Data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant: asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Asesiad o sut mae'r defnydd o ddata a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwella a'r Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn effeithio ar hawliau plant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion polisi
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein canllawiau statudol ar ddysgu 14 i 16 oed o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau hyn yn mynegi ein bwriad i ofynion gwybodaeth a threfniadau adrodd gyd-fynd ag egwyddorion a nodau'r Hawl i Ddysgu ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed (yr Hawl i Ddysgu 14 i 16). Gwnaethom ymrwymo i ymgynghori ar y cynigion hyn ynghylch gwybodaeth, gan roi cyfeiriad clir o ran ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio a chyhoeddi data perthnasol ar lefel ysgol.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu rhestr o Egwyddorion yr Ecosystem Wybodaeth sy'n sail i'n dull o ddefnyddio data a gwybodaeth fel rhan o 'ecosystem wybodaeth' gyffredinol a Fframwaith Dangosyddion Hawl i Ddysgu 14 i 16 ar ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwella.
Mae'r egwyddorion a’r fframwaith arfaethedig yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer defnyddio data ac fe'u cynlluniwyd i helpu i feithrin defnydd priodol a chymesur o ddata ar draws y system ysgolion, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig a ble y gall fod yn effeithiol wrth ysgogi gwelliannau i'n dysgwyr, cefnogi ein diwygiadau addysg ac alinio ag ethos Cwricwlwm i Gymru a'n Fframwaith Gwella Cenedlaethol ategol.
Mae’r Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn gofyn am gynnig cwricwlwm ym mlynyddoedd 10 ac 11 sy’n rhoi proffil eang a chytbwys o ran dysgu a phrofiadau i ddysgwyr, ac sydd wedi’i gynllunio gan gyfeirio at bedair elfen yr Hawl i Ddysgu 14 i 16:
- Cymwysterau sy'n gysylltiedig â llythrennedd a rhifedd.
- Cymwysterau i annog ehangder.
- Dysgu a phrofiadau ehangach ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
- Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16.
Mae'r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 yn nodi y dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos a chyfleu'r hyn y mae wedi'i ddysgu, ei gynnydd a'i gyflawniadau ym mhob un o bedair elfen yr hawl i ddysgu erbyn iddo gwblhau addysg orfodol yn 16 oed.
Mae ein Fframwaith Dangosyddion arfaethedig wedi'i gynllunio i gyd-fynd yn llawn â'r Hawl i Ddysgwyr 14 i 16. Mae'n cynnwys cymysgedd o drefniadau adrodd a disgwyliadau ar gyfer sicrhau bod data a gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd gan bob ysgol uwchradd, gan gwmpasu pob un o'r 4 elfen.
Yn gryno, mae'r Fframwaith yn:
- amlinellu pa ddata a gwybodaeth rydym yn disgwyl eu cyhoeddi'n weithredol ac yn rheolaidd ar lefel yr ysgol
- dangos ein bwriad mewn perthynas â'r defnydd o’r data ar lefelau eraill y system a gosod y disgwyliadau i bartneriaid o ran defnyddio'r data hyn
- cadarnhau cynlluniau i barhau i adrodd ar setiau data mwy cynhwysfawr ar gyfer ysgolion a chynulleidfaoedd o fewn awdurdodau lleol (ALl), fel y bydd modd iddynt eu harchwilio ymhellach er mwyn eu helpu i hunanwerthuso
- amlinellu disgwyliadau i ysgolion ac ALlau ddefnyddio data a gwybodaeth y byddwn yn adrodd arnynt ar y cyd â data a gwybodaeth a ddelir yn lleol ar gyfer eu dysgwyr a chyd-destun eu hysgolion
- ymrwymo i ystyried sut i sicrhau y caiff dysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol eu cynnwys yn ein trefniadau adrodd hefyd
Yn y Fframwaith ceir cymysgedd o wybodaeth sy'n berthnasol i bob un o'r pedair elfen hawl i ddysgu 14 i 16. Mae hyn yn cynnwys data ar gymwysterau, mathau eraill o ddata meintiol (e.e. presenoldeb) ac agweddau ansoddol ar yr hawl i ddysgu 14 i 16. Mae'n nodi'r disgwyliadau ar ysgolion i ddarparu gwybodaeth sydd eisoes yn ofynnol mewn llawer o achosion ac sydd eisoes yn bodoli yn sgil y canllawiau cyfredol.
