Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae clefydau fasgwlaidd yn cynnwys unrhyw gyflwr sy'n effeithio ar rwydwaith y pibellau gwaed a elwir yn system fasgwlaidd neu'n system cylchrediad y gwaed. Gall pibellau gwaed afiach fagu cen a chael eu blocio gan arwain at fadredd/colli meinweoedd, neu gallant ordyfu (creu anewrysm) a bod mewn perygl o rwygo gan achosi marwolaeth sydyn. Prif nod gwasanaethau fasgwlaidd yw dadflocio neu ddargyfeirio rhydwelïau sydd wedi eu blocio er mwyn adfer llif y gwaed i aelodau neu organau, neu adlunio/amnewid pibellau gwaed sydd wedi gordyfu er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhwygo ac atal marwolaeth sydyn. Triniaethau a wneir unwaith yn unig yw'r rhain yn aml, yn bennaf er mwyn lleihau'r risg o farwolaeth sydyn, atal strôc, lleihau'r risg o orfod torri aelod i ffwrdd neu wella'r ffordd y mae'r system yn gweithio. Mae gwasanaethau fasgwlaidd hefyd yn rhoi cymorth i gleifion sydd â phroblemau eraill fel clefyd yr arennau, gan ddarparu mynediad at ddialysis neu driniaethau diabetes neu drawma mawr. 

Mae clefydau fasgwlaidd yn gyffredin yn y gymuned, ac maent yn mynd yn fwy cyffredin ac yn fwy difrifol i bobl wrth iddynt heneiddio. Er enghraifft, mae clefyd y rhydwelïau perifferol yn effeithio ar tua 20% o'r boblogaeth dros 60 oed yn y DU, ac mae'n gysylltiedig â risg uwch o farwolaeth drwy drawiad ar y galon a strôc. Bydd tua chwarter yr unigolion sydd â'r cyflwr hwn yn datblygu symptomau sy'n gallu arwain at golli aelod os na chânt eu trin. Mae anewrysmau o'r aorta abdomenol yn effeithio ar 1-3% o ddynion 65 oed a throsodd, sy'n gallu achosi marwolaeth drwy rwygo os na chânt eu trin. 

Bydd nifer cynyddol yr achosion o ddiabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd yn ein cymunedau yn arwain at fwy o bobl yng Nghymru yn dioddef patholeg fasgwlaidd, o'r bobl hynny sydd â ffurfiau ysgafn ar y clefyd yn y gymuned, i'r rheini y mae angen gofal arbenigol arnynt. Ar hyn o bryd, mae mwy na hanner y cleifion â chlefydau fasgwlaidd yn ymgyflwyno am fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng arnynt. Mae cleifion â chlefydau fasgwlaidd yn ymgyflwyno pan fyddant yn hŷn, a chyda mwy o gydafiacheddau cysylltiedig. Mae mwy o bwyslais bellach ar reoli’r ffactorau risg ar gyfer clefydau fasgwlaidd yn fanwl er mwyn gwella prognosisau a chanlyniadau i gleifion. 

Mae clefydau fasgwlaidd yn codi oherwydd ffactorau amgylcheddol a dewisiadau o ran ffordd o fyw, yn ogystal â rhagdueddiad genetig. Drwy ymyrryd yn gynharach ym mywydau pobl, gellir lleihau datblygiad cyfyngiadau rhydweli, sy'n golygu ei bod yn llai tebygol y bydd yr unigolyn yn datblygu canlyniadau'r cyflyrau hyn pan fydd yn hŷn. 

Mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi datblygu'n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, a defnyddir triniaethau agored a endofasgwlaidd/llai mewnwthiol, sy’n fwy cymhleth, er mwyn trin cleifion sy'n tueddu i fod yn hŷn a chyda mwy o gydafiacheddau nag yn y gorffennol. Yn y DU, mae llawfeddygaeth fasgwlaidd wedi cael ei hystyried yn faes arbenigol yn ei rinwedd ei hun ers 2013. Mae'r ffaith bod triniaethau fasgwlaidd wedi mynd yn fwyfwy arbenigol yn golygu bod triniaethau cymhleth yn cael eu cynnig mewn llai o leoliadau, er mwyn crynhoi adnoddau ac arbenigedd. Cyn cyflwyno'r Gofrestr Fasgwlaidd Genedlaethol, nid oedd y DU yn cymharu'n dda ar lefel ryngwladol ar gyfer llawer o driniaethau fasgwlaidd. 

