Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: pam mae hyn yn bwysig?

Mae beichiogrwydd a genedigaeth yn ddigwyddiadau sy'n newid bywyd menyw[troednodyn 1] a'i theulu, ac yn ddigwyddiadau pwysig y disgwylir yn eiddgar amdanynt. Mae gan staff gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol gyfle unigryw i helpu menywod, eu partneriaid, eu babanod a'u teuluoedd. Mae beichiogrwydd hefyd yn gyfle i helpu menywod i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw a cheisio sicrhau'r iechyd a llesiant gorau posibl i deuluoedd ar hyd eu bywyd, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae polisi cenedlaethol wedi canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol (amenedigol[troednodyn 2]), a hynny yn dilyn sawl ymchwiliad annibynnol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gan gynnwys adroddiadau ar sail tystiolaeth ynghylch methiannau ledled y DU. Er gwaethaf cyfradd genedigaethau sy'n gostwng, ceir cymhlethdodau cynyddol yn y gofal a ddarperir oherwydd bod mwy o fenywod yn dioddef o gyflyrau fel diabetes, menywod â mynegai màs y corff uwch neu fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl amenedigol.

Mae menywod o gefndiroedd ethnig leiafrifol hefyd yn wynebu rhwystrau sylweddol, a cheir gwahaniaethau negyddol mesuradwy yn eu canlyniadau iechyd, yn arbennig o ran gwasanaethau amenedigol. Mae gwella casglu a dadansoddi data i ddeall yn well brofiadau menywod a theuluoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn ogystal â staff y GIG wedi bod yn flaenoriaethau ers lansio'r cynllun gweithredu cymru wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022. Er mwyn sicrhau y caiff polisïau eu llunio mewn modd cynhwysol, mae fframwaith ymgysylltu amenedigol Cymru gyfan wedi'i ddatblygu ar y cyd â chymunedau, rhanddeiliaid a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed ac y gweithredir arno.

Mae'r datganiad ansawdd hwn yn adeiladu ar y weledigaeth 5 mlynedd ar gyfer dyfodol gofal mamolaeth yng Nghymru (2019) a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni gwasanaethau mamolaeth o ansawdd uchel yng Nghymru. Crëwyd y weledigaeth hon wedi i nifer o bobl ddod at ei gilydd i adnewyddu'r model o ofal mamolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth a oedd ar gael ar y pryd, yr arferion gorau a’r adborth gan deuluoedd a staff rheng flaen i ddylunio a gwella gwasanaethau presennol ymhellach.

Wrth i 2025 fynd rhagddi ac wrth inni edrych at y dyfodol, nid yw hanfod y weledigaeth wedi newid. Ein huchelgais yw parhau i annog y pum egwyddor o ran gofal mamolaeth, sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn ddiogel ac yn effeithiol, parhad gofalwyr, timau amlbroffesiynol medrus a gwasanaeth cynaliadwy o ansawdd. Ar yr un pryd, rhaid inni gydnabod bod gofal mamolaeth a newyddenedigol yn rhywbeth parhaus, a rhaid rhoi dull gweithredu wedi'i gydgysylltu ar waith.

Mae'r priodoleddau ansawdd ar gyfer gofal amenedigol yng Nghymru yn ceisio cefnogi'r gwaith o ddarparu'r gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf, gan arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i fenywod, babanod a'u teuluoedd yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ôl-enedigol.

Y cyd-destun: sut y mae hyn yn cyd-fynd â’r polisi ehangach?

Caiff datganiadau ansawdd eu llunio gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyd-fynd â’r ymrwymiad yn Cymru iachach (2018) i ddiffinio’r canlyniadau a’r safonau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y claf, a ddarperir gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru.

Mae’r fframwaith clinigol cenedlaethol (2021), a luniwyd mewn ymateb i Cymru iachach, yn nodi diben datganiadau ansawdd o ran darparu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol, wedi’u seilio ar fanylebau gwasanaeth manylach, sy’n galluogi i ddull hirdymor a chyson gael ei roi ar waith ar gyfer gwella canlyniadau.

