Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bore da bawb.

Mae'n braf cael bod yma gyda chi heddiw, a chael siarad ar ôl Colin ac Ellen.

Hoffwn hefyd ddiolch i Colin a'i dîm yma ym Mhrifysgol Caerdydd am weithio gyda fy swyddogion i drefnu'r digwyddiad hwn.

Myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf

Flwyddyn yn ôl, gwneuthum herio ein prifysgolion i ail-greu ymdeimlad o genhadaeth ddinesig.

Mae ymgysylltu ac arweinyddiaeth ddinesig yn gofyn am bartneriaeth a gweithredu gyda'n cymunedau a'n mannau amrywiol, ac oddi mewn iddynt.

Fel y dywedodd yr Athro Hazelkorn: "Nid rhywbeth newydd yw cyfrifoldeb y brifysgol i gymdeithas, ond mae'r heriau presennol yn golygu na all y brifysgol fod ar yr ymylon – na'i myfyrwyr ychwaith".

Mae llawer o waith da eisoes yn mynd rhagddo yng Nghymru – ar lefel myfyrwyr, adrannau a sefydliadau.

Fodd bynnag, credaf ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen gwneud rhagor.

Ac er ei bod yn bwysig bod yn agored i syniadau a datblygiadau o bob cwr o'r byd – mae hwn yn gyfle euraid i Gymru arwain y ffordd.

Gallwn greu cenhadaeth ddinesig – effaith ddinesig – sydd wedi'i gwreiddio yng nghysylltiad hanesyddol y sector â lle a phobl.

Ond un sydd hefyd yn gyfoes, yn ddynamig ac yn arloesol wrth i'r llywodraeth, prifysgolion, busnesau a myfyrwyr ymgysylltu â'i gilydd a ledled y wlad.

Mae'n hanfodol bod prifysgolion yn hygyrch ac yn berthnasol i'w cymunedau lleol ond hefyd yn agored i'r byd o ran myfyrwyr, academyddion a datblygiadau deallusol.

Bydd y brifysgol fel y ddolen gyswllt rhwng y byd a chymunedau lleol yn gynyddol bwysig wrth inni wynebu heriau Brexit.

Oherwydd y statws hwn, sy'n unigryw bron, fel y locws rhwng yr hyn sy'n fyd-eang a'r hyn sy'n lleol mae angen i brifysgolion fod yn agored i'w cymunedau lleol, ac ymgysylltu â hwy.

Nid yn unig o ran lleoliad ffisegol eu campysau, ond hefyd o ran lledaenu datblygiadau deallusol a hyrwyddo trafodaeth rydd a gwybodus.

Nodais yn glir y llynedd, er bod prifysgolion yn edrych tuag allan i'r byd, fod yn rhaid iddynt, yn anad dim, fod yn stiwardiaid da eu milltir sgwâr a'r bobl sy'n byw yno.

Dyna sut y bydd prifysgolion yn cyfrannu at ddatblygu Cymru hyderus, ryngwladol ac arloesol.

Heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar bedair thema allweddol sy'n hollbwysig, yn fy marn i, i'r camau nesaf hynny i brifysgolion fel sefydliadau dinesig, sef:

  • Lle sy'n arwain
  • Cyfrannu at godi safonau ysgolion
  • Datblygu dinasyddiaeth weithredol
  • A bod yn sbardun i fenter ac arloesedd cymdeithasol.

I rai prifysgolion, bydd y rhain eisoes yn arferion sefydledig, a'r her fydd sut i ehangu ar y gwaith hwn.

I eraill, yr her yw datblygu gwaith yn y maes hwn ac mae'r Uwchgynhadledd hon yn gyfle allweddol.

Lle sy'n arwain

Felly, dechreuaf drwy droi at y syniad o 'le sy'n arwain', sut y gall prifysgolion fod yn sefydliadau deallusol a moesegol yn ogystal â gweithredu'n lleol ac yn genedlaethol.

Hoffwn weld prifysgolion yng Nghymru yn anelu at yr hyn y gellid ei alw'n arweinyddiaeth ddinesig sy'n 'rhychwantu ffiniau'.

