Neidio i'r prif gynnwy

1. Cadw pellter cymdeithasol

Image

Adroddiadau Symudedd Cymunedol COVID-19 Google

Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Yn ystod y pythefnos diwethaf, gwelwyd gostyngiadau mewn symudedd a phobl yn treulio mwy o amser gartref.

2. Parseli bwyd

Daeth y cynllun danfon parseli bwyd i ben ar 16 Awst 2020. Mae'r data terfynol i'w gweld yn adroddiad y mis diwethaf.

3. Y Gronfa Cymorth Dewisol

Rhwng 18 Mawrth a 8 Hydref 2020 gwnaed 85,443 o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng yn ymwneud â COVID-19, gwerth cyfanswm o £5,424,430.

Dechreuwyd cofnodi ar 18 Mawrth 2020. Mae’r rhesymau cysylltiedig â COVID-19 y mae ymgeiswyr yn eu rhoi yn cynnwys:

  • gorfod rhoi’r gorau i weithio neu leihau gwaith
  • oedi o ran hawlio budd-dal
  • costau ynni/bwyd uwch (teulu gartref)
Image
Siart yn dangos sut mae taliadau’r Gronfa Cymorth Dewisol wedi amrywio o ddiwedd mis Mawrth i'r presennol. Syrthiodd taliadau yn gysylltiedig â COVID-19 ym mis Ebrill ond gwelwyd cynnydd mawr ym mis Mehefin, ac maent wedi aros yn sefydlog ers hynny.

Nifer ddyddiol o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng (MS Excel)

Yn dilyn cyhoeddiad 1 Mai 2020 o fwy o gyllid, bydd ceisiadau'n cael eu trin â mwy o ddisgresiwn a hyblygrwydd, wrth ddelio â hawliadau caledi COVID-19. Cefndir pellach i’r Cronfa Cymorth Dewisol (DAF).

Data ar 9 Hydref 2020.

4. Cymorth i fusnesau

Mae’r cynllun grantiau ardrethi annomestig COVID-19 a'r cynllun grantiau busnesau newydd wedi cau i geisiadau. Mae Camau 1 a 2 y Gronfa Cadernid Economaidd hefyd wedi cau i geisiadau. Mae data ynglŷn â’r rhain ar gael yn  adroddiad y mis diwethaf. Bydd ceisiadau ar gyfer Cam 3 y Gronfa yn cychwyn yn yr wythnos sy'n dechrau ar 26 Hydref 2020 a bydd yn agored i geisiadau am bedair wythnos.

5. Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian.

Mae 110 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a £4.69M wedi'i dalu drwy gronfa cadernid y trydydd sector.

Ffynhonnell: Gwirfoddoli Cymru

Data ar 6 Hydref 2020.

6. Manylion cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 172/2020