Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn fath o brosiect seilwaith mawr yng Nghymru. Mae ceisiadau DNS yn ddarostyngedig i broses gynllunio benodol. Mae’r rheoliadau’n diffinio DNS fel unrhyw un o’r canlynol:

  • adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan â chapasiti cynhyrchu gosodedig o rhwng 10 a 350 megawat.
  • ymestyn neu newid gorsaf cynhyrchu trydan lle y disgwylir i’r estyniad neu’r newid gynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 10 megawat o leiaf, ond nid yn fwy na 350 megawat.
  • gosod llinell drydan ar ben y tir hyd at 132kV sy’n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig.
  • datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau storio nwy tanddaear.
  • adeiladu neu newid cyfleuster Nwy Naturiol Hylifol.
  • adeiladu neu newid cyfleuster derbyn nwy.
  • datblygiad sy’n gysylltiedig â maes awyr.
  • adeiladu neu newid rheilffordd neu gyfnewidfa nwyddau rheilffordd.
  • adeiladu neu newid argae neu gronfa ddŵr.
  • datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr.
  • adeiladu neu newid gwaith trin dŵr gwastraff neu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff.
  • adeiladu neu newid cyfleuster gwastraff peryglus

Dim ond un cais y bydd angen i chi ei gyflwyno os oes gennych brosiect DNS sy’n cynnwys mwy nag un o’r rhain (er enghraifft, cynllun sy’n cynnwys rheilffordd a phaneli solar).  

Ni allwch wneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer DNS. Mae’n rhaid i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio llawn.

Cyflwynwyd y broses DNS gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf hon yn diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan fewnosod Adrannau 62D i 62L. Mae’r is-ddeddfwriaeth ganlynol yn gymwys hefyd:

  • Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd) [‘y Gorchymyn Gweithdrefn DNS’]
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau DNS’]
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd’]
  • Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau Ffioedd DNS’]
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau AEA’]

Nod y broses DNS yw sicrhau bod penderfyniadau amserol yn cael eu gwneud ar geisiadau cynllunio sy’n cael effaith arwyddocaol ar Gymru.

Cynnwys y gymuned

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn cydnabod efallai na fydd pobl leol yn ymgysylltu â cheisiadau cynllunio’n aml. Mae ein canllaw hygyrch ar ymgysylltu â’r broses yn esbonio sut a phryd y gall pobl gymryd rhan.

Awdurdodau Cynllunio Lleol perthnasol

Os bydd unrhyw ran o’r safle o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), bydd yr ACLl hwnnw’n ‘ACLl perthnasol’ ar gyfer y cais DNS. Fe all hyn olygu bod mwy nag un ACLl perthnasol fesul cais. Er nad ydynt yn gyfrifol am benderfynu ar geisiadau DNS, mae’n rhaid i bob ACLl baratoi Adroddiad ar yr Effaith Leol (LIR) yn ystod cam perthnasol y broses, ac mae’n rhaid i’r ymgeisydd dalu ffi LIR i PCAC ar gyfer pob ACLl perthnasol.

Trosolwg o’r Broses DNS

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i PCAC. Rydym yn prosesu ac yn archwilio’r ceisiadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru. 

Ar ôl derbyn cais DNS dilys, bydd PCAC yn penodi un neu fwy o Arolygwyr Cynllunio i archwilio’r cais. Bydd Arolygwyr yn ystyried tystiolaeth gan:

  • yr ymgeisydd, 
  • yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) 
  • ymgyngoreion statudol eraill a phartïon â buddiant.

Ar gyfer rhai achosion DNS, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol yn seiliedig ar adroddiad gan yr Arolygydd. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r casgliadau ac yn nodi a ddylai caniatâd cynllunio gael ei roi. Mae ceisiadau am linellau uwchben yn eithriad gan fod yr Arolygydd yn gwneud y penderfyniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Arolygwyr yn gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu o 10 MW i 50 MW.

Camau cais DNS

Cam 1: cyn-ymgeisio

  • Cyfarfodydd Cychwynnol dewisol rhwng yr Ymgeisydd a PCAC.
  • Ystyriaethau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA): Sgrinio a / neu Gwmpasu.
  • Ymgysylltu (dewisol) anstatudol, gan gynnwys cyngor cyn-ymgeisio gan PCAC, yr ACLl ac ymgyngoreion eraill. Mater i’r datblygwr yw penderfynu ar ei ymagwedd at weithgareddau ymgysylltu anstatudol.
  • Bydd y datblygwr yn cyflwyno hysbysiad o fwriad i gyflwyno DNS.
  • Bydd PCAC yn derbyn yr hysbysiad (o fewn 10 niwrnod gwaith).
  • Bydd y datblygwr yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol am 42 diwrnod, o leiaf.
  • Bydd y datblygwr yn paratoi Adroddiad Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio (PAC) i’w gyflwyno gyda’r cais.

Cam 2: cyflwyno cais a gwirio a ellir ei dderbyn

  • Bydd y datblygwr yn cyflwyno cais gyda dogfennau ategol. 
  • Bydd PCAC yn cynnal gwiriadau dilysu. Bydd yn ceisio cwblhau’r gwiriadau hyn o fewn 4 wythnos ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cynnwys Datganiad Amgylcheddol neu 6 wythnos ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys Datganiad Amgylcheddol.

Cam 3: archwiliad

  • Os yw’r cais yn ddilys, bydd PCAC yn penodi Arolygydd ac yn rhoi cyhoeddusrwydd iddo ac ymgynghori arno am 5 wythnos, o leiaf (‘y cyfnod sylwadau’).
  • Bydd ACLlau perthnasol yn paratoi LIR a’i gyflwyno erbyn dyddiad cau a bennwyd gan PCAC (yr un dyddiad â diwedd y cyfnod sylwadau, fel arfer).
  • Bydd gan y datblygwr 10 niwrnod gwaith ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau i benderfynu p’un ai gofyn am gael amrywio’r cais ai peidio.
  • Yn ystod yr un cyfnod o 10 niwrnod gwaith, bydd yr Arolygydd a benodwyd yn penderfynu ar y weithdrefn ar gyfer yr Archwiliad, sef sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad, neu gyfuniad o’r tri.
  • Bydd yr Arolygydd a benodwyd yn ystyried yr holl sylwadau ac yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer Gweinidogion Cymru sy’n argymell p’un a ddylai caniatâd cynllunio gael ei roi neu ei wrthod.
  • Cyflwynir yr adroddiad i Weinidogion Cymru i’w ystyried a gwneud penderfyniad.

Cam 4: penderfyniad

  • Bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar y cais a bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi.
  • Bydd yr Arolygydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar rai ceisiadau.
  • Anfonir y penderfyniad at yr ymgeisydd ac unrhyw ACLl perthnasol. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod am y penderfyniad i unrhyw unigolyn sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu amdano ac y maent yn ystyried ei bod yn rhesymol ei hysbysu. Bydd y penderfyniad hefyd yn cael ei gyhoeddi ar gofnod y porth gwaith achos cynllunio ar gyfer yr achos dan sylw.

Y cam cyn-ymgeisio

Ymgysylltu’n gynnar

Mae ymgysylltu’n gynnar â chymunedau, ACLlau, ymgyngoreion statudol, a phartïon eraill â buddiant cyn cyflwyno yn caniatáu i ymgeiswyr amlygu materion posibl yn ymwneud â’r datblygiad arfaethedig a mynd i’r afael â nhw. Ar ôl cyflwyno’r cais, diwygiadau cyfyngedig yn unig y gellir eu gwneud i gynnig DNS. Os bydd materion sy’n gofyn am dystiolaeth neu gyflwyniadau ychwanegol yn cael eu hamlygu’n hwyr, fe all hynny oedi’r Archwiliad o’r cais, neu hyd yn oed effeithio ar yr argymhelliad a / neu’r penderfyniad. Mae’n hollbwysig datrys materion cyn cyflwyno, ac mae PCAC yn annog ymgysylltu’n gynnar â’r partïon hyn yn gryf.

Yn unol â’r rheoliadau DNS, mae’n ofyniad y dylai cais gynnwys datganiad ysgrifenedig ynghylch statws trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a’r ACLl ynglŷn â rhwymedigaethau cynllunio. Ni fydd cais yn cael ei ddilysu heb ddatganiad o’r fath. Mae cyngor ar ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio ar gael yng Nghylchlythyr 13/97. Dylid hefyd gyfeirio at b’un a yw’r ACLl wedi mabwysiadu Cofrestr Codi Tâl yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC). Bydd angen i unrhyw drafodaethau ynglŷn â rhwymedigaethau cynllunio ddechrau ymhell cyn i unrhyw gais gael ei gyflwyno.

Anogir ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â PCAC i ofyn am Gyfarfod Cychwynnol ynglŷn â’u prosiect arfaethedig. Mae’r Cyfarfodydd Cychwynnol hyn wedi bod yn fuddiol i ymgeiswyr ac wedi gwella dealltwriaeth o’r broses DNS. Mae PCAC yn cynnal y Cyfarfod Cychwynnol ar gyfer prosiect DNS yn ddi-dâl. Byddai tâl yn cael ei godi am unrhyw gyfarfodydd dilynol ynglŷn â chynllun o dan y gyfundrefn Gwasanaethau Cyn-ymgeisio.

Dylai prosesau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fod yn ailadroddol a dylid eu hystyried yn gynnar yn y prosiect DNS. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael barn Sgrinio AEA gan PCAC cyn y cam Hysbysu. 

Mae’n bwysig amlygu p’un a yw’r datblygwyr yn debygol o geisio unrhyw Gydsyniadau Eilaidd gyda’r cais DNS, oherwydd fe all hyn arwain at oblygiadau i’r cam cyn-ymgeisio. Darllenwch adran Cydsyniadau Eilaidd y canllawiau hyn i gael rhagor o fanylion a chysylltwch â PCAC os bydd gennych unrhyw ymholiadau penodol i gynllun.

Ar gam cynnar, dylai ymgeiswyr asesu’r angen am drwyddedau neu gydsyniadau cysylltiedig gan gyrff eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) neu’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB). Mater i’r datblygwr a’r corff cydsynio arall perthnasol yw amseriad ceisio cydsyniadau cysylltiedig o’r fath, a bydd PCAC yn cadw at yr amserlenni statudol ar gyfer y broses DNS ni waeth am gydsyniadau eraill sy’n angenrheidiol.

Hysbysu am fwriad i gyflwyno cais DNS

Mae’n rhaid i’r hysbysiad hwn ragflaenu’r cais llawn ac unrhyw gyhoeddusrwydd ac ymgynghoriad cyn-ymgeisio (PAC) statudol a gynhelir gan yr ymgeisydd.

Os bydd ymgeisydd o’r farn nad yw ei brosiect yn ddatblygiad AEA, bydd rhaid iddo gael Cyfarwyddyd Sgrinio AEA gan PCAC sy’n cadarnhau nad yw’r prosiect yn ddatblygiad AEA cyn y gellir cyflwyno hysbysiad.

Mae’n rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol a chynnwys cynllun lleoliad safle. Mae’n rhaid i’r cynllun hwn fod wrth raddfa adnabyddadwy a dangos cyfeiriad y gogledd. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd anfon copi at bob ACLl perthnasol ar yr un pryd ag y mae’n cyflwyno’r hysbysiad i PCAC.

Y ffi ar gyfer cyflwyno hysbysiad yw £580, sy’n daladwy i PCAC.

Pan fydd wedi derbyn y ffurflen wedi’i llenwi, y cynllun safle, a’r ffi, bydd gan PCAC 10 niwrnod gwaith i bennu a yw’r prosiect yn DNS. Os derbynnir yr hysbysiad, bydd gan yr ymgeisydd 12 mis i gynnal ei Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio (PAC) a chyflwyno cais DNS llawn o’r dyddiad y mae PCAC yn Derbyn yr Hysbysiad. 

Os na chyflwynir cais dilys o fewn 12 mis, bydd yr Hysbysiad yn darfod. Byddai angen i’r ymgeisydd ailhysbysu cyn y gellid cyflwyno cais. Os cynhaliodd yr ymgeisydd ei PAC ar sail Hysbysiad a oedd wedi darfod wedi hynny, byddai angen iddo ailhysbysu ac yna ailadrodd y broses PAC gyda datganiad Derbyn Hysbysiad dilys gan PCAC. 

Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghori Cyn-ymgeisio (PAC)

Yn dilyn y cam hysbysu, cyn cyflwyno cais DNS llawn, mae’n rhaid i’r datblygwr roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig ac ymgynghori arno am gyfnod o chwe wythnos o leiaf.

Crynodeb o weithgareddau PAC gan ymgeisydd

  • Cyhoeddi’r cais a’r dogfennau ategol ar wefan (42 diwrnod, o leiaf).
  • Ysgrifennu at ymgyngoreion arbenigol a chymunedol perthnasol.
  • Rhoi hysbysiad ysgrifenedig i berchnogion / meddianwyr tir gerllaw’r safle.
  • Cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol.
  • Arddangos hysbysiad safle ar y safle neu’n agos iddo (42 diwrnod, o leiaf).
  • Os yw’r cais yn cynnwys cydsyniadau eilaidd: ymgynghori â’r corff perthnasol.

Er nad ydynt ar gyfer ceisiadau DNS yn benodol, fe allai canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymgynghori cyn cyflwyno cais fod o ddiddordeb.

Wrth gynnal PAC, dylai’r ymgeisydd sicrhau bod hysbysiad preifatrwydd priodol ar waith sy’n egluro i bobl y bydd eu manylion yn cael eu cyflwyno i PCAC, maes o law, ynghyd ag Adroddiad PAC y cais. Bydd hyn yn galluogi PCAC i gysylltu â nhw os derbynnir y cais dan sylw i’w archwilio.

Yn unol ag Erthyglau 8 a 9 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, mae’n rhaid i’r ymgeisydd, o leiaf, gyhoeddi’r dogfennau canlynol ar wefan: 

  • ffurflen cais cynllunio DNS ddrafft (neu ffurflen debyg iawn), sy’n cynnwys y manylion a nodwyd neu y cyfeiriwyd atynt yn y ffurflen.
  • cynllun sy’n amlygu’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef.
  • unrhyw gynlluniau eraill, lluniadau eraill a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig. Sylwch fod rhaid i’r holl gynlluniau a lluniadau gael eu tynnu wrth raddfa adnabyddadwy, a bod rhaid i gynlluniau ddangos cyfeiriad y gogledd.
  • Copi o ddatganiad Derbyn Hysbysiad PCAC nad yw wedi darfod.
  • Datganiad Dylunio a Mynediad, y mae’n rhaid iddo:
  1. esbonio’r egwyddorion a’r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad
  2. dangos y camau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a sut mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw
  3. esbonio’r polisi neu’r ymagwedd a fabwysiadwyd mewn perthynas â mynediad, a sut mae polisïau sy’n ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu wedi cael eu hystyried, ac

    ch) esbonio sut mae unrhyw faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad wedi derbyn sylw.

  • Os yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, mae’n rhaid cyhoeddi’r Datganiad Amgylcheddol.
  • Datganiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw gydsyniad eilaidd sy’n gysylltiedig â’r cais arfaethedig y mae’r ymgeisydd o’r farn y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad arno neu y dylent wneud penderfyniad arno, ynghyd â’r ffurflen gais ddrafft a dogfennau sy’n gysylltiedig â chydsyniadau o’r fath, ac
  • O ran ceisiadau am linell drydan uwchben, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd bras.

Mae’n rhaid i’r dogfennau uchod gael eu cyhoeddi am 42 diwrnod o leiaf o’r dyddiad y gwneir y canlynol:

  • Ymgynghori ag ymgyngoreion cymunedol penodol, ymgyngoreion arbenigol ac unrhyw unigolion perthnasol; gweler isod am fanylion ychwanegol,
  • Cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i berchnogion neu feddianwyr tir sy’n cyffinio â’r safle,
  • Arddangos hysbysiadau safle, sy’n gymwys ar gyfer y broses DNS, mewn un man o leiaf ar y safle neu’n agos iddo, a 
  • Gosod hysbysiad i’r wasg mewn papur newydd lleol.