Hoffwn eich gweld yn gweithio y tu hwnt i'r sector addysg uwch ac ymgysylltu ag arweinwyr dinesig allweddol eraill ar lefel genedlaethol a chymunedol drwy ddefnyddio'ch arbenigedd, eich profiad a'ch adnoddau er mwyn sicrhau arloesedd cymdeithasol ac ymgysylltu dinesig, gan feithrin gallu arweinwyr y dyfodol, a chefnogi sefydliadau cymunedol ac addysgol.

Hoffwn eich gweld yn agor eich cyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol i gynnal digwyddiadau i gymunedau ac ymgysylltu oddi ar y campws drwy ledaenu'ch gwaith yn y gymuned leol a gweithio gyda sefydliadau eraill sy'n rhan o'r gwaith o ledaenu gwaith academaidd i'r cyhoedd. Gwn fod rhai ohonoch eisoes yn gweithio gyda sefydliadau megis Pint of Science, er enghraifft.

Drwy ymgysylltu'n fwy â'ch cymunedau lleol byddwn hefyd yn disgwyl gweld mwy o rôl i gyfraniad y gymuned o ran datblygu ymchwil a thystiolaeth.

Yna, byddai hyn yn eich galluogi fel sector i chwarae mwy o ran mewn trafodaethau cenedlaethol a'r gwaith o ddatblygu polisi yng Nghymru sy'n mynd y tu hwnt i'r ffocws cul ar bwerau cyfansoddiadol a chyllid.

Mae hen ddigon o hynny yng Nghymru!

Byddai'n eich galluogi i ganolbwyntio mwy ar yr hyn y mae'ch cymunedau yn dweud wrthych ei fod yn bwysig iddynt a defnyddio eich adnoddau deallusol o ran datblygu syniadau a pholisi i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Yr ochr arall i hyn, wrth gwrs, yw eich bod yn parhau i ehangu'ch rôl hollbwysig fel pont i'r byd.

Mae angen i hyn fod yn fwy na chynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n cael eu recriwtio. Mae angen i'r cysylltiadau â'r byd sicrhau bod cyfleoedd a chydberthnasau buddiol i bawb, i fyfyrwyr, academyddion, busnesau o Gymru, gan gynnwys prentisiaethau, cymunedau ac ysgolion lleol a'r gweithlu addysg. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Prif Weinidog Cymru hefyd wedi'i godi gyda'r sector.

Cysylltiadau ag ysgolion

Trof yn awr at yr ail thema allweddol – cyfrannu i wella ysgolion.

Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur mai gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Rydym am godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddi ac sy'n destun balchder i'r genedl.

Mae'n rhaid i'n sector addysg uwch gyfrannu ymhellach at hyn, gan fynd y tu hwnt i baratoi athrawon y dyfodol, er mor bwysig yw'r gwaith hwnnw.

Dylai fod cynnydd sylweddol yn nifer yr uwch reolwyr ac arweinwyr o brifysgolion sy'n aelodau o gyrff llywodraethu ysgolion lleol.

Gwyddom oll mai arweinyddiaeth yw prif sbardun diwygiadau addysg llwyddiannus. Ac mae hynny'n cynnwys rheoli a llywodraethu.

Byddai profiad uwch arweinwyr o brifysgolion yn gwneud cyfraniad hynod werthfawr i wella arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu yn ein hysgolion.

Hoffwn hefyd annog y sector addysg uwch i fanteisio i'r eithaf ar ei gydberthnasau â diwydiant a sefydliadau academaidd eraill er mwyn helpu i feithrin gallu ysgolion ac athrawon mewn disgyblaethau allweddol.

Byddwch yn clywed am y mentora ardderchog ym maes ieithoedd tramor modern a rhaglenni Technocamps yn nes ymlaen heddiw. Yr her yw adeiladu ar y rhain a'u hymestyn i ddisgyblaethau eraill.

Mae prosiectau megis y rhain hefyd yn fuddiol i fyfyrwyr prifysgol drwy feithrin perthynas rhyngddynt hwy a'u cymunedau a'u hysgolion lleol, gan ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a'u sgiliau pwnc.

