Darparu eitemau cyfarpar diogelu personol: hyd at 8 Tachwedd 2020
Diweddariad gwybodaeth rheoli ar eitemau cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd wedi’u darparu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) hyd at 8 Tachwedd 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Prif ganlyniadau
Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu 440.4 miliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dosbarthwyd tua 220 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
- Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 8 Tachwedd 2020 darparwyd 14.0 miliwn o eitemau.
- Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu o fis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd wedi amrywio, ond yn aros oddeutu 13 i 14 miliwn.
Eitem | Ers 9 Mawrth 2020 | Yn y saith diwrnod hyd at 8 Tachwedd 2020 |
---|---|---|
Ffedogau | 83,750,975 | 2,481,600 |
Bagiau cyrff | 8,636 | 84 |
cyfarpar amddiffyn llygaid | 1,615,355 | 920 |
Masgiau Math I a Masgiau Math II | 952,400 | 16,950 |
Masgiau Math IIR | 109,951,204 | 3,433,045 |
Masgiau FFP2 | 114,510 | 440 |
Masgiau FFP3 | 2,070,696 | 14,130 |
Feisorau wyneb | 3,472,180 | 113,710 |
Gosod citiau profi a darnau sbâr | 5,558 | 181 |
Menyg | 229,957,440 | 7,626,100 |
Menyg â chyffiau | 1,175,600 | 9,200 |
Gynau (gwrth-hylif) | 1,431,090 | 54,036 |
Gynau (arall) | 435,300 | 17,046 |
Hylif diheintio dwylo | 288,165 | 9,104 |
Clytiau diheintio dwylo | 5,173,350 | 207,400 |
Hidlyddion anadlyddion | 22,176 | 0 |
Cyflau anadlyddion | 102 | 2 |
Cyfanswm | 440,424,737 | 13,983,948 |
Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:
- menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
- hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint
Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.
Nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd yn ôl dyddiad ar StatsCymru
2. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.
Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.
Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 8 Tachwedd 2020.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.
Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.
Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 19 Tachwedd.
Rydym eisiau eich adborth
Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.
3. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 200/2020