Cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru: adroddiad ar gysylltiadau rhynglywodraethol ar gyfer y cyfnod 2021 i 2023
Adroddiad trosolwg ar y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
1. Mae’r adroddiad trosolwg hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2023, ac mae’n cael ei gyhoeddi yng nghyd-destun y cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru yn 2019. Mae'n bosibl bod y swyddi a amlinellir yn yr adroddiad hwn wedi newid a/neu wedi datblygu ers y cyfnod adrodd hwn. Gan hynny, mae’r adroddiad yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â diweddariadau rheolaidd Llywodraeth Cymru i’r Senedd mewn cyfarfodydd llawn a phwyllgorau, a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth, sef ar gael ar wefan y Senedd.
Crynodeb
2. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i elwa o berthynas gref gyda’r llywodraethau datganoledig eraill a chyda’r aelod-weinyddiaethau o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig y tu allan i’r DU yn ystod y cyfnod hwn.
3. Mae meysydd lle mae cydweithio a deialog adeiladol wedi bod yn bosibl gyda Llywodraeth y DU, er enghraifft mewn perthynas ag agweddau ar ymateb i bandemig Covid-19, ac mewn perthynas ag Wcráin.
4. Fodd bynnag, mae ymdrechion Llywodraeth y DU i danseilio’r setliad datganoli a’i diffyg parch parhaus at Lywodraeth Cymru a’r Senedd yn ystod llawer o’r cyfnod hwn wedi amharu ar waith rhynglywodraethol ac wedi niweidio undeb y Deyrnas Unedig. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’r achosion niferus o dorri Confensiwn Sewel yn enghreifftiau penodol o hyn.
5. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae’r cytundeb a wnaed ddiwedd mis Mawrth i ddatblygu dau Borthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd Llywodraeth y DU yn mynd ati i weithio’n agored ac ar y cyd.
6. Datblygiad strategol nodedig yn ystod y cyfnod oedd cyhoeddi’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ym mis Ionawr 2022. Yn dilyn hyn, roedd arwyddion cynnar cadarnhaol o welliannau, gan ddefnyddio’r peirianwaith rhynglywodraethol cadarn a ddatblygwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig. Mae 16 o’r 20 Grŵp Rhyngweinidogol arfaethedig ar lefel portffolio wedi eu sefydlu, ac mae’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol haen ganol a’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Cyllid wedi cyfarfod, er bod hynny’n afreolaidd. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Prif Weinidog a’r Cyngor Penaethiaid Llywodraethau Datganoledig ym mis Tachwedd 2022.
7. Fodd bynnag, o ystyried ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU dros y cyfnod hwn a newidiadau Gweinidogol rheolaidd yn y DU, roedd y cynnydd a’r momentwm o ran gweithredu’r ffyrdd newydd o weithio a’r mecanweithiau y cytunwyd arnynt fel rhan o’r Adolygiad yn arafach na’r disgwyl. Yn anffodus, roedd haf a dechrau tymor yr hydref 2022 yn gyfnod o ymgysylltu sal gan Lywodraeth y DU.
8. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld Cymru gref mewn DU lwyddiannus. Gall y strwythurau a’r mecanweithiau sy’n deillio o’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol fod yn gam tuag at Deyrnas Unedig ddiwygiedig a chryfach, lle mae’r holl lywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd er budd y naill a’r llall. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n adeiladol i’r perwyl hwn, ond dim ond pan fydd ymddygiad a meddylfryd Llywodraeth y DU yn hwyluso hyn y mae cynnydd yn bosibl.
9. Yn yr hirdymor, rydym yn gobeithio y bydd gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyhoeddodd ei adroddiad interim ym mis Rhagfyr 2022, yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer newid cyfansoddiadol ac ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol gwell.
Cysylltiadau rhynglywodraethol
Cyfansoddiad a datganoli
10. Mae'r amgylchiadau sy'n codi yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a COVID-19 wedi gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o fewn Llywodraeth y DU o’r Senedd, a rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ac wedi tynnu sylw at yr angen i gryfhau datganoli i sicrhau dyfodol yr Undeb. Daeth yr ymateb i COVID-19 â datganoli i’r amlwg yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae pobl ledled y DU bellach yn gwerthfawrogi’n ehangach beth mae cael pedair llywodraeth a deddfwrfa yn ei olygu mewn gwirionedd, a sut mae pwerau ein sefydliadau’n rhyngweithio.
11. Yn ystod 2021 a 2022, parhaodd Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ein pwerau gyda chryfder a hyder i liniaru effeithiau gwaethaf y pandemig ar ein dinasyddion, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi. Roedd hyn yn tynnu sylw at ein gallu i ddilyn ein dull gweithredu ein hunain, yn ogystal â’n dymuniad i gydweithredu ag eraill. Mae datganoli wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn, ac wedi’i gymeradwyo gan ein dinasyddion, ac mae ei sefydlogrwydd wedi’i wreiddio yn y gyfraith.
12. Mae cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’u hymgysylltiad â chonfensiwn Sewel wedi arwain at straen penodol yn ystod y cyfnod hwn. O ran rhai o Fesurau Llywodraeth y DU, mae’r gwaith rhwng y llywodraethau wedi bod yn brydlon ac yn adeiladol. Mewn rhai achosion, mae cydweithio o’r fath wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru argymell bod y Senedd yn cydsynio i ddeddfwriaeth y DU mewn rhai meysydd datganoledig, yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru.
13. Fodd bynnag, nid yw’r darlun ehangach ar Ddeddfwriaeth y DU yn gadarnhaol. Mae ymgysylltiad hwyr gan dimau’r Bil yn Llywodraeth y DU, ynghyd ag amharodrwydd i rannu gwybodaeth a drafftio, yn symptomau o anwybyddu’r diddordeb dilys sydd gan Lywodraeth Cymru a’r Senedd yn neddfwriaeth y DU sy’n cyffwrdd â materion datganoledig. O ganlyniad, o Filiau’r DU a gyflwynwyd yn 2022, gwrthododd y Senedd roi cydsyniad i Fil Protocol Gogledd Iwerddon; y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl); y Bil Masnachu (Awstralia a Seland Newydd); y Bil Caffael (yn rhannol) a’r Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir. Mae Llywodraeth y DU wedi mynd yn ei blaen i anwybyddu penderfyniad clir y Senedd i wrthod cydsyniad yn groes i gonfensiwn Sewel – mae’r Mesurau Bridio Manwl a’r Mesurau Masnach bellach yn gyfraith.
14. O 31 Mawrth, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi argymell bod cydsyniad yn cael ei gadw’n ôl mewn perthynas â’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Sylfaenol), y Mesur Mudo Anghyfreithlon a’r rhan fwyaf o’r Mesur Ffyniant Bro ac Adfywio. Nid yw cydsyniad wedi cael ei argymell eto mewn perthynas â nifer o Fesurau eraill a gyflwynwyd, gan gynnwys y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).
15. Yn fwy cyffredinol, mae strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig wedi cael eu profi’n sylfaenol. Roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio a35 Deddf yr Alban i atal deddfwriaeth a basiwyd gan Senedd yr Alban mewn perthynas â chydnabod rhywedd rhag dod yn gyfraith yn garreg filltir beryglus. Yn y cyfamser, mae diffyg Pwyllgor Gwaith yng Ngogledd Iwerddon wedi gadael un rhan o’r Deyrnas Unedig heb lywodraeth ddatganoledig weithredol dan arweiniad Gweinidogion. Mae’r pwysau hyn wedi arwain at drafodaeth gyhoeddus fwy cyffredinol am weithrediad priodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
16. Yn hydref 2021, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r Comisiwn wedi cael y dasg o ddatblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y DU yn sylfaenol, ac o ystyried a datblygu opsiynau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad interim ym mis Rhagfyr 2022. Tynnodd y Comisiwn sylw at fregusrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol fel pwynt pwyso allweddol yn y trefniadau cyfansoddiadol presennol. Maent yn nodi yn eu hadroddiad interim fod y peirianwaith ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn gweithredu yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU, ac mae’r ffaith ei bod wedi ymgysylltu llai dros y blynyddoedd diwethaf wedi cyd-daro â’i pharodrwydd i ddiystyru confensiynau. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau unochrog nad ydynt yn cyfrannu at y canlyniadau gorau i ddinasyddion.
17. Cyfeiriwyd at waith y Comisiwn yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn ar Ddyfodol y Deyrnas Unedig Godron Brown, a wnaeth gyfres o gynigion radical ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Mae’r Comisiwn wedi dechrau cam nesaf ei waith a disgwylir iddo gynhyrchu ei adroddiad terfynol erbyn diwedd 2023.
Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol
18. Yn dilyn blynyddoedd o waith dwys gan Weinidogion a swyddogion yn ystod yr Adolygiad ar y cyd o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, cytunodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, i ddefnyddio’r pecyn o ddiwygiadau a ddaeth i’r amlwg o’r Adolygiad fel sail ar gyfer cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol.
19. Cafodd y pecyn ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2022 ac mae ar gael yma: Adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol ar GOV.UK
20. Ers cyhoeddi’r Adolygiad, mae cynnydd amrywiol wedi’i wneud o ran sefydlu ei beirianwaith. Ar ôl pob cyfarfod, cyhoeddir cyd-ddatganiad byr, ond mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn Datganiadau Ysgrifenedig neu lythyrau manwl i Bwyllgorau perthnasol y Senedd:
- Mae 16 o grwpiau rhyngweinidogol wedi cael eu sefydlu ac ar waith.
- Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Prif Weinidog y DU a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig ar 10 Tachwedd 2022, a oedd yn canolbwyntio ar gostau byw a’r GIG (Datganiad Ysgrifenedig: Cyngor Prif Weinidog y DU a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig).
- Fe wnaeth y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gyfarfod dair gwaith yn ystod y cyfnod hwn (Mawrth a Mehefin 2022 a Chwefror 2023) gan ganolbwyntio ar faterion trawsbynciol fel deddfwriaeth y DU, y sefyllfa barhaus yn Wcráin, a’r cynnydd mewn costau byw, ymysg materion eraill (Datganiad Ysgrifenedig: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol).
- Fe wnaeth FISC gyfarfod bedair gwaith yn ystod y cyfnod hwn (Mawrth, Mehefin a Hydref 2022 a Chwefror 2023); a thrafododd faterion allweddol fel adfer COVID-19, Sero Net, a’r cynnydd mewn costau byw (Sefydlwyd Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid ar senedd.cymru).
- Gwnaed cynnydd tuag at sefydlu Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol annibynnol.
21. Mae’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn nodi’r arferion gorau ar gyfer gwaith rhynglywodraethol, ac yn darparu llwybrau uwchgyfeirio pan fydd anghytuno yn codi. Mae osgoi anghydfod yn rhan annatod o’r peirianwaith sydd wedi’i sefydlu, gyda mecanweithiau osgoi a datrys anghydfod ar gael fel dewis olaf lle bo angen. Rydym wedi parhau i fynegi ein pryderon ynghylch pynciau rhynglywodraethol perthnasol (er enghraifft, mewn perthynas â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin) gyda Llywodraeth y DU ar bob cyfle, gan ddefnyddio’r holl fecanweithiau sydd ar waith, a bod yn barod i uwchgyfeirio lle bo hynny’n briodol.
Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
22. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cynhaliwyd pedwar Uwchgynhadledd gan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, gan gynnwys un a gynhaliwyd yng Nghymru.
Uwchgynhadledd Gogledd Iwerddon: 11 Mehefin 2021
23. Roedd Uwchgynhadledd Gogledd Iwerddon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau ar gyfer adferiad Covid-19. Cafodd y Cyngor drafodaeth adeiladol a llawn gwybodaeth am y pwnc a oedd yn ymwneud ag effeithiau hirdymor posibl Covid-19, a dulliau cynaliadwy o adfer (Datganiad Ysgrifenedig: 35ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar LLYW.CYMRU).
Uwchgynhadledd Cymru: 19 Tachwedd 2021
24. Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod yr Uwchgynhadledd yn arddangos bywiogrwydd Cymru a Diwylliant Cymru. Un ffocws penodol ar gyfer yr Uwchgynhadledd oedd cefnogi Ieithoedd Lleiafrifol, Brodorol a Llai eu Defnydd, gan gyfeirio’n benodol at bolisi gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Wrth arwain yr eitem hon, fe wnaethom arddangos gwaith arloesol Llywodraeth Cymru ar addysg iaith blynyddoedd cynnar (Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru ar senedd.cymru).
Uwchgynhadledd Guernsey: 7 ac 8 Gorffennaf 2022
25. Roedd Uwchgynhadledd Guernsey yn canolbwyntio ar Gynllunio Gofodol Cydweithredol. Fe wnaeth y Cyngor fyfyrio ar ddatblygiadau gwleidyddol diweddar a manteisio ar y cyfle i ymgysylltu ar nifer o bynciau sydd o ddiddordeb i bawb. Cynhaliodd y Cyngor hefyd drafodaeth thematig ar gyfraniad cynllunio gofodol at adfywio trefi a’r agenda datgarboneiddio (Datganiad Ysgrifenedig: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Guernsey ar LLYW.CYMRU).
Uwchgynhadledd Blackpool: 10 ac 11 Tachwedd
26. Roedd Uwchgynhadledd Blackpool yn canolbwyntio ar Dwf ac Adfywio Cynaliadwy. Canolbwyntiodd y Cyngor ar ymdrechion sydd ar y gweill ar draws Aelod-Weinyddiaethau BIC i ysgogi a chefnogi twf economaidd cynaliadwy, datblygu cymunedau mwy cynhwysol, a'r pwysau ar dai yn benodol (Datganiad Ysgrifenedig: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Blackpool ar LLYW.CYMRU).
Coffáu’r diweddar Frenhines Elizabeth II
27. Yn dilyn marwolaeth drist Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth, ym mis Medi 2022, bu cyfnod o alaru cenedlaethol i fyfyrio ar deyrnasiad Ei Mawrhydi. Roedd teyrngedau ar draws y DU ac ymwelodd y Brenin Charles a’r Frenhines Gydweddog â holl wledydd y DU, gan gynnwys Cymru, lle cawsant eu croesawu gan y Prif Weinidog.