Unigolion a sefydliadau y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â nhw

Ymgyngoreion cymunedol
  • Pob Cynghorydd sy’n cynrychioli pob ward etholiadol yn ardal y Cyngor Sir neu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol y mae’r safle wedi’i leoli ynddi.
  • Y Cyngor/Cynghorau Cymuned yn yr ardal y mae’r safle wedi’i leoli ynddi.

Fe allai’r ACLl perthnasol fod yn y sefyllfa orau i helpu ymgeisydd i amlygu Ymgyngoreion Cymunedol.

Ymgyngoreion arbenigol

Mae gan ymgyngoreion arbenigol ddyletswydd statudol i ymateb i’r PAC. Mae’r datblygwr yn gyfrifol am wirio Atodlen 5 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS i bennu pa sefydliadau sy’n ymgyngoreion arbenigol yn gysylltiedig â’r cynnig. Yn dibynnu ar y math o ddatblygiad a’i natur, mae’n bosibl y bydd angen ymgynghori â’r cyrff canlynol:

Adroddiad PAC

Ar ôl y cyfnod ymgynghori, mae’n rhaid i’r ymgeisydd baratoi adroddiad ymgynghori i’w gyflwyno gyda’r cais. Yn unol ag erthygl 11 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, mae’n rhaid i’r adroddiad ymgynghori gynnwys:

  • copi o’r hysbysiad safle a arddangosodd yr ymgeisydd
  • datganiad bod yr hysbysiad safle wedi cael ei arddangos yn unol â gofynion Erthygl 8(1)(a)(i) y Gorchymyn Gweithdrefn DNS
  • rhestr o gyfeiriadau’r unigolion (perchnogion neu feddianwyr tir cyffiniol) a hysbyswyd am y cais arfaethedig, a chopi o’r hysbysiad a roddwyd iddynt
  • copi o’r hysbysiad i’r wasg
  • datganiad bod yr ymgeisydd wedi cyhoeddi dogfennau drafft y cais ar ei wefan am 42 diwrnod o leiaf yn unol ag Erthygl 8(1)(b) y Gorchymyn Gweithdrefn DNS 
  • copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol, unigolion perthnasol ac ymgyngoreion arbenigol
  • crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw unigolyn a hysbyswyd am y cais arfaethedig, gan gynnwys cadarnhad ynghylch p’un a yw’r materion a godwyd wedi derbyn sylw ac, os felly, sut 
  • copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol gydag esboniad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.

Ceir rhagor o wybodaeth am ffurf a chynnwys awgrymedig yr adroddiad ymgynghori yn Atodiad 4.

Cyngor cyn-ymgeisio gan PCAC

Gall ymgeiswyr ofyn i PCAC am gyngor cyn-ymgeisio. Gall hyn gynnwys sylwadau cychwynnol ar rinweddau cynllun arfaethedig ac ymholiadau gweithdrefnol cyffredinol. Cam yn ôl disgresiwn yw hwn y gellir ei gynnal ar unrhyw gam cyn cyflwyno’r cais. Nid yw wedi’i gysylltu’n ddilyniannol â Sgrinio neu Gwmpasu AEA, y cam hysbysu, na PAC yr ymgeisydd.

Codir tâl am y gwasanaeth cyn-ymgeisio, y rhoddir manylion amdano yn adran Ffioedd a Chyllid y canllawiau hyn.

Mae cyngor cyn-ymgeisio ffurfiol ar gael gan PCAC unrhyw bryd hyd at gyflwyno cais DNS. Er y gellir gofyn am gyngor unrhyw bryd, mae profiad yn dangos y bydd ymgeiswyr yn cael mwy o fudd o gais o’r fath os byddant yn cysylltu â PCAC i drafod y cais posibl a sut gallai PCAC helpu. Yn aml, mae’n ddefnyddiol i ymgeiswyr gynnal Cyfarfod Cychwynnol yn gyntaf i drafod gweithdrefnau, yna archwilio’r cyngor cyn-ymgeisio penodol y mae’n rhaid i ACLlau ei ddarparu o dan y gyfundrefn DNS ac yna cynnal ymarfer Sgrinio AEA a / neu Gwmpasu AEA gyda PCAC cyn gwneud cais cyn-ymgeisio ffurfiol i PCAC.

Bydd angen i geisiadau am gyngor cyn-ymgeisio gan PCAC gael eu gwneud trwy’r ffurflen berthnasol.

Yn ôl Rheoliad 8 y Rheoliadau DNS, mae gan PCAC ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth a chymorth mewn perthynas ag unrhyw un o’r canlynol pan ofynnir:

  • ffurf a chynnwys y cais
  • ffurf a chynnwys unrhyw adroddiadau technegol a allai fod yn ofynnol
  • y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a datblygu cais
  • y fath wybodaeth neu gymorth arall a geisiwyd gan yr ymgeisydd y mae Gweinidogion Cymru yn gallu ei darparu/ddarparu ac yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r ymgeisydd i wneud a datblygu cais
  • asesiad cychwynnol o’r cais arfaethedig.

Bydd yr holl gyngor cyn-ymgeisio wedi’i seilio ar y wybodaeth a ddarperir ar y pryd yn unig. Yn nodweddiadol, cynigir cyngor cyn-ymgeisio gan Swyddogion Cynllunio o PCAC, ond fe allai Arolygydd roi arweiniad ychwanegol os oes angen gwybodaeth arbenigol. Nid yw cyngor cyn-ymgeisio PCAC yn gyfrwymol ar yr Arolygydd a benodwyd i archwilio’r cais na Gweinidogion Cymru wrth wneud y penderfyniad terfynol.

Yn gyffredinol, nid yw PCAC yn ymgynghori ag ACLlau, awdurdodau priffyrdd, na chyrff statudol eraill wrth baratoi cyngor cyn-ymgeisio. Mae proses ar wahân ar gyfer cael cyngor cyn-ymgeisio yn uniongyrchol gan ACLlau.

Fel arfer, bydd cyngor cyn-ymgeisio’n cael ei roi o fewn 28 niwrnod o ofyn amdano, neu gyfnod estynedig a bennir gan PCAC os bydd angen.

Pan fydd ceisiadau am gyngor cyn-ymgeisio’n cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, dylai’r ymgeisydd rybuddio PCAC am hynny. Bydd PCAC yn ceisio cytundeb yr ymgeisydd ynglŷn ag amseru cyhoeddi’r cais a’r cyngor canlyniadol. Fodd bynnag, pan fydd y cais wedi cael ei gyflwyno, neu os na chyflwynir cais ar ôl 12 mis o hysbysu, bydd PCAC yn cyhoeddi’r cyngor. Dylai ymgeiswyr nodi rhwymedigaethau PCAC o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Datganiadau Tir Cyffredin

Yn ystod y cam cyn-ymgeisio, dylai ymgeiswyr geisio cytuno ar Ddatganiadau Tir Cyffredin (SoCG) gydag ymgyngoreion allweddol. Nid oes gofyniad statudol i gynhyrchu SoCG yn y broses DNS, ond fe allant fod yn ddefnyddiol a byddant yn cyfrannu at broses archwilio effeithlon.

Pan fydd elfennau o gais DNS yn destun Gwrandawiad neu Ymchwiliad, bydd SoCG yn ddefnyddiol hefyd i ganolbwyntio ar faterion sy’n destun dadl rhwng y partïon. 

Dylai datganiad tir cyffredin:

  • fod yn ddogfen unigol, a luniwyd ac a gymeradwywyd gan y ddau barti
  • bod yn gryno ac osgoi dyblygu gwybodaeth a gyflwynwyd eisoes
  • cynnwys rhestr o ddogfennau craidd y cytunwyd arnynt a / neu a rennir, hyd yn oed os anghytunir ynglŷn â’u dehongliad a’u perthnasedd. Nid oes angen cynnwys darnau o ddogfennau polisi cenedlaethol, bydd cyfeiriadau’n gwneud y tro 
  • amlygu meysydd tir cyffredin, yn ogystal â’r prif bwyntiau yr anghytunir arnynt
  • amlygu elfennau cytunedig o’r dystiolaeth ac unrhyw astudiaethau technegol a gynhaliwyd, gan gynnwys canfyddiadau y cytunir arnynt, hyd yn oed os oes anghytundeb ynglŷn â’u dehongliad a’u perthnasedd 
  • amlygu a oes unrhyw amodau neu rwymedigaethau cynllunio a fyddai’n mynd i’r afael ag unrhyw anghytundeb neu wrthwynebiad yn foddhaol.

Cyflwyno cais a gwirio a ellir ei dderbyn

Mae’n rhaid i’r cais gael ei gyflwyno o fewn 12 mis o’r dyddiad y mae PCAC yn Derbyn yr Hysbysiad. Os na chyflwynir y cais o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y datganiad Derbyn Hysbysiad yn darfod a bydd rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno Hysbysiad newydd.

Pan fydd wedi’i gyflwyno, gellir amrywio’r cais DNS trwy gytundeb Gweinidogion Cymru yn unig pan na fyddai hynny’n golygu newid sylweddol i natur y datblygiad y ceisir caniatâd cynllunio ar ei gyfer. Felly, dylai’r cais fod ar ei ffurf derfynol.

Crynodeb o’r camau cyflwyno ar gyfer ymgeisydd:

  • cyflwyno copi caled llawn a chopi electronig llawn o’r cais i PCAC
  • cyflwyno copi caled ac electronig llawn i bob ACLl perthnasol
  • talu’r ffi gychwynnol i PCAC 
  • talu ffi LIR i PCAC ar gyfer pob ACLl perthnasol
  • hysbysu unrhyw berchnogion eraill neu denantiaid amaethyddol y safle bod y cais wedi cael ei gyflwyno
  • ysgrifennu at PCAC i gadarnhau bod copi o’r cais wedi cael ei anfon at bob ACLl perthnasol

Gwirio a ellir derbyn y cais

Dylai copi caled ac electronig llawn gael eu cyflwyno i PCAC ar yr un pryd ag y’u cyflwynir i bob ACLl perthnasol. Dylech ddilyn cyngor PCAC ar baratoi dogfennau a’u cyflwyno i ni.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ysgrifennu at PCAC cyn gynted â phosibl ar ôl cyflwyno’r copïau i’r ACLl(au) i gadarnhau ei fod wedi cyflwyno’r copïau hynny.

Pan fydd cais DNS yn cael ei gyflwyno i PCAC, byddwn yn cynnal gwiriadau i sicrhau ei fod yn gyflawn ac yn ddilys cyn cadarnhau a yw’r cais wedi cael ei Dderbyn i’w archwilio neu’n cael ei wrthod.

Pan fydd cais DNS yn cael ei gyflwyno i PCAC, byddwn yn rhoi gwybod i’r ACLlau perthnasol ac yn gofyn iddynt gadarnhau a ydynt wedi derbyn copi o’r cais. Mae’n rhaid i ACLlau perthnasol ychwanegu’r cais a chadarnhad ysgrifenedig PCAC o’i dderbyn at eu cofrestr gynllunio o fewn 5 niwrnod o’u derbyn.

Yn unol ag Erthygl 16 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, pan fydd ymgeisydd yn cyflwyno cais DNS i PCAC, mae’n rhaid iddo roi Hysbysiad i unrhyw un a oedd yn berchen ar unrhyw ran o’r safle, neu’n denant amaethyddol arni, ar unrhyw adeg yn ystod y 21 diwrnod cyn cyflwyno’r cais. Yna, mae’n rhaid i hyn gael ei gadarnhau yn adran Tystysgrif Perchnogaeth y ffurflen gais DNS.

Er mwyn i gais DNS gael ei ddilysu, mae’n rhaid iddo gynnwys:

  • y ffi gychwynnol a’r nifer gywir o ffioedd LIR (un ar gyfer pob ACLl perthnasol) 
  • ffurflen gais wedi’i llenwi, gan sicrhau bod yr adran Tystysgrif Perchnogaeth wedi’i chwblhau hyd eithaf gwybodaeth yr ymgeisydd
  • copi o ddatganiad Derbyn Hysbysiad PCAC
  • cynllun lleoliad safle ac unrhyw gynlluniau eraill, lluniadau eraill a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad. Mae’n rhaid i’r holl gynlluniau a lluniadau gael eu tynnu wrth raddfa adnabyddadwy, ac mae’n rhaid i gynlluniau ddangos cyfeiriad y gogledd.
  • Datganiad Dylunio a Mynediad y mae’n rhaid iddo:
  1. esbonio’r egwyddorion a’r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad
  2. dangos y camau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a sut mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw
  3. esbonio’r polisi neu’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn gysylltiedig â mynediad, a sut mae polisïau sy’n ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu wedi cael eu hystyried, ac

    ch) esbonio sut mae unrhyw faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad wedi derbyn sylw.

  • Adroddiad Ymgynghori Cyn-ymgeisio, fel yr esboniwyd yn adran Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghori Cyn-ymgeisio (PAC) y canllawiau hyn.
  • Datganiad Seilwaith Gwyrdd (gweler paragraff 6.2.12 Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12, Chwefror 2024).
  • Datganiad Amgylcheddol (os yw’r prosiect yn ddatblygiad AEA) neu Gyfarwyddyd Sgrinio negyddol gan PCAC (os nad yw’r prosiect yn ddatblygiad AEA)
  • datganiad ysgrifenedig sy’n amlinellu unrhyw gydsyniadau eilaidd (os yw’r cais yn cynnwys Cydsyniadau Eilaidd)
  • ffurflen gais wedi’i llenwi ar gyfer pob cydsyniad eilaidd a geisir gan Weinidogion Cymru, ynghyd â’r holl ddogfennau ategol sy’n ofynnol.
  • datganiad ysgrifenedig ynghylch statws trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a’r ACLl ynglŷn â rhwymedigaethau o dan adran 106 Deddf 1990. [Sylwer: Dylid cyflwyno Cytundeb Adran 106 wedi’i gwblhau erbyn wythnos 15 y broses archwilio DNS. Fe allai’r Arolygydd gytuno i dderbyn cytundeb wedi’i gwblhau ar ddiwrnod agoriadol y Gwrandawiad neu’r Ymchwiliad (os cynhelir digwyddiad o’r fath). Ni fydd oedi cyn cyflwyno adroddiad argymhelliad (neu’r penderfyniad yn achos llinellau trydan uwchben) i Weinidogion Cymru os na chyflwynwyd rhwymedigaeth gynllunio wedi’i chwblhau.]
  • o ran ceisiadau ar gyfer llinell drydan uwchben, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd bras, a ph’un a gytunwyd ar yr holl fforddfreintiau angenrheidiol gyda pherchnogion a meddianwyr tir y bwriedir i’r llinell ei groesi.
  • o ran ceisiadau a wneir yn gysylltiedig â Thir y Goron: datganiad bod y cais yn cael ei wneud o ran Tir y Goron, a phan wneir y cais gan unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod priodol, copi o’r awdurdodiad hwnnw.
  • o ran ceisiadau ar gyfer gwaith hylosgi 300 MW neu fwy, asesiad sy’n ymwneud â dal, cludo a storio Carbon Deuocsid (CO2). Mae hyn yn unol â Chyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar Storio CO2 yn Ddaearegol. Yn dibynnu ar ganlyniadau’r asesiad, mae’n bosibl y bydd angen i’r prosiect gynnwys offer dal carbon, er mwyn i’r gwaith arfaethedig fod “yn barod i ddal carbon”. Mae Rheoliadau Parodrwydd i Ddal Carbon (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan) 2013 (fel y’u diwygiwyd) yn rhoi’r manylion angenrheidiol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu arweiniad sy’n amlinellu’r prosesau a’r gofynion angenrheidiol, sydd ar gael ar GOV.UK

Bydd PCAC yn ceisio cwblhau ei wiriadau o fewn 28 niwrnod ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cynnwys Datganiad Amgylcheddol ac o fewn 42 diwrnod ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys Datganiad Amgylcheddol. I gael gwybodaeth am yr amserlenni presennol ar gyfer gwirio a ellir derbyn cais, gweler ein Diweddariad i’r Gwasanaeth DNS

Pan fydd y gwiriadau wedi’u cwblhau, rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y penderfyniad. Os na dderbynnir y cais, bydd PCAC yn cadarnhau’r rhesymau. Os derbynnir y cais, bydd PCAC yn cyhoeddi Hysbysiad o Dderbyn. Bydd hyn yn dynodi’r dyddiad dechrau ar gyfer y broses archwilio.

