Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gwybodaeth reoli ar brofion coronafirws hyd at 20 Rhagfyr 2020.

Ystadegau ynglŷn â phrofion coronafeirws:

  • profion antigenau a awdurdodwyd bob dydd
  • nifer yr unigolion a brofwyd (antigenau)
  • nifer y profion antigenau i weithwyr hanfodol
  • lleoliad y profion antigenau
  • amseroldeb y profion antigenau
  • profion gwrthgyrff

Mae nhw wedi’u cyhoeddi i roi’r crynodeb wythnosol ynglŷn â phrofion coronafeirws.

Gwybodaeth reoli yw'r data, nid ystadegau swyddogol, ac fe'u hadolygir yn rheolaidd. Mae dangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol gyda'r data diweddaraf, gan gynnwys diwygiadau i'r data a gyhoeddir yma.

Mae ein canllaw Deall data ar brofi coronafirws (COVID-19) yn rhoi esboniad pellach o'r data hyn.

Ni chynhwysir profion llif unffordd antigenau (megis y rhai sy'n cael eu defnyddio yn y canolfannau profi torfol ym Merthyr Tudful) yn y cyhoeddiad hwn. Os caiff person ganlyniad positif o brawf llif unffordd antigenau mae'n ofynnol iddo gwblhau prawf antigenau swab safonol a fyddai'n cael ei gynnwys yn y data a gyflwynir.

Sylwch na fydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru ar 30 Rhagfyr 2020. Bydd y diweddariad nesaf, ar gyfer yr wythnos sy’n dod i ben 3 Ionawr 2021, yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 6 Ionawr 2021. Bydd data ar gyfer yr wythnos sy’n dod i ben ddydd Sul 27 Rhagfyr 2020 yn cael eu cynnwys yn y tablau cysylltiedig a gyhoeddir gyda’r datganiad ar 6 Ionawr 2021.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Data o brofion ar gyfer coronafeirws (COVID-19): hyd at 20 Rhagfyr 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 575 KB

ODS
575 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.