Er mwyn helpu'r timau mewn unedau mamolaeth a newyddenedigol i wneud yr hyn a wnânt orau, yn ogystal â sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i fenywod, babanod a'u teuluoedd, mae'r datganiad ansawdd hwn yn rhoi fframwaith i fyrddau iechyd annog gwelliant ym mhob uned, gan ganolbwyntio ar ofal o ansawdd uchel ledled Cymru.

Dylid ystyried y ddogfen hon law yn llaw â gwella gyda’n gilydd dros Gymru, adroddiad cyfnod darganfod y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol a'i darllen yng nghyd-destun cynlluniau cenedlaethol a lleol ehangach y bwriedir iddynt sicrhau bod gennym ddull gweithredu clir a chyson ar gyfer diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Bydd hyn yn arwain at welliannau mewn canlyniadau ac ansawdd y gofal a ddarperir i famau a'u babanod, gan leihau anghydraddoldebau sy'n wynebu unigolion ethnig leiafrifol a grwpiau eraill a ymyleiddiwyd.

Dull gweithredu: sut y mae'r ddogfen hon wedi'i llunio?

Mae gweithgarwch ymgysylltu cadarn wedi bod ynghlwm wrth y datganiad ansawdd hwn, gan gynnwys arolygon cenedlaethol ar gyfer y cyhoedd a staff, digwyddiadau a grŵp gorchwyl a gorffen cenedlaethol. Cafwyd cyfraniadau gan arweinwyr ym maes gofal mamolaeth a newyddenedigol, arweinwyr uwch a gweithredol ledled GIG Cymru, y colegau brenhinol, y trydydd sector a'r byd academaidd.

Er y cydnabyddir bod angen dull gweithredu system gyfan i ysgogi newid trawsnewidiol, mae cwmpas y datganiad ansawdd hwn yn benodol ar gyfer gwasanaethau amenedigol, sef y daith y mae'r fam a'r baban yn mynd arni o adeg y beichiogi hyd at yr adeg y cânt eu rhyddhau o'r ysbyty. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried y datganiad ansawdd hwn ar ei ben ei hun; gan gydnabod bod beichiogrwydd a genedigaeth yn ddigwyddiadau byr o ran hyd yng nghwrs bywyd. Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched a'r cynllun iechyd menywod Cymru dilynol, sy'n ategu strategaethau atal, gan gynnwys gofal cyn cenhedlu i arwain at feichiogrwydd iachach, yn ogystal â'r rhaglen plant iach Cymru yn atodiadau pwysig i'r ddogfen hon.

Mae’r priodoleddau ansawdd wedi'u llunio ar sail y 12 safon ansawdd iechyd a gofal. Nod y safonau yw darparu fframwaith clir i helpu i gynllunio, darparu a monitro gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Cyflawni: beth a ddisgwylir gan y byrddau iechyd?

Disgwylir i’r byrddau iechyd adolygu eu sefyllfa bresennol o ran pob un o’r priodoleddau ansawdd a ddisgrifir yn y datganiad ansawdd, gan eu cysoni â'u cynlluniau gweithredu lleol o ran y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol. Bydd hyn yn gweithredu fel llinell sylfaen ac yn cyfrannu at ddatblygu cynlluniau gwella, neu eu cysoni â chynlluniau gwella presennol.

Bydd camau gweithredu allweddol yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru a Gweithrediaeth GIG Cymru, a fydd yn gyson â'r blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad darganfod. Bydd byrddau iechyd yn cael eu cefnogi gan Weithrediaeth y GIG i gyflawni'r disgwyliadau a amlinellir yn y ddogfen hon. Bydd hyn yn cael ei gyflawni'n bennaf drwy'r rhwydwaith gweithredu ar gyfer y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, a lle bo hynny'n briodol, y rhwydwaith strategol mamolaeth a newyddenedigol.

