chynnydd parhaus pellach mewn achosion, a heb weithredu pellach mae risg sylweddol y bydd y Gwasanaeth Iechyd mewn sawl ardal yn cael ei lethu dros y 21 diwrnod nesaf.
“Er bod y Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau aruthrol, mae newidiadau sylweddol wedi'u gwneud er mwyn i bobl barhau i allu cael triniaeth i achub eu bywydau. Mae'n gwbl hanfodol bod pobl yn dal i ddod i gael gofal brys. Os oes arnoch angen sylw meddygol nad yw'n fater brys, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG111."
Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty
Prif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Gregor Smith
Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon, Dr Michael McBride
Cyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol NHS England, yr Athro Stephen Powis.