28. Cafodd y digwyddiadau hyn eu cynnal yn llwyddiannus ac yn barchus drwy gydweithio a chydlynu agos ar draws y pedair gwlad. Cafodd y cydlynu hwn ei alluogi a’i gefnogi’n fedrus drwy strwythurau llywodraethu strategol a gweithredol effeithiol pedair gwlad, o’r cam cynllunio hyd at gyflawni.
COVID-19
29. Yn ystod 2021-22 fe wnaeth Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar yr ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol yn ein cyfnod. Parhaodd Llywodraeth Cymru i arwain ymateb gofalus sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r pandemig yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth â gwledydd eraill y DU a gweithio’n agos gyda’n partneriaid, gan arwain ar ein cyfrifoldebau datganoledig sylweddol.
30. Mae ymgysylltu â llywodraeth y DU ynghylch COVID-19 wedi bod yn gymysg, ac er bod rhai pethau cadarnhaol o ran yr ymgysylltu agos rhwng y pedair gwlad, bu cyfnodau hir hefyd o ddim ond ychydig iawn o gyswllt â gweinidogion y DU, ac yn rhy aml mae datblygiadau wedi dod i’r amlwg drwy’r wasg a thrwy randdeiliaid cyn i lywodraeth y DU ymgysylltu ar lefel rynglywodraethol gyda Llywodraeth Cymru.
31. Yn ystod camau cynnar y pandemig, aeth y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfodydd COBR. Mae COBR yn dod ag uwch weinidogion a swyddogion o adrannau llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig at ei gilydd i ddarparu lefel uchel o gydlynu a gwneud penderfyniadau mewn ymateb i’r pandemig. Y cyfarfod COBR diwethaf a fynychwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol oedd 1 Ionawr 2021.
32. Roedd cyfarfodydd rheolaidd rhwng Gweinidogion yn dal yn eu lle yn ystod 2021/22 ond ar ôl i don Omicron gyrraedd ei hanterth ym mis Ionawr, gwelsom wahaniaethau mewn trefniadau pontio ac amseru dileu cyfyngiadau cyfreithiol ar draws y gwledydd yn ystod 2022. Roedd trafodaethau cyllido ar gyfer 2022/23 yn heriol gyda Llywodraeth y DU oherwydd gostyngiad sylweddol mewn cyllid a threfniadau rhynglywodraethol wrth i’r pwyslais symud i wledydd sy’n datblygu eu trefniadau pontio eu hunain a chynlluniau ar gyfer byw gyda Covid-19 gan ganolbwyntio ar ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae newidiadau mewn Gweinidogion yn Llywodraeth y DU hefyd wedi effeithio ar lefel yr ymgysylltu.
33. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru o bob adran yn ymgysylltu’n rheolaidd â’u cymheiriaid yn llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill, ac yn bennaf mae’r cysylltiadau hyn wedi parhau i fod yn adeiladol.
Wcráin
34. Mae gwaith rhynglywodraethol sylweddol wedi bod ar y cynllun fisa Cartrefi ar gyfer Wcráin ers ei lansio ym mis Mawrth 2022. Mae Llywodraeth y DU wedi arwain dull gweithredu pedair gwlad, gyda chyfarfodydd uwch swyddogion wythnosol a phatrwm rheolaidd o ymgysylltu rhyngweinidogol.
35. Am y chwe mis cyntaf, roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar faterion gweithredol i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno a’i weithio ar draws yr holl weinyddiaethau datganoledig, gan ystyried gwahanol ddulliau gweithredu ar faterion nad ydynt wedi eu datganoli, fel diogelu, trafnidiaeth ac addysg. Mae’r ymgysylltu hwn wedi cael ei gynnal wrth i’r cynllun ddatblygu ac wrth i nifer y bobl sy’n cyrraedd gynyddu’n sylweddol yn ystod misoedd yr haf.
36. Mae ymgysylltu parhaus â Gweinidogion wedi canolbwyntio ar gymorth cyfartal i wahanol garfannau sy’n cyrraedd ar wahanol lwybrau fisa, cyllid ar gyfer tariffau integreiddio a gwesteiwyr a’r cynlluniau hirdymor ar gyfer y rhaglen. Cafodd y trafodaethau hyn eu huwchgyfeirio o fis Rhagfyr 2022 ymlaen yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cyllid tariff integreiddio o 1 Ionawr 2023.
37. Ac eithrio’r toriadau cyllid a grybwyllwyd uchod, mae’r gwaith rhynglywodraethol ar yr Ymateb i Sefyllfa Wcráin wedi bod yn enghraifft dda o sut gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n adeiladol i ategu’r gwaith o integreiddio mudwyr yn ein cymunedau. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i atgynhyrchu’r parch at ddatganoli, y mynediad at ddata ac ymgysylltu adeiladol rydym wedi’i gael drwy’r cynllun hwn mewn perthynas â chynlluniau sy’n ymwneud ag Affganistan, Hong Kong, y system lloches ac adsefydlu ffoaduriaid.
Mudo Arall Seiliedig ar Ddiogelu
38. Mae ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â chynlluniau mudo eraill sy’n seiliedig ar ddiogelu wedi bod yn llai cadarnhaol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref/yr Adran Ffyniant Bro yn trafod yn rheolaidd mewn perthynas â chynlluniau BNO Affganistan a Hong Kong, ond yn aml nid yw Llywodraeth Cymru yn cael digon o ddata na rhybudd ymlaen llaw o newidiadau arfaethedig i bolisïau er mwyn galluogi’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol bosibl.
39. Mewn perthynas â’r system lloches, ychydig iawn o ddata a ddarperir i Lywodraeth Cymru ac nid oes unrhyw drafodaeth ddwyochrog reolaidd rhwng Gweinidogion na swyddogion i sicrhau bod newidiadau polisi’n cael eu deall, a bod effeithiau datganoli tebygol yn cael eu deall ymlaen llaw. Dim ond unwaith y mae’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo wedi cyfarfod, ac mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cael un cyfarfod ar wahân gyda’r Gweinidog Mewnfudo presennol, Robert Jenrick AS.
40. Mae’r system lloches yn dal i ddibynnu’n helaeth ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig, gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a llywodraeth leol, ond nid ymgynghorir yn ddigonol â Llywodraeth Cymru i ddeall a pharatoi ar gyfer newidiadau, ac nid yw Llywodraeth y DU yn darparu cyllid priodol.
41. Rhoddir gwybod i Weinidogion Cymru am fwriad y Swyddfa Gartref i gaffael llety lloches gyda 24 awr o rybudd. Mae hyn yn welliant bach ar yr amgylchiadau blaenorol, ond yn aml ni all Gweinidogion y Swyddfa Gartref ateb cwestiynau Llywodraeth Cymru am gynigion yn brydlon.
42. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a’r Bil Mudo Anghyfreithlon, ond mae Gweinidogion y Swyddfa Gartref wedi ailddatgan eu safbwynt bod y ddeddfwriaeth yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl yn unig. Mae hyn er bod Senedd Cymru wedi cytuno â Gweinidogion Cymru bod y darpariaethau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 o fewn cymhwysedd datganoledig, ac wedi pleidleisio i wrthod rhoi cydsyniad i Senedd y DU ddeddfu. Bydd Senedd Cymru yn trafod gyda darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon fis Mehefin 2023.
43. Er bod y system mewnfudo a lloches yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am integreiddio’r rhai sy’n byw yng Nghymru. Mae adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau cyfatebol (yr Adran Addysg; yr Adran Iechyd; yr Adran Ffyniant Bro) yn ymwneud â chynllunio ar draws Whitehall ar gyfer cymorth integreiddio, ond nid yw hyn yn cael ei gynnig i Lywodraeth Cymru.
Ystadegau a dadansoddi
44. Cyhoeddwyd Concordat ar Ystadegau wedi’i ddiweddaru ym mis Hydref 2021 sy’n nodi’r fframwaith ar gyfer cydweithredu ar draws y DU ar faterion ystadegol. Llofnodwyd y Concordat gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar y pryd, ynghyd â’r Ystadegydd Cenedlaethol ac Ysgrifenyddion Parhaol o bob gweinyddiaeth yn y DU.
45. Mae’r Concordat wedi gweithredu’n dda ers ei ddiweddaru, gyda chysylltiadau rhynglywodraethol wedi’u cydlynu’n bennaf ar lefel swyddogol rhwng y Prif Ystadegwyr a’r Ystadegydd Cenedlaethol. Mae Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol yn bwrw ymlaen ag ysbryd y Concordat, gan weithio’n adeiladol ac ar y cyd ag ystadegwyr yn Llywodraeth y DU, a llywodraethau datganoledig eraill. Rhoddwyd sylw penodol i wella cymaroldeb a chydlyniaeth ystadegau ledled y DU. Yn ddiweddar, mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar ystadegau iechyd, lle mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan weithredol.
Caffael
Fframwaith Cyffredin Caffael Cyhoeddus
46. Roedd anghysondeb mewn polisi caffael cyhoeddus rhwng y pedair gweinyddiaeth eisoes yn bodoli cyn Brexit, ac mae’n dal yn bodoli ar ôl Brexit. Fodd bynnag, mae’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus wedi cadarnhau ymrwymiad pob gweinyddiaeth i rannu gwybodaeth am faterion polisi domestig a rhyngwladol sy’n ymwneud â chaffael, gan gynnwys unrhyw gynigion i ddeddfu, a allai effeithio ar weddill y DU. Er ei fod yn anneddfwriaethol, mae’r ymrwymiad hwn wedi’i gynnal yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn ac er bod gwahaniaethau polisi’n dal yn bodoli rhwng y gweinyddiaethau, mae bellach yn cael ei weithredu mewn ffordd fwy ystyriol.
47. Mewn cyfarfod rhwng uwch swyddogion o’r pedair gweinyddiaeth, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni, cytunwyd yn unfrydol bod y Fframwaith Cyffredin yn hybu perthynas waith gadarnhaol sydd wedi sicrhau manteision y tu hwnt i gwmpas y fframwaith, gan gynnwys trafodaeth gydgysylltiedig ynghylch syniadau polisi ac archwilio dulliau gweithredu cyffredin.
Deddfwriaeth Caffael
48. Mae’r berthynas â Swyddfa Cabinet y DU ynghylch datblygu’r Bil Caffael a’i is-ddeddfwriaeth wedi bod yn gadarnhaol i raddau helaeth yn ystod y cyfnod hwn.
49. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Bil Caffael, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos ar lefel Gweinidogion a swyddogion i sicrhau’r cysondeb gorau posibl, ac i leihau’r risg o unrhyw wahaniaethau yn y ddeddfwriaeth fel y byddai’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr.
50. Cyn cyflwyno’r Bil i’r Senedd, cafodd dau aelod o Dîm Diwygio’r Broses Gaffael yn Llywodraeth Cymru eu secondio i Swyddfa Cabinet y DU am dri diwrnod yr wythnos. Drwy hyn, a’r ymgysylltu cadarnhaol rhwng swyddogion yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu dylanwadu’n helaeth ar gynnwys y Bil i sicrhau bod polisïau priodol yn cael eu hadlewyrchu yn narpariaethau’r Bil. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cynnal cysondeb i gyflenwyr sy’n rhan o brosesau caffael trawsffiniol.
51. Mae’r ymgysylltu hwn hefyd wedi cael cydnabyddiaeth am ennill ‘cymeradwyaeth uchel’ yng ngwobrau Cydweithredu a Phartneriaeth Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth.
52. Roedd materion o bryder yr oedd angen eu datrys wrth i’r Bil fynd drwy’r Senedd. Mae swyddogion a Gweinidogion wedi gallu datrys yr holl faterion hyn ar wahân i’r rhai sy’n ymwneud â Masnach (fel y nodir isod). Mae’r berthynas â Swyddfa’r Cabinet ar lefel swyddogion a Gweinidogion yn parhau i fod yn gadarnhaol.
53. Un o’r meysydd allweddol ar gyfer cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yw datblygu’r pecyn dysgu a fydd ar gael i’r sector cyhoeddus i gefnogi’r broses o roi’r Bil Caffael ar waith. Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae Swyddfa’r Cabinet yn creu rhaglen dysgu a datblygu wedi’i hariannu gynhwysfawr i helpu pawb sy’n gweithredu yn y drefn gaffael newydd i ddeall beth sy’n newid o’r systemau presennol sydd ar waith.
54. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu’r cynnwys dysgu i sicrhau bod y gwahaniaeth bach mewn polisi rhwng gwahanol awdurdodaethau yn y DU yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn y deunyddiau dysgu a datblygu. Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ar y Gweithgor Dysgu a Datblygu Trawsnewid Caffael Cyhoeddus a Bwrdd Rhaglen Dysgu a Datblygu Trawsnewid Caffael Cyhoeddus, sy’n darparu ar gyfer ystyried amrywiaeth ehangach o safbwyntiau gan amrywiaeth ehangach o randdeiliaid wrth ddatblygu’r dysgu. Ar ben hynny, mae rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu cynnwys fel “uwch ddefnyddwyr” sy’n cynrychioli eu sefydliad / sector unigol fel rhan o weithgareddau parhaus Cymunedau Maes Llywodraeth y DU.
55. Yn gysylltiedig â hyn, ond mewn cam ar wahân, penderfynodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr (DHSC) gyflwyno trefn gaffael newydd ar gyfer cyrchu gwasanaethau iechyd yn Lloegr, a elwir yn 'Gyfundrefn Dethol Darparwyr' (PSR). Er mwyn gwneud hyn, mae Llywodraeth y DU wedi cynnwys darpariaeth ddatgymhwyso yn y Bil Caffael a fyddai'n caniatáu iddynt eithrio gwasanaethau iechyd yn Lloegr, i bob pwrpas, rhag y gofynion a'r prosesau sy'n cael eu cyflwyno o dan y Bil Caffael. Bwriad y PSR yw symud i ffwrdd oddi wrth gystadleuaeth fel trefn arferol at drefn gaffael fwy hyblyg a chydweithredol o gafael ar wasanaethau iechyd clinigol.
56. Gan y byddai'r PSR a'r ddarpariaeth ddatgymhwyso yn berthnasol i Loegr yn unig, golygai hyn y byddai trefn gaffael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau o dan drefn bresennol Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a'r gyfundrefn Mesur Caffael newydd sydd ar ddod. Byddai hyn wedi arwain at ddwy gyfundrefn gaffael wahanol rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwasanaethau iechyd y GIG.