Archwiliad

Derbyn

Pan dderbynnir cais DNS dilys, bydd un neu fwy o Arolygwyr Cynllunio yn cael eu penodi i archwilio’r cais. Yn dibynnu ar y math o brosiect a’i raddfa, fe all yr Arolygydd/Arolygwyr gael eu cefnogi gan Swyddogion Cynllunio neu Aseswyr. 

Cyhoeddi’r dogfennau a gyflwynwyd

Bydd PCAC yn cyhoeddi dogfennau’r cais pan dderbynnir cais i’w archwilio. 

Er y bydd y rhan fwyaf o ddogfennau’r cais yn cael eu cyhoeddi ar y porth gwaith achos cynllunio, ni ddylid cyhoeddi gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau. Fe allai’r rhain gynnwys dogfennau â data personol neu wybodaeth amgylcheddol sensitif, er enghraifft lleoliadau cynefinoedd rhywogaethau a warchodir. Pan fwriedir i ddogfennau aros yn gyfrinachol, dylai’r ymgeisydd ddarparu’r rhain fel dogfennau ar wahân a nodi eu natur gyfrinachol yn glir yn y teitl gyda dyfrnod sy’n datgan hynny ar bob tudalen. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r Adroddiad PAC gael ei gyhoeddi, ond dylai manylion cyswllt unigolion gael eu darparu fel atodiad cyfrinachol. Ni ddylai gwybodaeth gyfrinachol gael ei chynnwys mewn dogfennau eraill y bwriedir eu cyhoeddi.

Mae PCAC yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data wrth drin data personol. Gweler hysbysiad preifatrwydd gwaith achos cynllunio i gael rhagor o wybodaeth. Polisi cadw safonol PCAC yw cadw dogfennau cais am flwyddyn ar ôl i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud.

Y cyfnod sylwadau: ymgynghori a chyhoeddusrwydd

Mae’r cyfnod sylwadau’n rhoi cyfle i’r holl bartïon roi sylwadau terfynol ar y cais DNS. Mae gan Ymgyngoreion Arbenigol ddyletswydd statudol i roi ymateb o sylwedd ar y cam hwn.

Pan dderbynnir cais i’w archwilio, bydd y cyfnod sylwadau’n dechrau pan fydd PCAC yn cynnal ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd perthnasol. Bydd Hysbysiad o Dderbyn PCAC yn cadarnhau’r Arolygydd/Arolygwyr Cynllunio a benodwyd a’r dyddiad cau ar gyfer y cyfnod sylwadau a chyflwyno LIR gan yr ACLlau perthnasol. Ni fydd hyn yn llai na 5 wythnos o’r dyddiad Derbyn, ond fe allem bennu cyfnod hwy mewn amgylchiadau eithriadol. 

Crynodeb

  • Bydd yn para am 5 wythnos o leiaf.
  • Bydd PCAC yn cyhoeddi holl ddogfennau’r cais.
  • Bydd PCAC yn cyhoeddi hysbysiad i’r wasg.
  • Bydd PCAC yn ysgrifennu at yr holl ymgyngoreion arbenigol, ymgyngoreion cymunedol, tirfeddianwyr cyfagos, unrhyw unigolion perthnasol, ac unrhyw barti sydd wedi gofyn am gael ei ychwanegu at y rhestr bostio.
  • Bydd PCAC yn anfon hysbysiad safle at yr ACLl(au) perthnasol.
  • Bydd yr ACLl(au) perthnasol yn arddangos yr hysbysiad safle mewn un lleoliad neu fwy ac yn cadarnhau’n ysgrifenedig i PCAC fod yr hysbysiad safle wedi cael ei arddangos.
  • Bydd yr ACLl(au) perthnasol yn sicrhau bod y cais a Hysbysiad o Dderbyn PCAC yn cael eu hychwanegu at y gofrestr cynllunio lleol.

Bydd PCAC yn anfon copi o’r Hysbysiad o Dderbyn at:

  • yr ymgeisydd, 
  • yr holl ACLlau perthnasol, 
  • yr Ymgyngoreion Arbenigol, 
  • Ymgyngoreion Cymunedol, 
  • perchnogion neu feddianwyr tir gerllaw’r safle, 
  • unrhyw barti a gyflwynodd sylwadau i’r ymgeisydd yn ystod y PAC statudol, 
  • unrhyw barti sydd wedi gofyn am gael ei ychwanegu at restr bostio PCAC

Cyn Derbyn cais DNS, gofynnwn i unrhyw ACLlau perthnasol ddarparu rhestr o eiddo yn yr ardal y maent yn credu y dylid anfon copi o’n Hysbysiad o Dderbyn atynt hefyd.

Mae’n rhaid i PCAC gyhoeddi hysbysiad i’r wasg dim hwyrach na 5 niwrnod gwaith o’r dyddiad Derbyn.

Bydd PCAC yn anfon hysbysiad safle at ACLlau perthnasol y mae’n ofynnol iddynt ei arddangos mewn un man o leiaf ar y safle neu’n agos iddo. Mae’n rhaid i’r ACLl osod yr hysbysiad ac ysgrifennu at PCAC i gadarnhau ei fod wedi gwneud hynny o fewn 5 niwrnod gwaith o ddyddiad yr Hysbysiad o Dderbyn.

Mae’n rhaid i ACLlau perthnasol hefyd sicrhau bod y cais, cadarnhad PCAC bod cais wedi cael ei gyflwyno, a chopi o Hysbysiad o Dderbyn PCAC yn cael eu hychwanegu at eu cofrestr gynllunio.

Bydd hysbysiadau PCAC yn cynnwys manylion ynglŷn â sut y gellir gweld dogfennau’r cais ar ein Porth Gwaith Achos Cynllunio

Pan ddaw’r cyfnod sylwadau i ben, bydd PCAC yn ysgrifennu at yr holl bartïon i gadarnhau’r camau nesaf. Bydd holl hysbysiadau’r archwiliad yn cael eu hanfon at yr holl bartïon ar ein rhestr bostio a’u cyhoeddi ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio. 

Ymestyn dyddiadau cau

Mae A621 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) ac Erthygl 4(2) y Gorchymyn Gweithdrefn DNS yn rhoi’r grym i PCAC amrywio’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ac unrhyw LIRau sy’n ofynnol gan ACLlau perthnasol.

Cydnabyddwn y gallai partïon ddymuno ymestyn y dyddiadau cau hyn am nifer o resymau. Er enghraifft, pwysau llwyth gwaith, cyfnodau gwyliau neu argaeledd ymgyngoreion neu gynghorwyr mewnol. Er y sylweddolwn fod bodloni’r dyddiadau cau sy’n ofynnol yn gallu bod yn heriol weithiau, bydd y cyfnod 5 wythnos safonol yn berthnasol i bob achos bron ac ni fydd yn cael ei ymestyn. Diben hyn yw sicrhau proses ymgeisio effeithlon a chyson ar draws yr ystod o geisiadau DNS a darparu tegwch gweithdrefnol i’r holl bartïon sy’n ymwneud ag achos penodol.

Sylwadau

Caiff unrhyw un wneud sylwadau. Ar yr amod eu bod wedi’u derbyn o fewn y cyfnod a nodwyd, byddant yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi gan PCAC. Bydd PCAC yn ceisio cyhoeddi sylwadau o fewn 5 niwrnod gwaith, lle bynnag y bo’n bosibl.

Ni fydd enwau a chyfeiriadau’r rhai sy’n cyflwyno sylwadau yn cael eu cuddio, oni bai y gofynnir yn benodol am hynny. Ym mhob achos, mae’n arferol i fanylion y rhai sy’n cyflwyno sylwadau gael eu dal ar gofnodion mewnol.

Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y broses DNS

Mae CNC yn ymgynghorai arbenigol yn y broses DNS. Yn nodweddiadol, mae hyn yn golygu:

  • darparu cyngor cyn-ymgeisio (anstatudol) i’r ymgeisydd 
  • darparu ymateb o sylwedd i’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio (statudol) 
  • darparu ymateb o sylwedd i’r ymgynghoriad ar y cais a gyflwynwyd 
  • darparu sylwadau ysgrifenedig ychwanegol neu dystiolaeth arbenigol yn ystod yr archwiliad.

Mae CNC yn gorff ymgynghori yn y broses AEA. Mae hyn yn golygu darparu:

  • cyngor yn ystod y broses sgrinio, 
  • cyngor yn ystod y broses gwmpasu, 
  • barn am y Datganiad Amgylcheddol drafft (yn rhan o broses ymgynghori cyn-ymgeisio statudol yr ymgeisydd)
  • barn am y Datganiad Amgylcheddol terfynol (yn rhan o’i ymateb i ymgynghoriad PCAC pan fydd y cais wedi cael ei Dderbyn i’w archwilio)
  • sylwadau ysgrifenedig ychwanegol neu dystiolaeth arbenigol yn ymwneud ag AEA yn ystod yr archwiliad, os bydd yr Arolygydd yn gofyn amdanynt. 

Mae CNC hefyd yn gyfrifol am roi cydsyniadau neu drwyddedau o dan nifer o Ddeddfau. Nid yw’r cydsyniadau neu’r trwyddedau ychwanegol hyn yn rhan o’r broses ymgeisio DNS, ond fe allent fod yn ofynnol i weithredu’r prosiect. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CNC yn ei ganllawiau DNS.

Rôl yr ACLl ac Adroddiadau ar yr Effaith Leol (LIR)

Mae’n ofyniad ffurfiol o’r broses DNS bod rhaid i unrhyw ACLl perthnasol gyflwyno LIR, sy’n manylu ar effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod. Mae’r rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaeth i ACLlau eraill neu Gynghorau Cymuned gyflwyno LIR Gwirfoddol. 

Mae gan ACLlau ddyletswyddau eraill hefyd drwy gydol y cais DNS, a amlinellir isod. 

Cyngor cyn-ymgeisio

Yn ogystal ag unrhyw gyngor cyn-ymgeisio yn ôl disgresiwn y gallai ACLl ei roi i ymgeisydd, mae Rheoliadau 6 a 7 yn cynnwys darpariaeth benodol i’r ymgeisydd ofyn am y wybodaeth ganlynol am ffi safonol, fel y nodir yn y Rheoliadau Ffioedd DNS:

  • hanes cynllunio’r tir y bwriedir cynnal y datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig.
  • darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn berthnasol i’r cais arfaethedig.
  • unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn berthnasol i’r cais arfaethedig.
  • unrhyw ystyriaethau eraill sy’n berthnasol neu a allai fod yn berthnasol, ym marn yr awdurdod.
  • p’un a yw’n debygol y bydd angen rhwymedigaethau cynllunio (o fewn ystyr adran 106 Deddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)) ac, os felly, syniad o gwmpas tebygol rhwymedigaethau cynllunio o’r fath, gan gynnwys syniad o unrhyw swm y gallai fod angen ei dalu i’r awdurdod.
  • unrhyw grwpiau cymunedol lleol perthnasol sy’n hysbys i’r awdurdod y gallai’r ymgeisydd ymgynghori â nhw yn rhan o ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

Cyfraniad ACLl at Asesu Effeithiau Amgylcheddol

Os bydd PCAC yn cael gwybod gan ymgeisydd ei fod yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol, neu os bydd PCAC yn cyhoeddi cyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol, bydd gan yr ACLl ddyletswydd o dan Reoliad 16 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd). Mae hyn yn mynnu bod yr ACLl yn ymgynghori â’r unigolyn sy’n bwriadu cyflwyno’r Datganiad Amgylcheddol, a darparu gwybodaeth amgylcheddol berthnasol. 

Pan fydd PCAC yn derbyn cais am gyfarwyddyd cwmpasu, ymgynghorir â’r ACLl perthnasol a chyrff eraill cyn cyhoeddi cyfarwyddyd cwmpasu.

Cyhoeddi ar gofrestr gynllunio’r ACLl

O dan Erthygl 20 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, mae’n rhaid i ACLlau perthnasol ychwanegu’r eitemau canlynol at y gofrestr gynllunio a gynhelir ganddynt ar gyfer eu hardal:

  • y cais DNS a wnaed i Weinidogion Cymru
  • hysbysiad PCAC i’r ACLl o dderbyn cais
  • Hysbysiad o Dderbyn PCAC sy’n dechrau’r broses archwilio
  • os bydd PCAC yn gwrthod cais DNS, copi o’r Hysbysiad hwnnw
  • y penderfyniad terfynol a wnaed gan Weinidogion Cymru (neu Arolygydd ar gyfer achosion llinellau uwchben), ac
  • unrhyw hysbysiad diwygiedig o benderfyniad a gyhoeddwyd gan yr ACLl yn unol ag A71ZA Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).

Dylai’r dogfennau hyn gael eu hychwanegu at y gofrestr gynllunio o fewn 5 niwrnod gwaith o’u derbyn neu eu cyhoeddi. Y gofrestr gynllunio a gynhelir gan yr ACLl yw’r cofnod ffurfiol o’r cais DNS. 

Rôl yr ACLl mewn ymgynghori a chyhoeddusrwydd

Yn ystod y cam Hysbysu, bydd PCAC yn gofyn i’r ACLl roi manylion y partïon a’r eiddo hynny y mae’n credu y dylai PCAC ymgynghori â nhw pan gyflwynir y cais.

Bydd ACLlau perthnasol hefyd yn gyfrifol am arddangos hysbysiadau safle a ddarperir gan PCAC ochr yn ochr â’r Hysbysiad o Dderbyn ar gyfer y cais DNS. Mae’n rhaid i ACLlau arddangos yr hysbysiadau safle o fewn 5 niwrnod gwaith.

Os cyflwynir unrhyw sylwadau ynglŷn â chais DNS yn uniongyrchol i ACLl yn ystod y cyfnod sylwadau, dylai anfon y sylwadau hynny ymlaen at PCAC cyn gynted â phosibl.

Y broses ar gyfer cynhyrchu Adroddiad ar yr Effaith Leol (LIR)

Adroddiad ysgrifenedig yw’r LIR sy’n manylu ar effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar unrhyw ran o ardal yr ACLl, yn seiliedig ar ei wybodaeth leol bresennol a thystiolaeth gadarn o faterion lleol. Dylai restru’r effeithiau a’u pwysigrwydd cymharol.

Bydd PCAC yn rhoi gwybod i’r ACLlau perthnasol pan dderbynnir cais. Dylai ACLlau perthnasol dderbyn copi o’r cais ar yr un pryd ag y’i cyflwynwyd i PCAC. Mae hyn yn golygu y gallai ACLlau ddechrau gweithio ar eu LIR tra bod PCAC yn gwirio’r cais i weld a ellir ei Dderbyn.

Pan Dderbynnir cais DNS i’w archwilio, bydd PCAC yn gosod dyddiad cau ar gyfer cyflwyno LIRau ac yn cynnwys hwn yn yr Hysbysiad sy’n cadarnhau Derbyn y cais i’w archwilio. Fel arfer, bydd y dyddiad cau’n cael ei osod i gyd-fynd â’r dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod sylwadau (o leiaf 5 wythnos o’r dyddiad Derbyn). 

Pan gyflwynir LIR i PCAC, byddwn yn cynnal gwiriad cychwynnol i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth. 

