Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn crynhoi gwybodaeth wythnosol am brofion coronafeirws (COVID-19) a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am nifer y profion antigenau a awdurdodwyd drwy labordai gan gynnwys dadansoddiad yn ôl gweithwyr allweddol a phreswylwyr lle y mae gweithwyr allweddol yn cael eu cyflogi, ac ynglŷn ag amseroedd prosesu profion antigenau a nifer y profion gwrthgyrff a gynhelir ar gyfer gweithwyr allweddol a phreswylwyr.

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y gallent newid. Nid ydynt wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r ddogfen ystadegol hon yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei chynnwys.

Prif ganlyniadau

  • Roedd y capasiti i gynnal profion antigenau yn labordai GIG Cymru yn 15,167 ar 27 Chwefror 2022. Nid yw hyn yn cynnwys y capasiti profi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai o drigolion Cymru yn cael eu prosesu.
  • Am 9am ar 27 Chwefror 2022, roedd 8.41 miliwn o brofion antigenau wedi’u hawdurdodi ar gyfer preswylwyr Cymru. 
  • Erbyn diwedd 27 Chwefror 2022, roedd 101,637 o brofion gwrthgyrff wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru gyda 20,513 o ganlyniadau positif.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (21 i 27 Chwefror 2022):

  • cafodd tua 94.4% o’r profion yr oedd angen eu prosesu’n gyflym eu cwblhau o fewn un diwrnod calendr*
  • cafodd 96.3% o brofion yn y gymuned a phrofion torfol ac 93.7% o brofion ysbytai a broseswyd yn labordai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod
  • cafodd 94.9% o’r profion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod*
  • cafodd 82.3% o brofion drwy’r porth sefydliadau** a 93.8% o brofion cartref eu hawdurdodi mewn un diwrnod (gweler Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19) i gael rhagor o wybodaeth am gategorïau lleoliadau’r profion)

* Profion y mae gofyn eu prosesu’n gyflym yw’r samplau a gesglir mewn ysbytai ac mewn safleoedd profi cymunedol a phrofi torfol wyneb yn wyneb ac a brosesir yn labordai GIG Cymru, a samplau a gesglir mewn canolfannau profi cymunedol a brosesir mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

** Defnyddir y porth sefydliadau gan gartrefi gofal a sefydliadau eraill i adrodd profion PCR. Mae’r rhan fwyaf o’r profion a gofnodir drwy’r system hon wedi’u gwneud mewn cartrefi gofal.

Profion antigenau

Mae Siart 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ac mewn labordai heblaw y rhai GIG Cymru. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys profion a broseswyd drwy labordai y tu allan i GIG Cymru, sy’n cynnwys profion preswylwyr o Gymru a gymerwyd mewn canolfannau profi yn Lloegr, canolfannau profi yng Nghymru, profion a archebir trwy’r porth sefydliadau (profion a gymerir mewn cartrefi gofal yn bennaf) a phecynnau profi gartref.

Image
Yn nhrefn maint, mae uchafbwyntiau’n digwydd y mis Rhagfyr 2021/Ionawr 2022, mis Medi/Hydref 2021, mis Rhagfyr 2020/Ionawr 2021 a mis Mehefin/Gorffennaf 2021.

Data ar gael yn: Nifer y profion antigenau PCR a brosesir gan labordai GIG Cymru a’r ganran a brosesir o fewn 1, 2 a 3 diwrnod, yn ôl wythnos a lleoliad ar StatsCymru

Bu cynnydd yn nifer y profion a broseswyd trwy labordai heblaw rhai GIG Cymru trwy gydol 2020. Mae hyn yn bennaf oherwydd i drigolion Cymru ddechrau archebu profion trwy'r porth sefydliadau. Mae’r galw uwch am brofion wedi’i adlewyrchu yn y data ym mis Medi 2020, tua adeg Nadolig 2020, mis Mehefin 2021 a diwedd haf 2021.

Y nifer mwyaf o Profion wythnos a awdurdodwyd trwy labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru yn yr wythnos a ddechreuodd ar 27 Rhagfyr 2021, pan awdurdodwyd 207,540 o brofion.