57. Rhoddodd GIG Cymru adborth y gallai cyflwyno'r PSR yn Lloegr effeithio'n andwyol ar gaffael gwasanaethau iechyd 'clinigol' yng Nghymru trwy ystumio'r farchnad gyflenwyr yn anfwriadol. Gallai hefyd effeithio ar y gallu i gomisiynu gwasanaethau iechyd ar sail gydgydymffurfiol / gydweithredol rhwng GIG Lloegr a GIG Cymru a negyddu unrhyw fanteision cysylltiedig o ran cost ac adnoddau. O ganlyniad, aeth Gweinidogion Cymru ati i ystyried y ffordd orau o liniaru'r risgiau hynny, a phenderfynwyd cyflwyno deddfwriaeth debyg yng Nghymru i ddarparu opsiwn i gyd-fynd â'r PSR.
58. Mae Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2023 ac sydd yn awr Nghyfnod 3 proses graffu’r Senedd, yn ceisio unioni'r sefyllfa hon a darparu'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddatgymhwyso'r darpariaethau yn y Bil Caffael ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru, yn yr un modd â'r hyn a ddarparwyd ar gyfer DHSC. Mae hefyd yn darparu ar gyfer mewnosod pŵer i wneud rheoliadau yn Neddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ddarparu ar gyfer trefn gaffael bwrpasol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Bydd y pwerau hyn yn cynnig opsiwn i gysoni cyfundrefnau caffael y gwasanaeth iechyd rhwng Cymru a Lloegr trwy adlewyrchu'r PSR, cyn belled ag sy'n briodol ac yn angenrheidiol, gan hefyd ddarparu'r hyblygrwydd i wyro oddi wrth y PSR lle nad yw'n cyd-fynd â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru.
59. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'u cymheiriaid yn DHSC i sicrhau dealltwriaeth gynnar o’r modd y mae cynigion, rheoliadau a chanllawiau PSR yn cael eu datblygu.
Masnach a chaffael
60. Mae cyfarfodydd misol Llywodraeth y DU a’r Fforwm Llywodraethau Datganoledig wedi cael eu cynnal drwy gydol 2021-2023 gyda swyddogion Masnach, y Gyfraith a Chaffael Llywodraeth Cymru yn bresennol i drafod manylion parhaus i’w cynnwys mewn penodau caffael mewn trafodaethau Masnach Rydd drafft, ac mae’r rhain wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan.
61. Mae’r Pwerau Cydredol sydd wedi’u cynnwys yn y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) a’r Pwerau Cydredol sydd wedi’u cynnwys yn y Bil Caffael sy’n ymwneud â Masnach, a’r penderfyniad i wrthod diwygio’r rhain, wedi cael effaith negyddol ar y berthynas.
62. Tua diwedd mis Mawrth 2023, penderfynwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud ac yn gosod ei hofferyn statudol ei hun ar gyfer diwygiadau sy’n ymwneud â manylion sydd wedi’u cynnwys yng Nghytundebau Masnach Rydd Awstralia a Seland Newydd, yr oedd angen eu hadlewyrchu yn y Rheoliadau Caffael Domestig. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ar ôl y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn.
Etholiadau
63. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynychu a chynnal y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru, a gyfarfu bedair gwaith yn 2021-2023 (Hysbysiad gan y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru ar GOV.UK),
a gweithgorau swyddogion. Mae’r fforymau hyn wedi dod yn bwyntiau cyswllt allweddol ar gyfer nodi materion a rennir sy’n rhyng-ddibyniaethau, ac atebion arfer gorau.
64. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru drafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU ar Ddeddf Etholiadau 2022 drwy gydol ei thaith i ddeddfwriaeth, ar lefel Gweinidogion a swyddogion. Ar 9 Medi 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol nad oedd yn argymell cydsyniad i’r Bil fel y’i cyflwynwyd, gan ffafrio archwilio rhai o’r materion drwy ddeddfwriaeth y Senedd.
65. Gosodwyd gwelliannau i’r Bil yn y camau diweddarach er mwyn gwthio Cymru allan o ddarpariaethau. Roedd y rhain yn sicrhau bod y Ddeddf yn cydnabod pwerau datganoledig yn well.
66. Er gwaethaf yr anghytundeb hwn ynghylch cymhwysedd sy’n ymwneud ag argraffu digidol a bygythiadau, cytunodd y Senedd ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn argymell cydsyniad ar 29 Mawrth 2022.
67. Mae gwaith yn mynd rhagddo i reoli’r goblygiadau sy’n deillio o’r gwahaniaethau yn null gweithredu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae gweithgor gwyro yn edrych ar effeithiau ymarferol newidiadau Deddf Etholiadau 2022, yn enwedig ar geisiadau am bleidlais bost, a’r ffordd orau o osgoi dryswch i bleidleiswyr.
68. O ystyried y pryder hwn, roedd Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth y DU i leihau’r risg o etholiadau datganoledig ac etholiadau wedi eu cadw yn cyd-daro neu’n cael eu cyfuno yn y dyfodol. Croesawodd Gweinidogion Cymru ymateb Llywodraeth y DU i hyn: ymrwymiad Blwch Anfon ym mis Tachwedd 2021 y byddai Prif Weinidog yn ceisio osgoi cynnal etholiadau o dan drefniadau gwahanol ar yr un pryd neu’n agos iawn.
Pontio Ewropeaidd
69. Drwy gydol y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn ceisio ymgysylltu’n adeiladol â Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r gwaith ar ôl diwedd y cyfnod pontio, o ystyried y gorgyffwrdd cymhleth rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau wedi eu cadw. Parhaodd Gweinidogion Cymru i fynychu cyfarfodydd cyn Bwyllgor XO (Pwyllgor Cabinet y DU a oruchwyliodd faterion yn ymwneud ag ôl-drosglwyddo, a gafodd ei ailenwi yn ddiweddarach yn Bwyllgor Prydain Fyd-eang (Gweithrediadau)) lle trafodwyd materion a oedd yn uniongyrchol berthnasol i’r llywodraethau datganoledig. Sefydlwyd y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE fel rhan o’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ac mae bellach ar waith.
70. Ar ôl i’r DU adael yr UE a diwedd y cyfnod pontio, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU ar feysydd polisi lle mae pwerau’n dychwelyd o’r UE ac yn rhyngblethu â chymhwysedd datganoledig, drwy ddatblygu Fframweithiau Cyffredin y DU. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol yn y ffordd y mae llywodraethau’r DU yn gweithio gyda’i gilydd yn yr hirdymor. Cytunwyd ar Fframweithiau Dros Dro ar ddiwedd y cyfnod pontio, ym mis Rhagfyr 2020. Ers hynny, mae’r rhain wedi bod yn gweithredu fel cytundebau ar lefel swyddogol ac maent wedi bod yn destun craffu gan ddeddfwrfeydd, a fydd yn cael eu cwblhau pan fydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ailymgynnull. Mae cyhoeddiadau Llywodraeth y DU sy’n ymwneud â rhaglen Fframweithiau Cyffredin y DU ar GOV.UK.
71. Cafodd Deddf Marchnad Fewnol y DU y Cydsyniad Brenhinol heb gydsyniad y Senedd na Senedd yr Alban. Mae’r Ddeddf yn achosi problemau o ran datganoli ac mae ganddi’r potensial i danseilio’r cynnydd a wneir drwy’r rhaglen Fframweithiau Cyffredin. Yn dilyn hynny, cychwynnodd Llywodraeth Cymru weithredu cyfreithiol gan herio rhannau o’r Ddeddf a’i heffaith honedig ar y setliad datganoli. Gwrthododd y Goruchaf Lys y cam gweithredu hwn ar y sail ei fod yn gynamserol yn absenoldeb unrhyw enghreifftiau ymarferol ar ffurf deddfwriaeth y Senedd i brofi’r materion dan sylw yn eu herbyn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu ei safbwynt yn yr ymgyfreitha a bydd yn parhau i fonitro cyfleoedd ar gyfer heriau pellach yn y dyfodol. Er hynny, mae defnydd Llywodraeth y DU o’r pwerau cymorth ariannol yn y Ddeddf yn parhau i danseilio datganoli ac yn rhoi gwerth gwael am arian i’r trethdalwr.
72. Drwy gydol 2021/2022 roedd trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei chynlluniau a’i chynigion ar gyfer cyfathrebu sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi parhau ac roedd y llwybr hwn yn parhau i gael ei ddefnyddio i rannu adnoddau ac asedau cyfathrebu cysylltiedig. Mae’r ymgysylltu â Llywodraeth Cymru o ran Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi bod ar y gweill ac o natur gydweithredol gydag amcan ar y cyd i sicrhau’r canlyniadau gorau i ddinasyddion yr UE.
73. Parhaodd Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE drwy gydol 2021/2022 ac i 2022/2023 ar gyfer parhad gwasanaethau o’r fath yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ragor o gyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, er bod y cyhoeddiad hwn yn hwyr iawn yn eu cyfnod cyllido ac wedi arwain at nifer o randdeiliaid o Gymru yn lleisio pryderon bod y dull hwn wedi arwain at lefel uchel o ansicrwydd ynghylch cyflawni yn y dyfodol.
74. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, ni fu unrhyw ymgysylltu ymlaen llaw â llywodraethau datganoledig ynghylch newidiadau arfaethedig i’r system fewnfudo a dim cyfle i lywodraethau datganoledig gyfrannu at ddiwygiadau’r hydref a’r gwanwyn.
75. Yn gyffredinol, mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU â mewnfudo wedi gwella rhywfaint ac mae fforwm System Ffiniau a Mewnfudo’r Dyfodol wedi bod yn fecanwaith defnyddiol iawn ar gyfer rhannu gwybodaeth.
76. O ran trefn ffiniau newydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r gwledydd eraill, gan gynnal parch at y setliad datganoli ar yr un pryd. Mae hyn yn allweddol er mwyn osgoi dryswch posibl i fusnesau a chynnal trefn gyson o reolaethau iechyd mewnforio ar draws Prydain Fawr. Wrth ddylunio’r Model Gweithredu Targed newydd, cefnogir ei brif egwyddorion gan y tair gweinyddiaeth. Mae’r cyrff llywodraethu ar gyfer asesu risg iechyd anifeiliaid a phlanhigion hefyd ar draws y DU.
77. Parhaodd Llywodraeth Cymru i weithio gyda llywodraethau eraill y DU i sefydlu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo, gyda chynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn y maes hwn a chyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol hwn yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2023.
78. Mae ymgysylltu â’r Pwyllgor Cynghori ar Fudo (corff a noddir gan Lywodraeth y DU) wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae’r ffaith bod y Pwyllgor wedi recriwtio cynrychiolydd o Gymru yn 2022 yn dangos ei ymrwymiad i ymgysylltu â llywodraethau datganoledig.
79. Tybir bod Offerynnau Statudol Ymadael â’r UE yn ofynnol erbyn diwedd y cyfnod pontio, i wneud cywiriadau pellach i gyfraith yr UE a ddargedwir i sicrhau bod llyfr statud y gellir ei weithredu ac i weithredu’r Cytundeb Ymadael a’r cytundebau cysylltiedig, yn cael eu cyflawni’n unol â’r amserlen. Roedd nifer fach o’r offerynnau statudol hyn yn parhau i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, a chyda chydsyniad yn cael ei roi i offerynnau statudol y DU mewn meysydd datganoledig, wrth i’r pŵer i’w gwneud ddod i ben ddiwedd 2022.
80. Cafodd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU ei gyflwyno yn y Senedd ym mis Medi 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu’r Bil yn gryf ac mae wedi gwneud hyn yn glir i Lywodraeth y DU, tra bod y Senedd wedi gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar ei gyfer ym mis Mawrth 2023, ond mae ymgysylltu wedi bod â Llywodraeth y DU ynghylch y goblygiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir o dan y Bil, yn ganolog ac mewn meysydd polisi, fel y nodir yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
81. Mae gwaith rheoleiddio digidol Llywodraeth y DU yn parhau, yn fwyaf nodedig gyda’r Bil Diogelwch Ar-lein, y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol(Rhif 2) a’r Bil Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr. Mae rhai agweddau ar y rhain wedi eu datganoli ac mae dull anghyson o rannu drafftiau cynnar Biliau. Mae hyn yn arwain at ddiffyg cytundeb ar faterion datganoledig yn ystod hynt y Biliau, ac mae hefyd yn rhoi pwysau gormodol ar dimau polisi a chyfreithiol.
Cysylltiadau rhyngwladol
82. Mae tîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi cael sesiynau briffio rheolaidd gan adrannau llywodraeth y DU, gan gynnwys y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) a’r Swyddfa Gartref, ar Lywyddiaeth y DU o’r G7 a chan Swyddfa’r Cabinet ar yr Adolygiad Integredig o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor.
83. Mae FCDO wedi rhaeadru gwybodaeth gan lywodraeth y DU mewn ymateb i argyfyngau rhyngwladol fel ymadawiad y DU o Affganistan a’r materion dyngarol yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin. Yn ystod y broses o bobl yn gadael Afghanistan ym mis Awst 2021, y tîm Cysylltiadau Rhyngwladol oedd y prif bwynt cyswllt gyda’r FCDO. Cafodd swyddogion gudd-wybodaeth allweddol a’i rhannu ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rheini a oedd yn datblygu'r polisi adsefydlu. Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin ym mis Chwefror 2022, cysylltodd swyddogion â’r FCDO gan rannu gwybodaeth/ystadegau dyddiol â Grŵp Cydlynu Risg a Pharodrwydd Llywodraeth Cymru. Mae adroddiadau dyngarol ar y sefyllfa yn parhau i gael eu darparu bob pythefnos ynghyd â dangosfwrdd economaidd bob pythefnos sy’n nodi effeithiau’r gwrthdaro ar economïau Rwsia ac Wcráin.
84. Mae cyfarfodydd swyddogion lefel uwch rheolaidd rhwng yr FCDO a’r Llywodraethau Datganoledig hefyd wedi cael eu trefnu, i drafod yr amrediad llawn o faterion rhyngwladol.
