Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn gynnar 2019 cymeradwyodd Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru gytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol. Mae'r  cytundeb yn cynnwys y canlynol:

  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol gan gynnwys fforymau gweinidogol; (a chyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel weinidogol, concordatiau, cytundebau a memoranda cydddealltwriaeth), a
  • darparu adroddiad blynyddol sy'n crynhoi'r gwaith cysylltiadau rhynglywodraethol a wnaed yn ystod y flwyddyn

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru'r Senedd yn rheolaidd yn y cyfarfodydd llawn ac yn y pwyllgorau a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth. Mae ein gohebiaeth, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gyfarfodydd a chytundebau rhynglywodraethol, ar gael ar wefan y Senedd.

Crynodeb

Y cyfrwng ffurfiol ar gyfer unrhyw gyfathrebu rhynglywodraethol yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, nad yw wedi cyfarfod mewn cyfarfod llawn ers mis Rhagfyr 2018.

Mae gennym berthynas gref â'r llywodraethau datganoledig eraill, ac rydym yn croesawu’n fawr y ffaith i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon ddychwelyd ar ddechrau 2020.

Mae lefelau’r ymgysylltu a’r ymwneud â Llywodraeth y DU yn amrywio.

Cysylltiadau rhynglywodraethol

Cyfansoddiad

Yn 2019, cyhoeddwyd 'Diwygio Ein Hundeb', sy'n cyfrannu at y ddadl am ddyfodol hyfyw a deinamig i'r DU.

Rydym wedi parhau i gyflwyno achos cadarn dros gael pwerau pellach mewn meysydd strategol bwysig, gan gynnwys Cyfiawnder (a gefnogwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru).

A great deal of work was done to influence the intergovernmental relations review and to progress the model of shared governance between the UK administrations (Draft principles for intergovernmental relations on GOV.UK).

Fe wnaeth y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn ei sUwchgynadleddau a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon yn eu tro, ac ymhlith eraill y cyfarfod Gweinidogol ar bolisi'r Blynyddoedd Cynnar a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd7, ddarparu fforwm pwysig ar gyfer trafodaethau. Credwn y dylai’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig dyfu yn ei bwysigrwydd dros amser yng ngoleuni'r newidiadau sydd ar y gweill yn y cyd-destun gwleidyddol ehangach.

Pontio Ewropeaidd

Estynnwyd y dyddiad ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE dair gwaith (29 Mawrth, 12 Ebrill a 31 Hydref), ac fe'i cadarnhawyd ar gyfer 31 Ionawr 2020.

Gwrthododd y Senedd, yn ogystal â Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, roi cydsyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020. Aeth Llywodraeth y DU ymlaen â'r ddeddfwriaeth serch hynny, gan nodi eu bod yn amgylchiadau unigol, penodol ac eithriadol.

Parhawyd i gefnogi buddiannau Cymru, fel y nodir yn ein dogfennau polisi, yn fwyaf diweddar yn 'Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru'. Mae ein cynigion yn parhau i nodi'r hyn y credwn fyddai’r canlyniad gorau ar gyfer Cymru o fewn cyd-destun y negodiadau a gynhaliwyd – yn fwyaf diweddar mewn cysylltiad â’r Datganiad Gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth y DU a'r UE.

Drwy ein cysylltiadau rhynglywodraethol, ceisiwyd sicrhau bod gennym rôl glir yn y negodiadau â’r Ewropeaidd, a chytundebau masnach yn y dyfodol. Roeddem yn ymwneud yn helaeth â sicrhau marchnad fewnol agored yn y DU a fframweithiau cyffredin mewn meysydd lle y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd.

Buom yn gweithio i baratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb. Roedd ein paratoadau'n cynnwys datblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau llyfr statud gweithredol ar y diwrnod ymadael (gan gwblhau tua 50 o Offerynnau Statudol Cymru a rhoi cydsyniad i fwy na 150 o Offerynnau Statudol y DU), gweithio gyda Llywodraeth y DU ar brosiectau parodrwydd gweithredol, argyfyngau sifil posibl, a phrosiectau sy'n benodol i Gymru yn ychwanegol at y gwaith ar fesurau ledled y DU.

Negodiadau Masnach y DU/UE a Gweddill y Byd

Nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol o gwbl yn y negodiadau ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Mae cyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) wedi parhau, ond mae gwaith y pwyllgor hwnnw yn bell o’r cylch gorchwyl, a oedd yn cynnwys: goruchwylio'r negodiadau a cheisio dod i gytundeb ar flaenoriaethau negodi. Er gwaethaf hyn, rydym yn parhau i fwydo ein blaenoriaethau i’r trafodaethau ac yn dadlau'r achos dros y math o berthynas a fydd, ar sail y dystiolaeth, er budd gorau Cymru yn y dyfodol.

