Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Mai 2011.

Cyfnod ymgynghori:
16 Chwefror 2011 i 10 Mai 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 120 KB

PDF
120 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Holl ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Canolbwyntia'r ymgynghoriad hwn ar sut y dylem ymdrin â chynllunio morol yng Nghymru a beth rydym angen ei ystyried wrth lunio y cynlluniau morol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar y modd yr ydym yn bwriadu mynd ati i ddatblygu cynllunio morol yng Nghymru yn unol â’n pwerau a’n cyfrifoldebau o dan Ddeddf y Môr a’r Arfordir 2009.

Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu ein bwriad i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer dyfroedd glannau Cymru yn ogystal â chynllun cenedlaethol ar gyfer dyfroedd môr mawr Cymru a’u mabwysiadu erbyn 2012/13. Yn ogystal mae’r ymgynghoriad yn cynnig opsiynau ynghylch cynllunio ar y lefel is-genedlaethol er mwyn cynnwys rhagor o fanylion yn y cynlluniau cenedlaethol. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau ynghylch hynny.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon:

  • yn amlinellu’r nodweddion adnoddau a gweithgareddau cymdeithasol amgylcheddol ac economaidd allweddol presennol ym moroedd Cymru ynghyd â’r rheini sydd yn yr arfaeth ac yn sefydlu’r angen i ystyried pob un ohonynt wrth ddatblygu cynlluniau morol;
  • yn mynegi ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy ym moroedd Cymru;
  • yn pwysleisio ein hymrwymiad i sicrhau bod cynllunio morol a chynllunio ar y tir yn cydredeg yn effeithiol ac yn gofyn am sylwadau ar yr heriau;
  • yn darparu’r cefndir i gynllunio morol yng Nghymru;
  • yn egluro’r berthynas rhwng Datganiad Polisi Morol y DU a chynlluniau morol Cymru;
  • yn amlinellu’r trefniadau cyfansoddiadol a gweinyddol a fydd yn berthnasol;
  • yn cynnig cynlluniau cenedlaethol a dulliau gweithredu wrth ymdrin â chynllunio ar lefel is-genedlaethol;
  • yn amlinellu’r berthynas gynllunio trawsffiniol;
  • yn ymrwymo i feithrin perthynas ac ymgynghori â’r cyhoedd ac yn nodi’r egwyddorion yr ydym yn bwriadu eu dilyn i gyflawni hyn;
  • yn amlinellu’r camau nesaf.

Gweithgarwch morol yng Nghymru

Gallwch un ai ddarllen y map gyda haenau neu heb haenau. Yn y ddogfen sydd â haenau gallwch droi'r haenau gwybodaeth ymlaen neu eu troi i ffwrdd. Mae'r ffeil gyda haenau yn ffeil fawr ac mae'n bosibl y gall gymryd tipyn o amser i'w lawrlwytho. Mae maint y ddogfen heb haenau lawer iawn yn llai.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 410 KB

PDF
410 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rhestr lawn o'r cwestiynau ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 14 KB

PDF
14 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gweithgarwch morol yng Nghymru (heb haenau) (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 143 KB

PDF
143 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gweithgarwch morol yng Nghymru (gyda haenau) (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB

PDF
8 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.