Os nad yw LIR yn bodloni’r gofynion statudol, bydd PCAC yn rhoi gwybod i’r ACLl nad yw’r LIR yn gyflawn. Bydd rhaid cyflwyno gwybodaeth ychwanegol cyn gynted â phosibl. Bydd methiant i gyflwyno LIR cyflawn erbyn y dyddiad cau perthnasol yn arwain at oblygiadau i’r ffi LIR y gallai’r ACLl ei derbyn.

Wrth wneud penderfyniad ar gais DNS, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw LIRau a gyflwynwyd, gan gynnwys LIRau gwirfoddol a gyflwynwyd.

Yr hyn y mae’n ofynnol i’r LIR ei gynnwys

Yn unol ag Adran 62K Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) ac Erthygl 25 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, mae’n rhaid i’r LIR amlinellu:

  • effaith debygol y datblygiad DNS ar yr ardal
  • hanes cynllunio’r safle
  • dynodiadau lleol sy’n berthnasol i’r safle / cyffiniau
  • effaith debygol caniatáu unrhyw gais am gydsyniad eilaidd
  • unrhyw bolisïau cynllunio lleol, canllawiau neu ddogfennau eraill sy’n berthnasol 
  • amodau neu rwymedigaethau drafft y mae’r ACLl o’r farn eu bod yn angenrheidiol i liniaru unrhyw effeithiau tebygol y datblygiad
  • tystiolaeth o’r cyhoeddusrwydd a gynhaliwyd:
  1. copi o’r Hysbysiad Safle, 
  2. llun o’r Hysbysiad Safle’n cael ei arddangos, a
  3. map sy’n dangos lleoliad yr Hysbysiad Safle.

Dylai’r LIR ddarparu adroddiad ffeithiol, gwrthrychol ar effeithiau’r datblygiad arfaethedig ar yr ardal. Dylid cyflwyno’r effeithiau o ran eu heffeithiau cadarnhaol, niwtral a negyddol. Caiff ACLlau wneud sylwadau ar faint y cyfryw effeithiau. Ni ddylai’r LIR gydbwyso rhinweddau’r cynllun yn gyffredinol.

Mae’r adroddiad ar wahân i unrhyw sylwadau y gallai awdurdod lleol eu gwneud ar rinweddau cais. Caiff awdurdod lleol neu Gynghorydd unigol gyflwyno sylwadau ar wahân ar rinweddau’r cais.

Caiff yr LIR dynnu sylw at faterion a godwyd gyda’r ACLl gan bartïon â buddiant neu grwpiau cymunedol, ond dim ond os yw’r ACLl o’r farn bod y materion hynny’n ystyriaethau cynllunio y dylid eu cynnwys mewn LIR.

Cyhyd â bod Arolygwyr yn gallu cael at ddogfennau polisi lleol ar eich gwefan, y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw dyfynnu enw’r ddogfen a’i dyddiad mabwysiadu, a rhestru’r polisïau neu’r paragraffau yr ystyriwch eu bod yn berthnasol. 

Nid oes angen cynnwys polisïau neu ganllawiau cenedlaethol, ond cewch restru’r dogfennau, y polisïau a’r paragraffau yr ystyriwch eu bod yn berthnasol. 

Nid oes angen ailadrodd deunydd a gynhwysir yn nogfennau’r cais, bydd cyfeiriad yn gwneud y tro. Mae hyn yn cynnwys disgrifiad o’r safle a’r cyffiniau, oni bai yr ystyriwch fod unrhyw ddisgrifiadau yn y dogfennau sy’n ategu’r cais yn anghywir. 

Mae’r Gorchymyn Gweithdrefn DNS yn mynnu bod yr LIR yn cynnwys amodau drafft. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai amodau adlewyrchu’r cyngor a’r amodau enghreifftiol yng Nghylchlythyr 16/14: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Pan gynigir amod enghreifftiol o’r Cylchlythyr, mae’n dderbyniol cyfeirio’n glir at yr amod hwnnw yn y Cylchlythyr yn hytrach na ‘chopïo a gludo’. Dylai’r LIR ddyfynnu’r rheswm pam yr ystyrir bod pob amod yn angenrheidiol ac unrhyw bolisi perthnasol yn y cynllun datblygu.

Pan fydd yr ymgeisydd yn cynnig mesurau lliniaru neu ddigolledu penodol, dylid amlygu’r rhain a gwneud sylwadau arnynt. Dylai’r ACLl hefyd gyfeirio at unrhyw amodau neu rwymedigaethau y mae’n ystyried y dylid eu cynnwys na awgrymwyd gan yr ymgeisydd.

Caiff yr ACLl gyflwyno’r amodau a’r rhwymedigaethau ar sail ‘heb ragfarnu’. Caiff yr ACLl egluro mewn sylwadau ar wahân p’un a yw’n ystyried y dylai caniatâd gael ei roi neu ei wrthod. 

Byddai’n fuddiol pe gallai’r ACLl roi ei farn am bwysigrwydd cymharol gwahanol faterion cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd ac effaith y cynllun arnynt.

Lle y bo’n berthnasol, dylid egluro’r gwahaniaeth rhwng effeithiau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r datblygiad DNS a’r rhai hynny sy’n ymwneud â phob Cydsyniad Eilaidd.

Dylai ACLlau amlinellu eu cylch gwaith ar gyfer yr LIR yn glir. Dylai’r LIR gynnwys adran sy’n amlinellu strwythur a diben y ddogfen ac yn nodi unrhyw gyfyngiad ar y wybodaeth a gynhwysir ynddi. 

Nid yw’n ofynnol i’r ACLl gynnal ei ymgynghoriad ei hun â’r gymuned neu bartïon allanol wrth baratoi ei LIR. Bydd PCAC yn cynnal yr ymgynghoriad a’r cyhoeddusrwydd statudol gyda phartïon eraill. Fodd bynnag, dylai’r LIR gynnwys ymateb yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol berthnasol, gan fod yr Ymddiriedolaethau’n darparu’r gwasanaeth hwnnw i ACLlau, ac nid ydynt yn ymgyngoreion statudol ar gyfer PCAC. Mae hefyd yn gyffredin i ymateb yr Awdurdod Priffyrdd Lleol gael ei gynnwys yn yr LIR, er ei fod yn Ymgynghorai Arbennig ei hun. Mae’r ymagwedd hon yn dderbyniol, ar yr amod bod yr Awdurdod Priffyrdd yn rhoi ymateb.

Mae’n bosibl y bydd Cynghorau Cymuned, sefydliadau ac aelodau’r cyhoedd wedi gwneud sylwadau ynglŷn â’r cynllun i’r awdurdod lleol neu’n uniongyrchol i’r ymgeisydd. Fe allai’r LIR gynnwys cyfeiriad at y sylwadau hyn, ond dim ond pan fyddant yn berthnasol i effaith leol benodol y mae’r ACLl eisiau ei hamlygu ei hun.

Fe allai’r LIR hefyd ddymuno cyfeirio at yr Adroddiad Ymgynghori, gan gynnwys unrhyw effeithiau canlyniadol sy’n deillio o unrhyw ddiwygiadau i’r cynllun cyn-ymgeisio.

Dylai LIRau ddarparu adroddiad ffeithiol, gwrthrychol ar effaith y datblygiad arfaethedig. Mater i bob ACLl yw pennu’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi LIR, ond gan fod yr LIR yn asesiad gwrthrychol a bod rhaid i ACLlau gyflwyno unrhyw sylwadau ar wahân, nid yw PCAC o’r farn bod angen i LIR gael ei gymeradwyo gan y pwyllgor cynllunio. 

Ffioedd LIR

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd dalu ffi LIR i PCAC ar gyfer pob ACLl perthnasol. Bydd PCAC yn dal ffi LIR hyd nes y bydd LIR cyflawn yn cael ei gyflwyno gan yr ACLl perthnasol[A1] . 

  • Os derbynnir yr LIR cyflawn ar y dyddiad cau perthnasol neu cyn hynny, bydd y ffi lawn yn cael ei thalu i’r ACLl.
  • Os bydd y dyddiad cau’n cael ei fethu hyd at 14 diwrnod, bydd yr ACLl yn derbyn hanner y ffi. 
  • Ni fydd yr ACLl yn derbyn unrhyw ran o’r ffi os darperir yr LIR fwy na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad cau. Fodd bynnag, mae’n ofynnol darparu’r LIR o hyd.

Adroddiadau Gwirfoddol ar yr Effaith Leol

Mae Adran 62J(3) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) yn darparu y caiff ACLlau nad yw unrhyw ran o’r safle o fewn eu hardal gynllunio gynhyrchu LIR Gwirfoddol os hoffent amlygu effeithiau posibl. Er enghraifft, fe allai datblygiad fferm wynt gael effeithiau ar y dirwedd ac effeithiau gweledol ar dderbynyddion sensitif yn ardal ACLl cyfagos. Mae’r un adran yn darparu y caiff cynghorau cymuned gynhyrchu LIRau gwirfoddol hefyd.

Mae’n rhaid i LIR Gwirfoddol gael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod sylwadau a chynnwys:

  • effaith debygol y datblygiad DNS ar yr ardal
  • disgrifiad o effaith debygol caniatáu unrhyw gais am gydsyniad eilaidd,
  • polisïau cynllunio, canllawiau a dogfennau eraill sy’n gymwys yn lleol sy’n berthnasol i’r cais,
  • amodau neu rwymedigaethau drafft y mae’r ACLl neu’r Cyngor Cymuned o’r farn eu bod yn angenrheidiol i liniaru unrhyw effeithiau tebygol y datblygiad.

Dylai’r adroddiad gynnwys datganiad ynghylch effeithiau cadarnhaol, niwtral a negyddol, ynghyd â sylwadau ar faint yr effeithiau hynny, ond ni ddylai gynnwys ymarfer cydbwyso rhwng effeithiau cadarnhaol a negyddol. 

Caiff y corff sy’n cynhyrchu’r LIR Gwirfoddol gyflwyno ei ymarfer cydbwyso ei hun fel sylwadau ysgrifenedig, ar wahân i’r LIR.

Ni ddylai’r LIR Gwirfoddol ailadrodd deunydd a gynhwysir yn nogfennau’r cais neu Ddatganiadau Tir Cyffredin ac ati, ond caiff groesgyfeirio at y dogfennau hyn.

Ni fwriedir i’r canllawiau hyn fod yn gynhwysfawr nac yn rhagnodol. Dylai ACLlau ymdrin ag unrhyw bynciau y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol i effaith y datblygiad arfaethedig ar eu hardal.

Mae’n bwysig bod yr LIR neu’r LIR Gwirfoddol yn cynnwys crynodeb o ragfynegiadau’r ACLl ar gyfer effeithiau ar ei ardal, yn rhai cadarnhaol a negyddol.

Amrywio’r cais DNS

Ar ôl i’r cyfnod sylwadau ddod i ben, bydd gan yr ymgeisydd 10 niwrnod gwaith i ystyried p’un ai ‘amrywio’r’ cais DNS. Mae Erthygl 27(8) yn cyfyngu ar y weithdrefn ar gyfer amrywiadau i geisiadau i’r fath raddau na allwn gytuno ar amrywiad os ystyriwn ei fod yn newid sylweddol i natur y datblygiad y ceisir caniatâd cynllunio ar ei gyfer. Felly, ni all PCAC archwilio cynllun diwygiedig os yw’r amrywiad arfaethedig yn sylweddol; dim ond mân newidiadau a dderbynnir.

Os yw’r ymgeisydd yn dymuno amrywio’r cynllun, mae’n rhaid iddo lenwi’r ffurflen cais i amrywio a’i hanfon ymlaen gydag unrhyw ddogfennau ategol a’r ffi ofynnol o £520. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn cysylltu â PCAC cyn gynted â phosibl yn ystod y cyfnod o 10 niwrnod gwaith os ydynt yn ystyried amrywio, oherwydd fe allai gymryd ychydig amser i gyhoeddi anfoneb ar gyfer y ffi amrywio. Gweler adran Ffioedd y canllawiau hyn i gael rhagor o wybodaeth[A2] .

Pan fydd cais i amrywio’n dod i law, bydd gan yr Arolygydd a benodwyd 5 niwrnod gwaith i’w ystyried a chadarnhau p’un a dderbynnir y cais. Os derbynnir y cais, bydd rhaid cyflwyno unrhyw ddogfennau cais diwygiedig o fewn 28 niwrnod. Bydd PCAC yn atal yr archwiliad am gyfnod dros dro, os bydd angen, i ganiatáu ar gyfer paratoi’r dogfennau amrywio manwl ac unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i ddogfennau ategol. Bydd y cyfnod atal dros dro hefyd yn cynnwys amser i PCAC brosesu a chyhoeddi’r dogfennau ar ôl eu derbyn, ac yna cynnal cyhoeddusrwydd ac ymgynghoriad ychwanegol ynglŷn â’r deunydd newydd. 

Os na dderbynnir yr amrywiad, bydd y cynllun fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol yn parhau i gael ei archwilio. 

Cyflwyno gwybodaeth ychwanegol 

Mewn rhai achosion, bydd ymgeiswyr yn dymuno cyflwyno gwybodaeth ychwanegol i fynd i’r afael â phryderon a godwyd yn ystod y cyfnod sylwadau. Pan nad yw hyn yn golygu newid i’r cynllun arfaethedig ei hun, nid yw’n gais i amrywio’r cynllun. Nid oes cyfle awtomatig i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol o’r fath yn y broses DNS. Fodd bynnag, caiff yr Arolygydd ofyn am wybodaeth ychwanegol unrhyw bryd yn ystod yr archwiliad, yn ôl ei ddisgresiwn.

Mae PCAC yn argymell bod ymgeiswyr yn arfarnu sylwadau ac ymatebion ymgyngoreion yn ystod y cyfnod sylwadau, gan nodi unrhyw ymatebion yr hoffent eu gwneud ac unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffent ei chyflwyno. Gellir cyflwyno hyn, ynghyd ag amcangyfrif realistig o ba mor hir y bydd ei angen arnynt i fynd i’r afael â phob mater, fel cais i’r Arolygydd ar ddiwedd y cyfnod sylwadau. 

Caiff yr Arolygydd ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol a amlygwyd gan yr ymgeisydd neu faterion eraill, yn ôl ei ddisgresiwn.

Os bydd angen amser i baratoi gwybodaeth ychwanegol a chynnal ymgynghoriad arall arni, mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at atal y cyfnod Archwilio dros dro. 

Graddfeydd amser Archwiliad

Bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar gais DNS o fewn 36 wythnos o ddyddiad derbyn cais dilys. Mae’n rhaid i PCAC gyflwyno ei adroddiad i Weinidogion Cymru o fewn 24 wythnos. 

Os bydd angen Gwrandawiad, dylid ei gynnal o fewn 10 wythnos o ddiwedd y cyfnod sylwadau. Os bydd angen Ymchwiliad, dylid ei gynnal o fewn 13 wythnos o ddiwedd y cyfnod sylwadau. Gall Gweinidogion Cymru ymestyn y graddfeydd amser hyn mewn amgylchiadau eithriadol.

O ran ceisiadau DNS sy’n ymwneud â llinellau trydan uwchben, bydd y cyfnod penderfynu 36 wythnos statudol yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniad yr Arolygydd o fewn 24 wythnos. Mewn achosion lle mae Gweinidogion Cymru wedi dewis gwneud y penderfyniad terfynol, bydd y graddfeydd amser arferol ar gyfer yr Adroddiad a’r penderfyniad Gweinidogol yn berthnasol.

Os bydd archwiliad yn cael ei atal am gyfnod dros dro, bydd y cyfnod penderfynu statudol yn cael ei atal dros dro hefyd.

Archwiliad: dewis gweithdrefn

Fel arfer, bydd PCAC yn cadarnhau’r weithdrefn yn ysgrifenedig dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod sylwadau.

Fe allai’r archwiliad symud ymlaen trwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, Gwrandawiad neu Ymchwiliad, neu gyfuniad o’r tri. 