Yn wahanol i'r gwaith ymgysylltu ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, mae'r berthynas â’r Adran Masnach Ryngwladol ar negodiadau Gweddill y Byd yn llawer mwy adeiladol. Cynhaliwyd tri chyfarfod o'r Fforwm Masnach Gweinidogol ers ei sefydlu'n gynharach yn y flwyddyn a chyfarfodydd Gweinidogol rheolaidd ddwywaith y flwyddyn. Cawsom gyfle i roi sylwadau ar y mandadau mewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli, ac rydym hefyd yn cael gweld a rhoi sylwadau ar y testun cyfreithiol sy'n cael ei gyflwyno yn y negodiadau.

Cyllid

Yng nghyd-destun dull mympwyol Llywodraeth y DU o ymdrin â chyllid cyhoeddus, ac ymadawiad anhrefnus y DU â’r UE, rydym wedi galw’n gyson am sicrwydd yng nghyfarfodydd y Gweinidogion Cyllid na fyddai Cymru yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddem wedi'i ddisgwyl o fewn yr UE. Rydym wedi defnyddio cyfarfodydd pedairochrog y Gweinidogion Cyllid i ganolbwyntio ar faterion brys, megis llifogydd, lle rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU am yr angen i gael cyllid ychwanegol er mwyn ymdrin â’r effaith y mae’n ei chael ar ein cymunedau.

Mae pandemig Covid-19 wedi dwysáu’r berthynas, wrth i gyfarfodydd y Gweinidogion Cyllid gael eu cynnal yn fwy aml, gyda ffocws ar yr ymateb cyllidol i'r pandemig gan gynnwys Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a phecyn Hunangyflogaeth Llywodraeth y DU. Drwy gydol y cyfnod, rydym wedi parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder ar ei chyhoeddiadau cyllid, y cynlluniau ar gyfer y Gyllideb a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant gan gynnwys pwyso am gael Datganiad Polisi Cyllid cryfach. Mae’n hanfodol ein bod yn cael yr eglurder hwn, er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru.

Yr economi, ynni a'r newid yn yr hinsawdd

Mewn perthynas ag Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU (BEIS), nid oedd cysylltiadau rhynglywodraethol a chydweithio wedi’u sefydlu’n gadarn, ac achosodd hyn broblemau o ran sicrhau ein bod yn chwarae rhan lawn wrth ddatblygu'r ymateb economaidd, ein gwydnwch busnes, ac wrth sicrhau ein bod yn parhau i elwa o gyllid i gefnogi busnesau, ymchwil ac arloesi. Gwnaed cynnydd drwy sefydlu cyfarfodydd pedairochrog Gweinidogol yn cwmpasu busnes a diwydiant, ac ynni a’r newid yn yr hinsawdd yn y drefn honno, ond nid oedd y rhain yn ddulliau difrifol o weithredu, gyda chyfarfodydd yn aml yn cael eu gohirio a'u canslo. Fodd bynnag, cafwyd ymgysylltu cyson rhwng swyddogion mewn perthynas â’r agweddau ar ymadawiad y DU â’r UE oedd yn ymwneud ag ynni a’r newid yn yr hinsawdd, a chydweithio agos yn enwedig ar Gynllun Masnachu Allyriadau arfaethedig y DU. Parhawyd i bwyso ar Weinidogion BEIS i geisio sicrhau cysylltiadau rhynglywodraethol a chydweithio gwell.

Sgiliau a chyflogadwyedd

Galluogodd ymdrech gyfunol ar draws y pedair gwlad i roi cyhoeddusrwydd i’r neges ‘Aros Gartref. Diogelu’r GIG. Achub Bywydau’ fel rhan o’r ymateb cychwynnol i’r pandemig Covid-19. Roedd hyn yn cynnwys dull ar y cyd o gefnogi ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr dysgu eraill i symud i ddysgu ar-lein ac ystyriaeth gychwynnol i arholiadau haf 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar bolisi sgiliau a chyflogadwyedd yn ogystal ag ar lefel weithredol, i sicrhau bod gweithgarwch yr Adran yn cyd-fynd â pholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gwelwyd tystiolaeth arbennig o hyn gan y gwaith partneriaeth yn y Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedau, a'r Grwpiau Ymateb Cyflogaeth Rhanbarthol a ffurfiwyd fel ymateb cyflym i amodau marchnad lafur sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â’r UE. Mae cydweithio da yn digwydd rhwng y Ganolfan Byd Gwaith a Cymru’n Gweithio, gyda'r nod o adeiladu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, a all gyfeirio dinasyddion at y cymorth cyflogadwyedd mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Mae’r pandemig Covid-19 wedi cynyddu lefel y cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod ymyriadau a gynllunnir yn gyflym gan Lywodraeth y DU yn ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth bresennol, yn hytrach na'i disodli neu ei dyblygu.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r ddarpariaeth addysg a dysgu a llyfrgelloedd yng ngharchardai Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS). Mae'r trefniadau hyn yn galluogi perthynas waith agos a chynhyrchiol gyda HMPPS ac yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gysoni'r ddarpariaeth addysg â nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Glasbrintiau Troseddwyr Benywaidd a Chyfiawnder Ieuenctid, a'n Fframwaith Lleihau Troseddu 2018-23. Rydym hefyd wedi cyflawni yn erbyn nifer o argymhellion yn adolygiad Hanson o Addysg Carcharorion yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Dysgu Troseddwyr, mewn cydweithrediad â HMPPS.