Amseroedd dychwelyd ar gyfer profion antigenau

Mae’r ffigurau a ddangosir yn mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi. Nid yw’n dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y gwahanol ddulliau profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf. Mae profion cymunedol wedi’u rhannu yn ôl gwahanol lwybrau, gan adrodd ar brofion a gynhelir oherwydd angen clinigol ar wahân i brofion a gynhelir er mwyn sgrinio unigolion sydd wedi’u nodi fel gweithwyr allweddol neu breswylwyr symptomatig.

Image
Hyd yn hyn, awdurdodwyd 83% o brofion torfol a chymunedol a gynhelir wyneb yn wyneb, 54% o brofion ategol, a 91% o brofion ysbyty o fewn un diwrnod.

Data ar gael yn: Nifer y profion antigenau PCR a brosesir gan labordai GIG Cymru a’r ganran a brosesir o fewn 1, 2 a 3 diwrnod, yn ôl wythnos a lleoliad ar StatsCymru

Image
Yn yr wythnos ddiweddaraf, mae cyfran y profion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru wedi gostwng ar gyfer sgrinio asymptomatig lloeren, ar gyfer profion ysbytai ac ar gyfer phrofion cymunedol a màs.

Data ar gael yn: Nifer y profion antigenau PCR a brosesir gan labordai heblaw rhai GIG Cymru a’r ganran a brosesir o fewn 1, 2 a 3 diwrnod, yn ôl wythnos a lleoliad ar StatsCymru

O ddechrau mis Rhagfyr 2020 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2021, gwelodd pob llwybr profi gynnydd yng nghyfran y profion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr. Ar ôl hyn, mae'r gyfran wedi aros yn gymharol sefydlog ar draws y llwybrau profi mewn ysbytai ac yn gymunedol, gan aros yn uwch na 90% i 15 Awst 2021. Yn ystod yr amser hwn, er gwaethaf amrywiadau, mae perfformiad wedi aros yn uwch na 60% ar gyfer y llwybr profi ategol.

Gwelwyd gostyngiadau yng nghyfran y profion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr ym mis Awst a mis Rhagfyr 2021.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (21 i 27 Chwefror 2022):

  • mae 653 o brofion wedi'u hawdurdodi ar gyfer rhaglen ategol i sgrinio gweithwyr allweddol a phreswylwyr asymptomatig gyda 79.3%, gostwng o 1.5 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 4,309 o brofion fel rhan o’r rhaglen profi yn y gymuned a phrofi torfol, gyda 96.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, gostwng o 2.4 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 17,110 brofion mewn ysbytai, gyda 93.7% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, gostwng o 1.2 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
Image
Dychwelwyd 49% o brofion porthol sefydliadau, 46% o'r profion cartref a 88% o’r profion cymunedol mewn un diwrnod.

Data ar gael yn: Nifer y profion antigenau PCR a brosesir gan labordai heblaw rhai GIG Cymru a’r ganran a brosesir o fewn 1, 2 a 3 diwrnod, yn ôl wythnos a lleoliad ar StatsCymru

Image
Dychwelwyd 82% o brofion porthol sefydliadau, 94% o'r profion cartref a 95% o’r profion cymunedol mewn un diwrnod.

Data ar gael yn: Nifer y profion antigenau PCR a brosesir gan labordai heblaw rhai GIG Cymru a’r ganran a brosesir o fewn 1, 2 a 3 diwrnod, yn ôl wythnos a lleoliad ar StatsCymru

Gellir gweld cyfraddau is o amseroedd prosesu rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020 yn y profion cartref a’r porth sefydliadau, ac eto ym misoedd Mehefin, Gorffennaf, Medi a mis Rhagfyr 2021. Mae gan brofion yn y gymuned a phrofion torfol gyfradd prosesu o fewn un diwrnod calendr uwch, ond roedd hefyd yn is yn ystod mis Hydref i fis Rhagfyr 2020. Sylwer y gall y gyfres hon fod yn anweddol, ac yn benodol, dylid trin newidiadau tymor byr yn ofalus.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (21 i 27 Chwefror 2022):

  • awdurdodwyd 14,024 o brofion drwy’r porth sefydliadau, gyda 82.3% yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr
  • awdurdodwyd 3,015 o brofion cartref, gyda 93.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr
  • awdurdodwyd 9,636 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, gyda 94.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr

