Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel yr eglurwyd yn y datganiad a gyhoeddais ar 11 Ebrill ynghylch y penderfyniad unochrog a wnaed gan Countess of Chester Hospital mewn perthynas â chleifion o Gymru, mae ein gwaith ymgysylltu wedi parhau gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU i ddatrys y mater er budd pennaf y cleifion.

Gallaf bellach gadarnhau ein bod wedi cytuno ar drefniadau gofal iechyd trawsffiniol ar gyfer 2019/20. Disgwyliaf y bydd y Countess of Chester Hospital yn parchu'r cytundeb hwnnw ac yn gwyrdroi'r penderfyniad i beidio â derbyn cleifion newydd o Gymru sydd wedi dewis cael eu hatgyfeirio yno. Rwy'n parhau i fod yn siomedig gyda'r camau a gymerwyd gan y Countess of Chester Hospital, tra bod y trafodaethau'n mynd yn eu blaen. Dyma sefyllfa y gellid yn hawdd fod wedi'i hosgoi, ac mae’n torri’r protocol y cytunwyd arno ynghylch gofal iechyd trawsffiniol. 

Yr hyn sy'n amlwg yw bod newidiadau a gyflwynwyd i gostau tariff yn Lloegr ers 2017 wedi creu cyfres o broblemau cymhleth mewn perthynas â threfniadau trawsffiniol. Bydd Cymru nawr yn rhan o’r Grŵp Cynghori ar Dariffau. Mae angen i ni ddilyn trywydd datblygiadau polisi yn Lloegr a allai effeithio ar y tariff yn y dyfodol i helpu cynllunio yng nghyd-destun Cymru.

Yn ystod y mis diwethaf, rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar ddatrys y mater a symud yn gyflym i gytuno ar ateb er budd pennaf y cleifion. Y gobaith yw bod y cytundeb yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion Cymru sy'n dibynnu ar drefniadau gofal iechyd trawsffiniol.