Bydd y rhwydwaith strategol yn cydweithio i ddatblygu manyleb gwasanaeth gadarn ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru gan ystyried llwybrau clinigol cenedlaethol, sy'n gyson â phriodoleddau ansawdd gwasanaethau eraill neu grwpiau ar gyfer cyflyrau penodol lle bo hynny'n briodol.

Priodoleddau ansawdd gofal amenedigol yng Nghymru

Diogel

1. Defnydd cyson o lwybrau gofal sy'n canolbwyntio ar unigolion ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a ddarperir gan weithlu amlbroffesiynol medrus, sy'n cynnwys cymorth gan drefniadau llywodraethiant clinigol cadarn a llwybrau uwchgyfeirio o'r ward i'r bwrdd.

2. Caiff risgiau o fewn gwasanaeth eu hasesu, eu cyfathrebu a'u huwchgyfeirio'n systematig yn y sefydliad, yn ogystal â thrwy systemau llywodraethiant cenedlaethol, gan gymryd camau priodol i fynd ati'n rhagweithiol i leihau'r posibilrwydd o niwed.

3. Caiff gwybodaeth o ran galw a chapasiti ei monitro'n systematig i lywio dyluniad a chyfluniad gwasanaethau, gan ystyried aciwtedd, cymhlethdod a gofynion arbenigol i alluogi'r gwaith cyflawni yn unol â safonau cenedlaethol y cytunwyd arnynt a chymarebau staffio a argymhellir.

Amserol

4. Rhoddir systemau a phrosesau ar waith ar gyfer cyfathrebu amlbroffesiynol ac amlasiantaethol effeithiol ar draws gwasanaethau amenedigol i ddarparu gofal yn y lle mwyaf priodol ac ar yr adeg fwyaf priodol.

5. Cynhelir asesiadau amserol, cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pob agwedd ar ofal amenedigol yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt. Cânt eu goruchwylio gan weithwyr proffesiynol medrus a phrofiadol er mwyn gallu gwneud penderfyniadau effeithiol a blaenoriaethu ar sail glinigol.

Effeithiol

6. Darperir llwybrau gofal cyffredinol yn annibynnol gan fydwragedd i sicrhau dull gweithredu holistaidd o ran gofal, gydag unrhyw ychwanegiadau yn dibynnu ar lefelau cymhlethdod. Caiff menywod gymorth penodol gan yr un tîm bydwreigiaeth drwy gydol eu beichiogrwydd yn unol â'r model parhad gofalwyr.

7. Cynhelir adroddiadau wedi'u safoni ac ymchwiliadau amenedigol amlbroffesiynol ar gyfer digwyddiadau niweidiol, sy'n cynnwys rhoi prosesau lleol a chenedlaethol effeithiol ar waith i rannu dysgu, gweithredu newidiadau a lleihau'r risg o niwed yn y dyfodol. Dangosir egwyddorion bod yn agored ac yn dryloyw yn unol â'r ddyletswydd gonestrwydd, a chaiff menywod, rhieni a theuluoedd eu cynnwys drwy gydol y broses ymchwilio.

8. Caiff strategaethau cadarn o ran iechyd y boblogaeth eu rhoi ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant, gan ganolbwyntio ar atal a chânt eu hategu gan brosesau darparu arweiniad, cyngor a chymorth. Ceir gweithdrefnau effeithiol ar gyfer casglu, monitro a gwerthuso data iechyd y boblogaeth i lywio mentrau gwella ansawdd.

Effeithlon

9. Defnyddir yr adnoddau sydd ar gael mewn modd effeithlon a chynaliadwy, gan geisio lleihau effeithiau amgylcheddol. Gwneir hyn gan ganolbwyntio'n barhaus ar ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau'r canlyniadau a'r profiadau gorau posibl.