Byddwn yn cyflwyno'r wybodaeth ar lwyfan cyhoeddus, ar gyfer pob ysgol uwchradd ac ysgol ganol, wedi'i rhannu rhwng pedair elfen yr Hawl i Ddysgu 14 i 16. Bydd hyn yn rhan o gasgliad ehangach o wybodaeth a fydd ar gael am bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio Fy Ysgol Leol er mwyn galluogi'r cyhoedd i weld data a gwybodaeth am bob ysgol.
Gan ddechrau ym mis Medi 2025, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr Blwyddyn 10 fel rhan o’r cynllun i’w gyflwyno’n raddol, ac erbyn mis Medi 2026, bydd yn cael ei weithredu'n llawn ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11. Disgwylir i'n cynigion fod ar waith mewn ysgolion uwchradd o Haf 2027 ymlaen, yn barod ar gyfer dyfarniad cyntaf ton 1 y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig eraill.
Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, dilynwyd tystiolaeth fel yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ecosystem ddata a gwybodaeth newydd. Roedd hynny'n cynnwys ymgynghori helaeth ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn ogystal ag arweinwyr polisi mewnol.
Mae'r cynigion hefyd yn ceisio ategu polisïau a ffrydiau gwaith allweddol eraill sydd eisoes wedi defnyddio ystod eang o dystiolaeth ac ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid e.e. y Cwricwlwm i Gymru, y Fframwaith Gwella Cenedlaethol a'r hawl i ddysgwyr 14 i 16.
Byddwn hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion penodol hyn, a fydd yn gyfle i ddysgwyr weld a gwneud sylwadau ar ein Hegwyddorion Ecosystem Gwybodaeth a'n Fframwaith Dangosyddion. Byddwn yn cyhoeddi dau fersiwn o'r ymgynghoriad, prif fersiwn i'r rhanddeiliaid yn y system addysg a fersiwn symlach a fydd yn cael ei symleiddio ar gyfer ei gynulleidfa darged o ddysgwyr ifanc. Rydym yn gweithio gyda'n tîm Cyfathrebu i sicrhau bod yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu i'n cynulleidfa darged, gan gynnwys pobl ifanc, trwy ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol sefydledig.
Drafft yw’r Asesiad Effaith hwn, ac os bydd unrhyw faterion eraill sydd heb eu hadnabod yn codi o'r ymgynghoriad, bydd yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn.
Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o'n hanes o hyrwyddo hawliau plant a gweithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Ein huchelgais yw sicrhau bod hawliau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael eu hyrwyddo a'u parchu er mwyn eu galluogi i wireddu eu potensial.
Fel y diffinnir yn glir gan yr Egwyddorion Ecosystem Gwybodaeth arfaethedig y mae'r Fframwaith.
Dangosyddion arfaethedig yn seiliedig arnynt, mae'r cynigion yn ceisio sicrhau dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, un lle mae anghenion, cynnydd a lles y dysgwyr yn llywio pob penderfyniad. Mae'r cynigion yn cyd-fynd yn agos â'n Canllawiau Dysgu 14 i 16 statudol, sy’n helpu ymarferwyr i gynllunio, gweithredu ac adolygu cwricwlwm cynhwysol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 fel rhan o'r cwricwlwm 3 i 16, gyda'r holl ddysgwyr yn symud ymlaen ac yn datblygu mewn ffyrdd a ddisgrifir gan bedwar diben y cwricwlwm, cefnogi dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau, yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith, yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd, ac yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae'r cynigion yn amlinellu set gytbwys o ddata a gwybodaeth sydd i'w chyhoeddi ar draws pedair elfen y Fframwaith Dangosyddion i helpu i gefnogi dealltwriaeth gynhwysfawr o ehangder, dyfnder, lefel a graddfa'r dysgu mewn ysgolion ac ar draws gwahanol grwpiau o ddysgwyr, i ysgogi gwelliannau wrth geisio cyflawni'r nodau uchod.
Felly disgwylir i'r dull gael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc, y rhai 14 i 16 oed yn benodol, trwy wella'r ffordd y defnyddir data a gwybodaeth i ysgogi gwelliannau mewn addysgu a dysgu, er budd gorau dysgwyr. Mae hyn yn golygu y bydd amgylchedd yn cael ei meithrin lle mae pob dysgwr yn gallu dilyn llwybr sy'n addas ar ei gyfer, gydag ysgolion yn eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf.
