Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cynlluniau i ddod â swyddogaethau masnachol Cadw ac Amgueddfa Cymru - National Museum Wales at ei gilydd wedi dod gam yn nes heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, wedi nodi unwaith eto ei ymrwymiad i greu corff newydd, Cymru Hanesyddol, gan gyhoeddi ei fod wedi gofyn i Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i gadeirio grŵp llywio i ddatblygu cam nesaf y gwaith hwn. 

Daw y cyhoeddiad wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad Price Waterhouse Cooper (PwC), “Investing in the future to protect the past”  (Saesneg yn unig) sy’n ystyried dyfodol gwasanaethau treftadaeth yng Nghymru.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae hwn yn amser hollbwysig i’r sector treftadaeth yng Nghymru.  Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi golygu bod Cymru ar y blaen i wledydd eraill Prydain o ran diogelu a rheoli ei hamgylchedd hanesyddol.  

“Fodd bynnag, gyda’r galwadau niferus am adnoddau prin – a’r angen i hyrwyddo Cymru yn well nag erioed, mae’n hanfodol ein bod  yn gwerthuso a yw nifer o’r strwythurau sy’n sail i’r sector yn addas at y pwrpas, ac a fyddem yn gallu cyflawni mwy pe byddem yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol.”

“Rwyf eisiau helpu i greu sector treftadaeth sy’n fyd-eang o ran ei uchelgais ac sydd ag enw da yn rhyngwladol.  Er mwyn cyflawni hyn, rwyf am weld ein sefydliadau cyhoeddus cenedlaethol yn datblygu, ac yn dod yn fwy sefydlog yn ariannol.”

“Heddiw rydym yn cyhoeddi adroddiad PwC “Investing in the future to protect the past”. Mae hwn yn pennu nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer y gwasanaethau treftadaeth yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i’r Farwnes Randerson am ei gwaith wrth ystyried yr adroddiad, ac i’r sefydliadau hynny fu’n rhan o’r gwaith o’i ddatblygu.  

“Rwyf bellach am fynd ymlaen â’r gwaith o ddod â swyddogaethau masnachol Cadw ac Amgueddfa Cymru - National Museum  Wales at ei gilydd fel eu bod mewn sefyllfa well i sicrhau ffynonellau incwm newydd.  Mae hyn yn waith cymhleth a heriol felly rwyf am inni ddysgu o’r gwersi a ddaw o newidiadau tebyg yn rhyngwladol, a defnyddio tystiolaeth i greu achos busnes ar gyfer newid sy’n iawn ar gyfer Cymru, ac wedi’i lunio’n pwrpasol ar ein cyfer.  

“Mae’r adroddiad hwn yn ddechrau da, ond rwyf am drafod yr opsiynau hyn yn fanylach gyda’r sefydliadau a’r partneriaid perthnasol i sicrhau ein bod yn cytuno ar y camau nesaf.  

O ystyried hyn, rwyf wedi gofyn i Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Cymru, i gadeirio cam nesaf y gwaith yn annibynnol, gan ddod â grŵp llywio at ei gilydd, fydd yn cynnwys ein sefydliadau cenedlaethol a’r undebau llafur, i ddatblygu’r gwaith pwysig hwn ac rwyf wedi gofyn iddynt adrodd yn ôl yn fanylach ar ffordd ymlaen bosib ym mis Ionawr 2017.”

Meddai Justin Albert: 

“Roeddwn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad Ysgrifennydd y Cabinet i gadeirio’r grŵp llywio pwysig hwn ac i gael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen ragorol a osodwyd gan y Farwnes Randerson. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gydag aelodau eraill y grŵp llywio.  Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i helpu i greu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sy’n gysylltiedig, yn gynaliadwy ac yn ddeinamig.”  

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr Undebau Llafur oedd yn cael eu cynrychioli ar y Grŵp Llywio:  

“Rydym yn croesawu gwahoddiad Ysgrifennydd y Cabinet i gymeryd rhan yn y grŵp llywio ac, mewn egwyddor, i gefnogi unrhyw gynigion fyddai’n gwarchod buddiannau ein haelodau a helpu i ddatblygu a chryfhau y sector diwylliant a threftadaeth yng Nghymru.  Mae gennym feddwl agored a pharodrwydd i newid wrth inni fynd i’r afael â’r gwaith hwn.”