Diweddariad gwybodaeth reoli ar brofion coronafirws hyd at 24 Hydref 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data o brofion ar gyfer coronafeirws (COVID-19)
Ystadegau ynglŷn â phrofion coronafeirws:
- profion antigenau a awdurdodwyd bob dydd
- nifer yr unigolion a brofwyd (antigenau)
- nifer y profion antigenau i weithwyr hanfodol
- lleoliad y profion antigenau
- amseroldeb y profion antigenau
- profion gwrthgyrff
Mae nhw wedi’u cyhoeddi i roi’r crynodeb wythnosol ynglŷn â phrofion coronafeirws.
Gwybodaeth reoli yw'r data, nid ystadegau swyddogol, ac fe'u hadolygir yn rheolaidd. Mae dangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol gyda'r data diweddaraf, gan gynnwys diwygiadau i'r data a gyhoeddir yma.
Mae ein canllaw Deall data ar brofi coronafirws (COVID-19) yn rhoi esboniad pellach o'r data hyn.
Ni chynhwysir profion llif unffordd antigenau yn y cyhoeddiad hwn. Os caiff person ganlyniad positif o brawf llif unffordd antigenau mae'n ofynnol iddo gwblhau prawf antigenau swab safonol a fyddai'n cael ei gynnwys yn y data a gyflwynir.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.