Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn ar ddatblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Teitl yr adroddiad
Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol yn y sector ôl-16
Manylion yr adroddiad
Mae’r adroddiad yma yn darparu trosolwg o’r modd y mae colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi datblygu eu harfer i gyflwyno addysgu, hyfforddiant a dysgu, naill ai fel dysgu o bell neu ddysgu cyfunol, rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ionawr 2021. Mae’r adroddiad yn cofnodi’r cryfderau a’r heriau parhaus sy’n wynebu darparwyr a dysgwyr, ac yn rhannu cameos o arfer sy’n dod i’r amlwg. Mae sail y dystiolaeth ar gyfer yr adolygiad hwn yn defnyddio cyfweliadau, arsylwadau a grwpiau ffocws gan arolygwyr Estyn gyda dysgwyr, tiwtoriaid, athrawon ac aseswyr; a chwblhawyd bob un o’r rhain o bell.
Crynodeb o’r prif ganfyddiadau
Mae’r pandemig wedi achosi newid amlwg mewn addysgu a dysgu yn y sectorau ôl-16. Mae darparwyr a’u staff ar draws yr holl sectorau ôl-16 wedi dangos ymagwedd gadarn at ddysgwyr a’u lles.
Er y bu gwelliannau yn ansawdd yr addysgu a’r dysgu trwy ddysgu o bell a dysgu cyfunol ers dechrau’r pandemig, mae ansawdd yr addysgu a’r dysgu ar-lein yn parhau i amrywio, ar y cyfan.
Mae darparwyr a’u staff ar draws pob sector wedi dangos llawer o ymroddiad i ddatblygu eu medrau mewn addysgu ac asesu o bell a chyfunol. Roedd y darparwyr hynny a oedd wedi dechrau cyflwyno elfen o addysgu a dysgu o bell neu ddysgu cyfunol yn eu cynnig cwricwlwm cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 mewn sefyllfa gryfach i gyflwyno darpariaeth arall ar-lein yn gyflym.
Mae yflwyno dysgu o bell a dysgu cyfunol wedi achosi newid yn y modd y mae darparwyr a staff yn sicrhau ansawdd cyrsiau ar-lein ac yn rhannu arfer. Mae’r defnydd gwell o dechnoleg yn galluogi cyfleoedd ar gyfer mwy o fyfyrio unigol, a rhannu arfer arloesol ymhlith staff ar draws y darparwr.
Roedd partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned dan anfantais o ran cyflwyno dysgu oedolion ar-lein, oherwydd gan amlaf, nid oes ganddynt dimau cymorth dysgu TG canolog, amgylcheddau dysgu rhithwir na mynediad at adnoddau ar-lein a rennir i gefnogi cynllunio a chyflwyno i ddysgwyr, yn enwedig i’r dysgwyr hynny sydd dan anfantais.
Mae wedi bod yn anos symud rhai cyrsiau a rhaglenni i ddysgu o bell na chyrsiau neu raglenni eraill. Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir am ddysgwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu yn y gwaith sy’n dilyn prentisiaethau a chyrsiau technegol, gan fod angen iddynt ymarfer ag offer arbenigol ac mewn cyfleusterau arbenigol, yn ogystal â gwneud asesiadau dan oruchwyliaeth i arddangos cymhwysedd galwedigaethol neu broffesiynol.
Pan fydd staff yn gweithio mewn timau i ddatblygu cyrsiau addysgu a dysgu o bell a chyfunol, gallant rannu cyfrifoldebau, methodoleg addysgu, syniadau ac adnoddau. Mae hyn yn arwain yn gyffredinol at gyrsiau ar-lein gyda mwy o gydlyniaeth a chydbwysedd da o weithgareddau cydamserol ac anghydamserol pwrpasol sy’n hyrwyddo dysgu.
Mae darparwyr wedi nodi manteision annisgwyl yn deillio o roi cyrsiau ar-lein. Er enghraifft, mae’r hyblygrwydd gwell yn denu ystod ehangach o ddysgwyr, gan eu bod yn gallu cael mynediad at ddysgu yn haws.
Yn y sectorau addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned, mae darparwyr wedi addasu eu cynnig cwricwlwm yn gyflym ac yn briodol i ddiwallu anghenion dysgwyr sydd wedi colli cyflogaeth ac angen ailsgilio i gael mynediad at y farchnad swyddi.
Er gwaethaf eu hymdrechion i ddatblygu dulliau dysgu ac asesu o bell a chyfunol, mae darparwyr yn ystyried bod gormod o achosion pan na fu sefydliadau dyfarnu yn ddigon hyblyg o ran addasu eu gofynion. Mae hyn wedi golygu bod gormod o ddysgwyr yn aros i gwblhau eu cymwysterau a derbyn eu dyfarniadau yn ystod blwyddyn academaidd 2020 i 2021. Mewn llawer o achosion, mae hyn wedi digalonni dysgwyr, gan olygu nad ydynt wedi gallu gwneud cynnydd yn y swyddi maen nhw ynddynt, neu’n methu gwneud cais am swyddi yn gysylltiedig â’u cymwysterau.
Argymhellion ar gyfer darparwyr dysgu
Argymhelliad 1
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu o bell a dysgu cyfunol i sicrhau bod yr holl gyrsiau neu raglenni yn bodloni safon ansawdd ofynnol er mwyn lleihau’r amrywioldeb mewn darpariaeth.
Argymhelliad 2
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned sicrhau bod arweinwyr ac athrawon yn gallu elwa ar ddysgu proffesiynol sy’n cefnogi datblygiad o ran sut i gynllunio addysgu a dysgu effeithiol o bell a chyfunol, yn ogystal â datblygu medrau addysgegol ac asesu athrawon ymhellach.