Gweithwyr hanfodol a phreswylwyr

Mae'r strategaeth brofi gyfredol ar gyfer Cymru i'w gweld ar y tudalen we Profi am y coronafeirws. Y polisi profi cyfredol ar gyfer gweithwyr allweddol a staff gofal cymdeithasol yw iddyn nhw gael mynediad at brofion ddwywaith yr wythnos; mae'r profion hyn yn defnyddio profion llif ochrol antigen ac felly nid yw wedi'i gynnwys yn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Oherwydd nad yw profion asymptomatig ar gyfer gweithwyr allweddol a staff gofal cymdeithasol gan ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn, mae dadansoddiad ar weithwyr critigol wedi'i ddileu o gyhoeddiad 12 Mai 2021 ymlaen. Gellir dod o hyd i ddata profion PCR ar gyfer gweithwyr hanfodol yn y tablau StatsCymru cysylltiedig a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad hwn a chyhoeddir yr holl ddata llif ochrol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) sy’n cyhoeddi dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae'r ddwy set ddata hyn ochr wrth ochr yn darparu drosolwg o brofion ar gyfer gweithwyr hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am y setiau data hyn yn yr adran cefndir.

Profion gwrthgyrff

Defnyddir y profion gwrthgorff COVID-19 i benderfynu a oes gan berson wrthgyrff p’un ai rhag cael ei heintio â coronafirws o'r blaen neu rhag brechu. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld a oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.

Gellir cymryd profion gwrthgyrff am nifer o resymau gwahanol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf , mae’r rhan fwyaf o'r profion gwrthgyrff yn y cyhoeddiad hwn yn rhai a ddefnyddir am resymau diagnostig. Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Ers i'r profion ddechrau hyd at ddiwedd 27 Chwefror 2022, mae 101,637 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal yng Nghymru, gan gynnwys 129 yn yr wythnos ddiweddaraf o dan y strategaeth brofi gyfredol a amlinellir uchod.

Darparir manylion pellach ar StatsCymru.

Cefndir

Caiff profion coronafeirws (COVID-19) eu categoreiddio fel naill ai profion antigenau neu brofion gwrthgyrff. Defnyddir y prawf antigenau a elwir yn gyffredinol yn brawf swab, neu adwaith cadwynol polymerasau i brofi a yw person wedi’i heintio â’r coronafeirws ar hyn o bryd. Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Nid yw profion llif unffordd antigenau wedi'u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn. Tan 6 Ionawr 2022, roedd pobl oedd yn cael canlyniadau positif i brofion llif unffordd antigenau yn cael eu cynghori i drefnu prawf labordy PCR. Mae'r profion PCR hyn yn ymddangos yn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn. Ers 6 Ionawr 2022, nid oes angen i bobl sy’n cael profion llif unffordd positif, ond nad oes ganddynt symptomau Covid-19, gael prawf PCR. Oherwydd y rhesymau hyn a rhesymau eraill, nid yw profion PCR yn cwmpasu pob heintiad. Felly, nid yw’r data yn y datganiad hwn a'r tablau cysylltiedig ar y we yn adlewyrchu gwir nifer yr achosion, o reidrwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran cefndir.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol yn cynnwys data ar brofion a awdurdodwyd, cyfnodau profion, achosion positif, nifer yr achosion a marwolaethau oherwydd COVID-19. Caiff y data yn y dangosfwrdd eu crynhoi a'u cyhoeddi yn ddyddiol er mwyn adlewyrchu'r gweithgarwch COVID-19 diweddaraf hyd at y diwrnod blaenorol a chânt eu defnyddio at ddibenion gwyliadwriaeth. Mae Mae hi’n crynodeb wythnosol o'r wybodaeth hon, ynghyd â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol, lleoliad casglu'r sampl a’r amseroedd ar gyfer dychwelyd y profion. Mae’r data yn y datganiad hwn yn dechrau ar 18 Mawrth 2020 ar gyfer data profion dyddiol, ac o’r wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2020 ar gyfer y data profion wythnosol (amseroedd profi).

Mae eglurhad pellach am y data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y gwahanol ddyddiadau a ffynonellau data i’w gael yn Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19). Mae'r rhain yn rhoi esboniad pellach ar y data a ddefnyddir, gan gynnwys y gwahaniaeth nyddiadau’r profion, lleoliad y profion a ffynonellau data.

Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r datganiad ystadegol hwn yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys.

Mae'r data gwaelodol sy'n cysylltiedig â'r datganiad hwn ar gael ar StatsCymru.

Proseswyd y sampl cyntaf mewn labordy nad yw’n labordy GIG Cymru ar gyfer preswylydd o Gymru ar 24 Ebrill 2020. Cynyddodd nifer y profion ar ôl cyflwyno profion cartref ar 18 Mai 2020.

Ers 13 Gorffennaf 2020, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru, sydd wedi cael eu hadrodd ar wahân cyn hyn.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi.

Mae eglurhad pellach am y data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y gwahanol ddyddiadau a ffynonellau data i’w gael yn Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Caiff profion antigenau mewn labordai o ysbytai, profion torfol cymunedol a sgrinio pobl asymptomatig eu cynnal yn labordai GIG Cymru. Caiff profion antigen drwy’r porth sefydliadau (er enghraifft, cartrefi gofal), y porth cymunedau a phrofion cartref eu cynnal mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru (labordai goleudy).

Mae nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio ar yr amser dychwelyd ar gyfer profion antigenau, gan gynnwys oedi’n gysylltiedig â chludwyr a phostio, oedi wrth ddychwelyd profion unigolion neu sefydliadau, yn ogystal â phrosesau mewn labordai. Mae’r amseroedd dychwelyd yn labordai GIG Cymru yn cael eu rheoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r amseroedd dychwelyd mewn labordai nad ydynt yn rhan o GIG Cymru gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC).

Mae profion cymunedol a phrofion torfol yn cynnwys samplau a gesglir mewn canolfannau profi torfol, unedau profion cymunedol ac unedau profi symudol a phrofion sgrinio cyn llawdriniaeth.

Ni chynhwysir profion llif unffordd antigenau yn y cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir cyfanswm nifer y profion llif ochrol a gynhelir ar drigolion Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) sy’n cyhoeddi dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Cyhoeddir y data hwn yn wythnosol ac mae'n cynnwys trosolwg o ddefnyddwyr y dyfeisiau llif ochrol fesul rhanbarth a grŵp oedran. Os caiff person ganlyniad positif o brawf llif unffordd antigenau mae'n ofynnol iddo gwblhau prawf swab antigenau safonol a fyddai'n cael ei gynnwys yn y data a gyflwynir. Mae’n fwy tebygol y bydd y prawf hwn yn bositif na phrofion eraill yn y data gan ei fod yn cael ei gynnal ar ôl prawf llif unffordd positif ac felly gallai gael effaith gadarnhaol fychan ar gyfradd positifedd y data.

Nid yw profion llif unffordd antigenau wedi'u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn. Tan 6 Ionawr 2022, roedd pobl oedd yn cael canlyniadau positif i brofion llif unffordd antigenau yn cael eu cynghori i drefnu prawf labordy PCR. Mae'r profion PCR hyn yn ymddangos yn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn. Ers 6 Ionawr 2022, nid oes angen i bobl sy’n cael profion llif unffordd positif, ond nad oes ganddynt symptomau Covid-19, gael prawf PCR. Gan fod profion PCR dilynol yn fwy tebygol o fod yn bositif na phrofion PCR eraill, gallai’r newid polisi hwn arwain at ostyngiad yn y gyfradd bositifedd i ddechrau. Am y rheswm hwn ac oherwydd nad yw profion PCR yn cwmpasu pob heintiad, nid yw’r data yn y datganiad hwn a'r tablau cysylltiedig ar y we yn adlewyrchu gwir nifer yr achosion, o reidrwydd.

Caiff y mwyafrif o’r samplau a gesglir mewn canolfannau profi torfol eu prosesu yn labordai GIG Cymru, fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd nifer o’r rhain yn defnyddio labordai heblaw rhai GIG Cymru (a elwir yn labordai goleudy).

Mae sgrinio gweithwyr allweddol a phreswylwyr asymptomatig mewn labordai ategol yn samplau a gesglir fel rhan o raglenni sgrinio gweithwyr allweddol cymunedol, megis profion i breswylwyr asymptomatig mewn cartrefi gofal. Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn gael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach. Wrth i'r strategaeth brofi esblygu, gallai hyn arwain at rywfaint o ailddyrannu profion rhwng categorïau.