Gwrandawiadau ac Ymchwiliadau

Bydd sesiynau Gwrandawiad neu Ymchwiliad yn benodol i bwnc. Mae hyn yn golygu y bydd sesiwn Wrandawiad neu Ymchwiliad yn canolbwyntio’n unig ar y materion a godwyd gan yr Arolygydd ac a amlinellwyd yn yr agenda, ac y bydd yr holl faterion eraill yn derbyn sylw trwy sylwadau ysgrifenedig.

Mae Gwrandawiad yn darparu lleoliad anffurfiol i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd gan yr Arolygydd. Caiff y rhai sy’n bresennol ddod â chynghorwyr proffesiynol gyda nhw, ond ni fydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol, ac ni fydd croesholi, na chyflwyniadau ffurfiol. 

Mae Ymchwiliad yn debygol o gael ei drefnu dim ond pan fydd materion cymhleth neu dystiolaeth dechnegol. Bydd tystion yn cyflwyno tystiolaeth ac yn cael eu croesholi a’u holi eto pan fydd angen.

Bydd yr Arolygydd yn amlygu pa bartïon sy’n berthnasol i’r pynciau a ddewiswyd, a bydd cyfranogiad mewn Gwrandawiad neu Ymchwiliad trwy wahoddiad. Pan benderfynir ar y weithdrefn, bydd PCAC yn rhoi Hysbysiad o Archwiliad i’r holl bartïon sy’n cadarnhau’r cyfranogwyr a wahoddwyd a’r pwnc ar gyfer pob sesiwn lafar. 

Mae croeso i unrhyw barti sy’n dymuno cymryd rhan mewn sesiwn, ond na restrwyd fel cyfranogwr a wahoddwyd, ysgrifennu at PCAC a gofyn i’r Arolygydd ei ychwanegu. Dylai unrhyw gais o’r fath gynnwys rhesymau. 

Sylwer:

  • dylai’r holl bartïon sicrhau eu bod yn cyflwyno eu sylwadau llawn yn ysgrifenedig yn ystod y cyfnod sylwadau, gan na ellir gwarantu y bydd sesiwn lafar yn cael ei chynnal ar unrhyw achos penodol 
  • mae ailadrodd tystiolaeth yr ymdriniwyd â hi mewn cyflwyniadau ysgrifenedig yn ddi-fudd i’r archwiliad
  • ni roddir mwy o bwys i dystiolaeth lafar na sylwadau ysgrifenedig 

Caiff y rhai hynny a wahoddwyd i gymryd rhan gyflwyno sylwadau ychwanegol ar ffurf Datganiad Gwrandawiad, hyd at 3,000 o eiriau, sy’n mynd i’r afael â materion a godwyd gan yr Arolygydd.

Fe allai datganiadau hirach na’r terfyn hwn neu rai sy’n cynnwys deunydd amherthnasol neu ailadroddus gael eu dychwelyd. Dylai tystiolaeth dechnegol gael ei chyfyngu i atodiadau a bod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r achos.

Mae’n rhaid i gyfranogwyr ddilyn amserlen yr Arolygydd ar gyfer cyflwyno datganiadau ysgrifenedig er mwyn osgoi cyflwyniadau hwyr, a allai arwain at ohirio digwyddiad.

Bydd cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i’r trefniadau ar gyfer pob Gwrandawiad ac Ymchwiliad, a gall y cyhoedd arsylwi’r digwyddiadau. Caiff y rhai hynny na wahoddwyd i gymryd rhan siarad yn ôl disgresiwn yr Arolygydd, ond bydd hyn yn gyfyngedig i faterion sy’n cael eu harchwilio yn y Gwrandawiad neu’r Ymchwiliad.

Ymweliadau Safle

Bydd yr Arolygydd yn ymweld â’r safle bob amser. Bydd yn gwneud hyn yn ddigwmni pan ellir gweld popeth o fan cyhoeddus. Os nad yw hyn yn bosibl, gwneir trefniadau i’r Arolygydd gael mynediad.

Ni fydd rhinweddau’r cais yn cael eu trafod yn ystod unrhyw ymweliad safle. 

Dylai unrhyw un sy’n awyddus i’r Arolygydd weld y safle o leoliad penodol gysylltu â PCAC, gan ganiatáu digon o amser i’r cais gael ei ystyried ac i’r trefniadau angenrheidiol gael eu gwneud. 

Atal archwiliad am gyfnod dros dro

Mewn rhai amgylchiadau, fe allai’r archwiliad gael ei atal dros dro gan PCAC. Gellir ymestyn neu fyrhau hyd y cyfnod atal dros dro, os bydd angen. Fe allai PCAC gyhoeddi mwy nag un hysbysiad atal dros dro pan fydd sawl oedi i gais DNS. Dyma rai enghreifftiau o resymau dros atal dros dro: 

  • pan fydd angen i ymgymeriadau cyfreithiol rhwng awdurdodau cynllunio lleol, trydydd partïon a’r ymgeiswyr gael eu datrys
  • pan fydd polisi’n newid yn sylweddol neu’n cael ei adolygu
  • pan fydd ymgeisydd yn gofyn am gael gwneud newid i gynllun
  • pan ganfyddir bod dogfennau ategol yn ddiffygiol
  • pan na fydd partïon hanfodol yn mynychu Gwrandawiad neu Ymchwiliad
  • pan fydd cydsyniad eilaidd newydd yn cael ei ‘alw i mewn’ gan Weinidogion Cymru

Bydd hysbysiad atal dros dro PCAC yn cadarnhau’r dyddiad pan fydd yr archwiliad yn ailgychwyn.

Ar ôl i Adroddiad yr Arolygydd gael ei gyflwyno i Gangen Penderfyniadau Cyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru, fe allai swyddogion yn y Gangen Penderfyniadau gyhoeddi hysbysiad atal dros dro, pan fydd angen.

Bod yn agored ac yn dryloyw yn ystod yr archwiliad

Bydd yr holl ddogfennau cais, sylwadau a chyflwyniadau’n cael eu cyhoeddi, ynghyd ag unrhyw geisiadau am wybodaeth ychwanegol a materion i’w trafod mewn Gwrandawiad neu Ymchwiliad. Os bydd unrhyw ddogfennau’n cael eu hatal rhag eu cyhoeddi o ganlyniad i wybodaeth amgylcheddol sensitif, bydd PCAC yn cyhoeddi dogfen ‘Data Nas Cyhoeddwyd’ i gadarnhau hyn.

Y penderfyniad

Ar ddiwedd y cam archwilio, bydd yr Arolygydd yn cyflwyno adroddiad ar ei gasgliadau a’i argymhellion i Weinidogion Cymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi llythyr sy’n cynnwys eu penderfyniad ar y cais DNS ac unrhyw gydsyniadau eilaidd cysylltiedig.

Yn yr adroddiad, bydd yr Arolygydd yn ystyried:

  • y dystiolaeth a’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r cais;
  • os derbyniwyd nhw o fewn y terfynau amser perthnasol; yr LIR, yr holl sylwadau, cyflwyniadau a thrafodaethau mewn unrhyw Wrandawiad neu Ymchwiliad; 
  • unrhyw ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, gan gynnwys newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau newydd Llywodraeth Cymru ac unrhyw bolisïau cynllun datblygu newydd neu sy’n dod i’r amlwg; ac
  • unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r cais.

Bydd PCAC yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd am y dyddiad y cyflwynir yr adroddiad ac yn diweddaru’r porth gwaith achos cynllunio. Ni fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar yr adeg hon a bydd y cynnwys yn gyfrinachol hyd nes y cyhoeddir y penderfyniad Gweinidogol terfynol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi pan fydd Gweinidogion Cymru wedi rhyddhau’r wybodaeth honno i’r cyhoedd. Amlinellir penderfyniad Gweinidogion Cymru yn y llythyr penderfyniad. 

Pan fydd yr Arolygydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, bydd PCAC yn cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw a’i osod ar y porth gwaith achos cynllunio.

Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud

Sicrhau y cydymffurfir â’r caniatâd cynllunio a roddwyd

Os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer cais DNS, bydd yr ACLl yn llwyr gyfrifol am fonitro’r broses o weithredu’r caniatâd a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cynlluniau ac unrhyw amodau.

Os bydd yr ACLl o’r farn nad yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r caniatâd, bydd ganddo’r pŵer i gymryd camau gorfodi. Nid yw PCAC yn ymwneud o gwbl â monitro datblygiad na chymryd camau gorfodi.

Gwneud cais i amrywio caniatâd cynllunio DNS

Byddai mwyafrif y ceisiadau i amrywio amod yn gysylltiedig â DNS, neu geisiadau am ddiwygiad ansylweddol yn gysylltiedig â DNS, yn cael eu gwneud i’r ACLl. Mae 2 eithriad i hyn:

  • Byddai’n rhaid i unrhyw gais i amrywio’r amod ynghylch terfyn amser gweithredu ar ganiatâd cynllunio DNS gael ei wneud i Weinidogion Cymru trwy’r broses DNS – gweler Rheoliad 51 y Rheoliadau DNS 
  • Yn ôl Rheoliad 4(2) y Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig, byddai’n rhaid i unrhyw gais i amrywio gorsaf cynhyrchu trydan a fyddai’n cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 10MW neu fwy gael ei wneud i Weinidogion Cymru trwy’r broses DNS. Fodd bynnag, pe byddai’n cynyddu cyfanswm y capasiti cynhyrchu gosodedig i 350 MW neu fwy, byddai’n gyfystyr â Phrosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP), yr ymdrinnir ag ef gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gweler gwefan berthnasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael mwy o  wybodaeth am NSIPau.

Croesewir adborth, cadarnhaol a negyddol, ar unrhyw brofiadau o’r broses DNS. Mae mwy o wybodaeth am adborth a chwynion ar gael yma

Ffioedd a chyllid

Gweithredir y gyfundrefn DNS ar sail ‘adennill costau’ llawn, felly mae ffioedd yn gysylltiedig â chamau amrywiol o’r broses. Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) yn amlinellu’r manylion llawn. 

Ni all PCAC dderbyn unrhyw daliadau heb gyhoeddi anfoneb yn gyntaf. Fe all y broses ar gyfer cyhoeddi anfoneb gymryd sawl diwrnod. Dylai ymgeiswyr gysylltu â PCAC ynglŷn ag anfonebu oddeutu pythefnos cyn iddynt ddymuno gwneud unrhyw daliad. Pan fydd cais wedi’i Dderbyn i’w archwilio, bydd PCAC yn anfonebu am gostau archwilio parhaus bob tri mis.

Fe ddylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r costau o flaen llaw, ac y gallai unrhyw oedi cyn talu’r ffi berthnasol achosi oedi yn y broses ymgeisio.

Costau sy’n gysylltiedig â chais DNS

Costau yn ôl Disgresiwn

Gwasanaethau cyn-ymgeisio – ACLl£1,500
Gwasanaethau cyn-ymgeisio – PCACCyfradd fesul awr o £55 (yn ogystal â TAW)

Costau Hanfodol

Ffi hysbysu£580
Ffi gychwynnol (a delir ar yr adeg cyflwyno)£15,350
Ffi ar gyfer LIR (a delir ar yr adeg cyflwyno)£7,750 (fesul ACLl perthnasol)

Ffioedd ar gyfer archwilio’r cais

 

Sylwadau Ysgrifenedig

Gwrandawiad neu Ymchwiliad

 

 

Cyfradd ddyddiol o £870

Cyfradd ddyddiol o £920

Costau gweinyddol ar gyfer archwiliad (er enghraifft, llogi lleoliad ar gyfer digwyddiad)Amrywiol – adenillir costau llawn
Ffi benderfynu (sy’n berthnasol i bob prosiect DNS, heblaw am geisiadau ar gyfer llinellau trydan uwchben)£14,700 (a delir yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru)

Canllaw yn unig yw’r tabl hwn. Gall costau ychwanegol gronni drwy gydol yr archwiliad o gais DNS.

Telir y ffi benderfynu yn uniongyrchol i Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru. Dylai unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r elfen hon o’r strwythur ffioedd gael eu cyfeirio at Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru drwy anfon neges e-bost at planning.directorate@gov.wales neu ffonio: 0300 060 4400

Amcangyfrifon costau

Nid oes modd amcangyfrif cost yr archwiliad cyn cyflwyno cais. Amcangyfrifir nifer y diwrnodau y bydd eu hangen ar yr Arolygydd i archwilio’r cais DNS ar ôl i’r weithdrefn gael ei chadarnhau. Nid yw hyn yn gwarantu cost ar gyfer yr archwiliad a dylid ei ddefnyddio fel canllaw yn unig.

Cyllid

Ad-daliadau a pheidio â chodi tâl

Bydd gan ymgeiswyr yr hawl i gael ad-daliad yn gysylltiedig â’r ffi LIR: 

  • pan fydd yr ACLl yn cyflwyno’r LIR y tu allan i’r dyddiad cau (rhoddir manylion pellach yn y rheoliadau)
  • pan fydd yr ymgeisydd yn tynnu’r cais yn ôl cyn i’r ACLl gyflwyno’r LIR
  • pan na fydd y cais yn cael ei dderbyn yn un dilys gan PCAC

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol nad yw ad-daliadau a pheidio â chodi tâl yn berthnasol i unrhyw ffioedd neu gostau eraill DNS mewn unrhyw amgylchiadau.

Methiant i dalu costau archwiliad

Mae’n rhaid i unrhyw ffi sy’n gysylltiedig â’r archwiliad gael ei thalu o fewn 21 diwrnod o anfon yr anfoneb berthnasol at yr ymgeisydd. Os na fydd yr ymgeisydd yn talu’r ffi o fewn y cyfnod 21 diwrnod, mae’n bosibl na fydd PCAC yn cymryd unrhyw gamau pellach ynglŷn â’r cais hyd nes y derbynnir y tâl.

Os na thelir unrhyw ffi sy’n ddyledus o fewn 12 wythnos, ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais, ac ystyrir bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl. 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Atodiad 1: Cydsyniadau Eilaidd

Er mwyn lleihau nifer y ceisiadau ar wahân sy’n ofynnol ar gyfer cynllun DNS gymaint â phosibl, gellir cyflwyno rhai ceisiadau cysylltiedig i Weinidogion Cymru ar yr un pryd â chais DNS. 

Mae Gweinidogion Cymru yn gallu galw cydsyniadau eilaidd i mewn hefyd os ydynt o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chais DNS, ac nid yw’r datblygwr eisoes wedi’u cyflwyno ochr yn ochr â’r prif gais. 

Fe allai hyn fod yn berthnasol i gydsyniadau y cyflwynwyd cais amdanynt eisoes i’r awdurdod cydsynio arferol ond na wnaed penderfyniad arnynt, a’r rhai hynny nad ydynt wedi cael eu cyflwyno i unrhyw awdurdod eto.

Cyngor cyn-ymgeisio

Dylai ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys cyrff y dylid ymgynghori â nhw ynglŷn â cheisiadau am gydsyniad eilaidd. Mae’n bosibl y bydd gan gydsyniadau eilaidd ymgyngoreion gwahanol, felly dylai datblygwyr roi sylw i’r canllawiau cysylltiedig ar gyfer pob math o gais i amlygu ymgyngoreion perthnasol.

Tabl ‘unigolion perthnasol’ posibl yn seiliedig ar yr Atodlen i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd yn 2016 a 2019). 

Para.Y Cydsyniad Eilaidd a geisir gan ymgeisyddUnigolyn Perthnasol
1

Cydsyniad Heneb Gofrestredig: 

 

h.y. Cydsyniad o dan adran 2(3) Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig). 

Gweinidogion Cymru, h.y. Cadw https://cadw.llyw.cymru/cyngor-a-chymorth/asedau-hanesyddol/henebion-cofrestredig/caniatad-heneb-gofrestredig#section-beth-yw-cydsyniad-heneb-gofrestredig 
2

Cydsyniad o dan adran 178(1) Deddf Priffyrdd 1980 

 

(cyfyngiad ar osod rheiliau, trawstiau ac ati dros briffyrdd). 