Yn olaf, o ran gwella ysgolion ac yn dilyn adroddiad gan yr Athro John Furlong ar addysg a hyfforddiant i athrawon yng Nghymru, mae angen amlwg i addysg uwch Cymru ddatblygu ei hadnoddau ymchwil i bolisi addysg, cyflawni a pherfformiad mewn cyd-destun rhyngwladol.

Fel y dywedais yn fy araith y llynedd, rwyf am bwysleisio fy mod yn disgwyl gweld mwy o academyddion o ganolfannau addysg athrawon yng Nghymru yn cael eu cyflwyno yn y REF nesaf a disgwyliaf hefyd weld canran uwch o gyflwyniadau o Gymru ym maes ymchwil addysgol arbenigol. 

Dinasyddiaeth weithredol

Gan droi at y drydedd thema allweddol, hoffwn weld y sector addysg uwch yng Nghymru yn datblygu dinasyddion gweithredol yng Nghymru a bod yn esiampl eu hunain yn hyn o beth. I mi, mae hyn yn golygu bod addysg uwch yng Nghymru yn cyfrannu'n gadarnhaol, yn enwedig yn eich cymunedau lleol ond hefyd yn fwy cyffredinol ar lefel genedlaethol.

Rwyf yn falch iawn o weld ymrwymiad y sector i fod yn sector Cyflog Byw achrededig. Rydych yn gyflogwr o bwys a hoffwn eich gweld yn gosod y safon fel cyflogwyr ardderchog, gan wasanaethu a gwobrwyo'r bobl sy'n gweithio i chi o'r cymunedau lle rydych wedi'ch lleoli.

Fel y noda ymchwil gan Ysgol Busnes Caerdydd, mae achrediad Cyflog Byw wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r rhan fwyaf o gyflogwyr, gan gynnig manteision o ran enw da, adnoddau dynol a busnes.

Cefais fy nghalonogi'n fawr iawn hefyd – a'm cyd-weinidogion – fod prifysgolion wedi ymrwymo i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad prifysgolion yn grymuso gweithwyr i ddarparu gwasanaethau ardderchog ac yn eu gwobrwyo – unwaith eto mae hyn yn gyfraniad allweddol arall y gall addysg uwch ei wneud i'ch cymunedau lle rydych wedi'ch lleoli.

Dylai addysg uwch yng Nghymru hefyd fynd ati'n fwyfwy i ennyn diddordeb ei myfyrwyr fel cyfranogwyr gweithredol yn nhrefniadaeth campysau a phrifysgolion.

Mae angen i sefydliadau ystyried eto lais myfyrwyr mewn prosesau gwneud penderfyniadau ym maes llywodraethu, gweithrediaeth a gwasanaethau er mwyn iddynt gael mwy o rôl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Fel rwyf wedi dweud droeon o'r blaen, rwyf yn edrych ar fyfyrwyr fel dinasyddion, yn hytrach nag arddel ffocws cul ar fyfyrwyr fel defnyddwyr.

Credaf mai drwy hyn y gellir helpu i ddiffinio ein sector. Nid bod ar wahân i gymdeithas, ond gyda chyfrifoldeb dros ein cymunedau, a dyletswydd iddynt.

Mae fy nghyd-weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau, wedi mynegi cefnogaeth y llywodraeth i'r egwyddor o Gymru yn dod yn Genedl Noddfa.

Gwn fod ei swyddogion yn gweithio gydag eraill yn y llywodraeth a chyda sefydliadau allweddol i ddeall sut y gallwn ddileu a lliniaru rhwystrau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn well.

Rwyf yn cydnabod y gwaith gan brifysgolion yn y maes hwn eisoes, gan gynnwys ysgol haf Caerdydd a weithiodd gyda ffoaduriaid am chwe wythnos ar fynediad ac uchelgais.

Mae gweithgareddau o'r fath yn enghraifft o'r berthynas rhwng lleol a rhyngwladol, campws a chymuned, dinesig ac academaidd. Hoffwn annog pob un o'n prifysgolion i ymgymryd â gweithgareddau o'r fath, a lle a phan fyddwch yn gwneud hynny, ymfalchïwch ynddynt a'u hyrwyddo cymaint â phosibl.

