Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Mehefin 2022.

Cyfnod ymgynghori:
25 Mawrth 2022 i 17 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio barn ar ddatblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Yn yr ymgynghoriad hwn, mae Awdurdod ETS y DU – sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon – yn ceisio barn rhanddeiliaid ar gynigion i ddatblygu ETS y DU.

Cynulleidfa

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i:

  • gwmnïau unigol
  • chynrychiolwyr o'r sectorau diwydiannol, pŵer a hedfanaeth

sydd â rhwymedigaethau o dan ETS y DU a grwpiau amgylcheddol.

Bydd hefyd o ddiddordeb i gwmnïau unigol a chynrychiolwyr o'r sectorau:

  • morol,
  • gwastraff,
  • nwyon tŷ gwydr
  • sectorau amaethyddol.

Nid yw'r ymgynghoriad hwn wedi'i gyfyngu i'r rhanddeiliaid hyn; mae croeso i unrhyw sefydliad neu unigolyn ymateb.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chynigion i ddatblygu ETS y DU, sy'n gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK