Angen penderfyniad

Bod y Cabinet yn cytuno i ddatblygu dull strategol o roi trethi ar waith a’u gweinyddu a bod swyddogion yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid i lywio’r dull hwnnw er mwyn llunio cytundeb ar y cyd yn y dyfodol.

Crynodeb

  1. Nod y papur hwn yw rhoi cyfle i’r Cabinet:
    • ystyried y rhesymeg i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull mwy strategol o ystyried y ffordd y mae trethi datganoledig a threthi a gedwir yn ôl yn gweithredu yng Nghymru
    • ystyried agweddau a materion a all godi mewn perthynas â’r hyn y gallai pobl, busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru ei ddisgwyl gan eu systemau treth
    • cytuno y dylai swyddogion ystyried y mater hwn ymhellach gyda phartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn llunio ‘cytundeb’ ar y cyd i wireddu dyheadau Gweinidogion.

Amcan y papur

  1. Nododd y Fframwaith Polisi Trethi a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017 flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi yng Nghymru, gan gynnwys y ffordd y bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, busnesau a threthdalwyr er mwyn sicrhau trefniadau treth clir, sefydlog, graddoledig a chadarn i Gymru. Mae’r Fframwaith hefyd yn cadarnhau bod datganoli cyllidol yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddatblygu dull Cymreig o ymdrin â threthiant.
  2. Mae cyhoeddi Cynllun Gwaith Polisi Trethi blynyddol yn rhan bwysig o’r broses ymgysylltu. Mae cynllun 2019 yn cynnwys ymrwymiad i “adeiladu’r sail dystiolaeth i ystyried a allai system drethi Cymru fod yn fwy effeithlon a chymesur, a chyflawni mwy i fusnesau, cymunedau, dinasyddion, sefydliadau’r sector cyhoeddus ehangach a threthdalwyr yng Nghymru.” Mae hyn yn cynnwys “ystyried y ddadl dros fabwysiadu agwedd fwy strategol a chydgysylltiedig at flaenoriaethau gweinyddu trethi yn y tymor canolig.”
  3. Ar hyn o bryd, mae pum treth yn weithredol yng Nghymru, a gesglir gan sawl awdurdod treth:
    • Cyfraddau Treth Incwm Cymru a gesglir gan CThEM, sy’n cyfeirio’r refeniw priodol at Lywodraeth Cymru
    • Y ddwy dreth ddatganoledig – y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n cael eu casglu a’u rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru
    • Y ddwy dreth leol – y dreth gyngor ac ardrethi annomestig sy’n cael eu casglu a’u rheoli gan awdurdodau lleol a chan Lywodraeth Cymru.
  4. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno’r achos dros ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr ac mae’n ystyried ymhellach ddatblygiad treth tir gwag bosibl a threthi amgylcheddol sy’n ymwneud â phlastigion untro. Rydym hefyd yn cyflawni rhaglen waith gyhoeddedig, a ddechreuwyd ar ddechrau 2017, i wella’r dreth gyngor a’r ardrethi annomestig yn y byrdymor a’r tymor canolig a hefyd ystyried dulliau gweithredu amgen fel rhan o ddiwygio ariannol llywodraeth leol yn y tymor hwy.
  5. Mae trethdalwyr yng Nghymru hefyd yn talu nifer o drethi a gedwir yn ôl, drwy ddewisiadau polisi a wneir gan Lywodraeth y DU. Yn gyffredinol, caiff y rhain eu gweinyddu gan CThEM.
  6. Hefyd, mae nifer o daliadau ac ardollau cyhoeddus eraill yn weithredol y gellid eu hystyried yn ‘drethi’, megis trefniadau trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdurdodau lleol, lle y gall cytundeb ar y cyd ynglŷn â’u gweinyddu fod yn fuddiol, ond nid yw hyn yn rhan o’r gwaith hwn o reidrwydd.
