Mae Traffig Cymru yn darparu gwybodaeth am draffig a chyngor cysylltiedig i ddefnyddwyr ffyrdd.
Cynnwys
Beth sy'n mynd ar traffig.cymru
Gwybodaeth am draffig a chyngor cysylltiedig i ddefnyddwyr ffyrdd:
- gwaith ffordd
- cau ffyrdd
- rhybuddion traffig
- gwybodaeth am weithgarwch asiantau cefnffyrdd
- cyngor ymarferol ar ddiogelwch ar y ffyrdd, er enghraifft archwiliadau cynnal a chadw ceir a gyrru yn y gaeaf
- gwybodaeth am y gwasanaeth swyddogion traffig
Gall Traffig Cymru hefyd hyrwyddo gwybodaeth ar LLYW. CYMRU. Er enghraifft, gall Traffig Cymru gyflwyno prosiect ffyrdd yn fyr a rhoi dolen at LLYW.CYMRU am y manylion. Ni ddylai Traffig Cymru ddyblygu'r manylion ar LLYW. CYMRU, er enghraifft cynlluniau llwybrau ac ymgynghoriadau.
Beth sy'n mynd ar LLYW.CYMRU
Gwybodaeth am waith Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth.
Mae cynnwys LLYW.CYMRU yn cynnwys:
- strategaethau
- cynlluniau
- adroddiadau blynyddol
- datganiadau amgylcheddol
- cynlluniau llwybr
- llythyrau penderfyniad
- Gorchmynion ffyrdd
- ymgynghoriadau a gweithgareddau ymgynghorol
- prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Gall LLYW.CYMRU hefyd hyrwyddo gwybodaeth am Traffig Cymru. Er enghraifft, gall gyflwyno'n fyr y posibilrwydd o gau ffyrdd gyda dolen at Traffig Cymru i gael y manylion. Ni ddylai LLYW.CYMRU ddyblygu'r manylion ar Traffig Cymru, er enghraifft yr amser a'r dyddiad y mae ffordd ar gau.