Teg

10. Caiff gofal a thriniaeth eu pennu gan flaenoriaethau clinigol a'u darparu mewn modd teg, gan ddeall unrhyw anghenion gofal ychwanegol a chanolbwyntio'n glir ar osgoi amrywio neu ymyrryd yn ddiangen.

11. Caiff menywod, rhieni a theuluoedd eu galluogi i gyfathrebu yn yr iaith a'r dull o'u dewis i ddiwallu eu hanghenion unigol, a chaiff y Gymraeg ei chynnig yn rhagweithiol.

12. Caiff nodweddion gwarchodedig, cefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol ac anghenion gofal ychwanegol eu cydnabod yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau amenedigol hygyrch a theg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

13. Trwy gydol y daith amenedigol, ceir mynediad teg at gyngor, cymorth a thriniaeth o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ni waeth beth fo'r ardal ddaearyddol, gan gydnabod efallai na chaiff y gofal hwn ei ddarparu o fewn y bwrdd iechyd lle mae'r unigolyn yn byw.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

14. Darperir gwybodaeth briodol ac amserol mewn sawl iaith a ffurf, a chefnogir menywod i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy gydol eu beichiogrwydd, wrth gynllunio'r enedigaeth, yn ystod yr enedigaeth a'r cyfnod ôl-enedigol. Ceir amrywiaeth o leoliadau geni, gan gynnwys ysbytai, canolfannau geni a geni yn y cartref.

15. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn parchu ac yn cefnogi ymreolaeth menywod o ran gwneud penderfyniadau ynghylch eu gofal eu hunain, ac yn sicrhau eu bod yn cael gwybod am eu hawliau o ran cydsynio.

16. Dylid osgoi gwahanu mamau a babanod yn ddiangen gan sicrhau bod gofal trosiannol ar gael yn gyson.

17. Caiff rhieni eu helpu a'u grymuso i fod yn brif roddwyr gofal a chânt eu hystyried yn bartneriaid cyfartal ym mhob agwedd ar ofal eu baban. Bydd model gofal integredig i deuluoedd yn cael ei hwyluso pan fo babanod yn yr uned newyddenedigol.

18. Caiff y fframwaith ymgysylltu amenedigol Cymru gyfan ei roi ar waith i sicrhau bod syniadau, adborth a phryderon menywod, rhieni a theuluoedd yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt, gan ddefnyddio'n gyson fesurau profiadau a adroddir gan unigolion, ymgysylltu mewn amser real a dulliau cydgynhyrchu. Caiff y data hwn ei driongli fel mater o drefn â syniadau, metrigau ansawdd a mesurau canlyniadau eraill.

19. Caiff menywod eu helpu â'u dull bwydo o'u dewis a chânt yr wybodaeth a'r arweiniad sydd eu hangen. Caiff bwydo ar y fron ei hyrwyddo i helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ehangach a chyfrannu at ei ystyried yn norm a dderbynnir yn ddiwylliannol ledled Cymru.

20. Caiff y llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau mynediad teg at ofal a chymorth profedigaeth i fenywod, rhieni a theuluoedd sydd wedi wynebu marwolaeth baban yn ystod beichiogrwydd, ar adeg genedigaeth neu yn y cyfnod newyddenedigol, ni waeth beth fo'u hardal ddaearyddol.

Arweinyddiaeth

21. Dangosir arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol, gan alluogi newid trawsnewidiol mewn ffordd gydlynus o'r ward i'r bwrdd. Cefnogir hyn gan linellau cyfathrebu ac uwchgyfeirio clir, gydag aelod penodol o'r bwrdd gweithredol yn gyfrifol am wasanaethau amenedigol.

22. Rhoddir cynllunio cadarn ar gyfer olyniaeth ar waith o ran arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol, gan sicrhau mynediad teg at gyfleoedd datblygu.

