Data a ddefnyddir gan Awdurdod Cyllid Cymru wrth adrodd ar berfformiad o 2021 hyd 2022
Mesurau perfformiad Awdurdod Cyllid Cymru. Yn darparu tryloywder ar gyfer y data sylfaenol yn yr adroddiad ar berfformiad yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2021-22 ar 26 Gorffennaf 2022, gan gynnwys adran sy'n ymdrin â pherfformiad y sefydliad dros y flwyddyn (yr 'adroddiad ar berfformiad'). Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu darlun ystadegol o'r data a ddefnyddir yn y ddogfen honno, a sicrhau bod y setiau data sylfaenol yn gwbl hygyrch ar gyfer cyfeirio neu ddadansoddi pellach.
Defnyddir sawl siart yn yr adroddiad hwn, sy'n cyflwyno pob un o'r gwahanol ddangosydxion perfformiad ar gyfer ACC ar gyfer y cyfnod 2021-22. Mae pob un wedi'i gynnwys rywle yn yr adroddiad ar berfformiad, a chyfeirir ato’n unol â hynny, er nad yn yr un drefn o reidrwydd.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad byr o bob mesur, ac efallai y bydd y darllenydd am ei ystyried ar y cyd â'r naratif manylach yn yr adroddiad ar berfformiad, sydd wedi’i osod yng nghyd-destun dull ac amcanion y sefydliad. Lle bo'n berthnasol, ychwanegir llyfrnodau i rannau perthnasol yr adroddiad blynyddol o dan bob siart.
Sylwer bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiad isod yn berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT), er pan fo hefyd yn berthnasol cynnwys data'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), mae’r data hynny hefyd wedi'u cynnwys yn y mesur. Er enghraifft, nid yw'n bosibl cyflwyno ffurflen TGT ar bapur, ac felly nid yw ffurflenni TGT wedi'u cynnwys yn siart 1. Fodd bynnag, gellir gwneud taliadau TGT drwy siec, felly cynhwysir taliadau TGT yn siart 2.
Data
Mae’r siart hwn yn nodi'r cyd-destun y dylid ystyried y mesurau perfformiad yn ei erbyn. Mae'n dangos sut mae nifer y trafodiadau TTT a dderbyniwyd ym mhob mis wedi newid yn ystod 2021-22, gan gymharu hyn â'r data tebyg ar gyfer 2020-21.
Mae'r siart yn dangos effaith y coronafeirws (COVID-19) ar ddechrau 2020-21, gydag adferiad tua diwedd y flwyddyn honno, a barhaodd wedyn yn 2021-22. Cyrhaeddodd nifer y trafodiadau uchafbwynt ym mis Mehefin 2021, wrth i'r gostyngiad dros dro yn y Dreth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 2020, ddod i ben, gyda rhai trafodiadau yn cael eu dwyn ymlaen i fanteisio ar y dreth ostyngol. Yna gostyngodd y niferoedd i tua 6,000 y mis (ond lefelau hanesyddol uchel o hyd) yn ystod rhan olaf 2021, cyn sefydlogi yn ôl i lefelau mwy nodweddiadol yn hanesyddol ar ddechrau 2022
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 98-100% o ran derbyn ffurflenni TTT yn electronig. At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 0-2% ar gyfer canran y ffurflenni treth a dderbynnir ar bapur. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.
Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur yn gyson o fewn yr ystod darged yn ystod 2020-21 a 2021-22, ac yn is na 1% ym Mawrth 2022.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 90-95% o ran derbyn taliadau'n electronig, ac mae hyn yn cynnwys TTT a TGT. At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 5-10% ar gyfer canran y taliadau a dderbynnir drwy siec. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.
Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y taliadau a dderbyniwyd drwy siec wedi aros yn gyson isel ac mewn gwirionedd ymhell islaw'r ystod darged yn ystod 2020-21 a 2021-22. Mae'r newid hwn tuag at daliadau electronig wedi bod yn rhan o'r ymateb i'r heriau a achoswyd gan goronafeirws (COVID-19).
