Mae nifer y tomenni glo segur yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw ar fapiau rhyngweithiol sy'n dangos lleoliad y 350 sy'n cael eu harchwilio'n amlach.
Cyhoeddir y data ar ôl sefydlu'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo yn dilyn y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020.
Un o amcanion allweddol y tasglu yw llenwi'r bwlch gwybodaeth am domenni glo segur ac, i'r perwyl hwnnw, comisiynwyd yr Awdurdod Glo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i arwain prosiect casglu data.
Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o'r tomenni fesul Awdurdod Lleol gyda'r tomenni oedd angen eu harchwilio'n amlach yn cael eu categoreiddio'n rhai C a D.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
"Hoffwn i ddiolch i'r Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth baratoi'r data i'w gyhoeddi.
Mae nodi, cofnodi a chategoreiddio'r holl domenni glo segur yng Nghymru mewn un gronfa ddata ganolog, nad oedd yn bodoli o'r blaen, wedi golygu ymdrech enfawr.
Ar gyfer y datganiad data hwn, rydym wedi canolbwyntio ar domenni categori C a D, gan fod angen eu harchwilio’n amlach fel y gallwn ni nodi a chynnal unrhyw waith cynnal a chadw pan fo angen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at tua 1,500 o berchnogion tir a thua 600 o feddianwyr eiddo ledled Cymru i'w hysbysu ei bod yn debygol bod tomen lo gyfan neu ran o domen lo segur ar eu tir.
Bydd gwaith cynnal ac arolygu yn parhau yn ôl yr arfer, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £44.4m ychwanegol ar gael i Awdurdodau Lleol i waith allu parhau ar domenni cyhoeddus a phreifat.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu tudalen we bwrpasol ac mae hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio mewn cymunedau yr effeithir arnynt ledled Cymru ac yn cynnal digwyddiadau ar-lein i gefnogi preswylwyr.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Yn ein Rhaglen Lywodraethu, gwnaethon ni hefyd ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy’n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo’n ddiogel nawr ac yn y dyfodol."Bydd ein cynigion yn gwneud hynny drwy osod trefn hirdymor, addas i'r diben o dan arweiniad corff cyhoeddus newydd.
"Gwnaeth y Prif Weinidog gynnwys y Bil Tomenni Glo nas Defnyddir yn ei ddatganiad deddfwriaethol yn haf 2023, ac edrychaf ymlaen at weld datblygiad y Bil pan gaiff ei gyflwyno i'r Senedd y flwyddyn nesaf."