Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ganlyniadau

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu ychydig dan 480 miliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dosbarthwyd tua 240 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
  • Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 29 Tachwedd 2020 darparwyd 13.9 miliwn o eitemau.
  • Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu o fis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers Medi, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd wedi amrywio, gan aros oddeutu 11 i 14 miliwn.
Tabl 1: Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 29 Tachwedd 2020
Ffedogau 90,420,825 2,198,075
Bagiau cyrff 9,008 53
cyfarpar amddiffyn llygaid 1,618,595 1,500
Masgiau Math I a Masgiau Math II 1,000,900 25,250
Masgiau Math IIR 116,371,869 2,260,955
Masgiau FFP2 116,710 1,320
Masgiau FFP3  2,207,753 32,125
Feisorau wyneb 3,860,114 139,117
Gosod citiau profi a darnau sbâr 5,580 9
Menyg 254,852,080 8,969,210
Menyg â chyffiau 1,233,950 27,000
Gynau (gwrth-hylif) 1,529,795 43,859
Gynau (arall) 483,182 18,673
Hylif diheintio dwylo 311,069 6,760
Clytiau diheintio dwylo 5,711,150 173,700
Hidlyddion anadlyddion 22,176 0
Cyflau anadlyddion 102 0
Cyfanswm 479,754,858 13,897,606

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.

Image
Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu o fis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers Medi, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd wedi amrywio, gan aros oddeutu 11 i 14 miliwn.

Nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd yn ôl dyddiad ar StatsCymru

2. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Mae’r byrddau iechyd lleol yn archebu eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) drwy system ar-lein. Yna caiff yr eitemau eu dosbarthu o warysau NWSSP drwy slotiau dosbarthu a drefnwyd. Mae prosesau ar waith hefyd i fyrddau iechyd lleol ofyn am gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar frys os oes angen, ac mae'r danfoniadau brys hyn wedi'u cynnwys yn y data hyn. Mae'n bosibl i rai eitemau gael eu dogni o bryd i'w gilydd os yw'r stociau'n isel. Mae’r byrddau iechyd lleol yn cadw eu stociau PPE eu hunain ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn cael gafael ar gyflenwadau ar wahân i'r broses hon. Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 29 Tachwedd 2020.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 10 Rhagfyr.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

3. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 221/2020