Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn, Gorffennaf 2014 i Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron ar bob oed wedi cynyddu’n raddol dros amser.

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Mae cyfraddau bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac yn 6 mis wedi codi’r chwarter hwn, ac mae’r gyfradd bwydo ar y fron yn 6 mis yr uchaf ar gofnod.

Adeg genedigaeth, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 64.4%. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, gostyngiad o 1.5 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, ond cynnydd o 6.8 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Medi 2014).

Yn 10 diwrnod, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 57.2%. Mae hyn yn ostyngiad o 0.7 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 1.2 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, a chynnydd o 12.6 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Med 2014).

Yn 6 wythnos, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 44.8%. Mae hyn yn ostyngiad o 0.5 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 3.2 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, a chynnydd o 14.2 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Med 2014).

Yn 6 mis, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 32.6%, sef yr uchaf ar gofnod. Mae hyn yn gynnydd o 0.5 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 3.9 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn ddiwethaf, a chynnydd o 14.2 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data y gellir cymharu â hwy ar gael ar ei gyfer (Gorffennaf i Med 2015).

Noder bod cyfran uchel o ddata coll yn 6 wythnos ac yn 6 mis, ac nid oedd gan 20.9% a 24.9% o’r cofnodion, yn y drefn honno, unrhyw statws o ran bwydo ar y fron ar gyfer y chwarter diweddaraf.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099