Yr her nawr yw datblygu arweinyddiaeth genedlaethol, a phrosesau ymgysylltu'n lleol a chydweithio â'r trydydd sector er mwyn darparu gwelliannau go iawn, gan sicrhau bod dull hirdymor a chyson o wella canlyniadau ar waith, yn unol â gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac fel y dangosir gan brofiad rhyngwladol.

Tynnwyd sylw at gyflwyno datganiadau ansawdd yn ‘Cymru Iachach’, ac fe'i disgrifiwyd fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Mae datganiadau ansawdd yn rhan o'r ffocws mwy manwl ar ansawdd a byddant yn rhan annatod o drefniadau cynllunio ac atebolrwydd yn y dyfodol ar gyfer y GIG yng Nghymru. 

Mae angen gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd wedi wynebu anghyfartaledd fel, er enghraifft, cymunedau ethnig leiafrifol, yn cael mynediad cyfartal, a bydd angen sicrhau bod llwybrau yn fwy hyblyg er mwyn cyflawni hyn. Dylai cynllun 'Mwy na Geiriau' Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal drwy egwyddor y ‘cynnig rhagweithiol’ fod yn rhan annatod o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Dylai darparwyr gwasanaethau adeiladu ar yr arferion gorau presennol a dylent gynllunio, comisiynu a darparu gofal ar sail yr egwyddor hon. 

Er bod rhywun yn gallu ymgyflwyno â chasgliad penodol o symptomau, mae'n bwysig sicrhau bod y driniaeth a roddir iddo yn ystyried ei glefyd cardiofasgwlaidd yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys clefyd y rhydwelïau coronaidd, strôc, gorbwysedd, hypergolosterolaemia, diabetes, clefyd cronig yn yr arennau, clefyd y rhydwelïau perifferol a dementia fasgwlaidd. Mae tystiolaeth glir bod yr atal eilaidd hwn yn chwarae rôl bwysig o ran lleihau afiachedd a marwolaethau. 

Y weledigaeth yw datblygu llwybrau cenedlaethol i ddarparu'r fframwaith cyffredinol ar gyfer darparu gofal fasgwlaidd, o atal clefydau i gefnogi pobl y mae arnynt angen triniaeth ar gyfer cyflyrau fasgwlaidd. Nod y llwybrau fydd ceisio ysgogi gwelliannau system gyfan drwy leihau amrywiadau diangen mewn gofal a sicrhau canlyniadau gwell. 

Mae’r ffordd hon o weithio yn cyd-fynd â'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, sy'n rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol, a’r Fframwaith Diogelwch Ansawdd sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systematig yn lleol. 

Mae hefyd yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar drawsweithio â grwpiau eraill er mwyn mynd i’r afael â meysydd fel atal, adsefydlu, rheoli poen, gofal i’r rhai sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â chydweithio â chyflyrau eraill fel cyflyrau'r galon, strôc, diabetes, clefyd yr arennau a thrawma mawr. 

Mae byrddau iechyd – fel sefydliadau gofal iechyd integredig – yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd yn unol â safonau proffesiynol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Byddant yn ymateb i'r Datganiad Ansawdd hwn drwy'r broses cynlluniau tymor canolig integredig. Bydd Rhwydwaith Fasgwlaidd Cymru, ar y cyd â'r rhwydweithiau cyflawni gweithredol, yn helpu byrddau iechyd i wella ansawdd, cysondeb a gwerth y ddarpariaeth gofal iechyd. Caiff manyleb gwasanaeth fanwl ei llunio er mwyn cefnogi'r trefniadau comisiynu ac atebolrwydd, gan gynnwys metrigau allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau fasgwlaidd cynaliadwy o ansawdd uchel, sy'n diwallu anghenion y boblogaeth. Caiff y fanyleb hon ei nodi yn Atodiad A pan fydd ar gael.  