Cytundebau masnach rydd
85. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio gydag adrannau polisi arweiniol yn llywodraeth y DU ar Bwyllgorau Arbenigol Cytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU a’r UE. Mae pob pwyllgor wedi’i sefydlu ychydig yn wahanol gan ddibynnu ar adran bolisi arweiniol llywodraeth y DU gyda chyfraniad Llywodraeth Cymru yn amrywio o drafodaeth gychwynnol ar agendâu, a mynd i’r pwyllgorau fel arsylwyr neu gyda rôl gyfranogol lawn. Yn gyffredinol, mae’r ymgysylltu ag adrannau polisi arweiniol llywodraeth y DU wedi bod yn gadarnhaol. Daethpwyd i gytundeb ynghylch sut y bydd y Llywodraethau Datganoledig yn ymwneud â’r pwyllgorau sydd wedi eu sefydlu o ganlyniad i Gytundebau Masnach Rydd gyda Gweddill y Byd. Bydd y trefniadau hyn yn adlewyrchu’r trefniant a roddwyd ar waith ar gyfer pwyllgorau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, gyda swyddogion yn ymgysylltu ar y pwyllgorau a’r opsiwn i drafod presenoldeb lle mae gennym ddiddordeb penodol.
86. Mae’r berthynas â’r Adran Masnach Ryngwladol (Yr Adran Busnes a Masnach ers mis Chwefror 2023) ar negodiadau Gweddill y Byd wedi parhau’n gadarnhaol i raddau helaeth. Mae rhannu gwybodaeth mewn meysydd sy’n cael eu hystyried yn ‘ddatganoledig’ gan Lywodraeth y DU yn dda ac mae rhai gwelliannau wedi bod o ran sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu yn ystod camau olaf y trafodaethau. Cafodd gwelliannau ehangach o ran rhannu gwybodaeth eu rhoi ar waith yn gynnar yn 2023 ac erbyn hyn mae swyddogion yn gweld y rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn iddynt allu ymgysylltu’n llawn ar wahanol gamau yn y trafodaethau. Mae swyddogion eisoes wedi gweld mantais hyn yn rhai o’r trafodaethau mwy newydd - er enghraifft, gyda Chyngor Cydweithredol y Gwlff a Chanada.
87. Cynhaliwyd dau gyfarfod ffurfiol (ym mis Gorffennaf ac Ionawr) o’r Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach (sydd bellach yn rhan o’r strwythur Cysylltiadau Rhyngwladol ehangach fel y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Masnach) yn ystod 2021/22, yn ogystal â chyfarfodydd dwyochrog gweinidogol rheolaidd. Rydym wedi cael cyfle i roi sylwadau ar faterion sy’n ymwneud â’r holl drafodaethau masnach sy’n mynd rhagddynt, gan gynnwys camau olaf y trafodaethau gydag Awstralia a Seland Newydd a gosod mandad ar gyfer trafodaethau newydd sydd ar y gweill, fel India. Er nad oedd gwybodaeth ddigonol yn cael ei rhannu â ni bob amser yn ystod camau olaf y trafodaethau ag Awstralia, gwnaed gwelliannau yn ystod y trafodaethau gyda Seland Newydd ac, er gwaethaf pryderon ynghylch y cytundeb ei hun, roedd y broses ymgysylltu’n rhedeg yn fwy esmwyth. Rydym yn gobeithio gweld cynnydd parhaus yn y maes hwn.
88. Mae’r ymgysylltu ar ymuno â’r Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) wedi bod yn wahanol i’r trafodaethau ar gyfer Cytundebau Masnach Rydd newydd, sydd wedi’i ysgogi’n rhannol gan y ffaith y bydd y DU yn cadw at gytundeb sy’n bodoli eisoes. Fodd bynnag, fe wnaeth yr ymgysylltu ar y fargen wella yn ystod 2022 a dechrau 2023.
Cyllid
89. Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022 cynhaliwyd saith o gyfarfodydd â Gweinidogion Cyllid y DU. Cynhaliwyd cyfarfodydd pedairochrog ar 20 Gorffennaf 2021, 14 Hydref 2021 a 12 Ionawr 2022. Ar 21 Mawrth 2022, cyfarfu’r Gweinidogion am y tro cyntaf fel y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar gyfer Cyllid (F:ISC), gyda thri chyfarfod arall yn cael eu cynnal ar 15 Mehefin 2022, 20 Hydref 2022 a 9 Chwefror 2023, er i gyfarfod mis Hydref gael ei gwtogi oherwydd ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn ystod y cyfarfod hwnnw. Mae’r F:ISC yn ffurfioli cyfarfodydd Pedairochrog y Cyn-Weinidogion Cyllid o dan yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.
90. Roedd y trafodaethau dros y cyfnod yn canolbwyntio ar amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys ein hymateb i Covid ac adferiad ar ôl Covid, yr argyfwng costau byw, cefnogi’r rheini sy’n ffoi rhag rhyfel yn Wcráin, cyflogau’r sector cyhoeddus, defnyddio’r pwerau Cymorth Ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU, cyllid disodli’r UE, Sero Net a hyblygrwydd y gyllideb, yn ogystal â gweithredu trefniadau newydd F:ISC.
91. Pan ddaeth Omicron i’n sylw yn ystod Gaeaf 2021-22, roedd yr ymgysylltu yn ystod y cyfnod hwn yn canolbwyntio ar ofynion cyllid Covid ac ymatebion y Llywodraeth, gyda chais ar y cyd gan y llywodraethau datganoledig i yn gofyn i Lywodraeth y DU barhau i fod yn bragmatig petai amgylchiadau yn unrhyw un o’r pedair gwlad yn mynnu bod y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig yn cael eu hadfer yn ogystal â chais i wneud y cynnydd parhaol o £20 i Gredyd Cynhwysol.
92. Fe wnaethom barhau hefyd roi pwyslais ar werth sicrwydd cynnar a mwy o dryloywder o ran gwneud penderfyniadau ariannol gan Lywodraeth y DU. Ochr yn ochr â’r llywodraethau datganoledig eraill, cawsom sicrwydd gan Lywodraeth y DU y byddai’r arian a ddyrannwyd i gefnogi’r ymateb i Covid-19 yn cael ei ddarparu’n llawn, a chytunwyd ymhellach y gellid trosglwyddo’r cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU i’r llywodraethau datganoledig ddiwedd y flwyddyn ariannol i’w ddefnyddio yn y flwyddyn ganlynol. Mae trafodaethau hefyd wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrwydd a chyllid cyfartal mewn perthynas â chymorth i bobl Wcráin yn y DU.
93. Cynhaliwyd sawl trafodaeth am yr argyfwng costau byw sy’n dod i’r amlwg a mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Roedd llywodraethau datganoledig yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddarparu cymorth i aelwydydd a busnesau. Gofynnwyd hefyd am wybodaeth am gynigion Llywodraeth y DU, gan gydnabod mai Llywodraeth y DU oedd yn dal y prif adnoddau a dulliau cyllidol i fynd i’r afael â’r argyfwng. Wrth i’r argyfwng barhau, fe wnaethom annog Llywodraeth y DU i dargedu cymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed, gan gyflwyno camau ymarferol mewn perthynas â thai, ynni a lles y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd i wneud gwahaniaeth go iawn i’r rheini sy’n cael eu taro galetaf. Roeddem hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y DU gymryd camau i fynd i’r afael ag effaith chwyddiant ar gyllidebau’r sector cyhoeddus a buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi twf economaidd.
94. Gyda COP26 ym mis Tachwedd 2021 yn gefndir, bu ffocws ar ein hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rhannwyd gwybodaeth am gamau arloesol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni Sero-Net. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd ein cais i Lywodraeth y DU am hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol, yn enwedig mewn perthynas â’n terfyn benthyca cyfalaf, i ganiatáu buddsoddi mewn seilwaith carbon isel.
95. O ran pwerau Cymorth Ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU, fe wnaethom barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ynghylch sut yr oedd yn bwriadu gweithio gyda llif polisi llywodraeth ddatganoledig, fel y nodir gan Weinidog y DU dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Gwnaethom hefyd barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei hymrwymiad i ddisodli cyllid yr UE yn llawn a darparu enghreifftiau o raglenni cenedlaethol, gan gynnwys prentisiaethau a chymorth busnes, a oedd yn dibynnu ar y cyllid hwn ac a oedd yn hanfodol i’n heconomi. O ran disodli cyllid gwledig yr UE, ochr yn ochr â’r llywodraethau datganoledig eraill, fe wnaethom fynegi ein pryderon ynghylch y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU, gan amlinellu sut nad yw’n disodli cyllid yr UE yn llawn. Sicrhawyd cam gweithredu yn F:ISC Chwefror 2023 ar gyfer Llywodraethau’r DU a Llywodraethau datganoledig i drafod y gwahaniaethau yn eu hasesiad o’r cwantwm mewn cyllid yn lle’r UE drwy ymarfer llyfr agored ac i archwilio sut y gallant gyflawni mwy o gysondeb strategol wrth ddarparu cyllid a fydd yn cymryd lle cyllid yr UE.
96. Ar ben hynny, fe wnaethom barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn talu costau ychwanegol swyddogaethau newydd sy’n deillio’n uniongyrchol o ymadael â’r UE, fel y gweithrediadau sydd eu hangen ar y ffin â Chymru.
97. Cyflwynwyd cynnig i’r F:ISC yn ceisio gwelliannau i gryfhau prosesau er mwyn darparu mwy o sicrwydd diwedd blwyddyn i’r llywodraethau datganoledig a gefnogir gan hyblygrwydd cyllidebol priodol, ac mae trafodaethau’n parhau.
98. Cyn Digwyddiadau Cyllidol y DU, fe wnaethom amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a gofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ar ei chynlluniau gwariant a threth. Cyn Cyllideb yr Hydref a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Hydref 2021, fe wnaethom ofyn i Lywodraeth y DU weithio gyda ni a darparu cyllid i gefnogi’r gwaith o adfer ac ailbwrpasu tomennydd glo yng Nghymru yn yr hirdymor. Roeddem hefyd wedi pwyso am eglurder ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac ni chawsom unrhyw fanylion ar hynny. Cyn Datganiad Gwanwyn y DU ym mis Mawrth 2022, digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU yn ystod hydref 2022 a Chyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2023, prif ffocws ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU oedd pwyso am gamau brys i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.
99. Roeddem hefyd wedi parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’i thanfuddsoddiad hanesyddol mewn rheilffyrdd ac Ymchwil a Datblygu yng Nghymru, ac wedi tynnu sylw at gyfleoedd mewn perthynas â datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cymorth i’r Diwydiant Dur a gwella tryloywder o ran Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a’r Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon.
100. Ni chafwyd unrhyw wybodaeth (neu wybodaeth gyfyngedig iawn) gan Lywodraeth y DU cyn ei digwyddiadau cyllidol er gwaethaf y goblygiadau i’r gwledydd datganoledig, gan gynnwys ein gwaith ein hunain yn cynllunio cyllidebau a chraffu ar y Senedd. Dim ond ar fore Datganiad y Canghellor y cawsom wybod am becyn costau byw Llywodraeth y DU ym mis Chwefror 2022.
101. Mae adegau wedi bod lle mae Llywodraeth y DU wedi gweithio’n gadarnhaol ac yn adeiladol gyda ni, er enghraifft, mewn perthynas â Phorthladdoedd rhydd lle dangosodd Llywodraeth y DU barodrwydd i weithio fel partneriaid cyfartal. Dyma enghraifft o sut y gallwn weithio gyda’n gilydd a dod â’n gwahanol bwerau, dulliau ac arbenigedd i gyflawni dros Gymru. Mae angen i’r ffordd hon o weithio fod yn berthnasol i feysydd eraill gan gynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r Gronfa Ffyniant Bro, lle dylai cyllid ddod yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru er mwyn i bob sector allu elwa o’r rhaglenni hyn.
102. Roedd sefydlu’r F:ISC ym mis Mawrth 2022 yn benllanw ymdrechion sylweddol i gryfhau a ffurfioli cysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol. Cymeradwyodd y Gweinidogion Cyllid Gylch Gorchwyl F:ISC a chytunwyd ar brotocol gweithredu sy’n rhoi cyfarfodydd ar sail fwy cyfartal gyda Chadeiryddiaeth ac ysgrifenyddiaeth gylchredol. Mae swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth ar y cyd. Mae parodrwydd hefyd i alluogi swyddogion o bob rhan o’r Gweinyddiaethau i weithio gyda’i gilydd i ystyried materion o ddiddordeb cyffredin gan gynnwys cyfathrebu a hyblygrwydd diwedd blwyddyn yn y gyllideb. Y gobaith yw y bydd y dull newydd hwn yn parhau i ddatblygu, er mwyn galluogi mwy o ymgysylltu a rhannu gwybodaeth mewn ysbryd o barch at ei gilydd.
Porthladdoedd Rhydd
103. Mae’r polisi Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn feincnod ar gyfer sut gall Llywodraeth Cymru weithredu mewn partneriaeth sy’n gyfartal â Llywodraeth y DU. Roedd y ddwy lywodraeth wedi cyd-gynllunio’r broses ddethol; roedd swyddogion o’r ddwy lywodraeth wedi asesu’r ceisiadau ar y cyd ac roedd gan y ddwy lywodraeth lais cyfartal yn y penderfyniad terfynol ar y safleoedd a fydd yn symud ymlaen yn y broses. Mae’r ddwy Lywodraeth, ar lefel swyddogion a Gweinidogion, wedi ymrwymo i’r dull hwn.
104. Fe wnaethom weithio’n helaeth gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru wedi cael ei dylunio i gyd-fynd â’n polisïau ar waith teg a sero net.
105. Mae’r cydweithio hwn wedi cael ei ymestyn i’r Parthau Buddsoddi. Rydym yn cynnal trafodaethau cynnar â Llywodraeth y DU gan ei bod bellach wedi ail-lansio a newid ffocws ei rhaglen Parthau Buddsoddi, fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
106. Gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn disodli cyllid yr UE, nid yn unig mae'n gadael Cymru £1.1 biliwn yn fyr o’i gymharu â chronfeydd Strwythurol a Gwledig yr UE, ond mae hefyd yn sefydlu system gyllido sy’n: anwybyddu Llywodraeth Cymru a’r Senedd; yn eithrio sectorau twf allweddol gan gynnwys prifysgolion, colegau a’r sector gwirfoddol; yn atal prosiectau strategol sy’n cael effaith uchel; ac yn rhoi gofynion annerbyniol ar ein hawdurdodau lleol.
