Neidio i'r prif gynnwy

Sylwch na chafodd y datganiad hwn ei ddiweddaru ar 31 Rhagfyr 2020. Mae data ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben 27 Rhagfyr 2020 wedi’u cynnwys yn y tablau StatsCymru a gyhoeddir gyda’r datganiad hwn.

1. Prif ganlyniadau

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu 549 miliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darparwyd tua 270 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
  • Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 3 Ionawr 2021 darparwyd 7.3 miliwn o eitemau.

Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu o fis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers mis Medi, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd wedi amrywio, gan aros oddeutu 11 i 17 miliwn ond mae wedi lleihau i 7 miliwn yn yr wythnos ddiwethaf. Gwelwyd dirywiad yn yr wythnos ddiweddaraf oherwydd y cyfnod sy’n cynnwys gwyliau banc yn ogystal â storau lleol yn defnyddio stociau ychwanegol a gaffaelwyd cyn y Nadolig.

Tabl 1: Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 3 Ionawr 2021
Ffedogau 102,112,575 1,257,450
Bagiau cyrff 10,796 35
Cyfarpar amddiffyn llygaid 1,621,180 465
Masgiau Math I a Masgiau Math II 1,107,150 9,150
Masgiau Math IIR 129,754,806 940,530
Masgiau FFP2 119,540 190
Masgiau FFP3  2,497,958 78,750
Feisorau wyneb 4,460,062 76,939
Gosod citiau profi a darnau sbâr 5,696 0
Menyg 296,611,680 4,768,210
Menyg â chyffiau 1,261,400 600
Gynau (gwrth-hylif) 1,758,602 31,970
Gynau (arall) 596,914 6,108
Hylif diheintio dwylo 353,684 3,741
Clytiau diheintio dwylo 6,620,075 128,650
Hidlyddion anadlyddion 22,176 0
Cyflau anadlyddion 102 0
Cyfanswm 548,914,396 7,302,788

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.

Image
Siart i ddangos y nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020. Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu o fis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers mis Medi, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd wedi amrywio, gan aros oddeutu 11 i 17 miliwn ond mae wedi lleihau i 7 miliwn yn yr wythnos ddiwethaf.

Nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd yn ôl dyddiad ar StatsCymru

2. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Mae’r byrddau iechyd lleol yn archebu eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) drwy system ar-lein. Yna caiff yr eitemau eu dosbarthu o warysau NWSSP drwy slotiau dosbarthu a drefnwyd. Mae prosesau ar waith hefyd i fyrddau iechyd lleol ofyn am gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar frys os oes angen, ac mae'r danfoniadau brys hyn wedi'u cynnwys yn y data hyn. Mae'n bosibl i rai eitemau gael eu dogni o bryd i'w gilydd os yw'r stociau'n isel. Mae’r byrddau iechyd lleol yn cadw eu stociau PPE eu hunain ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn cael gafael ar gyflenwadau ar wahân i'r broses hon. Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 3 Ionawr 2021.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 14 Ionawr 2021.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

3. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 5/2021