"Datblygu eich busnes yng Nghymru a gwerthu i'r byd" - dyna oedd neges Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw wrth iddo ymweld â'r gwneuthurwr a'r allforiwr o Bont-y-pŵl Flamgard Calidair i annog mwy o gwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhyngwladol.
Mae Flamgard Calidair yn arweinydd byd-eang ym maes dylunio a gweithgynhyrchu damperi rheoli llif aer HVAC Trachywir, gyda'i gynhyrchion yn gweithredu yn y diwydiannau ynni, morol, adeiladu ac ailgylchu ledled y byd.
Gan gyflogi tua 70 o bobl yng Nghymru, dechreuodd y cwmni allforio yn y 1980au, ac mae allforion bellach yn cyfrif am 75% o’r busnes, gyda'r cwmni'n allforio ei gynnyrch i fwy na 10 o wledydd ar draws yr UE, Awstralia, UDA, De America a De Ddwyrain Asia.
Fel llawer o fusnesau eraill yng Nghymru, mae allforion yn hanfodol i'r cwmni yn ystod cyfnodau heriol. Mae'r cwmni am sicrhau mwy o allforion fel rhan o'i strategaeth dwf. Ei nod yw dyblu ei drosiant erbyn 2025 ac mae'n ystyried allforio fel dull o gyflawni'r nod hwn.
Mae'r cwmni wedi cael cefnogaeth tîm allforio Llywodraeth Cymru, drwy ymweliadau â marchnadoedd allweddol a mynychu sioeau masnach, yn ogystal ag ymchwilio i gyfleoedd allforio newydd. Mae hefyd wedi elwa ar gymorth busnes ehangach gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Arloesi a'r rhaglen Addas i Niwclear.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"I rai busnesau, mae marchnad y DU yn rhy fach, ac mae Flamgard Calidair yn enghraifft wych o sut y gall cwmnïau drawsnewid eu busnes drwy allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau i farchnadoedd ledled y byd.
"Yn gyffredinol, bydd y cyfnod hwn yn ein hanes yn sicr o fod yn un o'r rhai mwyaf heriol i'n busnesau a'n gweithwyr, yn enwedig wrth fasnachu'n rhyngwladol. Credaf, fodd bynnag, mai ein Cynllun Gweithredu Allforio newydd yw'r rhaglen fwyaf uchelgeisiol a mwyaf cynhwysfawr o gymorth allforio a roddwyd ar waith erioed yng Nghymru a bydd yn cefnogi ein pobl a'n heconomi i wynebu'r heriau yn awr ac yn y dyfodol.
"Mae Llywodraeth Cymru am wneud y mwyaf o botensial allforio i drawsnewid busnesau, sbarduno arloesedd a hyblygrwydd, gwrthsefyll pethau’n well a chefnogi busnesau i ddarparu cyflogaeth gynaliadwy hirdymor.
"Fy neges i yw – tyfu yng Nghymru, gwerthu i'r byd.
"Rwy'n credu y bydd yr ehangu a thaith lwyddiannus iawn Flamgard yn ysbrydoli cwmnïau eraill i ddilyn cyfleoedd gwerthfawr marchnadoedd allforio byd-eang."
Dywedodd Lee Bramald, Prif Swyddog Gweithredol Flamgard Calidair:
"Drwy allforio i leoliadau niferus, gyda lledaeniad daearyddol a sectoraidd da, rydym wedi sicrhau nad ydym yn gwbl ddibynnol ar un farchnad yn unig. Mae hyn wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwrthsefyll newidiadau i'r amgylchedd masnachu byd-eang, gan gynnwys y pandemig. Mae allforio wedi trawsnewid ein busnes ac wedi ysgogi ein twf.
"Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn wych ar gyfer ein hehangu rhyngwladol, gan ein galluogi i fynychu teithiau masnach amhrisiadwy, ein helpu gydag ymchwil hanfodol i'r farchnad i ddeall pa sectorau a rhanbarthau y gallem weithio gyda nhw, tra bod cymorth ariannol wedi ein helpu gydag ymchwil a datblygu i'n galluogi i arloesi a bodloni gofynion y prosiect.
"Byddwn yn annog unrhyw gwmni sy'n ystyried allforio i gysylltu â nhw. Mae ganddynt sawl cynghorwr allforio arbenigol a all helpu i gael eich cwmni a'ch cynhyrchion ar y llwyfan byd-eang."