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 90-95% o ran prosesu ei drafodiadau’n awtomatig. Mae hyn yn cynnwys derbyn trafodiadau digidol a pharu’n awtomatig daliadau a dderbynnir ar gyfer unrhyw drafodiadau lle mae atebolrwydd ariannol ac mae’n cynnwys TTT a TGT.
Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig wedi cynyddu ac wedi cyrraedd pen uchaf yr ystod darged erbyn diwedd 2021-22, gan barhau â'r gyfradd uchel a oedd hefyd yn amlwg yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan y duedd tuag at daliadau electronig a welir yn siart 3.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 98-100% o ran derbyn ffurflenni TTT yn brydlon, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym fel y nodir yn y ddeddfwriaeth.
At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 0-2% ar gyfer canran y ffurflenni a dderbynnir y tu hwnt i 30 diwrnod o’r dyddiad dod i rym. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.
Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd y tu hwnt i 30 diwrnod o’r dyddiad dod i rym wedi’i leihau’n llwyddiannus dros 2021-22, gan barhau â’r adferiad yn y mesur a ddechreuodd yn 2020-21. Roedd yr adferiad hwnnw'n dilyn cynnydd cychwynnol yn y mesur yn haf 2020, gan adlewyrchu'r heriau a wynebwyd gan asiantau wrth gyflwyno ffurflenni treth ar amser o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19), sydd bellach wedi'u lliniaru i raddau helaeth.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Ar gyfer pob trafodiad TTT sydd â rhwymedigaeth ariannol nad yw'n cael ei gyflwyno a'i dalu o fewn 30 diwrnod, caiff dyled ei chreu. Nod ACC yw casglu trafodiadau sy'n dod yn ddyled o fewn 30 diwrnod arall ac mae ganddo’r un ystod darged o gasglu 90-95% o'r dyledion hynny o fewn yr amserlen honno. Mae trafodiadau a gyflwynir yn hwyrach na’r 60 diwrnod hyn ar ôl y dyddiad dod i rym yn creu tuedd yn y mesur hwn ac fe'u heithrir o'r cyfrifiad. Yn hytrach, mae ACC yn cadw golwg cyson ar nifer yr achosion hyn gyda'r bwriad o'u cadw'n isel, gyda'r niferoedd sydd ar gael yn y daenlen sy'n cyd-fynd â’r ddogfen hon, yn dangos bod hyn yn wir yn gyffredinol.
Mae'r siart hwn yn dangos bod y trafodiadau o fewn neu'n agos at yr ystod darged ar gyfer y rhan fwyaf o 2021-22, er bod y ganran wedi gostwng ychydig yn is ym mis Gorffennaf 2021 a mis Chwefror 2022. Dylanwadwyd ar y diferion hyn gan oedi dros dro wrth gasglu post, ac yn achos mis Chwefror, roedd rhai materion pellach yn ymwneud â'r cyfnod clo diweddaraf dros Nadolig 2021 ac Ionawr 2022. Yn gyffredinol, serch hynny, effeithiodd y coronafeirws (COVID-19) lai ar y mesur nag a wnaeth yn 2020-21, pan gododd problemau tebyg gan y cyfyngiadau symud, ochr yn ochr â phroblemau pellach gan fod y pandemig yn effeithio ar rai trethdalwyr eu hunain.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Yn gyffredinol, pan fydd trethdalwyr yn prynu prif breswylfa newydd heb iddynt werthu eu prif breswylfa flaenorol ar yr un pryd, mae’n ofynnol iddynt dalu’r gyfradd uwch o TTT preswyl. Mae'r rhai sy'n gwerthu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd fel arfer yn gymwys i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau TTT ar y trafodiad gwreiddiol.
Nod ACC yw talu'r ad-daliadau hyn, a elwir yn ad-daliadau cyfradd uwch mor brydlon â phosibl. Ar hyn o bryd, dim ond yr amser a gymerir i wneud y taliad o'r adeg y cymeradwyir yr ad-daliad y mae'n bosibl ei fesur, er bod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn mesur hyn o'r adeg y daw’r cais i law. Mae hynny'n rhoi adlewyrchiad tecach o'r gwir amser a gymerir i dderbyn ad-daliad o safbwynt y trethdalwr.