Yr Awdurdod Priffyrdd Lleol 
3

Cydsyniad Adeilad Rhestredig: 

 

h.y. Cydsyniad o dan adran 8(1) Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (awdurdodi gwaith: cydsyniad adeilad rhestredig) 

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol 
4

Cydsyniad Ardal Gadwraeth: 

 

h.y. Cydsyniad o dan adran 74(1) Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990 (rheoli dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth). 

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol
5

Cydsyniad Sylweddau Peryglus: 

 

h.y. Cydsyniad o dan adran 4(1) Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus). 

Yr Awdurdod Sylweddau Peryglus 
6

Amrywiad i Gydsyniad Sylweddau Peryglus: 

 

h.y. Cydsyniad o dan adran 13 Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod sy’n gysylltiedig â chydsyniad blaenorol). 

Yr Awdurdod Sylweddau Peryglus
7

Dirymu Cydsyniad Sylweddau Peryglus: 

 

h.y. Cydsyniad o dan adran 17 Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus yn sgil newid i reolaeth tir). 

Yr Awdurdod Sylweddau Peryglus 
8

Caniatâd cynllunio (llawn) ar gyfer datblygiad cysylltiedig nad yw’n rhan annatod o’r prif ddatblygiad DNS: 

 

h.y. Caniatâd cynllunio o dan adran 57(1) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (caniatâd cynllunio sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad) heblaw am ganiatâd cynllunio amlinellol. 

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol 
9

Cau neu Wyro Priffordd: 

 

h.y. Awdurdodiad o dan adran 247(1) Deddf 1990 (gorchymyn sy’n awdurdodi cau neu wyro priffordd). 

Gweinidogion Cymru, h.y. Cangen Gorchmynion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru

TransportOrdersBranch@gov.wales 

 

Sylwer, pe byddai’r Gorchymyn a geisir gan Weinidogion Cymru yn cael ei geisio fel arfer gan yr Awdurdod Lleol o dan adran 257, dylid sicrhau yr ymgynghorir â’r Awdurdod Priffyrdd Lleol, hefyd. 

10Awdurdodiad o dan adran 248(2) Deddf 1990 (gorchymyn sy’n awdurdodi cau neu wyro priffordd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig). 

Gweinidogion Cymru, h.y. Cangen Gorchmynion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru

TransportOrdersBranch@gov.wales 

11Gorchymyn o dan adran 251(1) Deddf 1990 (gorchymyn sy’n diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio). 

Gweinidogion Cymru, h.y. Cangen Gorchmynion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru

TransportOrdersBranch@gov.wales 

12

Cyfnewid Tir Comin: 

 

h.y. Cydsyniad y gofynnir amdano o dan adran 16(1) Deddf Tiroedd Comin 2006 (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau). 

Gweinidogion Cymru, h.y. Is-adran Tir, Natur a Bwyd y Gyfarwyddiaeth Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig. 

CommonsAct2006@gov.wales 

Sicrhewch yr ymgynghorir â’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin (yr Awdurdod Lleol), hefyd. 

13

Gwaith ar Dir Comin: 

 

h.y. Cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 38(1) Deddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwaith heb gydsyniad). 

Gweinidogion Cymru, h.y. Is-adran Tir, Natur a Bwyd y Gyfarwyddiaeth Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig. 

CommonsAct2006@gov.wales 

Sicrhewch yr ymgynghorir â’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin (yr Awdurdod Lleol), hefyd. 

Cydsyniadau cysylltiedig 

Mae llawer o fathau eraill o gydsyniadau neu awdurdodiadau a allai fod yn ofynnol cyn y gellir cyflwyno prosiect DNS, na fydd Gweinidogion Cymru yn gallu eu hystyried yn Gydsyniad Eilaidd. Dylai ymgeiswyr ystyried yn gynnar a oes angen trwyddedau / cydsyniadau gan CNC neu gyrff eraill, ar wahân i’r broses DNS. Mater i’r datblygwr yw amseru ceisiadau eraill o’r fath, ac ni fydd PCAC yn gallu cysoni’r broses DNS â phrosesau cydsynio eraill. 

Atodiad 2: Asesu Effeithiau Amgylcheddol

O dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd) (‘y Rheoliadau AEA’), mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyfarwyddo pan fydd cais yn ddatblygiad AEA. Fe allai ymgeiswyr hefyd benderfynu cynnal AEA gwirfoddol heb ofyn am gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

Mae’n rhaid cyflwyno Datganiad Amgylcheddol gyda cheisiadau sy’n ‘ddatblygiad AEA’, sy’n adrodd ar yr effeithiau tebygol ar yr amgylchedd. 

Hyd yn oed pan nad yw DNS yn ddatblygiad AEA, mae’n bosibl y bydd angen cyflwyno gwybodaeth amgylcheddol benodol gyda’r cais o hyd, er enghraifft asesiad perygl llifogydd, asesiad o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol, neu wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol.

Ceisiadau DNS ac AEA 

Y cam cyn-ymgeisio 

Mae’n rhaid i ymgeisydd sy’n bwriadu cyflwyno cais DNS hysbysu PCAC am y cais arfaethedig yn gyntaf. Mae’n rhaid i’r Hysbysiad gynnwys naill ai cyfarwyddyd sgrinio negyddol a gyhoeddwyd gan PCAC neu ddatganiad sy’n cadarnhau y bydd Datganiad Amgylcheddol yn cael ei ddarparu (Erthygl 5 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS). Felly, anogir darpar ymgeiswyr i ystyried p’un a fydd angen AEA ar eu cais ar gam cynnar.

Fe allai ymgeiswyr ddewis gofyn am gyfarwyddyd sgrinio neu gwmpasu AEA gan PCAC mewn perthynas â cheisiadau DNS. Ni chodir tâl am gyfarwyddiadau sgrinio neu gwmpasu AEA statudol. 

Cofrestru’r DNS

Gwnewch yn siŵr fod PCAC wedi cofrestru’r cais DNS dan sylw cyn i chi gyflwyno cais Sgrinio neu Gwmpasu. Dylech gynnwys rhif cyfeirnod PCAC mewn unrhyw gais Sgrinio neu Gwmpasu.

Diffinio’r prosiect at ddibenion AEA

Cyn cyflwyno unrhyw gais Sgrinio neu Gwmpasu yn gysylltiedig â chais DNS, mae’n bwysig bod yr ymgeisydd yn amlygu cwmpas ‘y prosiect’ yn glir at ddibenion AEA. Fe allai hyn gynnwys elfennau o’r prosiect cyffredinol na fyddant yn destun y cais DNS. Er enghraifft, fe allai gorsaf gynhyrchu DNS ffurfio rhan o gyfres ehangach o uwchraddiadau i safle presennol. Gweinidogion Cymru fyddai’r corff penderfynu ar gyfer y cais DNS, ond mae’n bosibl mai’r ACLl fyddai’r corff penderfynu ar gyfer y gwaith arall. Fe allai fod yn angenrheidiol i’r broses AEA ystyried yr holl waith a gynigir yn hytrach na’r orsaf gynhyrchu ar ei phen ei hun. Wrth ddiffinio’r prosiect at ddibenion AEA, dylai’r ymgeisydd ystyried y ffactorau perthnasol canlynol:

  • Perchnogaeth ar y cyd – pan fydd yr un unigolyn yn berchen ar ddau safle neu’n hyrwyddo dau safle, fe allai hyn ddangos eu bod yn gyfystyr ag un prosiect 
  • Penderfyniadau cydamserol – pan fydd dau gais yn cael eu hystyried a’u penderfynu ac yn destun adroddiadau sy’n croesgyfeirio i’w gilydd, fe allai hyn ddangos eu bod yn gyfystyr ag un prosiect 
  • Rhyngddibyniaeth weithredol – pan na allai un rhan o ddatblygiad weithredu heb un arall, fe allai hyn ddangos eu bod yn gyfystyr ag un prosiect 
  • Prosiectau annibynnol – pan fydd cyfiawnhad i ddatblygiad ar sail ei rinweddau ei hun a byddai’n cael ei ddilyn yn annibynnol ar ddatblygiad arall, fe allai hyn ddangos ei fod yn gyfystyr â phrosiect unigol sengl nad yw’n rhan annatod o gynllun mwy sylweddol 

Pan fydd unrhyw un o’r ffactorau perthnasol uchod yn gymwys, dylai unrhyw gais Sgrinio neu Gwmpasu amlinellu safbwynt yr ymgeisydd ynglŷn â chwmpas y prosiect ar gyfer AEA yn glir ar y dechrau yn hytrach na’r disgrifiad o’r datblygiad ar gyfer y cais DNS.

Sgrinio AEA

Byddai’n dda petai’r ymgeisydd yn hysbysu am gais ffurfiol am gyfarwyddyd sgrinio o flaen llaw. Byddai cynllun ffin llinell goch a gyflwynir o flaen llaw o gymorth i’r ymarfer sgrinio, hefyd. Mae PCAC yn anelu at gyhoeddi cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod o dderbyn cais. 

Y wybodaeth sydd i’w darparu gyda cheisiadau Sgrinio AEA 

Amlinellir y wybodaeth ofynnol y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei darparu gyda chais sgrinio ar gyfer DNS yn Rheoliad 31 y Rheoliadau AEA. Dylai’r holl gynlluniau a lluniadau gael eu tynnu wrth raddfa adnabyddadwy, a dylai cynlluniau ddangos cyfeiriad y gogledd.

  • cynllun sy’n ddigonol i adnabod y tir;
  • disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn arbennig—
  1. disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, lle y bo’n berthnasol, gwaith dymchwel
  2. disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi ystyriaeth arbennig i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae’n debygol yr effeithir arnynt
  • disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt
  • disgrifiad o unrhyw effeithiau arwyddocaol tebygol, i raddau’r wybodaeth sydd ar gael am yr effeithiau hynny, y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd sy’n deillio o—
  1. weddillion ac allyriadau disgwyliedig a chynhyrchu gwastraff, lle y bo’n berthnasol, a
  2. defnyddio adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth
  • datganiad bod y cais yn cael ei wneud yn gysylltiedig â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D Deddf 1990, a’r
  • cyfryw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r unigolyn sy’n gwneud y cais ddymuno ei darparu neu eu gwneud, gan gynnwys unrhyw nodweddion o’r datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ddisgwylir i osgoi neu atal yr hyn a allai wedi bod yn effeithiau niweidiol arwyddocaol ar yr amgylchedd fel arall.

Wrth ddelio â’r disgrifiad o’r datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd, dylai ymgeiswyr: 

  • amlinellu’r wybodaeth gan ddefnyddio’r penawdau yn Atodlen 3 y Rheoliadau AEA, sef:
    • nodweddion y datblygiad; 
    • lleoliad y datblygiad; a 
    • nodweddion yr effeithiau posibl; 
  • sicrhau yr ymdrinnir â phob agwedd ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arni.

Mae gan PCAC ddogfen Hunanasesu Sgrinio AEA DNS[A1]  sydd ar gael ar gais. Caiff ymgeiswyr gwblhau’r ddogfen hon a’i chyflwyno ochr yn ochr â’r cais Sgrinio.

Gall cynnwys digon o wybodaeth, gan gynnwys unrhyw waith technegol / arolygu rhagarweiniol, gyda chais Sgrinio helpu i osgoi’r angen i PCAC ofyn am wybodaeth ychwanegol. Bydd ceisiadau am wybodaeth ychwanegol yn oedi’r broses o lunio’r Cyfarwyddyd Sgrinio. Pan fydd PCAC yn gofyn am wybodaeth ychwanegol at ddibenion Sgrinio, byddwn yn ceisio cyhoeddi’r Cyfarwyddyd Sgrinio o fewn 21 diwrnod o dderbyn y wybodaeth ychwanegol.

Cwmpasu AEA

Caiff ymgeisydd ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu ffurfiol ynglŷn â’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol (Rheoliad 33 y Rheoliadau AEA). Bydd PCAC yn ceisio cyhoeddi cyfarwyddyd cwmpasu o fewn 8 wythnos o dderbyn cais cwmpasu, neu’r cyfryw gyfnod hwy ag a allai fod yn rhesymol ofynnol.

Nid yw’n ofynnol i ymgeisydd ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu. Er mwyn cael y budd mwyaf o’r broses, dylai ymgeiswyr ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu pan fydd: 

  • digon o sicrwydd ynglŷn â’r disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig, a
  • digon o ddealltwriaeth o brif elfennau’r datblygiad arfaethedig sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd PCAC ac ymgyngoreion statudol yn gallu rhoi sylwadau lefel uchel yn unig pan fydd opsiynau dylunio a gosodiad niferus ac amrywiol yn parhau i gael eu hystyried. 

Bydd y cyfarwyddyd cwmpasu’n cynnwys unrhyw ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd ynglŷn â’r cais cwmpasu, sylwadau ar gwmpas y Datganiad Amgylcheddol, a sylwadau ar y fethodoleg a gynigiwyd (gan gynnwys ymgynghoriad awgrymedig). 

Y wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais Cwmpasu AEA

O dan Reoliad 33(2) y Rheoliadau AEA, mae’n rhaid i gais am Gyfarwyddyd Cwmpasu gynnwys:

  • cynllun sy’n ddigonol i adnabod y tir;
  • disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
  • ei effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd;
  • datganiad bod y cais yn cael ei wneud yn gysylltiedig â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D Deddf 1990; a’r
  • cyfryw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r unigolyn sy’n gwneud y cais ddymuno ei darparu neu eu gwneud.

Dylai ymgeiswyr gyflwyno eu cais cwmpasu ar ffurf adroddiad cwmpasu. Dylai’r ddogfen hon gynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan y Rheoliadau AEA, yn ogystal â’r wybodaeth ychwanegol ganlynol:

  • amlinelliad o’r prif ddewisiadau amgen a ystyriwyd a’r rhesymau dros ddewis opsiwn a ffefrir;
  • canlyniadau astudiaethau bwrdd gwaith a sylfaenol, pan fyddant ar gael;
  • cofnod o ymgynghoriad a gynhaliwyd â chyrff perthnasol (gan gynnwys unrhyw ymgysylltiad cyhoeddus) hyd yma;
  • cynlluniau wedi’u cyfeirnodi a gyflwynwyd wrth raddfa briodol i gyfleu’r wybodaeth a’r holl agweddau hysbys sy’n gysylltiedig â’r cynnig yn glir;
  • canllawiau ac arfer gorau y bwriedir dibynnu arnynt, a ph’un a gytunwyd ar hyn gyda’r cyrff perthnasol (er enghraifft, y cyrff cadwraeth natur statudol neu awdurdodau lleol) ynghyd â chopïau o ohebiaeth i gefnogi’r cytundebau hyn;
  • y dulliau a ddefnyddiwyd neu y bwriedir eu defnyddio i asesu effeithiau a’r fframwaith meini prawf arwyddocâd a ddefnyddiwyd;
  • unrhyw fesurau lliniaru a gynigir ac i ba raddau y mae’r rhain yn debygol o leihau effeithiau;
  • lle yr amlygwyd effeithiau o ddatblygiad canlyniadol neu gronnol, sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu asesu’r effeithiau hyn yn y Datganiad Amgylcheddol (er enghraifft, asesiad lefel uchel o’r cysylltiad â’r grid lle nad yw hyn yn ffurfio rhan o’r datblygiad arfaethedig ar gyfer gorsaf bŵer);
  • arwydd o unrhyw safleoedd cadwraeth natur dynodedig Ewropeaidd y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt a natur yr effeithiau arwyddocaol tebygol ar y safleoedd hyn;
  • pynciau allweddol yr ymdriniwyd â nhw yn rhan o ymarfer cwmpasu’r ymgeisydd; ac
  • amlinelliad o strwythur y Datganiad Amgylcheddol arfaethedig.

Dylid hefyd amlygu elfennau’r datblygiad arfaethedig sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd. Pan fydd ansicrwydd o hyd, dylai’r ymgeisydd ddarparu cymaint o fanylion â phosibl neu dybio’r senario achos gwaethaf.