Y gweithlu

23. Rhoddir y cynllun gweithlu strategol amenedigol ar waith, gan sicrhau niferoedd priodol o staff amlbroffesiynol ar draws gwasanaethau. Mae gwybodaeth am y gweithlu ar gael yn ddidrafferth a chaiff ei defnyddio i annog y lefelau staffio a'r gwaith cynllunio gorau posibl.

24. Mae'r gweithlu'n ymgymryd â hyfforddiant amlbroffesiynol ac mae ganddo fynediad at raglenni sy'n benodol i wasanaethau o ran datblygiad proffesiynol parhaus. Nod hyn yw sicrhau bod sgiliau'n cael eu cynnal a'u datblygu ymhellach, yn ogystal â helpu i gadw'r gweithlu a datblygu gyrfaoedd staff ymhellach.

Diwylliant

25. Mae gwasanaethau amenedigol yn hyrwyddo diwylliant sy'n ymgorffori tosturi, caredigrwydd, empathi a chynghreiriaeth, a chaiff y gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn eu cynnwys a'u harddangos gan bob aelod o'r gweithlu.

26. Caiff iechyd, llesiant a diogelwch staff eu blaenoriaethu ar bob lefel o'r sefydliad. Caiff diogelwch seicolegol ei wreiddio ac mae cymorth amserol ar gael i ddeall a diwallu anghenion y gweithlu.

27. Caiff diwylliant teg o ddysgu a gwella ei wreiddio'n llawn yn unol â gwerthoedd ac ymddygiadau'r gwasanaeth a'r sefydliad. Caiff staff ar bob lefel eu helpu a'u hannog i rannu unrhyw bryderon yn unol â'r fframwaith codi llais heb ofn.

Gwybodaeth

28. Caiff cyfres ddeallus o fesurau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ynghylch prosesau, profiadau a chanlyniadau ei chasglu yn systematig gan dimau clinigol, rheolaethol a gweithredol, a chraffir arni yn rheolaidd ganddynt. Rhoddir camau gweithredu a threfniadau uwchgyfeirio priodol ar waith sy'n cyd-fynd â gweithdrefnau lleol a chenedlaethol o ran sicrwydd a gwella.

29. Caiff systemau clinigol digidol integredig ar gyfer gwasanaethau amenedigol eu mabwysiadu er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer un set ddata genedlaethol a galluogi darparu gwasanaethau diogel, cyson ac o ansawdd uchel pan fo data ar gael i ategu prosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd, llywio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, annog gwelliannau a chyfrannu at ofal diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dysgu, gwella ac ymchwil

30. Caiff menywod, rhieni, teuluoedd a staff eu hannog a'u helpu i gymryd rhan mewn ymchwil leol a chenedlaethol ym maes gwasanaethau amenedigol er mwyn hyrwyddo gwybodaeth a gwella gofal, profiadau a chanlyniadau.

31. Mae'r gweithlu'n cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gyflawni mentrau gwella ansawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael eu llywio gan adborth gan fenywod, rhieni a theuluoedd, yn ogystal â safbwyntiau cyrff cenedlaethol a rhaglenni archwilio. Ceir hefyd ddulliau gweithredu cyson ar gyfer gwerthuso a rhannu dysgu.

Dull gweithredu systemau cyfan

32. Caiff cydweithio ei wreiddio ar draws proffesiynau, gwasanaethau, byrddau iechyd ac asiantaethau ehangach sy'n ymwneud â darparu gofal a chymorth, gyda phontio di-dor rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol. O ran gwasanaethau rhanbarthol, rhaid i hyn gynnwys gweithio mewn partneriaeth cadarn.

33. Caiff systemau a phrosesau diogelu integredig eu rhoi ar waith ar y cyd â'r holl sefydliadau partner i sicrhau dull gweithredu cyfannol ar gyfer cadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod.