Arloesedd cymdeithasol

Y thema allweddol olaf yw menter ac arloesedd cymdeithasol.

Gan adeiladu ar y cod ymarfer, hoffwn hefyd weld prifysgolion yn ystyried mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr lleol pan fyddant yn caffael gwasanaethau neu nwyddau. Ac yn wir, sut mae prifysgolion yn cysylltu ymchwil â chyfleoedd i ymateb i heriau a chyfleoedd cymdeithasol yn uniongyrchol.

Dylai prifysgolion adeiladu ar arfer da ac ystyried rhoi mwy o gyfleoedd arloesedd cymdeithasol ac entrepreneuriaeth sefydliadol a sectoraidd i israddedigion.

Gwn fod mwy o sefydliadau yn gwneud cynnydd tuag at ennill achrediad Siarter Busnesau Bach ac rwy'n croesawu hyn yn fawr iawn. Ond gadewch inni barhau i anelu'n uchel.

Rwyf am weld o leiaf un brifysgol o Gymru yn cael ei chydnabod fel 'Changemaker Campus' – gan roi mynediad inni i rwydwaith rhyngwladol o arloesedd cymdeithasol.

Rydym yn gwneud yn dda o ran myfyrwyr a graddedigion yn dechrau busnesau newydd, ond gallwn wneud rhagor, yn fy marn i.

Drwy'r fenter Creu Sbarc, credaf y gallwn harneisio optimistiaeth pob un ohonom i greu amgylchedd yng Nghymru a fydd yn ei gwneud yn bosibl i arloesedd ffynnu ac i feithrin ymagwedd "gallu gwneud" mewn cymdeithas, o'n disgyblion ieuangaf i arweinwyr ein sefydliadau mwyaf traddodiadol.

Nododd arolwg HEBCIS fod 308 o fusnesau newydd wedi cael eu sefydlu gan raddedigion o brifysgolion yng Nghymru yn 2015-16, o blith 3890 o fusnesau newydd a sefydlwyd gan raddedigion yn y DU. Felly rydym yn sicrhau mwy na'n cyfran deg, gyda bron 10% o fusnesau newydd yn y DU.

Ond dim ond 0.3% o'r boblogaeth o fyfyrwyr yw'r ffigur hwn.  A ellir gwneud rhagor?

Bydd cynyddu'r ffigur hwn i ddim ond 1% yn creu 1000 yn fwy o gwmnïau y flwyddyn.  Dyma her gennyf i chi.

Casgliad

I gloi, mae'r pedwar maes gweithredu allweddol hyn i gyd yn canolbwyntio ar brifysgolion yn meithrin gwell cysylltiadau a chyfrannu at eu lleoedd a'u pobl.

Ond maent hefyd yn ymwneud â chreu cysylltiadau â'r byd ar yr un pryd a defnyddio'r cysylltiadau hyn er budd eu cymunedau lleol ac yn wir er budd Cymru.

Heddiw, byddwch yn clywed am arfer gorau a syniadau o fannau eraill.

Mae'n bwysig bod yn agored i weithgareddau o bob cwr o'r byd wrth inni geisio datblygu, diffinio a dangos ein hymdeimlad o genhadaeth ddinesig yng Nghymru ymhellach.

Mae hefyd yn bwysig ein bod ni heddiw yn dathlu'r hyn a gyflawnwyd gennym hyd yma. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth, ac rwyf yn ymrwymedig i barhau yn yr ysbryd hwnnw.

Y nod heddiw yw bwrw ymlaen â'r agenda hon. Rwyf hefyd am i chi ddweud wrthym beth gallwn ni fel Llywodraeth ei wneud i gefnogi'ch gwaith.

Felly, achubwch ar y cyfle hwn i ddysgu gan feddylwyr allweddol ac arfer gorau a rhannwch eich syniadau eich hunain.

Edrychaf ymlaen at gryfhau ein hymrwymiad i sector sydd wedi'i adeiladu ar werthoedd a rennir, sy'n arwain ac yn gwrando ar ei gymunedau, sy'n cynnig syniadau cadarn a thrafodaeth rydd ac sy'n cysylltu'r campws, y gymuned a'r byd.

Diolch yn fawr.