Dylai unrhyw gynlluniau neu luniadau ategol a ddarperir gyda’r cais Cwmpasu gael eu tynnu wrth raddfa adnabyddadwy, a dylai cynlluniau ddangos cyfeiriad y gogledd. Dylai unrhyw fapiau, lluniadau a darluniadau gael eu dylunio yn y fath fodd y gellir eu troshaenu â lluniadau a darluniadau a gynhyrchwyd ar gyfer rhannau eraill o’r cais Cwmpasu.

Cynnwys cais Cwmpasu

Pan fydd yr ymgeisydd yn dymuno hepgor materion, dylid darparu cyfiawnhad. 

Bydd PCAC yn pennu p’un a ellir hepgor materion, ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn adroddiad cwmpasu’r ymgeisydd a’r sylwadau a roddwyd gan unrhyw ymgyngoreion.

Dylai ymgeiswyr nodi na fydd materion wedi’u hepgor oni bai bod PCAC yn cadarnhau hynny’n benodol yn y cyfarwyddyd cwmpasu.

Gall y cyfarwyddyd cwmpasu ymateb i’r wybodaeth sydd ar gael bryd hynny yn unig. Felly, bydd yn rhesymol i ymgeiswyr fireinio pynciau yn y Datganiad Amgylcheddol ar gyfer canlyniad mwy penodol. Mae PCAC yn cynnig cyngor cyn-ymgeisio parhaus ac fe all gyhoeddi diweddariadau i Gyfarwyddiadau Cwmpasu os gofynnir amdanynt.

Cais am wybodaeth ychwanegol

Os na ddarparwyd digon o wybodaeth gyda chais sgrinio neu gwmpasu, fe allai PCAC ofyn am wybodaeth ychwanegol (Rheoliadau 7(3) a 33(4) y Rheoliadau AEA ar gyfer ceisiadau sgrinio a chwmpasu, yn y drefn honno).

Pan ofynnir am wybodaeth ychwanegol, bydd y cyfnodau statudol perthnasol yn cael eu hatal dros dro hyd nes y derbynnir y wybodaeth ychwanegol er boddhad PCAC.

Cam ymgynghori cyn-ymgeisio’r ymgeisydd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyhoeddi’r Datganiad Amgylcheddol drafft ar adeg yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r holl bartïon, gan gynnwys ymgyngoreion arbenigol fel CNC, wneud sylwadau ar y Datganiad Amgylcheddol drafft.

Dylai ymgeiswyr ganiatáu digon o amser i ystyried ac ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ar y Datganiad Amgylcheddol drafft, gan gynnwys, os bydd angen, cynnal arolygon a dadansoddiad ychwanegol. Dylai unrhyw addasiadau neu newidiadau i’r Datganiad Amgylcheddol o ganlyniad i’r ymgynghoriad gael eu cofnodi yn yr Adroddiad Ymgynghori.

Y cam cyflwyno

Pan fydd y DNS yn ddatblygiad AEA, bydd PCAC yn ceisio cwblhau gwiriadau Derbyn i sicrhau bod y cais yn ddilys o fewn 42 diwrnod. Yn ystod y cam hwn, bydd PCAC yn gwirio cyflawnder y Datganiad Amgylcheddol.

Er mwyn iddo gael ei ystyried yn ddilys, mae’n rhaid i gais ar gyfer DNS sydd hefyd yn ddatblygiad AEA gynnwys Datganiad Amgylcheddol cyflawn.

Pan fydd PCAC o’r farn y dylai’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol, rhoddir gwybod i’r ymgeisydd a bydd rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth ychwanegol honno (Rheoliad 24(1) y Rheoliadau AEA).

Os canfyddir bod y Datganiad Amgylcheddol yn gyflawn, bydd PCAC yn cyhoeddi Adroddiad i’r perwyl hwn ochr yn ochr â’n Hysbysiad o Dderbyn y cais i’w archwilio.

Ailsgrinio

Cyn cyflwyno’r cais DNS, os daw gwybodaeth newydd i’r amlwg a allai effeithio ar b’un a yw’r cynnig yn ddatblygiad AEA, neu os bydd y datblygiad arfaethedig ei hun yn newid i’r fath raddau a allai effeithio ar y cyfarwyddyd sgrinio, dylai ymgeiswyr gyflwyno cais sgrinio newydd.

Yn yr un modd, os cyflwynir DNS a’i bod yn amlwg bod gwybodaeth ddilynol ar gael sy’n berthnasol i’r penderfyniad sgrinio, bydd PCAC yn ailsgrinio’r datblygiad arfaethedig cyn i’r cais gael ei ddilysu.

Os bydd yr ailsgrinio’n pennu bod y cais yn ddatblygiad AEA, bydd angen Datganiad Amgylcheddol. O ganlyniad, ni fydd PCAC yn dilysu’r cais DNS hyd nes y darperir Datganiad Amgylcheddol gan yr ymgeisydd.

Y cam archwilio

Bydd y Datganiad Amgylcheddol yn cael ei ystyried yn ofalus yn ystod archwiliad DNS. Os canfyddir nad yw’r Datganiad Amgylcheddol yn ddigonol ar unrhyw gam, bydd y broses yn cael ei hatal dros dro a gofynnir am wybodaeth ychwanegol.

Atodiad 3: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

Dylid darllen y bennod hon ar y cyd â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017, a’r holl ddeddfwriaeth a pholisïau eraill perthnasol. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl bolisïau, deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol a chyfredol wedi cael eu hystyried.

Y Rheoliadau HRA: diben ac effaith

Y Fframwaith Deddfwriaethol

  • Cyfarwyddeb 92/43/EEC y Cyngor ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt
  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd)
  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017

Mae gwybodaeth am Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ar gael ar GOV.UK.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd o ran ceisiadau ar gyfer DNS. Felly, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal Asesiad Priodol ac ymgynghori arno mewn amgylchiadau lle mae’r cynllun neu’r prosiect yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd neu safle Morol Ewropeaidd.

Os yw DNS, o’i ystyried ar ei ben ei hun neu gyda chynlluniau a phrosiectau presennol a hysbys yn y dyfodol, yn debygol o effeithio ar safle Ewropeaidd, mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r gyfryw wybodaeth i’r awdurdod cymwys ag a allai fod yn rhesymol ofynnol at ddibenion yr Asesiad Priodol (Rheoliad 63(2) Rheoliadau Cynefinoedd 2017 (fel y’u diwygiwyd), Rheoliad 28(3) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017).

Er bod rhaid i’r penderfynwr cynllunio gynnal yr HRA, mae’n arferol i’r ymgeisydd gyflwyno ‘HRA cysgodol’ yn achos prosiectau DNS. 

Mae’r wybodaeth hon fel arfer ar ffurf Adroddiad Dim Effeithiau Arwyddocaol (NSER) neu Adroddiad Effeithiau Arwyddocaol Tebygol (LSER). Dylai matricsau HRA gael eu hatodi i NSER (matricsau sgrinio) neu LSER (y ddau fatrics) yr ymgeisydd, neu eu cynnwys ynddynt; ond nid ydynt yn disodli NSER neu LSER yr ymgeisydd.

Pan gynhelir Asesiad Priodol sy’n arwain at asesiad negyddol, gellir rhoi cydsyniad dim ond os nad oes unrhyw ddatrysiadau amgen, os oes Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig (IROPI) ar gyfer y datblygiad, ac os yw mesurau digolledu wedi cael eu sicrhau.

Os yw’r safle’n cynnal cynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, bydd amodau ychwanegol yn berthnasol i’r rhesymau, fel yr esbonnir yn y nodyn hwn. Mae cynefinoedd a rhywogaethau “â blaenoriaeth” yn nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) penodol y mae gan aelod-wladwriaethau’r Comisiwn Ewropeaidd gyfrifoldeb penodol amdanynt. Cânt eu rhestru yn yr Atodiadau i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac, fel arfer, cânt eu hamlygu hefyd mewn dogfennau dynodiad ACA unigol. Nid ydynt yn berthnasol i Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) na safleoedd Ramsar.

Safleoedd Ewropeaidd

Mae Safleoedd o Bwysigrwydd Cymunedol (SBCau), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau), ymgeisydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (yACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) yn cael eu gwarchod o dan Reoliad 8 y Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae paragraffau 5.2.2 a 5.2.3 Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5 yn cymhwyso’r gweithdrefnau a ddisgrifir isod i ACAau posibl, darpar AGAau, safleoedd Ramsar a safleoedd a amlygwyd, neu sy’n ofynnol, fel mesurau digolledu ar gyfer effeithiau niweidiol ar unrhyw un o’r safleoedd uchod. At ddibenion y bennod hon, cyfeirir at yr holl safleoedd hyn fel “safleoedd Ewropeaidd”.

Cydlynu HRA â’r broses DNS

Ymgysylltu’n gynnar

Cynghorir bod yr ymgeisydd yn dechrau ymgynghori â CNC cyn gynted â phosibl yn ystod y broses cyn-ymgeisio.

Felly, dylai tystiolaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad hwn â CNC gael ei hatodi i’r NSER neu’r LSER. Bydd hyn yn allweddol i’r broses benderfynu, oherwydd bod rhaid i’r awdurdod cymwys ymgynghori â CNC ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo (Rheoliad 63(3) Rheoliadau Cynefinoedd 2017 (fel y’u diwygiwyd)).

Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i ymgysylltu â CNC yn gynnar i gytuno ar wybodaeth sylfaenol, methodoleg, a thystiolaeth. Mae cynlluniau tystiolaeth, a gytunwyd ar y cyd rhwng CNC a’r ymgeisydd, yn ddefnyddiol wrth sefydlu rhaglen waith ar gyfer y cam cyn-ymgeisio.

Dylai NSER neu LSER yr ymgeisydd ddarparu’r sail resymegol a’r dystiolaeth i’w gasgliadau. Mae hyn yn debygol o gael ei ategu gan y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y cais DNS. Mae’n rhaid i NSER neu LSER yr ymgeisydd ddangos sut mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi cael ei chymhwyso i’r HRA a’r profion sy’n gymwys i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i ddefnyddio matricsau HRA wedi’u cwblhau i amlygu a thrafod materion gydag ymgyngoreion, yn enwedig CNC, gyda’r nod o ddatrys materion cyn yr archwiliad.

HRA Cam 1: Sgrinio

Dylai cwmpas yr HRA gael ei ddiffinio a’i gyfiawnhau. Dylai’r HRA gynnwys sgrinio ar gyfer Effeithiau Arwyddocaol Tebygol (LSE). Os na amlygir LSE ar gyfer yr holl safleoedd Ewropeaidd a ystyriwyd, mae’r adroddiad yn debygol o fod ar ffurf Adroddiad Dim Effeithiau Arwyddocaol (NSER) ac ni fydd angen camau 2-4 HRA.

Dylai gwybodaeth sgrinio HRA Cam 1 yr ymgeisydd sydd i’w chyflwyno yn yr NSER neu’r LSER gynnwys:

  • disgrifiad manwl o’r datblygiad, y prosesau, yr amseriadau, a’r dull gweithio a gynigir yn rhan o’r DNS;
  • manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd i bennu pa safleoedd Ewropeaidd y dylid eu cynnwys yn yr asesiad, yn ogystal â diffiniad o gwmpas yr asesiad a chyfiawnhad iddo;
  • cynllun a disgrifiad o’r safle(oedd) Ewropeaidd y gellid effeithio arnynt o bosibl, gan gynnwys disgrifiad o’r holl nodweddion cymwys (mae’n ddefnyddiol cynnwys copi o ddalen ddata’r safle);
  • arfarniad o’r effeithiau posibl yn deillio o adeiladu a gweithredu’r prosiect (e.e. sŵn) a’r effaith arwyddocaol debygol ar y safle(oedd) Ewropeaidd a’r nodweddion cymwys (e.e. aflonyddu ar rywogaethau adar);
  • amlinelliad a dehongliad o’r data sylfaenol a gasglwyd i lywio’r canfyddiadau;
  • arfarniad o effeithiau unrhyw gynlluniau neu brosiectau eraill a allai, ar y cyd â’r datblygiad arfaethedig, fod yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar y safle(oedd) Ewropeaidd. Dylai cwmpas yr arfarniad hwnnw gael ei ddiffinio’n dda a’i gytuno gyda’r awdurdodau lleol a CNC;
  • gwerthusiad o’r posibilrwydd y bydd angen i’r cynllun gael cydsyniadau eraill a fydd yn golygu bod angen i awdurdodau cymwys gwahanol ystyried LSE (heblaw am gydsyniadau eilaidd sy’n rhan o’r cais DNS);
  • datganiad sy’n amlygu (gyda rhesymau) p’un a ystyrir bod effeithiau arwyddocaol ar safleoedd Ewropeaidd yng Ngwladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn debygol; a
  • thystiolaeth o gytundeb rhwng yr ymgeisydd a CNC ar gwmpas, methodoleg, dehongliad, a chasgliadau’r asesiad sgrinio (fel copïau o ohebiaeth, Cynlluniau Tystiolaeth, neu Ddatganiadau Tir Cyffredin).

Ar Gam 1, o ran pob safle Ewropeaidd a nodwedd gymwys, bydd angen i’r ymgeisydd gasglu o’r wybodaeth sylfaenol a’r ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd bod naill ai:

  • Dim LSE ar yr holl safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys a ystyriwyd, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac felly nid oes angen asesiad ychwanegol (gweler yr adran ddiweddarach o’r enw ‘NSER’), NEU
  • Fod LSE ar unrhyw un o’r safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys a ystyriwyd yn bodoli, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac felly bod angen Asesiad Priodol gan yr awdurdod cymwys (gweler yr adran ddiweddarach o’r enw ‘HRA Cam 2: Asesiad Priodol’).

Mae’n rhaid i awdurdodau cymwys gynnal y cam sgrinio HRA heb ystyried mesurau osgoi neu leihau integredig neu ychwanegol.

Os na ellir diystyru effeithiau arwyddocaol, bydd rhaid cynnal Asesiad Priodol i bennu a fydd y cynllun neu’r prosiect yn effeithio ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd, gan gynnwys gwerthuso mesurau arfaethedig.

Effeithiau ar y cyd ar safleoedd Ewropeaidd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddod i gasgliad ynglŷn â ph’un a yw’r prosiect, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd.

Mae’n bosibl y bydd rhai prosiectau’n annhebygol o gael effeithiau arwyddocaol ar eu pen eu hunain, ond fe allai’r effeithiau ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill fod yn arwyddocaol. Felly, mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth yn yr NSER neu’r LSER ei fod wedi ystyried effeithiau, yn unigol ac ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill.

Adroddiad dim effeithiau arwyddocaol (NSER)

Yn achos Waddenzee, ystyriodd Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) y dylai effeithiau’r prosiect ‘gael eu hamlygu yng ngoleuni’r wybodaeth wyddonol orau yn y maes’ (paragraff 54 Waddenzee). Dylai canfyddiadau’r asesiad gael eu gwerthuso’n barhaus yn erbyn trothwyon LSE.

Os bydd yr awdurdod cymwys yn penderfynu yn ystod y broses ‘nad oes effaith arwyddocaol (yn unigol nac ar y cyd)’ ac nad oes amheuaeth wyddonol resymol yn parhau, gellir cwblhau’r asesiad. Yna, dylai’r ymgeisydd grynhoi’r canlyniadau mewn NSER.

Wrth ystyried casgliad yr NSER nad oes LSE sy’n gofyn am Asesiad Priodol, bydd yr Arolygydd yn ystyried y penderfyniad yn achos Waddenzee, lle’r oedd yr ECJ o’r farn ‘dylai’r awdurdodau cenedlaethol cymwys, wrth ystyried casgliadau’r asesiad priodol..…awdurdodi’r cyfryw weithgarwch dim ond os ydynt wedi cadarnhau na fydd yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle hwnnw. Dyna’r achos pan na fydd amheuaeth wyddonol resymol yn parhau ynglŷn ag absenoldeb effeithiau o’r fath’ (paragraff 59 dyfarniad yr ECJ yn achos Waddenzee).

Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer yr NSER nac ar gyfer adrodd ar ganlyniadau’r cam sgrinio. Mae’n rhaid i’r NSER fod yn glir, wedi’i ategu gan wybodaeth ddigonol, a darparu rhesymau argyhoeddiadol pam mae’r ymgeisydd wedi dod i’r casgliad nad oes LSE ac na fydd angen Asesiad Priodol.

Canlyniadau sgrinio

Os yw’r ymgeisydd wedi dod i’r casgliad fod y prosiect yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar unrhyw safle Ewropeaidd, yn unigol neu ar y cyd â phrosiectau eraill, mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth yn unol â HRA Cam 2: Asesiad Priodol y broses.

Os bydd Cam 1 yn amlygu LSE ar gyfer unrhyw un o’r safleoedd Ewropeaidd a ystyriwyd, bydd angen asesu goblygiadau’r prosiect i amcanion cadwraeth y safle(oedd). Bydd hyn ar ffurf LSER ac fe ddylai gynnwys digon o wybodaeth ar gyfer yr Asesiad Priodol (Rheoliad 61(5) Rheoliadau Cynefinoedd 2010).

Ynghyd â’i wybodaeth HRA Cam 2: Asesiad Priodol, dylai’r ymgeisydd hefyd ddatgan yn glir pa safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys sy’n cael eu dwyn ymlaen o HRA Cam 1: Sgrinio a pha safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys sydd wedi cael eu hepgor o asesiad ychwanegol.

Dylai’r wybodaeth HRA Cam 2: Asesiad Priodol gael ei chyflwyno yn LSER yr ymgeisydd ac fe ddylai gynnwys:

  • tystiolaeth ynglŷn ag effeithiau’r prosiect ar gyfanrwydd safleoedd a warchodir;
  • disgrifiad o unrhyw fesurau lliniaru a gynigir sy’n osgoi neu’n lleihau effaith o’r fath, ac unrhyw effeithiau gweddilliol sy’n parhau;
  • atodlen sy’n nodi amseriad mesurau lliniaru mewn perthynas â chynnydd y datblygiad;
  • croesgyfeiriadau at ofynion perthnasol y DNS ac unrhyw ddulliau eraill a gynigir i sicrhau mesurau lliniaru, ac amlygu unrhyw ffactorau a allai effeithio ar sicrwydd ynglŷn â’u gweithredu;
  • datganiad ynghylch pa effeithiau gweddilliol (os o gwbl) sy’n gyfystyr ag effaith niweidiol ar gyfanrwydd safleoedd Ewropeaidd, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac felly y mae angen eu cynnwys yn yr Asesiad Priodol; a
  • thystiolaeth i ddangos bod yr ymgeisydd wedi ymgynghori’n llawn â CNC ac wedi ystyried sylwadau a dderbyniwyd ganddo yn ystod ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

Disgwylir i LSER yr ymgeisydd hefyd gynnwys y matricsau cyfanrwydd ar gyfer yr holl safleoedd Ewropeaidd a ddygwyd ymlaen i HRA Gam 2.

Asesiad Priodol Negyddol

Oni bai bod LSER yr ymgeisydd yn dod i gasgliad nad oes amheuaeth wyddonol resymol yn parhau ‘a amlygwyd yng ngoleuni’r wybodaeth wyddonol orau yn y maes’ (paragraff 54 Waddenzee); ac na fydd y prosiect yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd unrhyw safle Ewropeaidd, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, bydd angen i asesiad yr ymgeisydd symud i Gamau 3 a 4 HRA y broses.

Camau 3 a 4 HRA: asesu dewisiadau amgen ac ystyried Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig (IROPI)

Os daw Cam 2 i’r casgliad y bydd y prosiect yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle(oedd), neu os yw’n amhendant, bydd angen ystyried dewisiadau amgen, mesurau digolledu a ph’un a oes cyfiawnhad i’r prosiect yn ôl IROPI. Bydd hyn yn rhan o’r LSER, hefyd.

Dylid cynnal asesiad o ddewisiadau amgen, a dylai LSER yr ymgeisydd gynnwys manylion ynglŷn â sut yr amlygwyd ac yr ystyriwyd y rhain. Mae asesiad yr ymgeisydd yn wybodaeth i lywio asesiad yr awdurdod cymwys.

Os na ellir dangos datrysiadau amgen i leihau effaith y prosiect ar gyfanrwydd y safle(oedd) Ewropeaidd, fe allai’r prosiect gael ei gynnal o hyd os yw’r awdurdod cymwys yn fodlon bod rhaid i’r cynllun gael ei gynnal yn ôl IROPI.

Pan fydd effaith ar gynefinoedd naturiol neu rywogaethau â blaenoriaeth, dylai’r cyfiawnhad IROPI gael ei ddarparu yn yr LSER a rhaid iddo ymwneud ag naill ai:

  • iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o brif bwysigrwydd i’r amgylchedd; neu
  • roi sylw dyladwy i unrhyw farn gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac unrhyw resymau eraill hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig.

Cyflwyno ac archwilio

Ar ôl cyflwyno, bydd gwiriadau dilysrwydd yn weithdrefnol yn bennaf, ond yn ystod y cyfnod hwn, bydd PCAC hefyd yn gwirio bod digon o wybodaeth wedi’i chyflwyno i allu penderfynu ar y cais.

Pan fydd casgliadau’r ymgeisydd wedi cael eu herio yn ystod yr archwiliad, bydd yr adroddiad yn cynnwys diwygiadau i unrhyw fatricsau HRA a gyflwynwyd. Bydd yr adroddiad, ac unrhyw ymatebion ymgynghori a deunydd archwilio cysylltiedig, yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer adroddiad yr Arolygydd a’i argymhelliad i Weinidogion Cymru. 

Adroddiad yr Arolygydd

Bydd adroddiad yr Arolygydd yn mynd i’r afael ag LSE y prosiect ar unrhyw safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys ac, os yw’n briodol, hefyd yn ystyried p’un a fydd y prosiect yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd safle(oedd) Ewropeaidd. Pan fydd angen, bydd adroddiad yr Arolygydd yn asesu tystiolaeth o’r archwiliad yn ymwneud â’r achos dros ddim dewisiadau amgen, IROPI a mesurau digolledu. Yna, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried holl dystiolaeth yr archwiliad cyn gwneud penderfyniad ar y cais DNS.

Atodiad 4: yr adroddiad ymgynghori

Mae’n rhaid cyflwyno Adroddiad Ymgynghori gyda chais DNS. Yn unol ag Erthygl 11 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, mae’n rhaid i’r Adroddiad Ymgynghori gynnwys: 

  • copi o’r hysbysiad safle a arddangosodd yr ymgeisydd
  • datganiad bod yr hysbysiad safle wedi cael ei arddangos yn unol â gofynion y Gorchymyn Gweithdrefn DNS, Erthygl 8(1)(a)(i)
  • rhestr o gyfeiriadau’r unigolion (perchnogion neu feddianwyr tir cyffiniol) a hysbyswyd am y cais arfaethedig, a chopi o’r hysbysiad a roddwyd iddynt
  • copi o’r hysbysiad i’r wasg
  • datganiad bod yr ymgeisydd wedi cyhoeddi dogfennau drafft y cais ar ei wefan am 42 diwrnod o leiaf yn unol ag Erthygl 8(1)(b) y Gorchymyn Gweithdrefn DNS 
  • copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol, unigolion perthnasol ac ymgyngoreion arbenigol
  • crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw unigolyn a hysbyswyd am y cais arfaethedig, gan gynnwys cadarnhad ynghylch p’un a yw’r materion a godwyd wedi derbyn sylw ac, os felly, sut 
  • copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol gydag esboniad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.

Dylai ymgeiswyr geisio paratoi adroddiad cryno, penodol. Argymhellir bod ymgeiswyr yn strwythuro eu Hadroddiad Ymgynghori fel a ganlyn:

  • Pennod 1: Y cyd-destun 
  • Pennod 2: Ymgyngoreion statudol (Ymgyngoreion Arbenigol, Ymgyngoreion Cymunedol a, lle y ceisir Cydsyniadau Eilaidd, Unigolion Perthnasol fel y’u diffinnir yn Erthygl 2 y Gorchymyn Gweithdrefn DNS)
  • Pennod 3: Cyhoeddusrwydd statudol 
  • Pennod 4: Nifer yr ymatebion, yn ôl math 
  • Pennod 5: Ymatebion gan ymgyngoreion statudol a chamau gweithredu canlyniadol 
  • Pennod 6: Y prif faterion 
  • Atodiad 1: Datganiadau ynghylch cydymffurfio â’r Ddeddf/Gorchymyn 
  • Atodiad 2: Copïau o hysbysiadau, cyhoeddusrwydd a llythyrau 
  • Atodiad 3: Copïau gwreiddiol o ymatebion gan Ymgyngoreion Arbenigol
  • Atodiad Cyfrinachol 4: Manylion cyswllt y rhai hynny yr ymgynghorwyd â nhw a’r rhai hynny a ymatebodd i gyhoeddusrwydd

Ymgyngoreion statudol

Dylai’r adroddiad gynnwys rhestr lawn o ymgyngoreion statudol. Dylai nodi pam y mae pob corff yr ymgynghorwyd ag ef yn ymgynghorai statudol, a sut yr ymgynghorwyd ag ef. Os ymgynghorwyd ag ymgyngoreion statudol sawl gwaith, dylid esbonio hyn.

Dylai’r adroddiad ddangos tystiolaeth o sut yr amlygwyd ymgyngoreion cymunedol, trwy gynnwys map sy’n dangos y safle a ffiniau’r wardiau a’r Cynghorau Cymuned perthnasol.

Cyhoeddusrwydd statudol

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig yn y fath fodd ag yr ystyrir yn rhesymol y bydd yn dwyn ag ef i sylw mwyafrif y bobl sy’n meddiannu neu’n berchen ar safleoedd yng nghyffiniau’r tir. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyhoeddi’r holl ddogfennau ar wefan am gyfnod o 42 diwrnod, o leiaf
  • arddangos un hysbysiad safle o leiaf,
  • rhoi hysbysiad ysgrifenedig i berchnogion neu feddianwyr tir sy’n cyffinio â’r safle,
  • cyhoeddi hysbysiad yn y papur newydd lleol.

Dylai’r Adroddiad Ymgynghori ddarparu tystiolaeth o’r cyhoeddusrwydd hwn. Fe ddylai: 

  • amlygu lleoliad(au) hysbysiadau safle a’r dyddiadau y cawsant eu harddangos a’u tynnu i lawr,
  • cynnwys map sy’n nodi’r eiddo cyffiniol (fel data pwynt) y rhoddwyd hysbysiad ysgrifenedig iddynt,
  • nodi’r dyddiad pryd y cyhoeddwyd yr hysbysiad yn y papur newydd lleol, a
  • chadarnhau’r cyfnod a ganiatawyd yn yr hysbysiadau ar gyfer cyflwyno ymatebion.

Mae’n rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiadau sy’n cadarnhau bod un hysbysiad safle o leiaf wedi cael ei arddangos ar y safle neu’n agos iddo, a bod yr holl ddogfennau wedi cael eu cyhoeddi ar wefan am 42 diwrnod o leiaf.

Mae’n rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys, fel atodiadau:

  • Y 2 ddatganiad
  • Copïau o’r holl gyhoeddusrwydd a hysbysiadau fel y gwnaethant ymddangos yn wreiddiol (gan gynnwys cadarnhad o’r papur newydd y cyhoeddwyd yr hysbysiad cyhoeddus ynddo a’r dyddiad), a 
  • Rhestr o gyfeiriadau pawb yr ymgynghorwyd â nhw (gan gynnwys ymgyngoreion statudol).

Nifer yr ymatebion, yn ôl math

Dylai’r adroddiad feintioli cyfanswm nifer yr ymatebion a dderbyniwyd. Dylai grynhoi cyfanswm nifer yr ymatebion yn ôl:

  • categori’r ymatebydd
  • p’un a yw’r ymateb o blaid neu yn erbyn, a’r
  • prif fater cysylltiedig.

Dylai’r adroddiad nodi nifer a natur unrhyw ymatebion na wnaed yn briodol, ym marn yr ymgeisydd.

Os derbyniwyd unrhyw ymatebion ynglŷn â materion yn ymwneud â chydsyniad eilaidd yn unig, dylai’r adroddiad nodi faint a dderbyniwyd, pa gydsyniad y maent yn ymwneud ag ef, a phwy a’u gwnaeth.

Y prif faterion

Dylai’r adroddiad grynhoi’r prif faterion a godwyd yn yr ymatebion a gafwyd, a sut yr ymdriniwyd â’r ymatebion hyn yn y cais cynllunio a gyflwynwyd.

Dylai’r prif faterion gael eu hamlygu ar ôl dadansoddi’r holl ymatebion, boed hynny gan ymgyngoreion statudol, perchnogion/meddianwyr cyfagos neu bobl eraill.

Rhoddir templed isod ar gyfer trefnu’r prif faterion:

Prif Fater (Darparwch deitl byr sy’n crisialu’r materion allweddol a godwyd yn yr ymatebion)
Dogfennau cais perthnasol:Rhestrwch y brif ddogfen/y prif ddogfennau y mae’r mater hwn yn ymwneud â hi/nhw.
Ymatebwyr:Rhestrwch enwau llawn y sefydliadau / yr unigolion a gyflwynodd yr ymateb, ynghyd â rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer pob ymateb.
Crynodeb yr ymgeisydd o’r ymatebion:Crynhowch yr ymatebion a gafwyd. Rhowch ddisgrifiad byr o’r effeithiau posibl a godwyd neu agweddau penodol ar y datblygiad a wrthwynebir. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylid casglu ymatebion ynghyd i osgoi ailadrodd.
Ymateb yr ymgeisydd, gan gynnwys rhesymau:Amlinellwch ymateb rhesymedig yr ymgeisydd i’r materion a godwyd (a fynegir yn gyffredinol mewn llai na 1,000 o eiriau fesul prif fater). Esboniwch y rhesymau dros ddiwygio’r cynnig neu beidio â’i ddiwygio. Os gwnaed newidiadau i’r cynnig, nodwch natur y rhain.

Dylid ystyried pob ymateb yn ofalus. Fe allai ymateb rhesymedig i wrthwynebiad sylweddol helpu i leihau’r angen i ddarparu sylwadau ysgrifenedig yn ystod yr archwiliad.

Gall ymatebion sy’n ymwneud â’r un mater (neu fater â chysylltiad agos), neu ran benodol o safle, gael eu casglu ynghyd yn un prif fater.

Dylai materion yn ymwneud â chydsyniad eilaidd gael eu hamlygu mewn atodlen neu atodlenni ar wahân. 

Ymatebion gan ymgyngoreion statudol a chamau gweithredu canlyniadol

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gynnwys copïau o ymatebion gan ymgyngoreion arbenigol ac esbonio sut mae wedi ystyried yr ymatebion hyn.

Argymhellir bod yr adroddiad yn cynnwys atodlen sy’n rhoi’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a rhif adnabod yr ymgynghorai
  • rhif adnabod ar gyfer ymateb [os yw’r ymgynghorai wedi codi nifer o faterion ar wahân, neu wedi gwneud mwy nag un ymateb, rhowch rif adnabod unigryw i bob rhan]
  • crynodeb o’r ymateb
  • y prif fater(ion)
  • y cydsyniad perthnasol y mae’r ymateb yn ymwneud ag ef
  • camau gweithredu canlyniadol yr ymgeisydd

Mae PCAC yn argymell bod yr atodlen yn crynhoi’r ymatebion gan yr holl ymgyngoreion statudol, yn hytrach nag Ymgyngoreion Arbenigol yn unig.

Dylai copïau wedi’u sganio o’r ymatebion gwreiddiol gael eu hatodi i’r adroddiad. Argymhellir bod ymatebion yr holl ymgyngoreion statudol yn cael eu cynnwys, yn hytrach nag ymgyngoreion arbenigol yn unig.