  7. Er bod nifer o drefniadau gweinyddol eisoes ar waith yn amlwg, nid yw penderfyniadau polisi o ran y dull gweithredu ar gyfer pob treth hyd yn hyn wedi cael eu gwneud mewn perthynas â chydlyniad y system gyfan. Bwriadwn weithio gyda phartneriaid er mwyn llunio ‘cytundeb’ ar y cyd ar gyfer gweithredu mewn ffordd gyfannol i bennu sut y dylai trethi presennol a threthi yn y dyfodol weithredu er mwyn diwallu anghenion a bodloni blaenoriaethau Cymru yn well. Er na fydd un ffordd yn unig o gyflawni yn erbyn meini prawf o’r fath, dylai hyn feithrin diwylliant lle mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau treth yn rhannu gweledigaeth ar gyfer system drethiant integredig well. Hefyd, dylai’r dull gweithredu hwn wella hyder mewn datganoli cyllidol ac atebolrwydd democrataidd.
  8. Nid ydym yn ystyried llunio canllawiau technegol i awdurdodau treth na strategaeth ffurfiol. Yn hytrach, bydd y ‘cytundeb’ yn nodi disgwyliadau ac uchelgeisiau o safbwynt pobl a busnesau mewn perthynas â thalu trethi. Byddwn hefyd yn ystyried sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i barhau i fonitro, adolygu a datblygu’r broses o weithredu’r ‘cytundeb’ ar y cyd ac asesu opsiynau diwygio yn y dyfodol.
  9. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol drwy Is-grŵp Cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru, grwpiau ymarferwyr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd angen cael rhagor o drafodaethau gyda chynrychiolwyr CThEM ar y mater hwn hefyd. Er bod CThEM wedi mynegi parodrwydd i gael rhagor o sgyrsiau, yn benodol o ran sut y bydd CTIC yn ffurfio rhan o unrhyw ddull Cymreig, rydym hefyd yn awyddus i ystyried sut y gallai’r ffordd yr ymdrinnir â threthi nas datganolwyd yng Nghymru gael eu crisialu o bosibl yn y ‘cytundeb’.
  10. Bydd y ‘cytundeb’ hwn i Gymru yn ceisio llywio’r amrywiol awdurdodau treth sy’n gweithredu yng Nghymru a bod yn gyfeirbwynt iddynt. Bydd hefyd yn cefnogi’r rhai sy’n llunio polisïau pan fyddant yn newid trethi presennol ac o ran dylunio a sefydlu unrhyw drethi newydd. Bydd llawer o’r egwyddorion a gaiff eu nodi yn debygol o fod yn arferion da cydnabyddedig eisoes ond ni fyddant wedi cael eu casglu na’u datgan mewn un lle o’r blaen.
  11. Er y byddem yn gobeithio trafod y materion hyn yn fanwl gyda rhanddeiliaid yn y misoedd sydd i ddod, rydym eisoes wedi cael rhai trafodaethau petrus. Mae’r rhain yn cynnwys eitem ar yr agenda ar weinyddu treth yng Ngrŵp Cynghori’r Gweinidog ar Drethi ar 14 Mawrth a gweithdy penodol yng Nghynhadledd Trethi Cymru 2019 ar 19 Gorffennaf.
  12. Mae’r egwyddorion a materion allweddol posibl i’w hystyried wrth ddatblygu dull Cymreig o roi trethi ar waith fel a ganlyn. Byddai angen i’r rhain gael eu pennu yng nghyd-destun naratif polisi sy’n amlinellu ein nod o sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng y rhwymedigaethau a osodir ar drethdalwyr a’r angen i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel y mae pobl yng Nghymru yn eu gwerthfawrogi ac yn dibynnu arnynt. Mae dyletswydd ar bawb i gyfrannu’n deg ond byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau’r baich ar bobl i’r eithaf a sicrhau ein bod yn casglu’r trethi hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon.

