Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024
Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ABB) wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB. Serch hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â data arall ar siaradwyr Cymraeg, fel o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r amcangyfrifon o’r cyfrifiad am allu yn y Gymraeg yn parhau i fod yn is na’r amcangyfrifon o arolygon cartrefi fel yr ABB. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ar yr un pryd ag y mae’r ABB yn amcangyfrif bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.
Dylai defnyddwyr nodi bod gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ffynonellau data hyn, gan gynnwys gwahaniaethau yn y modd y cesglir y data, a'u hamseroldeb.
Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith ar y cyd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sydd yn manylu ar waith pellach i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn. Rydym bellach wedi cyhoeddi erthygl ystadegol sy'n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu, sy’n sail i’r ABB. Mae diweddariad am gynnydd y prosiectau eraill a amlinellir yn y cynllun gwaith wedi'i gynnwys isod.
Y prif bwyntiau
Ffigur 1: Nifer y bobl dair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 2001 i fis Mehefin 2024 [Nodyn 1]
Ffynhonnell: ABB (SYG) a chyfrifiad o’r boblogaeth (SYG).
[Nodyn 1] Newidiwyd i gynnal yr arolwg dros y ffôn yn unig ym mis Mawrth 2020. Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu hailgyflwyno yn ystod tymor yr hydref 2023.
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart linell hon yn dangos, yn dilyn gostyngiad rhwng 2001 a 2007, y bu cynnydd cyffredinol ers hynny yn nifer y siaradwyr Cymraeg a amcangyfrifwyd ac a gofnodwyd gan yr ABB. Mae’r niferoedd wedi gostwng dros y flwyddyn ddiweddaraf. Amcangyfrifwyd gan ABB bod 854,400 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2024. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 wedi'u cynnwys ar yr un siart, ac wedi'u labelu, sef 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.
- Yn y flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2024, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 27.8% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Dyma’r ganran isaf i’w chofnodi ers wyth mlynedd. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 854,400 o bobl.
- Mae’r amcangyfrif diweddaraf tua 1.4 pwynt canran yn is na’r flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023 pan amcangyfrifwyd fod 29.2% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r gostyngiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol, ond dylid dehongli’r gostyngiad gyda gofal gan fod newid wedi bod yn y modd y cynhelir yr arolwg rhwng y ddau gyfnod, ac hefyd y penderfyniad i atal statws ystadegau swyddogol achrededig yr Arolwg dros dro o ganlyniad i'r ansicrwydd cynyddol a amlinellwyd uchod. Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19), a chynhaliwyd yr holl gyfweliadau dros y ffôn. Ailgyflwynwyd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb yn ystod tymor yr hydref 2023 sy’n golygu fod y data diweddaraf yn seiliedig ar gyfuniad o gyfweliadau dros y ffôn a wyneb-yn-wyneb. Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod.
- Mae’r siart yn dangos sut y bu niferoedd siaradwyr Cymraeg yn cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Mae’r niferoedd wedi gostwng eto dros y flwyddyn ddiweddaraf. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, dylid trin y gostyngiad diweddar â gofal.
- Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.5%, 239,600) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
- Yng Ngwynedd (93,000), Sir Gaerfyrddin (92,700) a Chaerdydd (80,600) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.
- Ym Mlaenau Gwent (9,500) a Merthyr Tudful (11,700) y mae’r niferoedd isaf.
- Yng Ngwynedd (77.7%) ac Ynys Môn (61.9%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
- Ym Mlaenau Gwent (13.9%) a Rhondda Cynon Taf (15.4%) y mae’r canrannau isaf.
- Adroddodd 14.2% (435,800) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.6% (173,300) yn wythnosol a 6.4% (196,600) yn llai aml. Dywedodd 1.6% (48,200) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.2% yn gallu siarad Cymraeg.
- Dywedodd 32.4% (997,000) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.7% (759,500) ddarllen yn Gymraeg a 22.3% (686,200) ysgrifennu’n Gymraeg.