Y camau nesaf ar gyfer y byrddau iechyd

Dylai byrddau iechyd nodi noddwr gweithredol a disgwylir iddynt fabwysiadu'r datganiad ansawdd hwn yn lleol fel fframwaith ar gyfer sicrhau’r gofal gorau posibl mewn lleoliadau amenedigol. Dylai'r gwaith a ganlyn ddechrau yn ystod 2025 i 2026: 

  • datblygu cynllun gweithredu mesuradwy i alluogi cyflawni'r disgwyliadau a amlinellir yn y datganiad ansawdd hwn, gan flaenoriaethu'r 7 cam gweithredu allweddol a ddisgrifir isod, yn ogystal â'u cysoni â chamau gweithredu'r rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol
  • cydweithio â'r rhwydwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a'r rhwydwaith gweithredu i geisio cymorth pan fo angen i alluogi cyflawni'r camau gweithredu yn lleol

Y 7 cam gweithredu allweddol yw:

  • Mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd ddefnyddio'r system mamolaeth ddigidol genedlaethol erbyn diwedd mis Mawrth 2026 (priodoledd ansawdd 29, y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, tudalen 65).
  • Gweithio mewn partneriaeth â Gweithrediaeth y GIG i lunio cynllun gweithredu i gyflawni ymrwymiadau'r fframwaith ymgysylltu amenedigol. Rhaid i fyrddau iechyd sicrhau eu bod yn ymwneud â menywod o grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn gwella canlyniadau drwy nodi rhwystrau o ran cael gafael ar wasanaethau (priodoledd ansawdd 18, cam gweithredu 5.2 y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol).
  • Sicrhau y caiff asesiad sylfaenol a chynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol eu datblygu, gan geisio cymorth pan fo hynny'n briodol i hwyluso darparu gofal yn unol ag egwyddorion siarter baby bliss, a dechrau'r broses i gyflawni'r achrediad (priodoledd ansawdd 17, cam gweithredu 7.4 y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol).
  • Cydweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i flaenoriaethu camau gweithredu blwyddyn un i sicrhau bod y cynllun gweithlu strategol amenedigol yn cael ei gyflawni, gan nodi y bydd hwn yn ddull gweithredu graddol (priodoledd ansawdd 23, cam gweithredu 2.1 y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol).
  • Mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd ddatblygu dangosfwrdd gwyliadwriaeth ansawdd amenedigol gan ddefnyddio metrigau safonol allweddol sy'n darparu gwybodaeth o ran goruchwyliaeth ar lefel y rhwydwaith ac yn genedlaethol a fydd yn ei dro yn llywio'r cyfeiriad polisi (priodoledd ansawdd 28, cam weithredu 11.7 y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol).
  • Dylai pob bwrdd iechyd sicrhau bod dewis yn cael ei gynnig o ran lleoliad geni i gynnwys pob lleoliad geni, gan nodi y gallai hyn fod mewn bwrdd iechyd arall (priodoledd ansawdd 14, cam gweithredu 10.2 y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol).
  • Sicrhau y caiff 4 o'r 5 llwybr profedigaeth eu cadarnhau yn ystod blwyddyn un, gan gynnwys cynllun gweithredu, i sicrhau y cânt eu rhoi ar waith yn gydlynus (priodoledd ansawdd 20, cam gweithredu 13.1 y rhaglen cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol).

Troednodiadau

[1] Mae'r termau menyw/menywod wedi'u defnyddio yn y fframwaith hwn drwyddo draw gan mai dyma'r ffordd y mae'r mwyafrif o'r rhai sy'n feichiog ac sy'n cael baban yn adnabod eu hunain. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnwys y rhai nad yw eu hunaniaeth rhywedd yn cyfateb i'w rhyw adeg geni neu'r rhai a allai fod â hunaniaeth anneuaidd. Dylai pob gweithiwr proffesiynol fod yn barchus ac yn ymatebol i anghenion unigol a dylid gofyn i unigolion sut yr hoffent gael eu cyfarch drwy gydol eu gofal.

[2] Amenedigol yw'r cyfnod o'r adeg beichiogi hyd at flwyddyn ar ôl geni.