Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gofal profedigaeth yn cynnwys darparu gwasanaethau i helpu unigolion neu deuluoedd i ymdopi yn ymarferol ac yn emosiynol ar ôl colli rhywun agos atynt. Gall cymorth priodol mewn profedigaeth helpu i leihau effaith corfforol a meddyliol galar yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu cymorth o'r fath, gan weithio gydag elusennau os oes angen.

Mae sicrhau bod cymorth priodol ar gael i deuluoedd sy'n colli plentyn yn flaenoriaeth uchel i mi, ac mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith yr ydym yn ei wneud.

Yn gynharach eleni, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Gweithgor Cymorth Profedigaeth. Bydd y Grŵp yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a helpu i ddarparu gwell trefniadau mewn profedigaeth a sicrhau bod gan fyrddau iechyd drefniadau addas i helpu a chefnogi teuluoedd sy'n colli baban, plentyn neu berson ifanc.

Mae'r Grŵp yn cynnwys arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau elusennol sy'n cefnogi teuluoedd sydd wedi colli babanod, cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau, aelodau'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes a chlinigwyr.

Mae'r sefydliadau elusennol sy'n gweithio gyda'r Grŵp, gan gynnwys 2 Wish Upon a Star, Sands a Bliss, yn gweithio’n galed bob dydd i gefnogi teuluoedd sy'n dioddef y boen o golli baban, plentyn neu berson ifanc. Mae pob un o'r sefydliadau hyn yn cynnig y cymorth angenrheidiol i helpu teuluoedd sy'n dioddef profedigaeth i ymdopi a chryfhau er mwyn ceisio dod i delerau â'u colled. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud a bydd eu harbenigedd yn rhoi gwell dealltwriaeth a gwerth o ran y gwaith y bydd y Grŵp yn ei wneud yn y dyfodol.

I gyflawni amcanion y Grŵp, mae angen i ni ddeall yn glir sut y mae gwasanaethau profedigaeth yn cael eu darparu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gennym wybodaeth gynhwysfawr o'r gwasanaethau sydd ar gael mewn ardaloedd lleol, a all amrywio o ran eu ffocws a'u ffrydiau ariannu.

I gyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Caerdydd, drwy'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes, i gynnal astudiaeth i adnabod a chasglu gwybodaeth ar y gwasanaethau profedigaeth strwythuredig sydd ar gael yng Nghymru. Nod yr astudiaeth yw deall:

  • pa gymorth profedigaeth sydd ar gael yng ngwahanol ardaloedd Cymru
  • i bwy y mae'r gwasanaethau profedigaeth hyn ar gael iddynt
  • pa rai o gydrannau cymorth profedigaeth NICE y mae'r gwasanaethau yn eu cynnig
  • pa ddangosyddion perfformiad y mae gwasanaethau profedigaeth yn eu defnyddio
  • beth yw'r bylchau mewn cymorth profedigaeth yng ngwahanol ardaloedd Cymru.

Lluniwyd adroddiad interim, ac rwy'n amgáu'r ddolen iddo isod (dolen allanol). Bydd yr adroddiad terfynol gyda dadansoddiad llawn a manwl yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

I helpu i lywio gwaith y Gweithgor Cymorth Profedigaeth, mae cylch gorchwyl drafft wedi’i ddarparu ac mae cyfarfod wedi'i drefnu i drafod canfyddiadau'r adroddiad o ran y gwasanaethau profedigaeth presennol. Rwy'n edrych ymlaen at weld cyngor y Grŵp yn ein helpu i wneud cynnydd pellach wrth gefnogi teuluoedd Cymru.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny