Neidio i'r prif gynnwy

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer 2021.

Y cyfrifiad poblogaeth yw’r ffynhonnell allweddol sy’n cael ei ddefnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond gan fod Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Prif bwyntiau

Image
Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 892,200 erbyn diwedd Rhagfyr 2021. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 200,000 yn is.
  • Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2021, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 29.5% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 892,200 o bobl.
  • Mae hyn 0.4 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 31 Rhagfyr 2020) sy’n cyfateb i oddeutu 9,200 yn fwy o bobl.
  • Mae’r siart yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Gostyngodd nifer y bobl sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2020, cyn cynyddu’n gyffredinol eto ers hynny. Fodd bynnag, dylid trin y cynnydd hwn â gofal oherwydd newid yn sut gafodd yr arolwg ei gynnal o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler 'Newidiadau i'r arolwg' isod.
  • Yng Nghaerdydd (101,800) a Sir Gaerfyrddin (93,400) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (9,700) a Merthyr Tudful (11,200) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (75.5%) ac Ynys Môn (63.3%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mlaenau Gwent (14.6%) a Torfaen (16.6%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 14.8% (448,400) o bobl tair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.2% (158,400) yn wythnosol a 7.6% (228,600) yn llai aml. Dywedodd 1.9% (56,500) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 70.5% yn gallu siarad Cymraeg.
  • Dywedodd 33.4% (1,010,300) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25.9% (782,200) ddarllen yn Gymraeg a 23.7% (717,100) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae nifer o resymau posibl pam y byddai canlyniadau’r cyfrifiad yn is na rhai yr arolwg. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 o ddiwedd tymor y gwanwyn ymlaen.

Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019 yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018.

Newidiadau i’r arolwg

Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld yn y datganiad hwn ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O ganol mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr Arolwg Blynyddol dros y ffôn yn unig. Gall newid yn y ffordd y gweinyddir yr arolwg effeithio ar ganlyniadau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Medi 2021, felly mae’r holl gyfweliadau yn rhai dros y ffôn.

Trwy gymharu'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y rhai a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.

Cafodd Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) ei ail bwysoli gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Awst 2021, ar gyfer y cyfnod mis Ionawr i fis Rhagfyr 2020. Am ragor o wybodaeth am yr ail-bwysoli, gweler y pennawd ystadegol ar gyfer mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Mae'r ONS yn bwriadu ail bwysoli setiau data'r APS ymhellach, gan gynnwys data o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2020. Darperir rhagor o fanylion am eu cynlluniau unwaith y byddant wedi pennu amserlen derfynol.

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llio Owen

Rhif ffôn: 0300 025 5530

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.