Helpu i roi polisi diogelu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith.
Rydyn ni wrthi’n dechrau ar y gwaith o fapio Ardaloedd Adnoddau Strategol (AASau) posibl. Erfyn yw’r AAS ar gyfer diogelu ardaloedd lle ceir adnoddau naturiol.
Bydd AASau yn helpu:
- i sicrhau bod pob sector yn ystyried buddiannau sectorau eraill
- sectorau i siarad â’i gilydd
- i roi ffocws ar gyfer mwy o gynllunio strategol
Bydd pennu AASau yn fodd gobeithio i gael sectorau i siarad â’i gilydd a dod i ddeall sut y gall gweithgareddau mwy nag un sector gydfodoli yn yr un ardal.
Cyhoeddi’r adroddiadau a’r data yw’r cam cyntaf yn y broses ddatblygu. Mae’r adroddiadau ar gael ichi eu gweld:
- Datblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol: helpu i roi polisi diogelu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith
- Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol: egwyddorion dylunio
- Egwyddorion dylunio drafft Ardaloedd Adnoddau Strategol: trosolwg o’r adborth sydd wedi dod i law
- Asesiad Amgylcheddol Strategol: sgrinio hysbysiad cynllunio morol yr Ardal Adnoddau Strategol
- Ardaloedd Adnoddau Strategol a Hysbysiadau Cynllunio Morol: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Mae’n hanfodol bod rhanddeiliaid yn siarad â’i gilydd wrth ddatblygu AASau. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Marineplanning@gov.wales.