Bydd cynlluniau sy’n cael eu hamlinellu o fewn y Fframwaith Dangosyddion, i barhau i adrodd ar setiau data mwy cynhwysfawr ar gyfer ysgolion a chynulleidfaoedd o fewn awdurdodau lleol, yn helpu i gefnogi dealltwriaeth gynhwysfawr o ehangder, dyfnder, lefel a graddfa'r dysgu mewn ysgolion ac ar draws gwahanol grwpiau o ddysgwyr, er enghraifft, gwrywaidd a benywaidd, y rhai sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (fel y dangosydd procsi cydnabyddedig ar hyn o bryd ar gyfer amddifadedd), Anghenion Dysgu Ychwanegol, dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Swyddfa'r Comisiynydd Plant wrth ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau y rhoddwyd sylw dyledus i CCUHP. Mae'r cynigion yn cefnogi hawliau plant drwy sicrhau bod gwybodaeth eang a chytbwys ar gael mewn perthynas â'r dysgu a'r profiadau sydd ar gael i bob dysgwr Blwyddyn 10 ac 11 fel rhan annatod o arlwy Cwricwlwm ysgol.
O dan Erthygl 2:
Mae'r Confensiwn yn berthnasol i bawb beth bynnag fo'u hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag y maen nhw'n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono. Ein bwriad yw sicrhau bod ddata a gwybodaeth yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n cefnogi’r ymdrechion i wneud y gorau i'n holl ddysgwyr o fewn y system ysgolion.
O dan Erthygl 12:
Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ein proses ymgynghori lle bydd cyfle i bobl ifanc rannu eu barn ar y cynigion.
Sut mae'r cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y nodir gan erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol
Erthygl 2
Mae'r Confensiwn yn berthnasol i bawb beth bynnag fo'u hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag y maen nhw'n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.
Yn gwella hawliau plant: Mae'r cynigion yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer defnyddio data a gofynion penodol. Nod y rhain yw grymuso addysgwyr i gefnogi dysgwyr yn well, gan helpu i feithrin defnydd priodol a chymesur o ddata ar draws y system ysgolion, a gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig a lle y gall fod yn effeithiol wrth ysgogi gwelliannau i'n dysgwyr.
Mae cyd-destun yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn yr egwyddorion a'r gofynion a amlinellir yn y Fframwaith.
Erthygl 12
Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried.
Yn gwella hawliau plant: cafodd plant a phobl ifanc eu cynnwys yn y gwaith ymgysylltu a wnaed fel rhan o'r ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gynharach ar ddatblygu ecosystem ddata a gwybodaeth newydd. Gwnaed hyn drwy gynnal grwpiau ffocws gyda dysgwyr oedran cynradd (7 i 12) ac oedran uwchradd (12 i 16). Byddant hefyd yn cael cyfle i roi eu barn ar y cynigion hyn fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ar y gweill ar y Fframwaith Dangosyddion a’r egwyddorion sylfaenol.
Erthygl 13
Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth a'r hawl i rannu'r wybodaeth honno cyn belled nad yw'r wybodaeth yn niweidiol iddynt hwy nac i eraill.
Yn gwella hawliau plant: mae'r fframwaith yn cynnwys cynigion i wella tryloywder drwy lunio darlun mwy ystyrlon a chynhwysfawr o ddarpariaeth ysgolion, a hynny mewn ffordd fwy hygyrch. Bydd hyn ar gael i'r cyhoedd, gan ganiatáu i ddysgwyr ganfod rhagor o wybodaeth am eu hysgol. Bydd mesurau diogelu ar waith i sicrhau na fydd modd adnabod dysgwyr drwy gyhoeddi unrhyw ddata sy'n gysylltiedig â'n cynigion. Bydd eitemau data yn cael eu dal yn ôl os ydyn nhw'n datgelu gwybodaeth.
Erthygl 16
Mae gan blant yr hawl i breifatrwydd. Dylai'r gyfraith eu hamddiffyn rhag ymosodiadau yn erbyn eu ffordd o fyw, eu henw da, eu teuluoedd a’u cartrefi.
Bydd mesurau diogelu ar waith i sicrhau na fydd modd adnabod dysgwyr drwy gyhoeddi unrhyw ddata sy'n gysylltiedig â'n cynigion. Bydd eitemau data yn cael eu dal yn ôl os ydyn nhw'n datgelu gwybodaeth.