Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â defnyddwyr i gasglu barn ar ba ddata a allai fod o werth i chi, mewn perthynas â’r Gymraeg y tu allan i Gymru, a sut y gallech ei ddefnyddio.

Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein defnyddwyr yn well a sicrhau bod unrhyw ddata a gesglir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn casglu, cadw a defnyddio eich data personol fel rhan o’r arolwg hwn.

Pa ddata sydd gennym ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â person adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd’.

Fel rhan o'r arolwg, efallai y byddwch yn dewis rhannu eich cyfeiriad e-bost a manylion eich sefydliad. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn ein galluogi i ailgysylltu â chi os bydd angen eglurhad arnom ar unrhyw un o'r atebion a roddwyd, a bydd manylion amdanoch chi neu eich sefydliad yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r mathau o ymatebwyr. Mae darparu'r wybodaeth hon yn wirfoddol.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, er enghraifft mewn blychau testun agored, ni fyddwn yn eich adnabod o’r ymatebion a roddwch, nac yn cysylltu eich hunaniaeth â nhw.

Wrth ymateb i’r ymarfer ymgysylltu â defnyddwyr hwn, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych.

Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio’n ddienw ac ni fydd modd ei phriodoli’n gyhoeddus i chi oni bai ein bod yn gofyn am eich caniatâd.

Cesglir ymatebion gan ddefnyddio SmartSurvey. Mae SmartSurvey wedi rhoi sicrwydd eu bod yn bodloni safonau GDPR y DU. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen y polisi preifatrwydd ar SmartSurvey.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich cyfeiriad e-bost, ac unrhyw wybodaeth bersonol a rowch fel rhan o’ch ymateb, am hyd at flwyddyn, a dim ond yn defnyddio’r wybodaeth yma os bydd angen i ni gysylltu â chi er mwyn deall yr ymatebion a ddarparwyd gennych ymhellach neu am gwestiynau dilynol. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw drydydd parti.

Bydd unrhyw wybodaeth nad oes modd eich adnabod ar ei sail (megis crynodeb o'r ymatebion a gynhyrchwyd gan yr holl ymatebwyr) yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol.

Hawliau unigolion

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:

  • i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data ‌(o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Tîm Ystadegau y Gymraeg

Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Email: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)

Churchill House
17 Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

E-bost: wales@ico.org.uk 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Y Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru