Neidio i'r prif gynnwy

4 syniad treth newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn ei archwilio ymhellach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Treth ar dir gwag

Mae angen mwy o dai yng Nghymru. Weithiau, er bod tir yn cael ei bennu fel tir addas ar gyfer adeiladu, nid oes dim yn digwydd neu dydy'r gwaith adeiladu ddim yn digwydd mor gyflym ag y dylai. Bydd y syniad hwn yn edrych i weld a fyddai cyflwyno treth newydd i gynyddu'r gost o ddal tir gwag yn ysgogiad i adeiladu cartrefi newydd a chynyddu datblygiadau masnachol.

Byddwn yn gweithio gyda pherchnogion neu ddatblygwyr tir, adeiladwyr tai, awdurdodau cynllunio lleol, cymdeithasau tai a’r trydydd sector i sicrhau y byddai’r dreth newydd hon yn helpu i adeiladu’r tai a’r adeiladau masnachol sydd eu hangen arnom.

Ardoll gofal cymdeithasol

Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru. Rhaid i ni ystyried ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ystyried amrywiol opsiynau i helpu i ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn yr hirdymor. Mae adroddiad yr Athro Gerald Holtham 'Talu am ofal cymdeithasol' yn archwilio ei syniad o ardoll i ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Treth ar ddeunydd plastig untro

Mae'r syniad hwn yn ystyried a fyddai treth briodol yn medru newid ein hymddygiad tuag at blastig untro, ac fe fyddwn yn edrych ar amrywiol opsiynau posib.

Cyhoeddwyd crynodeb o ganfyddiadau i’r ymgynghoriad ar ddylunio polisi ar gyfer treth pecynnau plastig ar draws y DU ym mis Tachwedd 2020. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y trefniadau gweithredu er mwyn cyflwyno’r dreth yn 2022.

Rydym yn edrych ar y posibilrwydd o godi treth ar gwpanau untro yng Nghymru er mwyn lleihau’r defnydd ohonynt, annog pobl i’w hailddefnyddio a lleihau’r sbwriel sy’n cael ei greu ganddynt.

Ardoll ymwelwyr

Rydym yn ymgynghori ar roi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Tâl bychan fyddai hwn sy'n cael ei dalu gan bobl sy'n aros dros nos mewn llety sy'n cael ei osod yn fasnachol yng Nghymru.

Byddai'r ardoll yn codi arian newydd i gymunedau lleol a fyddai'n cael ei ail-fuddsoddi mewn ardaloedd lleol a helpu cadw Cymru yn hardd am genedlaethau i ddod.