107. Mae dyluniad a darpariaeth wael y cynllun yn glir. Dim ond i awdurdodau lleol ar ddiwedd mis Ionawr 2023 y rhyddhawyd cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 (roedd Llywodraeth y DU i fod i gymeradwyo’r cynlluniau a dechrau'r taliadau ym mis Hydref 2022). Er mwyn sicrhau bod gwariant yn cael ei gwblhau yn ôl yr angen erbyn 31 Mawrth 2025, bydd angen i weithgarwch prosiect y Gronfa Ffyniant Gyffredin ddod i ben erbyn mis Rhagfyr 2024. Mae hyn yn golygu, er ei fod yn gynllun tair blynedd, mai dim ond tua 18 mis fydd ar gael i gyflawni prosiectau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
108. Mae cwmpas llai y Gronfa Ffyniant Gyffredin o’i gymharu â rhaglenni cyllido’r UE yn cael effaith wirioneddol ar yr economi a sgiliau yng Nghymru.
109. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn brigdorri’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi cynllun rhifedd oedolion Llywodraeth y DU o’r enw Lluosi, gan wrthod cyllid inni i gefnogi blaenoriaethau strategol fel Busnes Cymru, SMART Cymru a Phrentisiaethau. Nid yn unig y mae Lluosi wedi’i gynllunio’n wael gyda phroblemau lu o ganlyniad i oedi, ond mae hefyd yn amharu ar faes polisi datganoledig, mae’n rhy gul o ran ffocws ac mae perygl o ddyblygu’r ddarpariaeth yng Nghymru.
110. Rydym wedi parhau i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU gan nodi bod y ffordd y mae’n ymdrin â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhannu’r dirwedd gyllido yng Nghymru, yn peryglu ffyrdd o weithio’n rhanbarthol ac yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol er mwyn delio â’r canlyniadau.
Economi, ynni a newid yn yr hinsawdd
111. Ym mis Rhagfyr 2022, mynychodd y Gweinidog Newid Hinsawdd COP15 fel rhan o'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Yn COP15 siaradodd mewn nifer o ddigwyddiadau a chynhaliodd gyfarfodydd dwyochrog â llywodraethau datganoledig neu wladwriaethol eraill fel Quebec a Chatalwnia. Gwnaethom rannu'r dull a ddatblygwyd yng Nghymru o gyrraedd y targed o 30x30, tynnu sylw at bwysigrwydd rôl llywodraethau is-genedlaethol wrth fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, a thrafod yr angen i nodi ffynonellau cyllid ychwanegol a oedd yn osgoi gwyrddgalchu ac a oedd o fudd i gymunedau lleol.
112. Cytunwyd ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang newydd yn COP15 sy'n nodi pedwar o nodau hirdymor a 23 o dargedau sy'n ceisio sicrhau byd sy'n bositif i natur erbyn 2030. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno targedau bioamrywiaeth ddomestig statudol mewn Bil arfaethedig er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni yn erbyn y fframwaith byd-eang newydd.
113. Mae ymdrech sylweddol wedi bod yn canolbwyntio ar wella ein cysylltiadau rhynglywodraethol a gweithio ar y cyd â BEIS (cyn newidiadau i beirianwaith llywodraeth y DU yn 2023) ac mae’r cysylltiadau hyn wedi cael eu cryfhau er bod rhai heriau’n parhau.
114. Roedd blaenoriaeth ar y cyd o ymateb i effeithiau economaidd Covid-19 yn 2021 yn golygu bod angen cyflymu’r ymdrechion a oedd eisoes ar waith a darparu eglurder pwrpas i’n hymgysylltiad. Yn dilyn yr ymateb brys i’r pandemig, symudodd y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant i gyfarfodydd wythnosol a sefydlodd fforwm Cyfarwyddwyr newydd gyda’r llywodraethau datganoledig, BEIS a Thrysorlys Ei Fawrhydi. Roedd sefydlu ysgrifenyddiaeth ar y cyd yn dangos newid yn y dull gweithredu ac roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn ysbryd o barch at ei gilydd. Roedd y fforymau hyn, ynghyd â chyfarfodydd dwyochrog rheolaidd â llywodraeth y DU, wedi sicrhau bod gan Gymru lais uniongyrchol yn ystod y gwaith o ddatblygu rhai dulliau polisi pwysig ledled y DU.
115. Fodd bynnag, er bod ymgysylltu wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig, roeddem yn dal i wynebu heriau o ran cydweithio; roedd Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ei thrin fel rhanddeiliad yn hytrach na phartner llywodraeth ddatganoledig. Gallai’r cyfle i lywio polisi a oedd yn sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu hadlewyrchu’n briodol fod yn heriol weithiau wrth wynebu penderfyniadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU gydag ychydig iawn o ymgynghori.
116. Ers diwedd y pandemig, cafodd amlder Grwpiau Gweinidogol Rhynglywodraethol a fforymau rhynglywodraethol eraill eu lleihau i gyfarfodydd misol neu chwarterol. Roedd hwn yn gam cadarnhaol a derbyniol mewn cyfnod o her economaidd sylweddol i Gymru a’r DU.
117. Fodd bynnag, dim ond dau Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant a gynhaliwyd yn 2022; cynhaliwyd y ddiwethaf ym mis Mai. Roedd y cynnwrf yn Llywodraeth y DU dros fisoedd yr haf 2022 yn golygu bod portffolios Gweinidogion adrannol yn aml yn aneglur, ac roedd ymgysylltu dilynol yn y cyfnod hwn ar lefel wleidyddol yn peri problemau. Eto, rhaid nodi bod y berthynas â BEIS ar lefel swyddogol bob amser yn dal yn adeiladol drwy gydol y misoedd hyn o ansicrwydd. Roedd yr ysgrifenyddiaeth ar y cyd yn dal yn ei lle ac roedd cyswllt rheolaidd yn cael ei roi ar waith mewn ysbryd o gydweithredu rhwng y ddwy ochr.
118. Wrth i'r cynnwrf a’r tyrfedd yn Llywodraeth y DU dawelu, ac i weinyddiaeth newydd gael ei chyflwyno ym mis Hydref 2022, y bwriad oedd y byddai cysylltiadau rhynglywodraethol yn setlo i rythm o ymgysylltu rheolaidd sy’n edrych tua’r dyfodol. Cynhaliwyd cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol gyfer Busnes a Diwydiant ym mis Ionawr 2023. Cynhaliwyd y cyfarfod mewn ysbryd adeiladol a thrafodwyd strategaeth y Grŵp Rhyngweinidogol yn y dyfodol.
119. Mae creu tair Adran newydd o Lywodraeth y DU ym mis Chwefror 2023 yn lle BEIS (yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, a’r Adran Busnes a Masnach) wedi tarfu ar y broses y Grŵp Rhyngweinidogol. Rydym yn dal i aros am gadarnhad o bortffolios Gweinidogol newydd ac am sefydlu cyfrifoldebau adrannol. Fodd bynnag, mae fforymau eraill, fel Fforwm Cyfarwyddwyr yr Economi, wedi parhau ar gyflymder rheolaidd.
120. Dros y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio’n agos gyda DLUHC a BEIS ar brosiectau sydd o bwysigrwydd strategol. Yn benodol, mae cynnydd da wedi’i wneud o ran gweithredu polisi porthladd rhydd Llywodraeth y DU yng Nghymru, trafodaethau ar ddarparu cymorth i ddefnyddwyr ynni annomestig mewn ymateb i’r cynnydd sydyn mewn prisiau ynni, a datblygu cynigion ar gyfer Parthau Buddsoddi.
121. Mae’r Grwpiau Rhyngweinidogol yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o wneud penderfyniadau ar draws Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, sy’n cael ei redeg ar y cyd gan bedair Llywodraeth y DU. Yn benodol, mae wedi bod yn fforwm ar gyfer trafod meysydd mwy dadleuol, yn ogystal â bod yn gyfrwng effeithiol i’w cymeradwyo’n derfynol ar draws Gweinidogion y portffolio. Fodd bynnag, oherwydd natur dechnegol gymhleth a brys Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, mae trafodaethau ar hyn ar lefel Grŵp Rhyngweinidogol yn cymryd amser oddi wrth eitemau eraill ar yr agenda, gan arwain at oedi i’r ffrydiau gwaith hyn.
122. Rydym hefyd wedi parhau i ymgysylltu ar faterion y cyfnod Pontio o’r UE, gyda Whitehall a llywodraethau datganoledig eraill yn rhannu gwybodaeth mewn perthynas â materion busnes. Mae ymgysylltu rheolaidd ar REUL a materion cysylltiedig sy’n ymwneud â masnach ryngwladol hefyd wedi cael ei gynnal drwy fforwm misol BEIS-DA drwy gydol 2022.
123. Bu’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn fforwm cyntaf yr Ynysoedd a gynhaliwyd yn Orkney ar 28 Hydref 2022, a oedd yn canolbwyntio ar ddiogelwch ynni a’r cyfleoedd a oedd yn cael eu darparu gan ynni adnewyddadwy. Canolbwyntiodd y Gweinidog ar botensial ynni adnewyddadwy ar y môr, yn enwedig datblygiadau ffrwd lanw o gwmpas cymunedau ynysoedd yng Nghymru a’r cyfleoedd ehangach a ddaw yn sgil y trawsnewid i system ynni sero net yng Nghymru.
124. At ei gilydd, mae cysylltiadau rhynglywodraethol wedi cryfhau yn y gofod economaidd. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn dal i fodoli, gydag ymgysylltu’n gyson wael mewn meysydd fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mewn meysydd eraill sydd o arwyddocâd strategol i Gymru. Serch hynny, rydym yn parhau i adeiladu ar y strwythurau ffurfiol sydd ar waith nawr a byddwn yn parhau i ddilyn dull gweithredu cadarnhaol o ran cysylltiadau rhynglywodraethol ar draws y pedair gwlad mewn perthynas â datblygu economaidd.
Sgiliau a chyflogadwyedd
125. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r ddarpariaeth addysg a dysgu a llyfrgelloedd carchardai Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Mae’r trefniadau hyn yn galluogi perthynas waith agos a chynhyrchiol â’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ac yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gysoni’r ddarpariaeth addysg mewn carchardai â pholisïau Llywodraeth Cymru.
Addysg
126. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd ar lefel swyddogol yn ystod 2021 a 2022 i drafod materion sy’n effeithio ar bortffolio’r Gweinidog Addysg. Prif ffocws y trafodaethau yn ystod y cyfnod hwn oedd effaith pandemig COVID-19 gan gynnwys trefniadau gweithredol mewn ysgolion a cholegau ac adferiad addysg.
127. Yn gysylltiedig ag effaith COVID-19, cafwyd trafodaethau am gymwysterau hefyd. Roedd y pandemig wedi creu’r angen am gydweithio agosach a rhannu gwybodaeth ar draws y pedair gwlad ym mhob maes addysg. Yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, cafodd llawer o benderfyniadau gan Lywodraeth y DU eu gwneud neu eu rhannu heb fawr o amser i Lywodraeth Cymru ystyried y rhain yn briodol wrth wneud penderfyniadau (un enghraifft o hyn fyddai’r addasiadau i gymwysterau 2020).
128. Mae’r sefyllfa wedi gwella ers hynny, lle mae pob gwlad bellach yn cydnabod y rhyngddibyniaethau. Cafwyd trafodaethau polisi manwl (er enghraifft cwmpas y broses apelio yn ystod haf 2021 a gwahaniaethau ar draws y DU) ac mae dulliau gwahanol wedi cael eu cydnabod a’u parchu. Bu Rheoleiddwyr Cymwysterau hefyd yn cydweithio yn ystod y cyfnod hwn.
129. Bu tensiynau hefyd ynghylch cwmpas a chylch gwaith Corff Hyd Braich arfaethedig y Cwricwlwm yn Lloegr. Cyflwynodd Llywodraethau Cymru a’r Alban sylwadau i Lywodraeth y DU yn 2022 gan bwysleisio sut mae dulliau digidol yn cyd-fynd â’i gilydd a sut maent yn wahanol ar draws y pedair gwlad, nid yn unig oherwydd cwricwla gwahanol ond hefyd y ffaith bod gan lywodraethau datganoledig eu sefydliadau, eu prosesau a’u rhwydweithiau digidol eu hunain i gefnogi dysgu a datblygu adnoddau.
130. Ar 27 Ionawr 2022, fe wnaeth Cyngor Gweinidogion Addysg y DU gyfarfod am y tro cyntaf. Mae Cyngor Gweinidogion Addysg y DU yn bwriadu cydlynu a hyrwyddo mwy o gydweithio mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin rhwng Gweinidogion Addysg. Er bod portffolios gweinidogol yn amrywio o ran cwmpas ar draws y pedair gweinyddiaeth, mae’r meysydd diddordeb a rennir yn cwmpasu’r ystod lawn o wasanaethau addysg, o’r Blynyddoedd Cynnar i Addysg Oedolion. Mae’r rhain yn cynnwys y materion polisi, cyflawni, technegol a deddfwriaethol lle mae’r llywodraethau wedi penderfynu ymgysylltu ar sail amlochrog.
131. Cynhaliwyd ail gyfarfod Cyngor Gweinidogion Addysg y DU ar 17 Mehefin yng Nghaeredin a chynhaliwyd y trydydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar 9 Rhagfyr 2022. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a bu’n canolbwyntio ar heriau a datblygiadau ym meysydd lle mae costau byw yn cynyddu, cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol a dysgu gydol oes gyda chyflwyniad gan Goleg Caerdydd a’r Fro ar y cynnig eang gan y sector ôl-16. Bydd llywodraeth y DU yn cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2023.
Yr amgylchedd, amaethyddiaeth, bwyd
132. Mae’r cysylltiadau â DEFRA wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan yn ystod y cyfnod hwn ac mae’r rhan fwyaf o fframweithiau cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) wedi cael eu cyhoeddi ac ar waith ar ffurf dros dro. Fodd bynnag, mae rhai meysydd lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio gwyro oddi wrth fframweithiau cyffredin EFRA lle mae’r cysylltiadau wedi bod yn waeth, gydag ymgysylltu hwyr yn gadael ychydig iawn o amser i ystyried ein hymatebion. Mae hwn wedi bod yn fater penodol lle nad oes fframweithiau penodol ar waith neu lle mae polisi’n ffitio rhwng sawl fframwaith.