Defnyddir y profion gwrthgorff COVID-19 i benderfynu a oes gan berson wrthgyrff p’un ai rhag cael ei heintio â coronafirws o'r blaen neu rhag brechu. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld a oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.

Mae’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cynnwys profion gwrthgyrff a gynhaliwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol at ddibenion diagnostig mewn ysbytai o fis Mawrth 2020 ymlaen, a phrofion gwrthgyrff a gynhaliwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru at ddibenion gwyliadwriaeth grwpiau allweddol sy’n gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol (gan gynnwys gofal cartref) ac addysg o fis Mawrth 2020 i fis Tachwedd 2020.

O fis Tachwedd 2020 i fis Ebrill 2021 cynhaliwyd gwyliadwriaeth o staff gofal cartref drwy brofion cartref. Nid yw’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Y brif ffynhonnell o ddata gwyliadwriaeth gwrthgyrff yw Arolwg Heintiau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r arolwg yn profi sampl ar hap o unigolion 18 oed a hŷn yn barhaus am antigenau a gwrthgyrff COVID-19 er mwyn rhoi darlun o gyffredinrwydd COVID-19 ym mhoblogaeth y DU. Bydd canlyniadau Cymru’n cael eu cyhoeddi bob pythefnos gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Cymru wedi optio i mewn i’r fenter profion gwrthgyrff ôl-gadarnhaol (PPATI) a lansiwyd ym mis Awst 2021. Y prif nodau yw deall sut y mae lefelau gwrthgyrff yn newid yn dilyn haint a beth yw’r gwahaniaeth yn ôl statws brechu, statws heintio blaenorol ac ar gyfer gwahanol amrywiolion. Mae’r fenter yn y camau cynnar ac mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyhoeddi’r canfyddiadau yn y dyfodol.

Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn adlewyrchu ciplun mewn amser a bydd y strategaeth samplu ar y pryd yn yn dylanwadu'n fawr ar hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y tudalennau Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19) ar ein gwefan.

Yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2021 mae’r galw am brofion wedi bod yn cynyddu ledled y DU oherwydd yr amrywiolyn Delta a bydd lefel y samplau y bydd angen eu prosesu yn y labordai yn cynyddu oherwydd hyn. Mae hyn yn debygol o fod wedi cyfrannu at amser gweithredu is nag arfer ar gyfer rhai llwybrau profi dros yr wythnosau diwethaf, gan effeithio ar yr amseroedd gweithredu cyffredinol ar gyfer y porth sefydliadau a phrofion cartref, ond rhoddir blaenoriaeth i brofion y mae angen eu prosesu’n gyflym, felly mae’r rheini wedi aros yn weddol sefydlog.

Yn yr wythnos a ddechreuodd ar 5 Gorffennaf 2021 roedd cyfanswm nifer y profion awdurdodedig drwy lwybr profi’r porth sefydliadau yn ymddangos yn is nag arfer oherwydd oedi wrth brosesu ac felly yn yr wythnos yn dechrau ar 12 Gorffennaf 2021 mae nifer y profion awdurdodedig drwy’r llwybr profi hwn yn cynnwys nifer o brofion na chawsant eu hawdurdodi yn yr wythnos flaenorol sy’n golygu y bydd y ffigurau’n ymddangos yn uwch nag arfer. Yn yr wythnos a ddechreuodd ar 19 Gorffennaf 2021  mae cyfanswm nifer y profion awdurdodedig drwy’r porth sefydliadau wedi dychwelyd i’r lefelau disgwyliedig.

Ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021 mae rhai digwyddiadau prawf peilot i arbrofi gyda chaniatáu i gynulleidfaoedd ddychwelyd i ddigwyddiadau byw yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolion sy’n bresennol gael prawf PCR negatif o fewn y 5 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae profion PCR a gymerwyd gan drigolion Cymru sy'n mynychu naill ai digwyddiad peilot yng Nghymru neu ddigwyddiad peilot yn Lloegr yn cael eu cynnwys yn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Rheoli stoc, sydd angen symud profion rhwng safleoedd, a llai o weithlu yn un o’r labordai mwyaf GIG-Cymru wedi arwain at ostyngiad yn nifer y profion a gwblheir o fewn un diwrnod calendr o ganol mis Awst tan ddechrau mis Medi 2021.

