Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Medi 2013.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn pobl am yr opsiynau a gyflwynwyd yn yr adroddiad am ddarparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ym mis Ionawr 2013 cyhoeddodd y Gweinidog fod Robert Hill wedi'i benodi i gynnal yr adolygiad ar y darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol.
Y prif nod oedd edrych ar ba mor effeithiol yw'r system bresennol sydd gennym ar gyfer darparu gwasanaethau addysg ar lefel yr ysgol ac ar lefel yr awdurdod lleol ac ystyried beth y dylid ei wneud ar lefel yr ysgol ar lefel yr awdurdod lleol ac ar y lefel ranbarthol a chenedlaethol gan ganolbwyntio ar y materion a ganlyn:
- codi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr o bob oedran
- rhoi gwell cefnogaeth a her i ysgolion er mwyn gwella safonau
- datblygu a chryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion ynghyd ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu
- sicrhau gwerth am arian a bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithiol
- sicrhau cydlyniant a chysylltiadau cryf rhwng pob rhan o'r system addysg gan gynnwys darpariaeth ôl-16 a'r agenda ehangach ar gyfer gwasanaethau plant.
Bellach mae Robert Hill wedi cwblhau ei adolygiad ac wedi cyflwyno'I adroddiad i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno amrywiaeth eang o opsiynau i'w hystyried gan Weinidogion Cymru sy'n cwmpasu pum maes:
- gwella addysgu a dysgu yn y dosbarth
- cryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion
- meithrin rhagor o bartneriaethau rhwng ysgolion
- gwella atebolrwydd
- trefnu swyddogaethau gwella ysgolion.
Mae'r papur hwn yn gwahodd sylwadau ynghylch p'un a ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r opsiynau a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Fodd bynnag mae nifer ohonynt eisoes yn rhan o gynllun Gwella ysgolion Llywodraeth Cymru a chaiff y rhain eu datblygu dros y misoedd i ddod.