133. Er enghraifft, roedd ymgysylltu ar Ddeddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) Llywodraeth y DU, nad oes fframwaith cyffredin ar ei gyfer, yn hwyr iawn er gwaethaf yr effaith y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chael yng Nghymru.
134. Mae cysylltiadau hefyd yn dechrau dioddef oherwydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL). Mae’r oedi cyn cael gwybodaeth am gynlluniau DEFRA ynghylch REUL wedi cynyddu’r tensiynau ar adegau, yn ogystal â phryderon bod gan y Bil y potensial i gyflwyno gwahaniaethau lle nad oedd yn ddisgwyliedig o’r blaen. Er bod yr ymgysylltu ar REUL wedi gwella yn 2023, nid oes modd cyflawni dyddiadau cau DEFRA, ac mae’r ymgysylltu wedi bod yn anghyson ar draws meysydd polisi. Ers y cyfnod adrodd hwn ac yn dilyn y dull gweithredu diwygiedig mewn perthynas â’r cymal machlud ym Mil REUL y DU, rhoddodd DEFRA restr o’r ddeddfwriaeth y bwriedir ei diddymu i’w chynnwys yn yr atodlen arfaethedig i swyddogion. Mae’r dadansoddiad cychwynnol o fewn yr amserlen dynn yn dangos na fyddai’r rhan fwyaf o’r offerynnau statudol arfaethedig yn debygol o achosi problem. Dim ond un maes sy’n peri pryder o hyd yn y Cynllun Rheoli Llygredd Aer Cenedlaethol (NAPCP) ac mae trafodaethau rhwng swyddogion yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda DEFRA, ond maent wedi bod yn araf.
135. Hefyd mae pryder o hyd ynghylch colli goruchafiaeth cyfraith yr UE ac effeithiau deongliadol. Gwnaed sawl cais ar lefel swyddogion a Gweinidogion am ddadansoddiad DEFRA o’r effeithiau, ond ni chafodd unrhyw beth ei rannu. Ers diwedd y cyfnod adrodd hwn, mae swyddogion y llywodraethau datganoledig a DEFRA wedi cyfarfod i drafod y gwaith ar effeithiau deongliadol, ac mae ymrwymiad i rannu’r dadansoddiad wedi cael ei wneud.
136. Lle mai DEFRA oedd yr adran arweiniol ar fater penodol, roedd y cysylltiadau ar y cyfan yn well na lle’r oedd adrannau eraill o lywodraeth y DU yn cymryd rhan, yn enwedig mewn perthynas â rhannu gwybodaeth neu amserlenni ar gyfer darparu adborth. Mae cyfranogiad ehangach y DU hefyd wedi arafu neu atal mewn rhai meysydd lle’r oedd cytundeb gyda DEFRA a’r Awdurdodau Datganoledig eisoes wedi’i wneud drwy fframweithiau. Mae gwaith ar ffiniau ac ar blastigau untro yn feysydd lle mae buddiannau ehangach Llywodraeth y DU na DEFRA wedi effeithio ar gysylltiadau.
137. Parhaodd Grŵp Rhyngweinidogol DEFRA i gyfarfod yn rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’r cyfarfodydd wedi bod yn adeiladol ar y cyfan gyda thrafodaethau ar faterion a rennir. Fodd bynnag, gyda nifer o gyfarfodydd yn cael eu canslo ar fyr rybudd ac Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yn peidio â mynychu cyfarfodydd ers 7 Tachwedd 2022, mae ansawdd y cyfarfodydd hyn wedi lleihau, ac mae’r berthynas wedi dod dan straen
138. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru y swyddogaeth o ddatblygu polisïau a chynghori Gweinidogion Cymru mewn perthynas â diogelwch bwyd, safonau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae'r berthynas wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan yn ystod y cyfnod hwn.
139. Mae cydweithio â'r ASB ar y model gweithredu targed ar y ffin wedi bod yn gadarnhaol. Mae swyddogion a'r Gweinidogion wedi cyfarfod â'r ASB yn rheolaidd ac wedi cael eu briffio drwy gydol y broses.
140. Er mai polisi Defra ydyw, roedd y Ddeddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn gofyn am ymwneud sylweddol â'r ASB. Fel sy'n wir gyda Defra, mae dau fframwaith cyffredin yr ASB wedi'u sefydlu sy'n nodi'r egwyddorion y dylai pedair gwlad y DU eu dilyn wrth ddatblygu polisïau a sut y dylid rheoli gwahaniaethau ac anghydfodau. Nid fu’r naill fframwaith na'r llall yn destun ystyried a thrafod yn gynnar rhwng y pedair gwlad ar fridio manwl. Er mai polisi Lloegr ydyw, mae'r Ddeddf yn sbarduno’r elfen cyd-gydnabyddiaeth o ran y Farchnad Fewnol, felly mae'n effeithio ar fusnesau a chyrff gorfodi yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn codi cwestiwn ynglŷn â’r dylanwad sydd gan Lywodraeth y DU dros arbenigedd a ffocws polisi'r ASB ac a allai Llywodraeth Cymru fynnu’r un peth.
141. Ar hyn o bryd mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgymryd â rhaglen o weithgarwch diwygio rheoleiddiol gyda'r nod o sicrhau bod rheoleiddio bwyd yn parhau i fod yn gymesur, yn briodol ar gyfer yr hinsawdd bresennol ac yn effeithiol. Mae cytundeb cydweithredol wedi'i sefydlu ar gyfer Cymru ac mae'n gosod sut mae Llywodraeth Cymru, yr ASB ac Awdurdodau Lleol yn cydweithio i sicrhau bod cynigion yn briodol i Gymru a bod holl randdeiliaid perthnasol Cymru yn cymryd rhan lawn yn y broses.
142. Yng ngoleuni’r uchod, a'r cyfrifoldebau newydd ar yr ASB yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, cynhelir adolygiad o swyddogaeth yr ASB yng Nghymru eleni. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw strwythur a gweithrediad presennol yr ASB a'i chysylltiad â Llywodraeth Cymru yn briodol o ran y ffordd orau o gyflawni amcanion statudol yr ASB yng Nghymru.
Iechyd
143. Roedd trafodaethau yn ystod y cyfnod hwn ar lefel Weinidogol yn parhau i ganolbwyntio’n bennaf ar faterion sy’n ymwneud â COVID-19; er bod ymgysylltu hefyd ar faterion eraill gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â'r cyfnod pontio o’r UE, Deddf Iechyd a Gofal Llywodraeth y DU a materion polisi strategol sydd o ddiddordeb ledled y DU, fel cyfraniad iechyd at yr agenda newid yn yr hinsawdd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, rhoddwyd ystyriaeth i ddatblygu’r mecanweithiau pedair gwlad presennol yn raddol i strwythur Grŵp Rhyngweinidogol.
144. Trefnwyd dau gyfarfod ffurfiol o'r Grŵp Rhyngweinidogol. ond cafodd y ddau eu canslo ar fyr rybudd oherwydd argaeledd Gweinidog Llywodraeth y DU. Mae'r diffyg cynnydd hwn o ran agenda’r Grŵp yn gwneud cydweithredu ar draws y DU yn anodd iawn; Mae nifer o faterion pwysig a fyddai'n elwa ar drafodaeth a dull gweithredu pedair gwlad. Mae Gweinidogion Cymru a'r Alban wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am gyfarfod o’r Grŵp.
145. Cyfarfu Gweinidogion Cymru, yr Alban a Llywodraeth y DU i drafod y Bil Lefelau Gwasanaeth Gofynnol (ymgynghoriad gwasanaethau ambiwlans); gwnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban eu safbwynt polisi yn glir a dywedwyd na fyddai swyddogion yn ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwn.
146. Y tu ôl i hyn, roedd gwaith rhynglywodraethol yn weithredol ar y cyfan, gydag ymgysylltu adeiladol yn gyffredinol ar lefel swyddogol drwy wahanol fecanweithiau ar lefel swyddogion. Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys grŵp cydlynu cyfnod pontio’r UE ar gyfer y pedair gwlad, grŵp cadernid cyflenwi ledled y DU, a thrafodaethau ynghylch Gweledigaeth Gwyddorau Bywyd y DU. Roedd gwaith rhynglywodraethol hefyd yn parhau i gael ei gefnogi gan y gwaith manwl a wnaed drwy gysylltiadau’r GIG, yn enwedig gan gynnwys sefydliadau GIG Cymru fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Gwyddoniaeth
147. Cafwyd amrywiaeth o drafodaethau a chyfarfodydd ag Adrannau o Lywodraeth y DU ar lefel swyddogol sy’n cynnwys Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru neu gynrychiolwyr o’i swyddfa. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd rheolaidd â rhwydwaith Prif Gynghorwyr Gwyddonol y DU, wedi’i gadeirio gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU, Syr Patrick Vallance FRS FMedSci FRCP HonFREng. Bydd y Fonesig Athro Angela McLean DBE FRS yn ymgymryd â’r rôl fis Ebrill 2023.
148. Ar ben hynny, mae trafodaethau parhaus wedi digwydd drwy gydol y cyfnod hwn ar faterion penodol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, arloesi, ymchwil a datblygu gydag Adrannau perthnasol o Lywodraeth y DU fel yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o faterion fel Adolygiad Nyrsio Llywodraeth y DU (y dirwedd Ymchwil, Datblygu ac Arloesi), Cymdeithas Horizon Ewrop neu Gynllun B (a elwir bellach yn Pioneer fel y rhaglen i gefnogi ymchwil ac arloesi yn y DU pe na bai’n bosibl cysylltu â chynllun Horizon Ewrop), a hyrwyddo cyfleoedd yng Nghymru i Adrannau o Lywodraeth y DU fel ymgysylltu ar gynigion sy’n ymwneud â Phrosiect ARTHUR (Advanced Radioisotopes Technology for Health Utility Reactor). Prif bwrpas trafod gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi ag Adrannau o Lywodraeth y DU yw helpu i gasglu gwybodaeth a deall y dystiolaeth sydd ar gael yn well. Gellir defnyddio pob un o’r rhain i ddarparu cyngor clir i Weinidogion ar faterion sy’n effeithio ar Gymru, neu i helpu i ganfod dewisiadau ar gyfer Gweinidogion Cymru a fydd yn helpu i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer buddsoddi neu fentrau cydweithredol a fydd yn arwain at fudd i Gymru.
Cyfiawnder
Mae Adroddiad Blynyddol Cysylltiadau Rhynglywodraethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2022 yn nodi bod:
cynnydd wedi’i wneud hefyd rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru o ran canfyddiadau Comisiwn Thomas
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod hyn yn rhoi argraff fwy cadarnhaol na’r hyn sy’n haeddiannol.
150. Ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu yw mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Nid yw Llywodraeth y DU yn cefnogi datganoli cyfiawnder, ac felly roedd wedi diystyru argymhellion canolog Comisiwn Thomas yn syth. Yn 2021, cytunodd Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ‘frysbennu’ argymhellion eraill Comisiwn Thomas i nodi meysydd lle roedd budd i’r naill ochr a’r llall o ran gweithredu, ond mae’n bwysig nodi cyfyngiadau’r ymarfer hwn.
151. Hyd yn oed yn y maes cyfyngedig hwn, er bod sgyrsiau ar lefel swyddogion a Gweinidogion wedi cael eu cynnal ers diwedd 2021, bu cyfnodau sylweddol o anweithgarwch oherwydd lefel trosiant gweinidogol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sydd wedi effeithio ar drafodaethau brysbennu. Cafodd y broses hon ei nodweddu yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru (t20-22) ym mis Mai 2022 fel un “rhwystredig” ac “araf i gynhyrchu canlyniadau”, ac ni fu unrhyw welliant sylweddol ers hynny. Mae’r broses yn dal i fynd rhagddi ac, o’r 45 o argymhellion y nodwyd eu bod o fewn y cwmpas, dim ond 14 sydd wedi cael eu trafod hyd yma, gyda rhywfaint o gytundeb ar bump yn unig.
152. At ei gilydd, mae hyn wedi bod yn ymateb siomedig gan Lywodraeth y DU. Gan fod yr ymarfer yn gorgyffwrdd â rhaglenni gwaith yr oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwrw ymlaen â nhw beth bynnag fo’r broses hon, nid yw’n glir o hyd a yw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgarwch pellach sylweddol o ganlyniad i drafodaethau Comisiwn Thomas.
153. Yr un argymhelliad lle mae cynnydd addawol yw’r maes dadgyfuno data cyfiawnder Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymarfer mapio data cyfiawnder troseddol ac wedi nodi nifer o feysydd lle mae data ar gyfer Cymru yn cael ei gasglu ond heb ei wahanu oddi wrth ddata Lloegr. Mae’r dadansoddiad hwn wedi cael ei rannu â swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac rydym yn aros am ymateb.
154. O ystyried y diffyg cynnydd, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried pa mor ymarferol fyddai parhau â’r broses brysbennu.
155. Mae’r berthynas â Llywodraeth y DU ar gyfiawnder yn gyffredinol yn dal yn weddol gadarnhaol, wedi’i hategu gan ymgysylltiad cadarn gan Lywodraeth Cymru mewn gwaith i wella canlyniadau o dan y system bresennol. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Plismona yng Nghymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru i gyflawni’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid a’r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y Ganolfan Breswyl i Fenywod arfaethedig.
156. Fe wnaethom gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu a oedd yn tynnu sylw at gynnydd yn erbyn y ddau Lasbrint ym mis Mai 2022 ac rydym yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddatblygu rhagor o waith ar faterion sy’n ymwneud â menywod a chyfiawnder ieuenctid i sicrhau rhagor o welliannau i’r system. Bydd y rhain yn defnyddio argymhellion ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i brofiadau menywod o’r system gyfiawnder.
Diogelwch cymunedol
157. Mae’r Is-adran Diogelwch Cymunedol yn Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Gartref ar draws amrywiaeth o wahanol feysydd polisi. Cefnogir hyn gan drafodaethau rheolaidd a chadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru ac Uned UK Domestic, Overseas Territories, Americas a 5 Eyes y Swyddfa Gartref. Mae enghreifftiau o waith perthnasol dros gyfnod yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:
- Mae gwaith yn parhau gyda’r Swyddfa Gartref a rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddyletswydd Trais Difrifol a gychwynnodd ar 31 Ionawr 2023. Fe wnaethom weithio gyda phartneriaid yng Nghymru a chydweithwyr yn y Swyddfa Gartref ar bennod Gymreig bwrpasol ar gyfer y canllawiau statudol ar y Ddyletswydd i sicrhau eu bod yn llawn adlewyrchu’r cyd-destun darparu penodol yng Nghymru.
