Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd a luniwyd mewn ardaloedd sy’n treialu’r cyflymder 20mya diofyn newydd wedi dangos cyflymder gyrru arafach, lefelau uwch o gerdded a chyn lleied â phosibl o effaith ar amseroedd teithio, ymhlith eraill.
Mae’r adroddiad monitro interim yn defnyddio data a gasglwyd o’r wyth ardal a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf rhaglen 20mya Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 17 Mawrth) – chwe mis yn union cyn i’r terfyn diofyn ddod i rym ar draws Cymru.
Mae’r adroddiad monitro interim yn defnyddio data a gasglwyd o’r wyth ardal a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf rhaglen 20mya Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 17 Mawrth) – chwe mis yn union cyn i’r terfyn diofyn ddod i rym ar draws Cymru.
Ar 17 Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru.
Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi'u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle y mae lefel uchel o gerddwyr.
Bydd hyn yn golygu mai Cymru fydd cenedl gyntaf y DU i gyflwyno terfyn cyflymder is gan ddilyn ôl troed gwledydd Ewrop fel Sbaen lle mae 30km/h (18.5mya) eisoes ar waith.
Mae tystiolaeth yn dangos y bydd lleihau’r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya yn arwain at sawl mantais, gan gynnwys lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a’r anafiadau difrifol, mwy o bobl yn cerdded a beicio, ac iechyd a llesiant gwell.
Yn ôl yr adroddiad, mae gyrwyr ar gyfartaledd eisoes yn gyrru’n arafach yn ardaloedd y cam cyntaf gyda gostyngiad cyfartalog o 3mya wedi’i gofnodi ar draws yr wyth cymuned. Fe welwyd newid sylweddol mewn ymddygiad yn Sant-y-brid a Llandudoch (dwy o'r ardaloedd a ddewiswyd ar gyfer y cam cyntaf) lle mae nifer y bobl sy'n gyrru ar gyflymder o 24mya neu is wedi cynyddu o 23% i 45% ac o 54% i 84% yn y drefn honno.
Mae canfyddiadau o ardaloedd eraill yn y DU lle cyflwynwyd terfyn o 20mya yn dangos bod hyd yn oed gostyngiadau bach mewn cyflymderau cyfartalog ar draws rhwydwaith ffyrdd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yn gallu arwain at ostyngiadau sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol, gan helpu i wneud cymunedau'n fwy diogel.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd fod mwy o blant wedi bod yn cerdded, beicio, ac yn mynd ar sgwter i'r ysgol mewn ardaloedd lle cafodd 20mya ei gyflwyno.
Gan ddefnyddio data her cerdded i’r ysgol WOW gan Living Streets, nodwyd bod ysgolion mewn ardaloedd 20mya wedi gweld mwy o gynnydd mewn teithio llesol (49% i 74%), o'i gymharu ag ysgolion yn bennaf mewn ardaloedd 30mya (49% i 67%).
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth:
Mae'r data diweddaraf eisoes yn dangos y manteision y gallwn ddisgwyl eu gweld ledled Cymru diolch i'r cam beiddgar y byddwn yn ei gymryd i ostwng y terfynau cyflymder diofyn yn ddiweddarach eleni.
Gall penderfyniadau fel hyn fod yn amhoblogaidd ac rydym yn gwybod nad yw newid byth yn hawdd, fodd bynnag, mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir – mae lleihau terfynau cyflymder yn achub bywydau.
Rydym wedi gwneud cynnydd o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd dros y 21 mlynedd ers datganoli, ond mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau bod y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt yn fwy diogel.
Rhaid mai’r ffordd ymlaen yw gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ar ein ffyrdd preswyl a’r ffyrdd prysur eraill yn ein trefi lle y mae pobl yn cerdded.
Ychwanegodd Joshua James, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Living Streets Cymru:
Bydd cyflwyno 20mya fel y cyflymder diofyn ar ein strydoedd yn gwella’r mannau hynny lle rydyn ni'n byw, gweithio ac yn mynd i'r ysgol - a bydd hefyd yn achub bywydau.
Rydym yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein strydoedd a'n palmentydd yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb yn ein cymunedau, fel bod mwy o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i gerdded neu feicio."
Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i helpu cymunedau i baratoi ar gyfer y newid i 20mya wedi cael ei lansio heddiw.