Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gwybodaeth reoli ar brofion coronafeirws hyd at 31 Mai 2020.

Ystadegau ynglŷn â phrofion coronafeirws:

  • brofion wedi eu hawdurdodi bob dydd
  • nifer yr unigolion a brofwyd
  • nifer o brofion ar weithwyr hanfodol
  • lleoliad y profion

Mae nhw wedi’u cyhoeddi i roi’r data ddiweddaraf ynglŷn â phrofion coronafeirws, ac i gyd-fynd â’r diweddariad wythnosol ar brofion.

Gwybodaeth reoli yw’r data ac nid ydynt yn ystadegau swyddogol, ac fe'u hadolygir yn rheolaidd. Mae dangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol gyda'r data diweddaraf, gan gynnwys diwygiadau i'r data a gyhoeddir yma.

Ar ddydd Iau 4 Mehefin, dechreuodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnwys cyfres newydd ar brofion gan drigolion Cymru a gyflwynwyd trwy labordai yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys samplau o ganolfannau profi gyrru drwodd COVID-19 yn Lloegr a chitiau profi cartref. Bydd y data hyn yn cael eu ychwanegu at ddiweddariadau wythnosol yn y dyfodol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dechrau cyhoeddi data diwygiedig ar nifer y profion a awdurdodir bob dydd yn dilyn cymodi pellach a sicrhau ansawdd. Mae hyn yn seiliedig ar ddyddiad awdurdodi calendr felly bydd yn wahanol i'r gyfres a gyflwynir yma sy'n seiliedig ar ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn y 24 awr i 1pm. Bydd y ddwy set o ddata yn cael eu cynnwys yma yr wythnos nesaf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Data o brofion ar gyfer coronafeirws (COVID-19): hyd at 31 Mai 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 150 KB

ODS
150 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.