Mae cyflwyno'r datganiad ansawdd hwn yn rhan o'r ffocws mwy manwl ar ansawdd wrth ddarparu gofal iechyd, a bydd yn rhan annatod o drefniadau cynllunio ac atebolrwydd yn y dyfodol ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r Datganiad Ansawdd yn nodi'r prif ddisgwyliadau o ran cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer cynllunio gwasanaethau, a fydd yn bosibl drwy gymorth a chydweithio cenedlaethol. Bydd y Datganiad Ansawdd yn trafod y problemau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu hwynebu.

Priodoleddau ansawdd

Teg

1.    Dull cenedlaethol a arweinir gan Rwydwaith Fasgwlaidd Cymru, gyda chymorth y rhwydweithiau cyflawni gweithredol, er mwyn sicrhau gwelliannau i wasanaethau gyda Gweithrediaeth y GIG. 

2.    Bydd llwybrau fasgwlaidd cenedlaethol yn darparu tryloywder, yn cefnogi mynediad cyfartal, yn sicrhau cysondeb o ran safonau gofal ac yn mynd i’r afael ag amrywiadau diangen.

3.    Caiff gwasanaethau i bobl â chlefydau fasgwlaidd eu mesur a’u dwyn i gyfrif gan ddefnyddio metrigau, archwiliadau clinigol, mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) ac adolygiadau gan gymheiriaid sy’n adlewyrchu ansawdd y gofal a’i ganlyniadau. 

4.    Caiff y gweithlu amlddisgyblaethol mewn gwasanaethau fasgwlaidd ei gefnogi a’i ddatblygu er mwyn mynd i’r afael â lefelau cadw staff a sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn cael ei ddosbarthu’n deg a'i ehangu i ateb y galw cynyddol, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol fel ymyriadau endofasgwlaidd gan gynnwys llawfeddygon ymyriadol endofasgwlaidd a nyrsio arbenigol. 

Diogel 

5.    Ffocws ar lefel y system ar drawsnewid llwybrau er mwyn ymgorffori cadernid ymhellach drwy roi'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig ar waith. 

6.    Gwaith tîm amlddisgyblaethol effeithiol sy'n galluogi trafodaethau priodol, amserol ac adeiladol gyda chydweithio cefnogol a phrosesau cefnogol ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol.  

7.    Gofal integredig effeithiol gydag ymwneud priodol gan dimau amlddisgyblaethol, cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion (ffisiotherapi, iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned) gan gynnwys camau dilynol a chynlluniau ôl-ofal. 

8.    Penderfyniadau sy'n gysylltiedig â gofal cleifion yn cael eu dogfennu'n briodol gan ddangos y penderfyniadau a wnaed a'r rhesymeg y tu ôl iddynt, gan gynnwys ystyried y risgiau a'r buddion yn briodol, yn ogystal â'r prognosis posibl. 

9.    Rhaglenni gwella diogelwch cleifion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu hymwreiddio gan ddefnyddio system Cymru gyfan ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau er mwyn nodi themâu a rhannu pwyntiau dysgu ar y cyd. 

Effeithiol 

10.    Llwybrau seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi'u hoptimeiddio yn genedlaethol i bobl y mae angen gwasanaethau fasgwlaidd arnynt yn cael eu hymwreiddio mewn gwasanaethau lleol er mwyn gwella canlyniadau a chyfraddau goroesi, gan gynnwys mynediad at ddiagnosteg, adolygu cleifion yn lleol, llwybrau atgyfeirio, asesu, trosglwyddo/dychwelyd ac adsefydlu clir. 

11.    Cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd fasgwlaidd neu sydd newydd gael diagnosis yn cael eu cefnogi a'u cynnwys yn y gwaith o reoli eu clefyd, gan gynnwys cymorth o ran newid eu ffordd o fyw. 

12.    Diwylliant lle mae holl anghenion cleifion yn cael eu deall, yn lle eu hanghenion o ran gofal fasgwlaidd yn unig, gan sicrhau bod y cymorth iawn yn cael ei roi ar yr adeg iawn, drwy ddefnyddio dull system gyfan sy'n cynnwys meysydd arbenigol eraill fel gwasanaethau'r galon, diabetes, yr arennau, trawma mawr, rheoli poen, gofal yr henoed, gofal diwedd oes a gwasanaethau fel cymorth cymheiriaid a roddir gan y trydydd sector. 