    Dylai pawb gael cyfle i ddeall sut mae eu trethi yn cael eu gwario.

  13. Er ei bod yn heriol cadarnhau faint o fanylion y byddai pobl a busnesau am eu cael, mae’n amlwg bod disgwyliad i ddeall sut y caiff trethi eu gwario’n fras. Rydym yn awyddus i ystyried sut y gellid nodi’r gydberthynas rhwng trethi a delir a’r canlyniadau llesiant a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

    Dylai pobl a busnesau ddisgwyl perthynas o ymddiriedaeth fawr o ran y ffordd y caiff eu trethi eu casglu.

  14. Pan ymgysylltwyd â rhanddeiliaid i ddechrau tynnwyd sylw at bwysigrwydd gwasanaeth da i gwsmeriaid wrth iddynt ymwneud â’r awdurdodau treth. Er bod y drafodaeth yn parhau o ran a ddylid ystyried trethdalwyr yn ‘gwsmeriaid’, yn amlwg, mae’n bwysig bod pobl a busnesau yn cael profiad cadarnhaol a didrafferth pan fyddant yn ymwneud â systemau treth. Dylai systemau treth anelu at ‘roi trethdalwyr yn gyntaf’ lle y bo modd.
  15. Mae dull gweithredu Awdurdod Cyllid Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor greiddiol o helpu pobl i dalu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir ac mae hyn wedi cael ei groesawu’n eang. O ganlyniad, bu angen symud i ffwrdd o ddull gweithredu yn seiliedig ar werthuso llwyddiant yn ôl arenillion, sef y swm o dreth a gesglir yn dilyn gweithgarwch gorfodi.
  16. Yn fwy cyffredinol, dylai pobl a busnesau ddisgwyl i systemau treth ymdrechu i feincnodi perfformiad pan fo’n synhwyrol gwneud hynny a bod yn agored am eu perfformiad. Bydd trethdalwyr hefyd yn disgwyl cael gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan swyddogion hyderus, bodlon a phrofiadol sydd wedi’u grymuso, gan gydnabod bod y gweithlu yn cadw cyflogeion o ansawdd uchel ledled Cymru. Bydd y perfformiad hwn yn amlwg yng nghyd-destun awdurdodau treth yn gweithredu’n effeithlon ac yn rhoi gwerth am arian.
  17. Dylai Llywodraeth Cymru anelu at helpu pob awdurdod treth i rannu arferion gwell yn effeithiol, gan chwalu rhwystrau sefydliadol.

    Dylai trethi fod yn rhagweladwy, yn sefydlog ac yn dryloyw.

  18. Mae’r Fframwaith Polisi Trethi eisoes yn nodi’r uchelgais o sefydlu trefniadau treth sefydlog yng Nghymru. Rydym yn awyddus i ystyried ymhellach beth mae hyn yn ei olygu i bobl a busnesau’n ymarferol gan dderbyn hefyd y bydd angen i drethi gael eu hamrywio’n aml er mwyn ymateb i amgylchiadau economaidd. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi nodi bod ei aelodau yn awyddus i gael sicrwydd ynghylch eu halldaliadau treth yn ystod blwyddyn ariannol er mwyn eu helpu i gynllunio.
  19. Yn yr un modd, ymddengys fod disgwyliad clir y dylai’r broses o bennu lefelau treth, rhyddhadau ac esemptiadau fod yn dryloyw ac yn atebol i bobl Cymru.

    Dylai trethi fod yn gyfleus ac yn hawdd eu talu.

  20. Ynghyd â gwasanaeth effeithlon, mae pobl a busnesau yn disgwyl i systemau treth fanteisio ar y cyfleoedd newydd a gynigir gan drawsnewid digidol. Mae hyn yn cynnwys yr angen i fynd ati i ystyried ar y cyd sut y gellid ail-lunio llwyfannau digidol i fod yn addas at y diben er mwyn ateb yr heriau y bydd awdurdodau treth yn eu hwynebu o bosibl yn y dyfodol. Dylai cadernid, sefydlogrwydd a diogelwch gael lle blaenllaw mewn unrhyw gynlluniau ar gyfer trawsnewid digidol. Fodd bynnag, bydd angen i drawsnewid o’r fath fod yn gymesur ac yn ystyriol o gostau, a chydnabod yr amrywiaeth eang o sianeli sy’n rhan o’r broses o ryngweithio â threthdalwyr unigol, yn enwedig pobl mewn grwpiau sy’n agored i niwed.

    Dylai fod dull cyson a theg o ymdrin â threthi unigol, gan gynnwys o ran gorfodi dyled.

  21. Er y derbynnir ymreolaeth llywodraeth leol yn llwyr, bu cryn bryder ynglŷn â’r ffyrdd amrywiol y mae awdurdodau lleol yn ymdrin ag ôl-ddyledion y dreth gyngor. Ar 1 Ebrill, cafwyd gwared ar y bygythiad o ddedfryd o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgorffori dull cyson, teg a chymesur o reoli dyledion ac ôl-ddyledion y dreth gyngor.
  22. Mae hyn wedi cynnwys hyrwyddo Protocol Treth Cyngor Cymru: Arfer Dda wrth Gasglu Treth y Cyngor, a ddatblygwyd ar y cyd â CLlLC. Rydym wedi sefydlu gweithgorau sy’n cynnwys ymarferwyr llywodraeth leol er mwyn helpu i roi’r Protocol ar waith ynghyd ag elfennau eraill o’r gwaith er mwyn sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Mae hyn wedi tanlinellu’r angen i barhau i gydweithredu er mwyn sicrhau newid diwylliannol o fewn y trefniadau treth lleol.
  23. Er bod problemau o ran dyled yn amrywio rhwng trethi, gall Llywodraeth Cymru bennu disgwyliad i bobl a busnesau dalu’r dreth sy’n ddyledus ganddynt ac ar yr un pryd ailddatgan yn fwy cyffredinol bwysigrwydd rhoi mwy o gymorth lle y bo angen, gan gynnwys i bobl mewn cyni.