- Mae’r Swyddfa Gartref wedi lansio adolygiad o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol. Rydym wedi gweithio gyda Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru i sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael eu bwydo’n ôl i’r tîm adolygu. Bydd yn bwysig sicrhau bod y gwaith hwn yn adlewyrchu cyd-destun datganoledig gwasanaethau yng Nghymru.
- Rydym yn parhau i weithio gyda’r Heddlu yng Nghymru a chydweithwyr eraill yn y gwasanaethau brys ar Gyfamod Gwasanaethau Brys yng Nghymru, gan barhau i fod yn gysylltiedig â gwaith Llywodraeth y DU ar Gyfamod yr Heddlu.
- Mae buddiannau Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru (aelodau sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr, a'u teuluoedd) ac ôl troed y Lluoedd Arfog yn cael eu cynnal drwy gysylltiadau â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr. Cafwyd cyfarfodydd rheolaidd ar lefel swyddogion a, dros y cyfnod adrodd, rhwng Gweinidogion mewn perthynas â Chyfamod y Lluoedd Arfog, yn arbennig paratoi ar gyfer y 'Ddyletswydd Sylw Dyledus' newydd. Wrth symud ymlaen, rydym yn gobeithio gweld gwell cydgysylltiad â'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr mewn perthynas â chynlluniau a chyhoeddiadau ar gyfer mentrau sy’n cwmpasu’r DU gyfan.
158. Mae’r enghreifftiau uchod yn rhoi syniad o sut gall ymgysylltiad y Swyddfa Gartref â Chymru arwain at ganlyniadau polisi cryfach yn gyffredinol. Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ac yn effeithiol â Llywodraeth Cymru o ystyried pwysigrwydd y cyd-destun Cymreig penodol ar gyfer materion diogelwch cymunedol, a’r cysylltiad â materion datganoledig fel camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl.
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
159. Bu tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Llywodraeth Cymru a swyddogion ym maes iechyd yn gweithio’n agos gydag Adran Iechyd Llywodraeth y DU ar droseddoli profion gwyryfdod a hymenoplasti fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. Roedd y berthynas hon yn adeiladol ac yn gydweithredol, i sicrhau bod menywod a merched yn cael eu hamddiffyn rhag yr arferion ffiaidd hyn sy’n gyfystyr â thrais yn erbyn menywod a merched. Rhoddodd Senedd Cymru gydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ei rhan yn hyn o beth. Cyfrannodd tîm VAWDASV Llywodraeth Cymru at ganllawiau Llywodraeth y DU i sicrhau bod natur ddatganoledig iechyd a mynd i’r afael â VAWDASV yn cael ei hystyried. Aeth Llywodraeth Cymru gam ymhellach a chyhoeddodd becyn gwella ymwybyddiaeth ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod rhagor o bobl yn ymwybodol o natur droseddol yr arferion ymwthiol a diraddiol hyn.
160. O ganlyniad i Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu canllawiau statudol i gynyddu dealltwriaeth o rai o’r diffiniadau yn y Ddeddf hon, yn ogystal ag ymddygiad sy’n rheoli ac yn gorfodi. Cynhyrchwyd y ddwy set o ganllawiau ar ôl ymgysylltu a chael mewnbwn gan Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at gyfrifoldebau datganoledig yn unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 sy’n torri tir newydd er mwyn atal cam-drin ar sail rhywedd, ac amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.
161. Mae mudwyr sy’n dioddef VAWDASV yn dal i gael eu gadael ar ôl gan bolisi Llywodraeth y DU a deddfwriaeth y DU. Yn 2021, lansiodd y Swyddfa Gartref ei chefnogaeth i’r Cynllun Mudwyr sy’n Ddioddefwyr (SMVS) i gefnogi rhai dioddefwyr sy’n fudwyr ac yn ffoi rhag cam-drin domestig. Er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynllun hwn, nid yw’n mynd yn ddigon pell ac mae bylchau yn y ddarpariaeth sy’n gadael dioddefwyr heb ddewis ond aros gyda phartneriaid camdriniol neu ddychwelyd atynt. Ym mis Rhagfyr 2022, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i sefydlu cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau ei defnyddio i roi cymorth i ferched sy’n fudwyr ac yn ddioddefwyr neu’n oroeswyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd, ac sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus. Bydd y gronfa, a fydd yn cael ei sefydlu yng ngwanwyn 2023, yn llenwi bylchau SMVS wrth inni aros am gyhoeddiad gwerthusiad y Swyddfa Gartref o’r cynllun peilot.
Tai
Diogelwch adeiladau
162. Yn ystod y cyfnod adrodd, cynhaliwyd cyfarfodydd bob pythefnos gyda Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i drafod materion sy’n ymwneud â diogelwch adeiladau, ac i rannu’r arferion gorau ac unrhyw wersi a ddysgwyd. Mae’r cyfarfodydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol o ran cynyddu dealltwriaeth o’r gwahanol ddulliau gweithredu ar draws llywodraethau, yn ogystal â meysydd cyffredin. Mae’r berthynas yn un gadarnhaol. Roedd rhannu gwybodaeth, fel dogfennau contract, yn ein galluogi i fabwysiadu dull gweithredu cyson gyda datblygwyr, a oedd yn sicr yn arbed amser. Yn ogystal â hyn, rydym wedi rhannu’r arferion gorau, gan gyflwyno mentrau Cymreig fel y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, a mynychu Panel Arbenigwyr Diogelwch Adeiladau Gogledd Iwerddon i egluro ein dull gweithredu yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Alban ac wedi cyhoeddi llythyrau ar y cyd ar faterion sydd o fudd i’r naill a’r llall.
163. Yn ogystal â hyn, mae nifer o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU i drafod yswiriant yng nghyd-destun argymhellion Adroddiad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar Yswiriant Adeiladau Aml-feddiannaeth, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddi ddatblygu deddfwriaeth ynghylch tryloywder yng nghostau a chomisiynau yswiriant Asiantiad Rheoli.
164. Ar ben hynny, bu trafodaethau rheolaidd drwy gyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, lle trafodir materion sy’n ymwneud â diogelwch adeiladau.
Digartrefedd
165. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â’u cymheiriaid ym mhob un o’r pedair llywodraeth yn y DU, drwy gyfarfod misol o’r pedair gwlad, yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau drwy gydol 2023 i roi cipolwg cynnar ar waith sydd ar y gweill, i rannu arferion da a pholisïau rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Byddwn yn adeiladu ar y cysylltiadau sefydledig hyn i ddatblygu ein diwygiad deddfwriaethol i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Lesddaliad
166. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, arweiniodd trafodaethau rhwng gweinyddiaethau ar ddiwygio lesddaliadau at basio’r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) ym mis Chwefror 2022, a ddatblygwyd gyda chyfraniad Gweinidogion Cymru, ac a gafodd gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Mae rhagor o waith ar y cyd yn mynd rhagddo tuag at gyflwyno Bil diwygio lesddaliad pellach yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddarach eleni, a hynny i weithredu argymhellion o adroddiadau Comisiwn y Gyfraith ar Ryddfreinio, Hawl i Reoli a Chyfunddaliad, yn ogystal â diwygiadau eraill i wella profiad lesddeiliaid. I gefnogi hyn, lansiwyd ymgynghoriad ar y cyd ar ddechrau 2022 ar agweddau ar drefn ddiwygiedig. Cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd â Lucy Frazer AS, Gweinidog Tai y DU ar y pryd, ym mis Chwefror 2023. Yn y cyfarfod hwnnw, mynegodd y ddau Weinidog ddiddordeb brwd mewn cydweithio pellach ar agweddau ar ddiwygio lle ceir cytundeb ar y cyd.
Ombwdsmon Cartrefi Newydd
167. Bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Weinidogion Cymru rôl ffurfiol a phwrpasol yng nghynllun yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar wahanol agweddau ar yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd, o ystyried y darpariaethau datganedig ar wyneb y Ddeddf Diogelwch Adeiladau (“y Ddeddf”), ac maent yn ganlyniad i gydweithredu a thrafodaethau rhynglywodraethol.
168. Cafwyd trafodaethau effeithiol a chydweithredu rhynglywodraethol hefyd mewn perthynas â sicrhau nad effeithir yn negyddol ar gymhwysedd y Senedd drwy ddarpariaethau i ddileu’r angen i gael cydsyniad Gweinidog priodol Llywodraeth y DU i dynnu swyddogaethau o’r Ombwdsmon os ydym yn dymuno gwneud hynny. Er bod Llywodraeth y DU bob amser yn awyddus i’r Ombwdsmon fod yn un ar gyfer y DU gyfan, roedd ein gallu i ddylanwadu ar y darpariaethau er mwyn peidio â chyfyngu ar Weinidogion Cymru yn y dyfodol wedi arwain at gynnwys Cymru.
169. Drwy gydol y cyfnod adrodd hwn, mae Llywodraeth y DU wedi trafod yn adeiladol â swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr Ombwdsmon. Gyda’n gilydd, rydym wedi sicrhau cyfrwng ar gyfer trafod ac ymgynghori ystyrlon a phrydlon rhwng Llywodraeth y DU a’r gwledydd datganoledig drwy Weithgor Trawslywodraethol yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd. Rydym yn parhau i gydweithio’n gadarnhaol ar fanylion cynllun yr Ombwdsmon, cynnwys y Rheoliadau a’r trafodaethau sydd eu hangen.
Gwarantau Cartrefi a Adeiledir o’r Newydd
170. Gwnaed diwygiad hwyr iawn i’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, gan osod gofyniad yn y gyfraith ar ddatblygwyr cartrefi a adeiledir o’r newydd yn Lloegr i ddarparu gwarant o 15 mlynedd o leiaf; gan ymestyn y cyfnod gwarant o 10 i 15 mlynedd.
171. Dywed taflen ffeithiau Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar y pryd:
“We are in discussions with the devolved administrations, and they will consider how this might be taken forward in their jurisdictions.”
Ni fu trafodaeth â Llywodraeth Cymru ar hyn ac ni roddwyd cyfle i ymestyn hyn i Gymru. Gallai hyn arwain at yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn dyfarnu yn erbyn darpariaeth wahanol.
172. Ychydig iawn mae Llywodraeth y DU wedi trafod â Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn diffyg unrhyw drafodaeth ar yr agwedd hon, cyn y diwygiad hwyr, yn groes i fanylion y daflen ffeithiau, ac mae wedi’i gyfyngu i ddiweddariadau drwy rwydweithiau’r Ombwdsmon yn hytrach nag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru.
Rheoleiddio Tai Cymdeithasol
173. Bu cysylltiad agos rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Bil Rheoleiddio Tai Cymdeithasol, sydd yn ei gamau olaf ar hyn o bryd. Roedd cyfarfodydd cynnar wedi ystyried goblygiadau polisi’r Bil ac yn fwy diweddar, mewn cysylltiad â’r gwaith o reoli ac amseru’r broses cydsyniad deddfwriaethol yn y Senedd.
Budd-daliadau sy’n gysylltiedig â Thai
174. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod â swyddogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) ynghylch diwygio’r sector tai â chymorth yn Lloegr, wedi’i sbarduno gan Fil Tai â Chymorth (Goruchwyliaeth Reoleiddiol) o dan arweiniad DLUHC. Gallai’r diwygiadau hyn arwain at ddiwygiadau cysylltiedig i reolau Budd-dal Tai sydd heb eu datganoli ar gyfer unigolion sy’n byw mewn mathau penodol o dai â chymorth. Ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddatblygu canllawiau ar gyfer safonau cymorth mewn lleoliadau tai â chymorth yng Nghymru, wedi’u comisiynu drwy’r Grant Cymorth Tai. Bwriad hyn yw cyfrannu at unrhyw newidiadau yn y dyfodol i reolau budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai yn y DU. Mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau yn awyddus i drafod yn rheolaidd ynghylch y datblygiadau hyn er mwyn dylanwadu ar eu cynlluniau.
Lles Cymdeithasol/Costau Byw
175. Mae’r rhan fwyaf o’r dulliau i fynd i’r afael â thlodi a chefnogi pobl Cymru drwy’r argyfwng costau byw yn nwylo Llywodraeth y DU, ac er bod perthynas waith dda ar lefel swyddogion y gwasanaeth sifil sydd wedi hwyluso cyflwyno cronfeydd fel Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Cymorth Costau Byw yn gyflym, ychydig o ryngweithio sydd wedi bod ar lefel Weinidogol.
176. Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi ysgrifennu droeon at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau (gan gynnwys llythyrau ar y cyd a anfonwyd gyda’r llywodraethau datganoledig eraill) yn awgrymu newidiadau polisi y gellid eu gwneud i roi llwybr allan o dlodi i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ariannol ledled y DU, heb unrhyw ymateb. Mae’r anwybyddiad llwyr hwn o’r unig fath o gyfathrebu ag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bryder mawr. Yn ystod y cyfnod adrodd, anfonwyd o leiaf 9 llythyr heb unrhyw ateb.
177. Mae’r adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Policy in Practice yn amcangyfrif bod cyfanswm y budd-daliadau a’r tariffau cymdeithasol seiliedig ar incwm nad ydynt yn cael eu hawlio bellach yn £18.7 biliwn y flwyddyn. Mae hyn yn ein hatgoffa’n amserol bod angen ymdrech strategol ar y cyd rhwng y pedair llywodraeth i sicrhau bod incwm aelwydydd yn cael ei gynyddu drwy annog unigolion i hawlio’u hawl. Er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, mae angen arweinyddiaeth ar lefel Weinidogol.