Addysg

Cynhaliwyd sawl cyfarfod pedairochrog Gweinidogol i drafod materion sy’n effeithio ar bortffolio’r Gweinidog Addysg. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys dyfodol y cronfeydd strwythurol, parhau i gymryd rhan/trefniadau domestig amgen ar gyfer rhaglenni’r UE (Erasmus, Horizon), ffioedd myfyrwyr a mewnfudo.

Ategwyd hyn gan alwadau ffôn ad hoc i sefydlu cydberthnasau newydd gyda Gweinidog Addysg a Gweinidog Prifysgolion Llywodraeth y DU.

Yr amgylchedd, amaethyddiaeth, bwyd

Ar lefel Weinidogol, parhaodd y berthynas ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (Defra) i fod yn gadarnhaol drwy gydol y cyfnod hwn. Cynhaliwyd cyfarfodydd Grŵp Rhyng-Weinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) yn fwy rheolaidd, a chyfarfu'r Fforwm Manwethwyr, sy’n cynnwys manwerthwyr bwyd, Defra a Gweinidogion llywodraethau datganoledig, i drafod materion yn ymwneud â'r gadwyn cyflenwi bwyd a manwerthu ledled y DU. Yn gyffredinol, roedd y berthynas waith â Defra ar ein paratoadau ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn gadarnhaol. Datblygwyd dull cydweithredol yn gynnar yn y broses i weithio ar feysydd blaenoriaeth, er bod faint o wybodaeth a rennir yn amrywio a'i bod weithiau’n brin neu’n cyrraedd ar y funud olaf. Parhaodd y cydweithio hwn i'r cyfnod pontio.

Iechyd

Roedd trafodaethau ar lefel Weinidogol yn cynnwys ymgysylltiad adeiladol ar y cyfan ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r UE. Roedd y rhain yn cynnwys trefniadau parodrwydd o ran meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol, sianelau cludo nwyddau a mewnforio, statws preswylydd sefydlog ac effeithiau ar y gweithlu (a oedd hefyd yn cwmpasu polisi pensiynau yn gynnar yn 2020), parodrwydd deddfwriaethol a gofal iechyd cyfatebol, a chyfraniad Cymru i drefniadau dan arweiniad Llywodraeth y DU (er enghraifft ar warysau a chyflenwad meddyginiaethau).

Y tu ôl i hyn, roedd y gwaith rhynglywodraethol ar gyfer ymadael â’r UE yn weithredol ar y cyfan, drwy fforwm cydgysylltu cyflenwadau yn cynnwys swyddogion arweiniol ar lefel Cyfarwyddwr Cyffredinol/Cyfarwyddwr, ac wedi'i ategu gan y gwaith manwl a wnaed drwy gysylltiadau'r GIG, yn enwedig rhwng Public Health England ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddiogelu iechyd y cyhoedd, a rhwng NHS Supply Chain a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar stociau wth gefn a pharodrwydd cyflenwyr.

Tua diwedd mis Mawrth daeth rhywfaint o bwysau i'r amlwg mewn perthynas â’r diffyg cysylltiad rhwng negodiadau masnach (a gadwyd yn ôl i’r DU) a'u goblygiadau polisi mewn meysydd datganoledig; ac wrth i bwysau cyfarpar diogelu personol (PPE) ddod i’r amlwg ddiwedd mis Mawrth, wynebwyd heriau wrth weithredu’r tybiaethau a'r egwyddorion ar draws y DU gyfan, y cytunwyd arnynt er mwyn bod yn barod ar gyfer Brexit.

Blaenoriaethau a rhagolygon

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran meddwl cyfansoddiadol yn y DU, gan ddadlau'r achos dros gryfhau datganoli mewn cyhoeddiadau gan gynnwys ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, ‘Brexit a Datganoli’, a ‘Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU’.

Mae Pontio Ewropeaidd a Covid-19 wedi gwella gwybodaeth a chynyddu dealltwriaeth o rôl Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru ym maes llywodraethu'r DU, ac wedi tynnu sylw at yr angen i gryfhau datganoli er mwyn sicrhau dyfodol yr Undeb.

Mae cyd-destun ymadawiad y DU â’r UE a’r pandemig Covid-19 yn gofyn am ddull cydweithredol ar draws llywodraethau'r DU yn seiliedig ar gydlywodraethu a pharch rhwng y ddwy ochr, parch cydradd, a chyfranogiad cydradd. Byddwn yn parhau i gynnal yr egwyddorion hyn wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU.

Drwy ein gwaith ar faterion cyfansoddiadol a chysylltiadau rhynglywodraethol byddwn yn parhau i geisio diogelu a chryfhau datganoli, ceisio cael canlyniad cadarnhaol i'r Cyd-adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, cael perthynas ddyfnach â'n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig lle bynnag y bo modd i ddiwygio ein Hundeb.

Mark Drakeford AS
Prif Weinidog Cymru
26 Hydref 2020