Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifon a chanrannau o bobl fesul grŵp ethnig, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a phobl anabl ac nad yw’n anabl.

Ar 5 Medi 2024, fe wnaeth Emma Rourke, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol, ysgrifennu i Ed Humpherson (Swyddfa Ystadegau Gwladol), sef Pennaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, i wneud cais fod yr amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd o Gyfrifiad 2021 ddim bellach yn ystadegau swyddogol achrededig ac yn hytrach wedi’u dynodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Cadarnhaodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y newid yn y ddynodiad ar 12 Medi 2024. Er mwyn adlewyrchu’r newid yma mewn dynodiad, mae’r logo ystadegau swyddogol achrededig wedi’i dynnu o’r datganiad yma.

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru.

7 Ebrill 2025

Mae’r SYG wedi cyflawni gwaith ansawdd ychwanegol i ddarparu gwybodaeth mwy manwl ar yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd Cyfrifiad 2021 a chanllawiau ar eu defnydd priodol. Gwelir yr erthygl a gyhoeddwyd ganddynt ar 26 Mawrth - Census 2021 gender identity estimates for England and Wales, additional guidance on uncertainty and appropriate use (SYG) (Saesneg yn unig). Rydym yn adolygu’r  bwletin ystadegol yma gan  ddefnyddio canllawiau’r SYG ac efallai y byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth am ddefnydd priodol o’r data.

Cyswllt

Andy O’Rourke

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.