Argymhelliad 3
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned rhannu arfer sy’n dod i’r amlwg ac arfer arloesol o ran dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru, a thu hwnt.
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion ar gyfer darparwyr dysgu
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r argymhellion hyn. Bydd buddsoddiad cyllid grant Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu darparwyr dysgu ôl-16 i ddatblygu darpariaeth addysgu a dysgu o bell a chyfunol o ansawdd uchel, fwy cyson, drwy gynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol, gan alluogi'r sector yng Nghymru i elwa o'r sylfaen ymchwil a thystiolaeth ehangach sy'n tyfu'n gyflym, a hyrwyddo arfer da.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ariannu gweithgareddau datblygu proffesiynol ar gyfer y sectorau Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn 2020 i 2021, ac mae wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o'r sector ôl-16 a rhanddeiliaid allweddol i gynhyrchu canllawiau dysgu cyfunol ar gyfer darparwyr dysgu ac ymarferwyr addysgu. Bydd unrhyw ganllawiau neu gymorth pellach a ddatblygir yn ystod y misoedd nesaf, ac wrth baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, yn ystyried canlyniadau astudiaethau ac arolygon amrywiol sydd i'w cyhoeddi, ac enghreifftiau perthnasol o arfer da sy'n dod i'r amlwg ac a nodwyd gan Estyn a Jisc.
Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru
Argymhelliad 4
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi’r sector ag arweiniad i alluogi darparwyr i ddatblygu dulliau dysgu o bell a dysgu cyfunol o ansawdd da, yn enwedig o ran cefnogi’r dychwelyd i addysgu a hyfforddiant uniongyrchol, ac asesu medrau galwedigaethol a thechnegol ymarferol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Gan weithio gyda’r sector a chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar y Gweithgor Dysgu Cyfunol (o dan ein Cynllun Cydnerthedd Covid-19 ar gyfer y sector Ôl-16), mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau ar ddysgu cyfunol ac wedi cyfeirio at ddeunydd datblygiad proffesiynol ar-lein am ddim i staff y sector.
Bydd unrhyw ganllawiau neu ddeunyddiau cymorth pellach a ddatblygir yn ystod y misoedd nesaf yn ystyried canlyniadau astudiaethau ac arolygon amrywiol sydd i'w cyhoeddi. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda'r sector i sicrhau y bydd unrhyw adnoddau pellach yn ychwanegu digon o werth at ganllawiau sy'n bodoli eisoes, ac integreiddio adnoddau a gynhyrchir gan y sector fel rhan o raglenni a ariennir eisoes ar ddysgu proffesiynol a chyflenwi digidol.
Argymhelliad 5
Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu dysgu proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16, sy’n rhad ac am ddim i ddarparwyr ac yn eu helpu i ddatblygu arbenigedd penodol mewn dylunio, addysgu, hyfforddiant a dysgu o ran dysgu cyfunol a dysgu o bell ar gyfer eu sector i leihau amrywioldeb yn ansawdd y ddarpariaeth.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £5 miliwn i gefnogi gweithgareddau datblygu proffesiynol sefydliadol a chydweithredol yn y sector Addysg Bellach yn ystod 2020 i 2021. Bydd y cymorth hwn yn parhau yn 2021 i 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gweithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer darparwyr dysgu oedolion yn 2020 i 2021, a dylunio a chyflwyno cwrs addysgeg ddigidol peilot ar gyfer ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith (gan Jisc).
Mae cyllid Llywodraeth Cymru i Jisc yn cefnogi nifer o weithgareddau datblygiad proffesiynol yn 2020 i 2021 gan gynnwys lleoedd wedi'u hariannu ar gyrsiau hyfforddi Jisc (a ddarperir ar-lein ar hyn o bryd) a rhannu gwybodaeth ac arfer da yn seiliedig ar 'gymuned ymarfer'. Mae cyrsiau hyfforddi perthnasol Jisc yn cynnwys arweinyddiaeth ddigidol a chynllunio cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu galluoedd digidol fel rhan o'u cwrs, modiwl neu uned ddysgu.
Rydym yn edrych ar sut i adeiladu ar y cymorth hwn a pharhau ag ef yn 2021 i 2022.
Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cymru alluogi partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned a dysgwyr i gael mynediad at blatfform digidol cenedlaethol canolog i ddarparu dysgu o bell a dysgu cyfunol yn haws.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Jisc i gynnal astudiaeth ar y seilwaith TG a digidol yn y sector ôl-16 yng Nghymru. Fel rhan o'r astudiaeth hon, rydym wedi gofyn i Jisc archwilio anghenion y sector dysgu oedolion, mewn perthynas â chyflwyno addysgu a dysgu yn ddigidol, yn fanylach.
Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cymru annog a chefnogi darparwyr i rannu arfer sy’n dod i’r amlwg mewn dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae cyllid grant blynyddol Llywodraeth Cymru i Jisc yn cefnogi'r math hwn o weithgaredd. Mae amrywiaeth o rwydweithiau darparwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys grŵp llywio Digidol 2030 a grŵp Gweledigaeth Ddigidol Addysg Bellach, y gellir eu defnyddio i ledaenu arfer da a phrofiadau o ddysgu o bell a chyfunol. Yn ogystal, bydd cyflwyno cyfrifon Hwb i staff darparwyr ôl-16 yn gwella gallu ymarferwyr ac arweinwyr i rannu gwybodaeth ac adnoddau ar draws y sector.
Manylion cyhoeddi
Mae Estyn yn bwriadu cyhoeddi’r adolygiad yma ar, neu ar ôl, 23 Mawrth 2021.