Nodyn
Mae'r ABB yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y SYG. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y SYG.
Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data’r cyfrifiad o’r boblogaeth.
Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr ABB yn hir-sefydlog, ac mae’r SYG (‘Differences in estimates of Welsh Language Skills’) a Llywodraeth Cymru (‘Data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth’) wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg (Blog Data a Digidol).
Er bod arolygon cartrefi fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu siarad Cymraeg, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg tra bod yr ABB wedi amcangyfrif niferoedd cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn ystod yr un cyfnod.
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith ar y cyd gyda’r SYG i archwilio’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol fel cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau.
Diweddariad am y cynllun gwaith ar y cyd gyda'r SYG
Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r SYG a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn, cyhoeddwyd erthygl blog gan y Prif Ystadegydd (Blog Digidol a Data).
Rydym ni a’r SYG wedi cyhoeddi allbwn cyntaf prosiect 1 ym mis Hydref 2023. Roedd yr erthygl ystadegol hon yn archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu, sy’n sail i’r ABB.
Mae prosiect 4 yn cynnwys cywain gwybodaeth am sut mae cwestiynau am sgiliau Cymraeg wedi cael eu datblygu a'u cyflwyno mewn arolygon aelwydydd, gan gynnwys y cyfrifiad. Bydd y prosiect yn darparu adolygiad a chrynodeb o'r wybodaeth hon er mwyn deall effeithiau modd neu ddylunio ar y broses o gasglu data, gan nodi os oes angen gwaith ymchwil pellach. Rydym yn parhau i wneud cynnydd ar y prosiect hwn a byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am gynlluniau cyhoeddi yn y man.
Mae’r SYG yn gweddnewid y ffordd y cynhyrchir ystadegau’r farchnad lafur ar hyn o bryd. Mae arolwg newydd, ar-lein yn gyntaf, Arolwg y Llafurlu ar ei Newydd Wedd (SYG), wedi bod yn cyd-redeg â'r Arolwg o’r Llafurlu presennol (sy’n sail i’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ers mis Chwefror 2022. Yn y pen draw, bwriedir disodli'r Arolwg o'r Llafurlu gyda’r arolwg newydd hwn fel y prif fesur arolwg ar gyfer allbynnau marchnad lafur a chynhyrchiant.
Pan fydd y SYG yn gwneud y newid hwn, byddwn yn gwneud yr addasiadau priodol i sicrhau y gallwn barhau i gyhoeddi data ar y Gymraeg yn rheolaidd a chynghori defnyddwyr ar sut i ddehongli'r ystadegau hyn. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn cymharu canlyniadau’r ddau arolwg ac mae’r gwaith o archwilio dichonoldeb cysylltu data Arolwg y Llafurlu ar ei Newydd Wedd neu ei ragflaenydd, Arolwg Marchnad Lafur (LMS) (SYG), gyda Chyfrifiad 2021 yn parhau.
Bydd gwaith ar y prosiectau sy’n weddill yn digwydd unwaith y bydd y prosiectau blaenorol wedi’u cwblhau.
Newidiadau i’r arolwg
Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y COVID-19, cafodd ABB, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y SYG am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld mewn datganiad ar wefan y SYG.
Bu newid i'r modd y cynhelir yr ABB yng nghanol mis Mawrth 2020. Newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau ffôn o ganlyniad i'r pandemig y COVID-19. Mae'r SYG wedi bod yn monitro'r effaith y mae'r newid hwn wedi'i gael ar yr arolwg ac o ganlyniad maent wedi pwysoli'r amcangyfrifon yn unol â hynny. Ailgyflwynwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ystod tymor yr hydref 2023. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2023 a Mehefin 2024, felly casglwyd rhai o’r ymatebion drwy gyfweliadau wyneb-yn-wyneb ac eraill dros y ffôn.
Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.
Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.
Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r ABB wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg. Serch hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â data arall ar siaradwyr Cymraeg, fel o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Data
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Cian Siôn
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099