Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) ar oedran, rhyw, ethnigrwydd, crefydd ac anabledd ar gyfer 2004 i 2010.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfran y bobl ifanc sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn uwch nag sydd yn y boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol. Yn 2010, roedd tua 41% o denantiaid tai cymdeithasol dan 25 oed (sydd hefyd yn cynnwys plant) o'i gymharu â 31% yn y boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol.
  • Fel yn y boblogaeth cyffredinol mae'r rhaniad rhyw ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yn amrywio gan ddibynnu ar oed gyda chynnydd sylweddol ar y gyfran o fenywod o gymharu â dynion yn y grŵp 70 oed a throsodd, yn ôl pob tebyg oherwydd bod menywod yn gyffredinol yn byw yn hirach na dynion.
  • Yn 2009, roedd 4.1% o'r holl denantiaid tai cymdeithasol yn dod o gefndir du neu leiafrifoedd ethnig (BME), a oedd yr un fath â'r gyfran o fewn y boblogaeth gyffredinol. Mae cyfran y tenantiaid tai cymdeithasol o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn rhwng 2004-2008 gan gyrraedd uchafbwynt o 4.6%, ond ers hynny mae wedi bod yn gostwng ac yn 2010 roedd yn 3.9%.
  • Yn 2010, roedd Cristnogaeth dal yn y grefydd fwyaf cyffredin ymysg tenantiaid tai cymdeithasol, gyda thua 57% o denantiaid yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, mae'r gyfran hon wedi gostwng yn sylweddol ers 2004 pan bod bron 70% o'r holl denantiaid tai cymdeithasol wedi dosbarthu eu hunain fel Cristnogion.
  • Yn 2010, mae cyfran uwch o denantiaid tai cymdeithasol yn anabl (39%) sydd yn uwch o’i gymharu â’r boblogaeth Cymru yn ei gyfanrwydd lle mae 24% yn anabl.

Adroddiadau

Data cydraddoldeb ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, 2010 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 257 KB

PDF
Saesneg yn unig
257 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.