Darparu eitemau cyfarpar diogelu personol: hyd at 5 Gorffennaf 2020
Diweddariad gwybodaeth rheoli ar eitemau cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd wedi’u darparu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) hyd at 5 Gorffennaf 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Ffigurau penawdau cenedlaethol
Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Prif ganlyniadau
- Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu dros 192 miliwn o eitemau o PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 5 Gorffennaf 2020, darparwyd dros 7.5 miliwn o eitemau.
Eitem | Ers 9 Mawrth 2020 | Yn y saith diwrnod hyd at 5 Gorffennaf 2020 |
---|---|---|
Ffedogau | 32,832,600 | 1,562,950 |
Bagiau cyrff | 7,653 | 0 |
Amddiffynnydd Llygaid | 1,600,139 | 0 |
Masgiau math II | 412,200 | 6,500 |
Masgiau math IIR | 55,098,986 | 2,345,240 |
Masgiau FFP2 | 43,920 | 23,220 |
Masgiau FFP3 | 1,288,122 | 54,110 |
Feisorau wyneb | 2,076,069 | 114,380 |
Gosod citiau profi a darnau sbâr | 4,509 | 22 |
Menyg | 94,246,200 | 3,548,700 |
Menyg â chyffiau | 896,750 | 25,850 |
Gynau (gwrth-hylif) | 870,933 | 9,410 |
Gynau (arall) | 159,199 | 7,674 |
Hylif diheintio dwylo | 159,464 | 3,809 |
Clytiau diheintio dwylo | 2,349,350 | 79,150 |
Cyfanswm | 192,046,094 | 7,781,015 |
Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:
- menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
- hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint
2. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.
Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.
Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 5 Gorffennaf 2020.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.
Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.
Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.
Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 16 Gorffennaf.
Hoffem gael eich adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at kas.covid19@llyw.cymru
3. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 78/2020