Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw:
Rwy’n falch ein bod wedi gweld peth cynnydd mewn gofal a gynlluniwyd. Ym mis Chwefror, gwelwyd gostyngiad yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o 734,000 i 731,000. Dyma’r pumed gostyngiad yn olynol, tra bod rhestrau aros wedi parhau i godi yn Lloegr. Mae 574,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n lleihad o 1,700 o gleifion. Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi lleihau i oddeutu 63,000, sy’n ostyngiad o 39% ers yr uchafswm fis Awst y llynedd.
Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng i ychydig dros 237,600, sef yr isaf ers mis Mehefin 2021. Mae tua 37,500 o lwybrau wedi bod yn aros mwy na dwy flynedd, ac mae hyn 47% yn is na’r uchafswm ym mis Mawrth 2022. Rwy’n disgwyl gweld y tueddiadau positif hyn yn parhau wrth i gamau gweithredu, gan gynnwys ein buddsoddiad mewn gwelyau cymunedol ychwanegol i wella llif cleifion drwy ysbytai, gael eu gwireddu.
Rwy hefyd yn falch bod 12,724 o gleifion yng Nghymru wedi cael gwybod nad oedd canser arnynt ym mis Chwefror. Roedd perfformiad wedi gwella o ran nifer y bobl sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i 52.5%, o’i gymharu â 50.1% yn y mis blaenorol. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod yn is na’n targed o 75% ac mewn uwchgynhadledd genedlaethol ar gyfer arweinwyr gwasanaethau canser fis diwethaf, gwnaethom gytuno bod angen canolbwyntio ymhellach ar yr ymdrech i barhau i gynyddu nifer y bobl sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.
Rhaid ystyried y gwelliannau hyn o fewn cyd-destun ehangach, fel y dengys data heddiw, nid yw'r pwysau rydyn ni wedi'i weld ar ein gwasanaeth iechyd wedi lleddfu.
Gwasanaethau gofal mewn argyfwng sydd wedi dwyn baich y pwysau, a gwelwyd cynnydd mewn galwadau am ambiwlansiau a chynnydd mewn cleifion yn ymweld ag adrannau argyfwng ym mis Mawrth.
Gwasanaethau gofal brys sydd wedi ysgwyddo baich y pwysau diweddar, gyda chynnydd yn nifer y galwadau ambiwlans a chyflwyniadau mewn adrannau brys. Mae perfformiad mewn adrannau brys mawr yng Nghymru wedi bod yn well na pherfformiad Lloegr dros y saith mis diwethaf ac wedi aros yn sefydlog o gymharu â holl rannau eraill y Deyrnas Unedig.
Mae nifer y cleifion ‘lle mae bywyd yn y fantol’ sy’n defnyddio’r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i fod yn uchel iawn mewn cyd-destun hanesyddol, 93% yn uwch ym mis Mawrth 2023 nag ym mis Mawrth 2019. Gwelwyd cynnydd o 18% mewn derbyniadau mewn argyfwng o’i gymharu â’r un mis y llynedd. Mae’r rhain oll yn dangos bod cynnydd yn nifer yr oedolion sâl iawn ac eiddil sy’n defnyddio’r gwasanaeth gofal mewn argyfwng.
Mae’r pwysau ar ofal mewn argyfwng hefyd wedi’i deimlo ar draws y GIG yn ehangach. Cafodd 15,000 o gleifion eu trosglwyddo i ysbyty wedi iddynt fynd i adran argyfwng mawr ym mis Mawrth 2023. Mae hyn 7% yn uwch nag ym mis Mawrth 2022. Yn ogystal, gwelwyd cynnydd o 14% mewn atgyfeiriadau apwyntiadau cleifion allanol ym mis Chwefror o’i gymharu â blwyddyn ynghynt.
O ran amseroedd ymateb ambiwlansiau, er y gwelwyd gwelliannau yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr o’i gymharu â mis Mawrth 2022, mae amseroedd ymateb ar gyfer y galwadau mwyaf brys yn parhau i fod yn her fawr ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansiau yn ystod y misoedd nesaf i sicrhau gwell perfformiad.
Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer ein GIG ac wedi gweld gwelliannau mewn sawl maes wrth i’n GIG barhau i ddiwallu’r galw cynyddol am ofal yn dilyn y pandemig. Mae’n amlwg bod mwy o waith i’w wneud mewn rhai meysydd, ac rwy’n disgwyl gweld cynnydd yn dilyn y gwelliannau a wnaed a’n buddsoddiad ychwanegol.