    Gallai trafodaethau hefyd ystyried ymhellach y mater cymhleth o ran sut a phryd y gellid rhannu gwybodaeth a data a dal i’w diogelu ar yr un pryd.

  24. Mae’r sgyrsiau cychwynnol yn awgrymu bod pobl a busnesau yn croesawu’r egwyddor bod awdurdodau yn defnyddio eu data’n gyfrifol er mwyn gwella effeithlonrwydd ac osgoi dyblygu. Er bod awdurdodau treth yn dweud eu bod yn awyddus i rannu a dadansoddi data er mwyn gwella’r ffordd y gweinyddir trethi a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau polisi trethi, yn ymarferol, ymddengys fod pryderon o ran diogelu data yn rhwystro hyn.

    Heriau

  25. Wrth nodi disgwyliadau o ran y ffordd y mae systemau treth gwahanol yn gweithredu, bydd angen ystyried cyfrifoldebau CThEM ac awdurdodau lleol. Efallai y bydd yn heriol rhoi eglurder o ran disgwyliadau Llywodraeth Cymru a hefyd sicrhau y caiff ymreolaeth wleidyddol ac ariannol awdurdodau lleol ei pharchu ac, os oes modd, ei chryfhau.
  26. Er mwyn cyflawni hyn bydd CThEM ac awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol yn y broses o ddatblygu’r gwaith hwn. Yn seiliedig ar ein profiad o ddiwygio trethi lleol gyda llywodraeth leol, bydd angen i atebion gael eu llunio ar y cyd er mwyn i’r newid fod yn effeithiol a chael ei drosi’n ymarfer.

Effaith

  1. Bydd gweithio gyda rhanddeiliaid er mwyn nodi a mynegi’n well yr hyn y mae pobl a busnesau yn ei ddisgwyl gan eu systemau treth yng Nghymru yn gam pwysig tuag at ddatblygu dull Cymreig o ymdrin â threthiant, fel y’i rhagwelwyd yn y Fframwaith Polisi Trethi. Dylai fod yn rhan o ddull gweithredu strategol tymor hwy ac ehangach o ddatblygu polisïau datganoli cyllidol.

Cyfathrebu a chyhoeddi

  1. Caiff y papur hwn ei gyhoeddi o fewn chwe wythnos. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd swyddogion yn ceisio ymgysylltu ymhellach â phartneriaid ac awdurdodau treth unigol gyda’r bwriad o gael cynrychiolwyr o blith Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau treth a rhanddeiliaid allanol perthnasol eraill er mwyn sefydlu gweithgor i ystyried pob un o’r egwyddorion a nodwyd yn y papur hwn yn fanwl er mwyn llunio ein ‘cytundeb’ ar y cyd. Ein nod yw y bydd y gweithgor hwn yn dechrau cyfarfod ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd er mwyn llunio cytundeb drafft yn yr hydref.

Rebecca Evans AC
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Tachwedd 2019

Atodiad A: Materion cyllid

Gofynion Cyllid a Goblygiadau o ran Llywodraethu

  1. Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol o ganlyniad i’r papur hwn i’r Cabinet sydd ond yn ceisio cytundeb y Gweinidogion i ymgysylltu â phartneriaid er mwyn ystyried y mater hwn ymhellach. Bydd ymgysylltu o’r fath yn cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru, felly caiff costau eu hymgorffori o fewn cyllidebau costau gweinyddu presennol.
  2. Bydd unrhyw oblygiadau ariannol sy’n deillio o’r argymhellion i ddatblygu dull mwy strategol o ystyried y ffordd y mae trethi yn gweithredu yng Nghymru o ganlyniad i ymgysylltu â rhanddeiliad yn destun cyngor pellach i’r Gweinidogion maes o law.
  3. Yn unol â Hysbysiad Cyllid 2019/01 mae Tîm Gweithrediadau’r Gwasanaethau Canolog wedi clirio CSOT(19/20)-MA159. Mae’r Is-adran Cyllidebu Strategol hefyd wedi adolygu ac wedi clirio SB/0732/05.