Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y datganiad hwn yw cynnig trosolwg ystadegol o fwydo ar y fron yng Nghymru gyda dadansoddiadau o nodweddion y fam. Defnyddir y data a’r dadansoddiadau i lywio datblygiad polisi mamolaeth Llywodraeth Cymru a chynllun gweithredu 5 mlynedd Cymru Gyfan ar fwydo ar y fron. Mae’r datganiad hwn hefyd yn darparu data i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 sy’n nodi y dylai pob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae’r data yn y datganiad hwn wedi tarddu o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) ar fwriad mamau i fwydo ar y fron a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) ar gyfer bwydo ar y fron ar gyfer pob oedran arall.

Cafodd data ategol ar famolaeth a genedigaethau eu cyhoeddi ar 14 Gorffennaf 2022.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfraddau bwydo ar y fron ar eu huchaf erioed, ar bob cam lle cesglir data.
  • Roedd mwy na 6 o bob 10 mam yn bwriadu bwydo ar y fron (64%) ac yn bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth (63%).
  • Roedd ychydig dros hanner y mamau yn bwydo ar y fron ar ôl 10 diwrnod (52%) ac ychydig dros draean ar ôl 6 wythnos (37%).
  • Roedd 28% o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 mis oed ac roedd mwy o gynnydd yn y grŵp oedran hwn nag yn unrhyw grŵp oedran arall o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae data a gesglir am yr oedran hwn wedi’i effeithio gan yr argaeledd cymharol isel (mae data coll yn 30% o’r cofnodion).
  • Gwelir cyfraddau uwch o fwydo ar y fron ymhlith mamau hŷn (30 oed a hŷn) o gymharu â mamau iau.
  • Gwelir cyfraddau uwch o fwydo ar y fron ymhlith mamau a roddodd enedigaeth yn y cartref o gymharu â mamau a roddodd enedigaeth mewn ysbyty.
  • Roedd mamau am y tro cyntaf yn fwy tebygol o fwriadu bwydo ar y fron na mamau a oedd wedi rhoi genedigaeth o'r blaen.
  • Roedd cyfraddau bwydo ar y fron ar eu huchaf ar gyfer babanod o gefndir ethnig du, ar bob cam lle cesglir data.
  • Roedd cyfraddau bwydo ar y fron ar eu hisaf ar gyfer babanod o gefndir ethnig gwyn, ar bob cam lle cesglir data.

Oedran y plentyn

Yr hyn mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ei wneud yw cofnodi bwriad y fam i fwydo ar y fron cyn yr enedigaeth. Gan fod y data yn cyfeirio at y fam, mae’r data a gyflwynir yn cyfeirio at y 27,657 o esgoriadau (mamau a esgorodd) yn 2021, yn hytrach na phlant a anwyd yn 2021.

Caiff data ar gyfer bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth, yn ogystal â data ar gyfer bwydo ar y fron pan fydd y babi’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed, ei gofnodi yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ac mae’n cyfeirio at y cofnodion lle ceir unrhyw sôn am fwydo ar y fron. Mae hyn yn cynnwys babanod a fwydwyd yn gyfan gwbl ar laeth y fron a’r rhai a fwydwyd trwy gyfuniad o laeth y fron a llaeth potel.

Yn achos bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth, mae’r data yn cyfeirio at y 28,879 o enedigaethau byw yn 2021. Yn achos bwydo ar y fron ar adegau eraill, mae’r data’n cyfeirio at y babanod a gyrhaeddodd yr oedran dan sylw yn 2021: 28,621 o fabanod yn cyrraedd 10 diwrnod, 28,295 o fabanod yn cyrraedd 6 wythnos, a 27,945 yn cyrraedd 6 mis. Dim ond cofnodion â statws bwydo ar y fron hysbys sy’n cael eu cofnodi yn y cyfrifiadau.

Image
Mae cyfraddau bwydo ar y fron adeg geni, 10 diwrnod, 6 wythnos, 6 mis, i gyd wedi cynyddu rhwng y blynyddoedd 2014 a 2021.

Statws bwydo ar y fron blynyddol adeg y geni, genedigaethau byw i bobl Cymru ar StatsCymru

Mae cyfraddau bwydo ar y fron ar bob pwynt casglu data yn dangos tuedd gynyddol yn y tymor byr a’r tymor hwy, ac mae’r cyfraddau blynyddol ar gyfer bwydo ar y fron ar eu huchaf erioed yn 2021.

Roedd 64.3% o’r holl famau yn bwriadu bwydo ar y fron cyn rhoi genedigaeth. Mae hyn 0.3 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac 1.7 pwynt canran yn uwch nag yn 2017 (newid pum mlynedd).