178. Mae ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i archwilio’r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer datganoli’r gwaith o weinyddu lles mewn perygl o gael ei danseilio gan ddiffyg cefnogaeth Llywodraeth y DU, oherwydd bydd hyn yn gofyn am gydweithrediad gan y ddwy lywodraeth. Roedd hyn yn amlwg yn ymateb Llywodraeth y DU i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i’r System Fudd-daliadau yng Nghymru, pan oeddent wedi gwrthod yr argymhellion yn llwyr. Roedd y neges yn glir nad yw’n bwriadu datganoli unrhyw elfennau o nawdd cymdeithasol i Lywodraeth Cymru, nad oes ganddi unrhyw fwriad i drafod hyn ymhellach, a gwrthododd yr argymhelliad i sefydlu Bwrdd Cynghori Rhyngweinidogol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar Nawdd Cymdeithasol.
179. Roedd yr ymateb gan Lywodraeth y DU yn cydnabod y trafodaethau cadarnhaol rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod Gweinidogion Cymru’n cael cyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau ac fel rhan o’r peirianwaith rhynglywodraethol, dylid sefydlu grŵp Rhyngweinidogol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar lefel portffolio rhwng y pedair gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwyso’n gyson am y lefel hon o ymgysylltu ac mae trafodaethau’n parhau i gytuno ar y strwythur gorau ar gyfer y grŵp hwn.
180. Yn yr un modd, cafodd argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymwneud â chynnal asesiad effaith ar y cyd o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ei ddiystyru’n syth gan Lywodraeth y DU. Wrth ddatblygu’r cynllun peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod ag adrannau o Lywodraeth y DU ynghylch sut mae’r cynllun yn rhyngweithio â meysydd polisi treth, budd-daliadau a chymorth cyfreithiol. Roedd perthynas waith dda rhwng swyddogion a Chyllid a Thollau EF wrth gytuno ar y ffordd yr ymdrinnir â thaliadau treth a chawsom rai trafodaethau defnyddiol cychwynnol â chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar oblygiadau’r cynllun peilot o ran cael gafael ar gymorth cyfreithiol. Mae’r rhyngweithio ar lefel Weinidogol â Llywodraeth y DU wedi bod yn llai cadarnhaol o ran rhyngweithio â’r systemau budd-daliadau a chymorth cyfreithiol, yn enwedig y ffordd yr ymdriniwyd â’r ohebiaeth ddiweddaraf ynghylch cymorth cyfreithiol.
Trafnidiaeth
181. Ar ôl bwlch sylweddol, ailddechreuodd y trafodaethau rhwng Gweinidogion â’r Adran Drafnidiaeth ym mis Mawrth 2023 pan gafodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyfarfod â’r Gwir Anrhydeddus Mark Harper, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth. Ar ben hynny, cafodd y Grŵp Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth ei ailgyfansoddi, gyda chytundeb cadeiryddiaeth gylchredol ar draws y pedair llywodraeth. Ar ôl y cyfnod adrodd hwn, cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol am y tro cyntaf ym mis Mai 2023, dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru (y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd). Mae Gweinidogion a swyddogion yn parhau i ddadlau’r achos dros ddatganoli materion rheilffyrdd i Gymru i raddau mwy, ochr yn ochr â setliad cyllido teg, gan gynnwys ein cyfran deg o’r buddsoddiad gwerth £100 biliwn gan Lywodraeth y DU yn HS2 sy’n cael ei wrthod i Gymru ar hyn o bryd oherwydd bod HS2 yn cael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr. Mae’r ymgynghori â Llywodraeth Cymru yn anghyson. Er enghraifft, nid oedd gan Lywodraeth Cymru rôl yn yr estyniad diweddar i gontract Avanti West Coast, ac nid oedd yn rhan o’r ymgynghoriad yn ei gylch, er ei fod yn lleihau lefel y gwasanaethau i deithwyr yng Nghymru yn sylweddol.
182. Drwy gydol y newidiadau Gweinidogol amrywiol yn Llywodraeth y DU dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r berthynas swyddogol â’r Adran Drafnidiaeth wedi aros yn gadarnhaol ac yn adeiladol, gyda thrafodaethau trawsbynciol rheolaidd drwy gyfarfod misol rhwng y pedair gwlad, a chysylltiadau hirsefydlog rhwng y timau polisi perthnasol. Mae’r berthynas â Transport Scotland a swyddogion yng Ngogledd Iwerddon yr un mor gadarnhaol, gyda thrafodaethau rheolaidd ynghylch amrywiaeth o feysydd polisi trafnidiaeth.
183. O ran polisi bysiau, ychydig iawn o drafodaethau Gweinidogol sydd wedi bod ond mae swyddogion yn cyfarfod â swyddogion cyfatebol o Lywodraethau’r DU, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn rheolaidd i drafod materion polisi a chyflawni cyffredin. Mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru gysylltiadau gwaith gweithredol â’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, a’r Adran Gwaith a Phensiynau i reoli materion gweithredol sy’n ymwneud â gwasanaethau bysiau a chardiau teithio rhatach.
184. O ystyried sefyllfa polisi Gweinidogion Cymru, mae’r trafodaethau â’r Adran Drafnidiaeth ynghylch y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) wedi bod yn gyfyngedig iawn. Bu trafodaethau mwy agored mewn perthynas â Chyfraith yr UE a ddargedwir, gyda swyddogion yn cyfnewid gwybodaeth am yr heriau polisi a’r heriau cyfreithiol sy’n deillio o’r newidiadau arfaethedig, gan sicrhau ar yr un pryd bod safbwynt polisi Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyfleu’n gadarn drwy gydol y broses.
185. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i weithio’n agos gyda’r Adran Drafnidiaeth ar faterion eraill gan gynnwys datgarboneiddio trafnidiaeth, deddfwriaeth Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat, a’r Cynllun Bathodyn Glas.
186. Mae swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd â’r Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau ar seilwaith gwefru cerbydau trydan, gan hwyluso mynediad at gyllid ar gyfer awdurdodau lleol Cymru a rhannu gwybodaeth am ddiwygiadau i reoliadau adeiladu.
187. O ran Teithio Llesol, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd pedairochrog chwarterol rhwng arweinwyr polisi o bob un o’r llywodraethau datganoledig a’r Adran Drafnidiaeth, yn ogystal ag Active Travel England. Yn bennaf, mae’r cyfarfodydd ar-lein hyn yn darparu fforwm anffurfiol i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau a rhaglenni perthnasol, a phrofiadau cyflawni.
188. Drwy gydol 2021, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o’r grŵp llywio ar gyfer y diweddariad gan yr Adran Drafnidiaeth i Reolau’r Ffordd Fawr a oedd yn cryfhau’r Rheolau mewn perthynas â diogelwch cerddwyr, beicwyr a phobl ar gefn ceffylau, a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2022, ac yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r ymgyrch cyhoeddusrwydd i gyd-fynd â’r newidiadau.
189. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda’r Adran Drafnidiaeth, y llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid eraill ar ddatblygiad cychwynnol Canllawiau Strydoedd Ysgolion yn ystod 2021 a 2022. Bydd pob llywodraeth nawr yn addasu ac yn cyhoeddi’r canllawiau hyn ar wahân.
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
190. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar draws y portffolio diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth cyfan. Mae gan swyddogion berthynas gadarn o ran Digwyddiadau, ac maent yn gweithio ochr yn ochr â chyrff Digwyddiadau holl wledydd y DU i ddatblygu a gwneud ceisiadau am ddigwyddiadau gan gynnwys, er enghraifft, y cais ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon am Ewro 2028.
191. Cynhelir cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn gyda phenaethiaid asiantaethau treftadaeth llywodraethau eraill y DU. Fel gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, mae Cadw’n cymryd rhan yng Ngrŵp Cynghori Treftadaeth y Byd a sefydlwyd i roi cyngor i’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar faterion strategol sy’n ymwneud â’r gwaith o weithredu Confensiwn Treftadaeth y Byd 1972 UNESCO yn y DU. Mae’r grŵp yn darparu cyngor mewn perthynas â’r dull domestig o enwebu Safleoedd Treftadaeth y Byd yn y dyfodol gan y Wladwriaeth sy’n Barti a materion strategol sy’n ymwneud â’r Safleoedd Treftadaeth y Byd sy’n bodoli eisoes ledled y DU. Yn ystod 2022-23, roedd y grŵp wedi cefnogi’r adolygiad o Restr Amodol y DU o enwebiadau yn y dyfodol.
192. Mae’r Is-adran Diwylliant yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y Grŵp Diplomyddiaeth Ddiwylliannol, gan gyfarfod â swyddogion a phartneriaid o bob rhan o’r DU. Ym mis Awst 2022, aeth swyddogion i’r Uwchgynhadledd Diwylliant Ryngwladol yng Nghaeredin, a drefnwyd gan y British Council ac a oedd yn canolbwyntio ar Addysg a Diwylliant, a Diwylliant a Dyfodol Cynaliadwy. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad brecwast a chynnal cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda chynrychiolwyr eraill.
193. Roedd swyddogion wedi cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i drafod materion sy’n ymwneud â’r sector amgueddfeydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn wedi cynnwys gwaith i sicrhau bod effaith yr argyfwng costau byw a phrisiau ynni uwch yn cael ei bwydo i arolwg Llywodraeth y DU i bennu’r angen am gymorth costau ynni i fusnesau ar ôl mis Ebrill 2023. Cysylltodd swyddogion â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau i’r diffiniad o drysor yn Neddf Trysor 1996 a’r newidiadau cysylltiedig i’r cod ymarfer.
194. Bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar ddatblygu cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2025, sydd bellach yn croesawu ceisiadau gan drefi a rhanbarthau yn ogystal â dinasoedd, ac mae’r panel dyfarnu annibynnol bellach yn cynnwys cynrychiolydd o Gymru, wedi’i benodi gyda’n cyfraniad ni. Roedd Wrecsam yn un o’r tri a ddaeth i’r brig, gan gael £125,000. Er y trafodaethau helaeth ar lefel swyddogion a Gweinidogion, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei phenderfyniad i ddefnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU i ddarparu grantiau i’r rhai sy’n dod yn ail, gan gynnwys i Wrecsam, er ein bod wedi galw am ddefnyddio’r trefniadau cyllido datganoledig arferol.
195. Ers dechrau 2023, mae swyddogion yr Is-adran Diwylliant sy’n gweithio ar ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Lywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon i drafod meysydd sydd o ddiddordeb i bawb.
196. Bu swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r trefniadau ar gyfer Grŵp Rhyngweinidogol arfaethedig ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Diwylliant.
197. Mae trafodaethau pellach wedi cael eu cynnal rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion trawsffiniol, gan gynnwys cyfranogiad a chystadlu yn erbyn athletwyr o Rwsia/Belarws a chanllawiau cyfergyd ar gyfer chwaraeon cymunedol. Roedd yr ymgysylltu hwn yn gynhyrchiol ac yn ystyrlon. Ar lefel Weinidogol, rydym wedi cael trafferth trefnu cyfarfod ar gyfer y Cabinet Chwaraeon yn erbyn y protocolau presennol, ac wedi cyfarfod ddwywaith yn unig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cafodd y diweddaraf ei gwtogi i awr, gan roi sylw i ddim ond un brif eitem ar yr agenda. Roedd hynny ym mis Awst 2022 ac nid ydym wedi gallu trefnu cyfarfod dilynol hyd yma.
Cwpan y Byd
198. Ceisiodd Llywodraeth Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a’r manteision a ddaeth y sgil cyfranogiad tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar. Roedd pedwar amcan:
- hyrwyddo Cymru
- cyfleu ein gwerthoedd
- sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y twrnament
- a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol o’n cyfranogiad yng Nghwpan y Byd.
Roedd y gweithgareddau’n canolbwyntio ar bedair elfen graidd:
- ymgyrch farchnata well
- Cronfa Cefnogi Partneriaid
- ymgysylltu drwy ein rhwydwaith o swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru
- ymgysylltiad Gweinidogol yn y twrnament.
199. Roedd yr ymgysylltu â’r FCDO a Jon Wilks, Llysgennad y DU yn Qatar, yn gadarnhaol iawn. Ymwelodd Llysgennad y DU â Chymru ym mis Mehefin 2022, yn fuan ar ôl i Gymru ennill ei lle yn y twrnament ar gyfer ymgysylltu â Chymru gan ganolbwyntio ar Gwpan y Byd, ac anfonodd yr FCDO gynrychiolwyr i Gymru ar gyfer trafodaethau pellach. Roedd Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn rhan o Fwrdd Cydlynu rheolaidd Cwpan y Byd 22 ar draws Llywodraeth Ei Fawrhydi dan arweiniad yr FCDO. Buom yn gweithio’n agos gyda Llysgenhadaeth Prydain yn Qatar i gynnal digwyddiadau cyn ac yn ystod Cwpan y Byd, gan gynnwys derbyniad mawr i Gymru ym mhreswylfa’r Llysgennad fel rhan o raglen y Prif Weinidog.
200. Bu tîm marchnata Brand Cymru Wales yn gweithio gyda thîm ymgyrchu UKG GREAT yn ystod y misoedd yn arwain at Gwpan y Byd FIFA yn hydref 2022 ar gynrychiolaeth Cymru mewn Pafiliwn GREAT yn Qatar, a oedd yn cynnwys cerdd ddwyieithog gan Hanan Issa am y Goedwig Genedlaethol.
201. Bu Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ledled y byd hefyd yn gweithio gyda Llysgenhadaeth ac Is-genhadaethau’r DU i gynnal digwyddiadau ar y cyd.
Casgliad
202. Bwriad yr adroddiad trosolwg hwn yw darparu asesiad o sylwedd a chytbwys o natur gwaith rhynglywodraethol ar draws Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod adrodd hwn a chrynhoi’n benodol yr ymgysylltu sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
203. Fel y dangosir, rydym yn parhau i gael perthynas gadarnhaol â’r llywodraethau datganoledig eraill, ac mae enghreifftiau clir hefyd o gydweithio adeiladol a chydweithredol â Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, am lawer iawn o’r cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu Llywodraeth y DU sydd wedi rhoi'r argraff ei bod yn gwrthwynebu datganoli, ac mae ei gweithredoedd yn niweidiol i’r Undeb o ganlyniad, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a materion ariannol.
204. Cafwyd rhai arwyddion bod modd gwella’r berthynas ers hydref 2022, ac rydym yn croesawu’r arwyddion hynny o gynnydd. Mae profion clir i ddod o hyd lle’r ydym yn gobeithio gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu ar ei hymrwymiad datganedig i gonfensiwn Sewel, datganoli a’r Undeb.
Mark Drakeford AS
Prif Weinidog Cymru
Mehefin 2023