13.    Dylid ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel i ddulliau o atal a thrin clefydau fasgwlaidd er mwyn helpu i sicrhau canlyniadau gwell, nodi'r triniaethau gorau a gwerthuso therapïau newydd. 

Effeithlon 

14.    Dull cenedlaethol o ymdrin â systemau gwybodeg a data fasgwlaidd sy'n sicrhau bod modd integreiddio gofal yn well ac sy'n darparu data perthnasol, o ansawdd uchel, sydd wedi’u safoni er mwyn ysgogi gwelliannau i wasanaethau.  

15.    Adeiladu ar ffyrdd newydd o weithio drwy ddefnyddio technoleg i ryddhau rhagor o amser ar gyfer gofal, fel cofnodion cleifion electronig a phresgripsiynu electronig, gan sicrhau bod cleifion yn cael eu rheoli mewn modd diogel ac effeithlon. 

Canolbwyntio ar yr unigolyn 

6.    Staff yn cyfathrebu â chleifion mewn modd effeithiol a thosturiol, a chleifion yn cael eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch y driniaeth ar gyfer eu clefyd fasgwlaidd. 

17.    Staff yn gwrando ar ddymuniadau cleifion ac yn eu parchu, ac yn helpu cleifion i ddeall trywydd tebygol eu clefyd, yr opsiynau triniaeth a'r prognosis, gan gynnwys, lle y bo'n briodol, wybodaeth a chymorth ynghylch Cynlluniau Gofal Uwch er mwyn rhoi cyfle iddynt gofnodi sut y maent am gael gofal ar ddiwedd oes, ni waeth pa opsiwn triniaeth y maent yn ei ddewis. 

18.    Dull cydweithredol o ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sydd wedi ymwreiddio'n ddiwylliannol ac sy'n cael ei gefnogi gan ddull cyffredin o ddarparu diagnosis, triniaeth a gofal fel cymorth seicolegol a gaiff ei ddarparu mor lleol â phosibl, lle y bo'n briodol. 

19.    Dealltwriaeth well o brofiad cleifion fel drwy ddefnyddio PROMs a mesurau profiadau a adroddwyd gan gleifion (PREMs) er mwyn deall anghenion gofal a gwasanaeth yn well i helpu i wella gwasanaethau a sicrhau bod pobl y mae clefydau fasgwlaidd yn effeithio arnynt yn cyflawni’r canlyniadau sy'n bwysig iddynt drwy'r llwybrau sy'n arwain at wasanaethau fasgwlaidd. 

Amserol 

20.    Gweithdrefnau dilys ar gyfer nodi pobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefydau fasgwlaidd ac sydd yn y cyfnodau cynnar o'r clefyd er mwyn cefnogi gofal sylfaenol a sicrhau bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd mewn modd amserol. 

21.    Gweithdrefnau priodol ar gyfer sicrhau bod cleifion mewn ysbytai gofal eilaidd nad ydynt yn cynnig gwasanaethau llawfeddygaeth fasgwlaidd ar y safle yn gallu manteisio ar farn llawfeddygon fasgwlaidd mewn modd amserol. 

22.    Cleifion a gafodd eu hatgyfeirio ar ôl cael eu nodi gan Raglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru yn cael eu hasesu ac yn cael ymyriadau priodol o fewn y safonau sefydledig. 

23.    Cyfleoedd i ddefnyddio meddyginiaethau newydd y mae tystiolaeth eu bod yn lleihau cynnydd clefydau a chlefydau cardiofasgwlaidd cysylltiedig, neu driniaethau sy’n gallu gwella canlyniadau yn cael eu hystyried a'u rhoi ar waith.

Atodiad A: manylebau gwasanaeth 

Bydd Rhwydwaith Fasgwlaidd Cymru yn llunio manyleb gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch atebolrwydd a chomisiynu. Caiff y fanyleb hon ei hychwanegu pan fydd ar gael.