Mae materion wedi'i nodi mewn labordy preifat wedi'i leoli yn Wolverhampton, Lloegr lle mae canlyniadau profion anghywir wedi cael ei gyhoeddi. O ganlyniad, mae nifer o bobl sydd wedi cael ei brofi rhwng 4 a 12 Hydref wedi cael eu cynghori i ail-brofi, a allai effeithio ffigurau ar gyfer labordai Cymru (heblaw’r rhai GIG) a gyflwynwyd am yr wythnosau yn dechrau 11 a 18 Hydref 2021. Amcangyfrifir bod tua 4,000 o brofion sydd wedi cael ei effeithio yng Nghymru, mae fwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021, bu galw cynyddol am brofion ledled y DU a bydd hyn yn cynyddu lefel y samplau y mae angen eu prosesu yn y labordai. Mae hyn yn debygol o fod wedi cyfrannu at amseroedd prosesu is na'r arfer ar gyfer rhai llwybrau profi ar ddechrau mis Ionawr, gyda'r amseroedd prosesu cyffredinol ar gyfer y porth sefydliadau a phrofion cartref yn cael eu heffeithio ond mae profion sy'n gofyn am broses gyflym yn cael eu blaenoriaethu.

Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 27 Chwefror 2022 oni nodir yn wahanol.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi.

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Rhwng yr wythnosau sy'n dechrau ar 14 Medi 2020 a 12 Hydref 2020, yn dilyn newidiadau yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan Labordai nad sy’n rhan o GIG Cymru, roedd problemau o ran dyrannu data profi i wahanol lwybrau. Mae hyn bellach wedi'i ddatrys ac mae ateb parhaol ar waith sy'n cael ei adlewyrchu yn y data o'r wythnos sy'n dechrau ar 19 Hydref 2020. Roedd yr ateb dros dro a ddefnyddiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod yma yn gadarn, felly mae'r data'n gymharol.

Bu gostyngiad yn amseroedd dychwelyd y porth sefydliadau o 27 Gorffennaf 2020 oherwydd materion capasiti wrth i brofion cymunedol gael eu blaenoriaethu. Fe arweiniodd gwelliannau ym mhrosesau labordai at gynnydd yn amseroedd dychwelyd profion cymunedol a chartref ar 16 Tachwedd 2020.

Yn ystod nos Wener 11 Rhagfyr 2020, cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) er mwyn caniatáu i ddiweddariadau hanfodol i wasanaeth gael eu gwneud. Fel y disgwyliwyd, mae hyn wedi effeithio ar lif data profion o’r WLIMS, felly ni chafodd ffigurau dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu diweddaru ddydd Sul 13 Rhagfyr 2020.

Cafodd yr amseroedd dychwelyd eu heffeithio gan y gwaith cynnal a chadw a drefnwyd ymlaen llaw ar system Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) yn yr wythnos a oedd yn dechrau ar 7 Rhagfyr 2020.

Ddydd Llun 14 Rhagfyr 2020, caiff ffigurau eu diweddaru ar gyfer y cyfnod o 1pm ddydd Gwener 11 Rhagfyr 2020 i 9am ddydd Sul 13 Rhagfyr 2020, cyfanswm o 44 o oriau. Fodd bynnag mae llif data profion o System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru wedi cael ei heffeithio yn ystod y cyfnod hwn.

Yn yr wythnos yn dechrau ar 15 Rhagfyr 2020 newidiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ddigwyddedd 7 diwrnod diweddaraf, o 37 awr o oedi rhwng dyddiad casglu’r sampl tan iddo gael ei gynnwys yn y mesur hwn, i 81 awr. Mae'r newid hwn yn caniatáu cynnwys data sy’n fwy cyflawn yn gyson ac yn arwain at ffigur mwy cywir, ac felly rydym hefyd wedi dileu'r pedwar diwrnod diweddaraf o'n data.