Cafodd 63.9% o fabanod eu bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth. Mae hyn 0.4 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3.4 pwynt canran yn uwch nag yn 2017.

Roedd 52.4% o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed. Mae hyn 0.7 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 5.4 pwynt canran yn uwch nag yn 2017.

Roedd 38.6% o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 wythnos oed. Mae hyn 1.2 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3.9 pwynt canran yn uwch nag yn 2017.

Roedd 27.5% o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 6 mis oed. Mae hyn 2.2 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 4.7 pwynt canran yn uwch nag yn 2017.

Mae problemau’n ymwneud ag ansawdd data yn berthnasol i ddata bwydo ar y fron ar yr holl adegau dan sylw, gan nad yw pob un o’r cofnodion yn gyflawn. Yn 2021, roedd canran y cofnodion cyflawn ar bob cam casglu data yn amrywio o 97.7% ar gyfer y bwriad i fwydo ar y fron, i 70.2% yn chwe mis oed. Caiff data ynghylch bwydo ar y fron eu casglu yn ystod yr apwyntiadau a fydd gan y plant gydag ymwelwyr iechyd neu feddygon teulu, a hynny trwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, bydd data ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw.

Yn ogystal â data blynyddol, caiff data chwarterol ynghylch bwydo ar y fron, gyda chanrannau’n nodi cyflawnrwydd y data, eu cyhoeddi ar StatsCymru, yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Fron ac esgoredd

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cofnodi sawl gwaith mae mamau wedi rhoi genedigaeth o’r blaen (esgoredd). Gellir dadansoddi’r wybodaeth hon gyda bwriad y mamau i fwydo ar y fron.

Image
Roedd y bwriad i fwydo ar y fron yn uwch ymhlith mamau am-y-tro-cyntaf nag ymhlith mamau a oedd wedi rhoi genedigaeth o'r blaen.

Bwriad i fwydo ar y fron yn ôl sawl gwaith yr oedd mamau wedi rhoi genedigaeth o'r blaen (esgoredd) ar StatsCymru

Mae canran uwch o famau am-y-tro-cyntaf yn bwriadu bwydo’u babanod ar y fron o gymharu â mamau sydd wedi rhoi genedigaeth o’r blaen.

Yn 2021, roedd 70% o famau am-y-tro-cyntaf (heb esgor) yn bwriadu bwydo ar y fron, o’i gymharu â 63% o famau a oedd wedi rhoi genedigaeth unwaith o’r blaen (cyntafesgorol) yn bwriadu bwydo ar y fron, ac roedd 55% o famau a oedd wedi rhoi genedigaeth fwy nag unwaith (amlesgorol) yn bwriadu bwydo ar y fron.

Mae tuedd gynyddol yn y gyfradd sy’n bwriadu bwydo ar y fron cyn rhoi genedigaeth ar gyfer mamau amlesgorol, ond ychydig o newid a welir yn y categorïau eraill dros y pum mlynedd diwethaf.

Oedran y fam

Image
Yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, mae canran y mamau a fwydodd eu babanod ar y fron adeg yr enedigaeth wedi cynyddu rhwng 2017 a 2021.

Cynyddodd y gyfradd bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth wrth i oedran y fam gynyddu.

Yn 2021, wrth ystyried grwpiau oedran lle digwyddodd mwy na 100 o enedigaethau yn unig, roedd y gyfradd uchaf mewn perthynas â bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth i’w gweld yn y grŵp oedran ’35-39 oed’, lle bwydwyd 73% o fabanod ar y fron o blith y rhai y gwyddys eu statws bwydo ar y fron. Roedd y gyfradd isaf i’w gweld yn y grŵp oedran 16-19 oed, lle bwydwyd 35% o fabanod ar y fron o blith y rhai y gwyddys eu statws bwydo ar y fron.

Yn y rhan fwyaf o’r grwpiau oedran, gwelwyd tuedd gynyddol dros y pum mlynedd ddiwethaf, ond mae’r gyfradd wedi lleihau ar gyfer mamau 16-19 oed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Image
Mae cyfraddau bwydo ar y fron yn gostwng dros amser ymhlith mamau o bob oed.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi ac oedran y fam ar StatsCymru

Mae siart 4 yn dangos y newid mewn cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y baban ac oedran y fam. Mae cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer holl grwpiau oedran y fam yn lleihau gydag oedran y baban, a hynny yn gymharol unffurf.

Lleoliad yr enedigaeth

Image
Ar lefel Cymru, roedd babanod a anwyd yn y cartref yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth o gymharu â babanod a anwyd mewn ysbytai, ond mae canran y ddau wedi cynyddu dros y deg mlynedd.

