Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Y cyfrifiad poblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei ddefnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Image
Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 tan ddiwedd Mawrth 2021. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 883,300 erbyn diwedd Mawrth 2021. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 200,000 yn is.

Prif bwyntiau

Cafodd Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ei ail-bwysoli gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ym mis Awst 2021, ar gyfer y cyfnod mis Ionawr i fis Rhagfyr 2020. Dylai'r newidiadau y mae'r ONS wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau bias yr amcangyfrifon ar lefelau uchaf y cyfansymiau. Fodd bynnag, mae’n bosibl bydd effaith yr ail-bwysoli’n fwy ar y dadansoddiadau ar lefelau is, ac mae’n bosibl y bydd rhai newidiadau’n fwy eithafol o ystyried maint llai y sampl ers dechrau'r pandemig.

Mae’r cymariaethau â data blaenorol, isod, wedi eu seilio ar y data sydd wedi eu hail-bwysoli. Ceir rhagor o wybodaeth am effaith yr ail-bwysoli ar y data yn yr adran ‘Newidiadau i’r arolwg’.

  • Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.1% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i 883,300 o bobl.
  • Mae hyn 0.8 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2020) sy’n cyfateb i oddeutu 24,600 yn fwy o bobl.
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu eto yn y pedwar chwarter fwyaf diweddar. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod.
  • Yn Sir Gaerfyrddin (94,600) a Gwynedd (90,700) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (10,900) a Merthyr Tudful (11,600) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (76%) ac Ynys Môn (68%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (16%), Sir Fynwy (16%) a Phen-y-bont ar Ogwr (18%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 15.7% (477,100) o bobl tair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.9% (149,000) yn wythnosol a 6.9% (209,300) yn llai aml. Dywedodd 1.6% (47,900) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.9% yn gallu siarad Cymraeg.
  • Dywedodd 33.5% (1,014,700) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 26.0% (788,100) ddarllen yn Gymraeg a 23.8% (720,000) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu, ynghyd â samplau rhanbarthol ychwanegol gan gyrraedd sampl fras o 320,000 o ymatebwyr ar draws y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae tua 35,000 o bobl wedi'u cynnwys yn yr arolwg bob blwyddyn. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae nifer o resymau posibl pam y byddai canlyniadau’r cyfrifiad yn is na rhai’r arolwg. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.

Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019 yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb-yn-wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn.

Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi parhau i fonitro effaith y newid hwn i’r dull o gynnal yr arolwg ar yr amcangyfrifon, ac wedi ail-bwysoli’r data o’r herwydd. Canfu bod y newid wedi arwain at gynnydd i’r tuedd diffyg ymateb, yn enwedig gan y rhai sydd â gwlad enedigol neu genedligrwydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a bod cyfran uwch o berchen-feddianwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg, a chyfran is o rentwyr yn cymryd rhan yn yr arolwg na chyn y pandemig.

Rheswm arall dros ddiwygio’r amcangyfrifon ymhellach oedd bod ymatebion i’r arolwg yn cael eu pwysoli i amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Mae’r amcanestyniadau cyfredol yn seiliedig ar dueddiadau demograffig sy'n dyddio cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi ail-bwysoli’r Arolwg i boblogaethau newydd sy’n deillio o ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer mis Ionawr i fis Rhagfyr 2020 (h.y. y blynyddoedd sy’n dod i ben yn chwarter 1, 2, 3 a 4 yn 2020) i addasu’r amcangyfrifon yn sgil y newidiadau hyn. Mae'r amcangyfrifon newydd am allu’r boblogaeth tair oed neu hŷn i siarad Cymraeg yn debyg iawn i’r amcangyfrifon gwreiddiol, gan amrywio o rhwng 0 a 0.2 pwynt canran (neu rhwng -600 a 4,800) o’r rhai gwreiddiol ar lefel Cymru. Mae’n hyn yn amrywio ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer y sgiliau eraill yn y Gymraeg (gan gynnwys amlder siarad Cymraeg).

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llio Owen

Rhif ffôn: 0300 025 5530

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.