O’r wythnos sy’n dechrau 12 Ebrill 2021, symudodd gwyliadwriaeth COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfnod adrodd chwe diwrnod. Golyga hyn na fydd ffigurau dyddiol yn cael eu hadrodd ar ddydd Sadwrn (gan ddechrau dydd Sadwrn 17 Ebrill). Mae data a adroddir ar ddydd Sul felly ar gyfer y cyfnod 24 awr hyd 9am ar y dydd Gwener ac mae’r data a adroddir ar ddydd Llun ar gyfer cyfnod 48 awr hyd 9am ar ddydd Sul. Mae’n debygol y bydd y ffigurau a adroddir ar ddydd Llun tua dwbl y ffigur arferol ar gyfer 24 awr. Nid yw’r newid hwn yn effeithio ar adrodd ar ddata profion yn ddyddiol neu’n wythnosol yn y datganiad hwn lle defnyddir dyddiad y prawf yn hytrach na’r dyddiad adrodd.

Perthnasedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:

  • deall effaith pandemig COVID-19
  • cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
  • cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y llwybr profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf:

  • mae angen i brofion cartref gael eu postio a’u cludo i’r labordy
  • gellir cynnal profion sgrinio mewn lleoliadau megis cartrefi gofal mewn sypiau o brofion ar gyfer gwahanol shifftiau staff cyn dychwelyd y profion i’r cludwr

Gall y dulliau hyn effeithio ar amser dychwelyd y prawf.

Caiff profion sgrinio cartrefi gofal a brosesir gan labordai GIG Cymru eu cynnwys yn y ffigurau sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig drwy labordai ategol.

Profion ategol yn bennaf yw’r profion a gynhelir fel rhan o’r rhaglen i sgrinio gweithwyr allweddol a phreswylwyr asymptomatig ac a awdurdodir yn labordai GIG Cymru. Fodd bynnag, gallai cyfran fach ohonynt fod yn brofion a gynhelir ar weithwyr allweddol wyneb yn wyneb mewn safleoedd profi. Profion ategol yw pan gaiff sampl ei gasglu mewn lleoliad gwahanol i’r ganolfan brofi, er enghraifft cartref gofal. Ar ôl i’r sampl gael ei gymryd, caiff ei ddanfon gan gludwr i labordy i'w brosesu. Gall cartrefi gofal gynnal sypiau o brofion ar gyfer gwahanol sifftiau staff cyn i'r cludwr ddychwelyd y profion. Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf ac mae nifer mawr o brofion sydd yn y categorïau hyn yn rhai o gartrefi gofal.

Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn gael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach.

Cywirdeb

Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).

Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys cael gwared ar achosion positif dyblygu cyn eu cyhoeddi ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol. Mae'r data wythnosol yn y datganiad hwn yn adolygu'r 13 wythnos ddiweddaraf, ni roddir unrhyw ddiwygiadau cyn y cyfnod hwn.

Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data (dyddiol) gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf. Ar gyfer data wythnosol defnyddiwyd y dyddiad awdurdodedig.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae tablau StatsCymru yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae’r data profi wythnosol ar gyfer Lloegr: Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar gyfer GOV.UK

Cymru: Dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru

Alban: Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar gyfer GOV.SCOT

Gogledd Iwerddon: Coronafeirws (COVID-19): Diweddariadau Dangosfwrdd Dyddiol ar gyfer Iechyd Gogledd Iwerddon

Mae’r data ar gyfer Lloegr a chymhariaeth o’r pedair gwlad ar gael ar ddangosfwrdd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r math o brawf antigen (swab) a brosesir yn wahanol rhwng labordai yng Nghymru a labordai yn Lloegr. Mae'r math o brawf a brosesir drwy labordai yng Nghymru yn cynnwys 'un swab sych' sy'n cael ei gymryd o gefn y gwddf. Mae'r math o brawf o brosesir drwy labordai yn Lloegr yn cynnwys casglu samplau 'dau swab gwlyb' sy'n cael eu cymryd o'r trwyn a'r gwddf.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Y diweddariad nesaf

Dydd Mercher 9 Mawrth 2022

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn ystyried cyhoeddi datganiadau ystadegol COVID-19 yn llai aml, gan gynnwys y datganiad hwn. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio’r datganiadau hyn, ac unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud iddynt drwy kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiad am y data, cysylltwch â
Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 69/2022