O blith y cofnodion lle caiff lleoliad yr enedigaeth ei nodi, mae babanod a anwyd yn y cartref wedi bod yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na babanod a anwyd mewn ysbytai.

Yn 2021, ganwyd 935 o fabanod yn y cartref a chafodd 78% ohonynt eu bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth. Mae hyn o gymharu â 27,682 o fabanod a anwyd mewn ysbytai a chafodd 63% ohonynt eu bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth.

Sylwer: yn 2021, cofnodwyd bod 53 o fabanod wedi’u geni ‘yn ystod taith’. Ni chofnodwyd lleoliad yr enedigaeth mewn 64 o achosion.

Caiff data ychwanegol ar fwydo ar y fron eu cyhoeddi ar gyfer babanod a anwyd mewn Unedau Newyddenedigol (eu geni lai na 33 wythnos i mewn i’r feichiogrwydd) yn yr Adroddiad Blynyddol Rhaglen Archwilio Newyddenedigol Genedlaethol (NNAP) 2020, ac mae’n dangos yn 2020, bod 50% o fabanod a anwyd lai na 33 wythnos i mewn i’r feichiogrwydd yn Unedau Newyddenedigol Cymru wedi’u rhyddhau o’r unedau wedi derbyn peth llaeth y fron. Roedd hyn yn is nag yn 2019 pan roedd y gyfradd yn 53%.

Grŵp ethnig

Mae siart 6 yn dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron yn amrywio rhwng grwpiau ethnig. Mae’r bwriad i fwydo ar y fron yn seiliedig ar grŵp ethnig y fam, ond mae bwydo ar y fron ar adegau eraill yn cyfeirio at grŵp ethnig y baban.

Image
Roedd cyfraddau bwydo ar y fron yn uwch ar gyfer mamau o ethnigrwydd du, asiaidd neu gymysg, ac roedd y grwpiau hyn o famau yn bwydo ar y fron am fwy o amser.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi a grŵp ethnig ar StatsCymru

Roedd canran uwch o famau du yn bwriadu bwydo ar y fron, a chanran uwch o fabanod du yn bwydo ar y fron nag unrhyw grŵp ethnig arall, ym mhob cam casglu data.

Roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed yn uwch nag ar adeg yr enedigaeth ar gyfer grwpiau ethnig du, Asiaidd a grwpiau ethnig eraill. Roedd cyfraddau yn lleihau ychydig ar gyfer babanod o ethnigrwydd cymysg neu luosog, ac yn lleihau’n helaeth ar gyfer babanod o ethnigrwydd gwyn.

Ar ôl 10 diwrnod, roedd y lleihad mewn cyfraddau bwydo ar y fron yn 6 wythnos oed ac yn 6 mis oed yn debyg ar gyfer pob grŵp ethnig ac eithrio’r grŵp ethnig du. Mae hyn yn awgrymu bod cyfran uwch o fabanod o gefndir ethnig du yn parhau i gael eu bwydo ar y fron i oedran hŷn na babanod o gefndiroedd ethnig eraill.

Mamau gwyn oedd â’r gyfradd isaf o famau yn bwriadu bwydo ar y fron, ac roedd cyfradd is o fabanod gwyn yn cael eu bwydo ar y fron nag unrhyw grŵp ethnig arall ym mhob cam casglu data.

Nifer y babanod

Image
Roedd mamau babanod unigol yn fwy tebygol o fod yn bwriadu bwydo ar y fron o gymharu â mamau babanod lluosog, ond mae'r ganran ar gyfer y ddau wedi cynyddu ers 2017.

Mae cyfran uwch o famau sy’n rhoi genedigaeth i un baban (64%) yn bwriadu bwydo ar y fron o gymharu â mamau sy’n cael efeillaid neu dripledi (58%).

Mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi bod yn gymharol gyson dros y pum mlynedd ddiwethaf, gydag amrywiadau bychan o flwyddyn i flwyddyn.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae’r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru fel tabl Excel. Mae’r holl dablau Excel wrthi’n cael eu symud i StatsCymru.

Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn, ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Ansawdd eitemau data penodol

Nid oes cofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron ar gyfer yr holl gofnodion set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r data yn llai cyflawn gydag oedran y baban ac yn 2021 roedd fel a ganlyn: 97.7% ar gyfer y bwriad i fwydo ar y fron; 88.7% ar adeg yr enedigaeth; 87.8% yn 10 diwrnod oed; 74.0% yn chwech wythnos oed; a 70.2% yn 6 mis oed.

Mae tabl yn nodi pa mor gyflawn yw’r eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymhellach, gall yr ystadegau yn y datganiad hwn gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 166/2022