Mae'r ddau siart 7a a 7b yn dangos sut mae'r amser a gymerir i dderbyn ad-daliadau cyfraddau uwch wedi newid dros amser a chyfran yr holl ad-daliadau a delir o fewn 30 diwrnod. Mae'r ddau siart yn defnyddio'r mis cymeradwyo fel y pwynt lle mae data'n cael eu hagregu, sef y pwynt cynharaf yn y broses ar hyn o bryd lle gellir mesur yn gyson ar gyfer pob blwyddyn a gwmpesir yn y siartiau. Ymhen amser, efallai y byddai'n well seilio'r siartiau hyn ar fis y cais gwreiddiol, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno maes o law.
Mae Siart 7a yn dangos bod yr amser cyfartalog a gymerwyd i brosesu ad-daliadau cyfraddau uwch (wedi'i fesur o'r adeg y gwnaed y cais) wedi gostwng o lefel uchel ar ddiwedd 2020-21, gan gyrraedd lefel isel gychwynnol o 8 diwrnod ym mis Mehefin 2021, ac ers sefydlogi rhwng 7 a 14 diwrnod. Roedd y lefel uchel ar ddiwedd 2020-21 yn adlewyrchu heriau o ran adnoddau o fewn y rhan berthnasol o ACC, a chyflawnwyd y gostyngiad a'r sefydlogi dilynol drwy wella prosesau ac ad-drefnu adnoddau staff gyda mwy o fanylion yn yr adroddiad blynyddol.
Dangosir yr effaith ar gyfran yr ad-daliadau yr ymdrinnir â hwy o fewn 30 diwrnod yn siart 7b. Adlewyrchir y lefelau isel yn yr amser cyfartalog i brosesu ad-daliadau gan gysondeb yn y mesur hwn yn ystod 2021-22.
Mae'r siartiau hefyd yn dangos y data ar y sail flaenorol (o'r pwynt cymeradwyo), newidiadau sydd i raddau helaeth yn olrhain newidiadau yn nifer yr ad-daliadau mewn unrhyw fis penodol, gyda'r niferoedd yn naturiol yn dylanwadu ar y prosesau ariannol.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Gall ACC wneud dadansoddiad manwl o'r data a gynhwysir ym mhob trafodiad a dderbynnir er mwyn gwirio a yw’n cynnwys amrywiol nodweddion a allai awgrymu bod gwallau cyffredin neu risgiau yn y wybodaeth a ddarperir. Yna caiff pob un o'r 'risgiau treth' hynny eu dadansoddi ar wahân er mwyn nodi nifer y trafodiadau a’r risgiau treth, fel y gellir olrhain hyn dros amser. Mae'r adroddiad ar berfformiad yn egluro mwy am ddull ACC o reoli risgiau treth.
Yn ystod 2021-22, canolbwyntiwyd ar sawl maes risg treth. Rydym wedi adrodd ar y 5 prif risg treth a nodwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Dangosir y setiau data unigol ar gyfer pob un ohonynt yn siartiau 9-13 isod, tra bod y siart hon yn dangos cydgrynhoad o’r data ar gyfer y 5 maes risg treth hwnnw hyd at a chan gynnwys data ar gyfer 2021-22.
Yn dilyn gostyngiad cyffredinol yn nifer y trafodiadau sy’n disgyn i’r 5 risg treth hyn ac a ddangosir gan y llinell (echelin chwith) yn ystod 2019-20, cynyddodd y niferoedd wedyn yn ystod 2020-21, cyn lefelu ar gyfer y rhan fwyaf o 2021-22, ond gyda chynnydd unwaith eto yn chwarter olaf 2021-22. Newidiodd gwerth cysylltiedig y risg dreth yn y trafodiadau hynny a ddangosir gan y bariau (echelin dde) yn gyflymach na nifer y trafodiadau, yn bennaf oherwydd cynnydd diweddar yng ngwerth y trafodiadau.
Mae rhai, ond nid pob un, o'r newidiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn deillio o effaith y coronafeirws (COVID-19) a'r adferiad dilynol mewn trafodiadau, gan awgrymu cynnydd yn y risgiau treth amrywiol. Rhoddir mwy o eglurhad am y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.
Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.
Mae data 4 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde).
Yn dilyn gostyngiad parhaus yn 2019-20, lliniarwyd y risg gyffredinol. Fodd bynnag, mae rhywfaint o weithgarwch gweddilliol a ddechreuwyd yn 2020-21, y gellir ei briodoli i fath penodol o drafodiad bellach yn cael ei ddangos ar wahân yn siart 9a. Gellir gweld bod y risg hon yn fach iawn ar y cyfan yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda nifer cyson o drafodiadau yn 2021-22, ychydig yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, ond yn gyffredinol yn llai na'r risgiau eraill a gyflwynwyd yma.
Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.
Mae data 4 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde).
Bu gostyngiad cyffredinol mewn trafodiadau yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o uchafbwynt cynnar, yn chwarter cyntaf 2020-21. Ers hynny, tyfodd y risg yn bennaf yn unol â nifer cynyddol o drafodiadau wrth i gyfnodau clo’r coronafeirws (COVID-19) leddfu yn rhan olaf 2020-21 ac yna aros yn gymharol sefydlog yn 2021-22. Effeithiwyd ar werth treth mewn perygl gan ychydig o drafodiadau anghynrychioliadol mwy o faint dros y cyfnod a ddangosir ond mae'n olrhain i raddau helaeth nifer y trafodiadau ar gyfer y risg hon.
Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.
Mae data 3 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde).
Roedd nifer y trafodiadau yn wastad ar y cyfan yn 2019-20 tan y gwelwyd gostyngiad yn chwarter olaf a chwarter cyntaf 2020-21. Ers hynny, mae achosion wedi cynyddu eto, yn rhannol (ond nid yn gyfan gwbl) wrth i gyfnodau clo’r coronafeirws (COVID-19) leddfu yn rhan olaf 2020. Yn ystod 2021-22, arhosodd achosion yn weddol sefydlog ar wahân i ostyngiad bach yn chwarter 3. Cododd gwerth y dreth mewn perygl ychydig ar ddechrau 2021-22 ond ers hynny mae wedi gostwng. Er ei fod ychydig yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae'r cyfanswm ar gyfer 2021-22 yn parhau'n gymharol fach o'i gymharu â'r risgiau eraill a gwmpesir yma.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.
Mae data 3 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Dyma'r mwyaf o'r risgiau a gwmpesir yn nhermau nifer y trafodiadau a gwerth cysylltiedig y dreth sydd mewn perygl sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hynny.
Ar ôl cyfnod o leihau niferoedd yn ystod 2019-20 a dechrau 2020-21, bu cynnydd amlwg yn y niferoedd yn ail hanner 2020-21 a 2021-22, yn fwy na'r niferoedd y gellid eu disgwyl wrth i drafodiadau a adenillwyd yn dilyn cyfyngiadau’r coronafeirws (COVID-19) leddfu, gan awgrymu cynnydd yn y risg ei hun. Mae gwerth treth mewn perygl yn dilyn patrwm tebyg, er bod gwerthoedd trafodiadau cynyddol hefyd yn effeithio ar y data, gyda'r ffigur yn chwarter 4 2021-22 yr uchaf a welwyd hyd yma o gryn dipyn.
Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad
Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.
Mae data 3 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde).
Roedd nifer y trafodiadau mewn perygl yn gymharol wastad yn ystod 2019-20 nes y gwelwyd gostyngiad yn gynnar yn 2020-21, yn unol â'r gostyngiad y gellid ei ddisgwyl wrth i'r coronafeirws (COVID-19) gael effaith. Ers i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae'r niferoedd wedi codi, yn fras yn unol â'r cynnydd mewn trafodiadau cyffredinol, er bod y cynnydd yn hanner olaf 2021-22 wedi bod yn fwy serth na'r disgwyl, gan awgrymu cynnydd yn y risg ei hun.
Mae gwerth treth mewn perygl yn dilyn patrwm tebyg, er bod gwerthoedd trafodiadau cynyddol hefyd yn effeithio ar y data, gyda'r ffigurau yn chwarteri 3 a 4 yn 2021-22 yr uchaf a welwyd hyd yma, o gryn dipyn.