Data cryno am coronafeirws (COVID-19) a'r ymateb iddo: 14 Ionawr 2021
Trosolwg o ystadegau coronafeirws a'r ymateb gan gynnwys y gefnogaeth a ddarparwyd hyd at 13 Ionawr 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cadw pellter cymdeithasol
Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth 2020, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Mae symudedd wedi gostwng ers cyflwyno lefel rhybudd 4, yn enwedig dros wyliau'r Nadolig.
Nid yw’r data ar gyfer y rhan fwyaf o gategorïau ar gael rhwng Awst 16 i Medi 17 2020 gan nad oedd y data ar gael ar gyfer nifer o rannau o Gymru (o dan y trothwy safon).
Ffynhonnell: Adroddiadau Symudedd Cymunedol COVID-19 Google
Data ar: 8 Ionawr 2021
2. Y Gronfa Cymorth Dewisol
Rhwng 18 Mawrth 2020 a 7 Ionawr 2021 gwnaed 136,168 o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng yn ymwneud â COVID-19, gwerth cyfanswm o £8.96 miliwn.
Dechreuwyd cofnodi ar 18 Mawrth 2020. Mae’r rhesymau cysylltiedig â COVID-19 y mae ymgeiswyr yn eu rhoi yn cynnwys:
- gorfod rhoi’r gorau i weithio neu leihau gwaith
- oedi o ran hawlio budd-dal
- costau ynni/bwyd uwch (teulu gartref)
Nifer ddyddiol o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng (MS Excel)
Yn dilyn cyhoeddiad 1 Mai o fwy o gyllid, bydd ceisiadau'n cael eu trin â mwy o ddisgresiwn a hyblygrwydd, wrth ddelio â hawliadau caledi COVID-19. Cefndir pellach i’r Cronfa Cymorth Dewisol.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Data ar: 7 Ionawr 2021
3. Cymorth i fusnesau
Ar 11 Ionawr 2021, mae trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cynnig 56.2 mil o grantiau sef cyfanswm o £186.2 miliwn. Mae hyn yn cynnwys Grantiau Datblygu Busnes a'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Data ar: 12 Ionawr 2021
4. Cronfa Cadernid y Trydydd Sector
Yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian.
Daeth Cam 1 o'r Gronfa Gwytnwch Trydydd Sector i ben ar gyfer ceisiadau newydd yn haf 2020. Ar 13 Ionawr 2021, mae 114 o geisiadau wedi'u cymeradwyo, ac mae £4.85 miliwn wedi'i dalu drwy Gam 1.
Mae Cam 2 o'r Gronfa Gwytnwch Trydydd Sector ar agor ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd. Ar 13 Ionawr 2021, mae 20 cais wedi'u cymeradwyo, ac mae £977.7 mil wedi'i dalu drwy Gam 2.
Ffynhonnell: Gwirfoddoli Cymru
Data ar: 13 Ionawr 2021
5. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cadw pellter cymdeithasol
Mae’r wybodaeth yn cael ei chreu gyda setiau data cyfanredol, dienw oddi wrth ddefnyddwyr sydd wedi galluogi’r gosodiad ar eu dyfeisiau symudol sy’n dangos eu lleoliad. Y gwerth canolrifol yw’r gwaelodlin, ar gyfer y diwrnod cyfatebol o’r wythnos, yn ystod y cyfnod 5 wythnos o 3 Ionawr i 6 Chwefror 2020. Mae’r data yn dangos newidiadau sydd wedi’u dadansoddi yn ôl chwe maes: siopa a hamdden, parciau, archfarchnadoedd a fferyllfeydd, gweithleoedd, preswyl a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r data ar gael ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Defnyddir cyfartaledd o’r rhain i ddod o hyd i ffigur ar gyfer Cymru. Nid yw’r data yn cael eu pwysoli gan ystyried maint pob awdurdod lleol, nid yw’r wybodaeth honno ar gael gan Google, yr un beth sy’n cael ei ddangos yw’r newid cymharol.
Adroddiadau symudedd cymunedol COVID-19
Y Gronfa Cymorth Dewisol
Mae data DAF yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth Northgate Public Services (NPS). Data gweithredol yw'r data a dynnir o'u system TGCh yn ddyddiol. Nid yw'r data'n mynd drwy unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid yw'n cael ei gyhoeddi fel Ystadegyn Cenedlaethol.
Cronfa Cadernid y Trydydd Sector
Mae data Cronfa Ymateb Trydydd Sector yn monitro data a gymerwyd o’r gronfa ddata Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
6. Manylion cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 14/2021