Neidio i'r prif gynnwy

Prif ganlyniadau

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu dros 1.1 biliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darparwyd dros 493 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
  • Yn y saith niwrnod hyd at ddydd Sul 28 Tachwedd 2021, darparwyd dros 10 miliwn o eitemau.
  • Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 10 miliwn ac eithrio'r wythnos a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2021 pan ddarparwyd 31.5 miliwn o eitemau.
Tabl 1: Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 28 Tachwedd 2021
Ffedogau 173,630,675 2,405,775
Bagiau cyrff 11,897 22
Cyfarpar amddiffyn llygaid 1,639,416 50
Masgiau Math I a Masgiau Math II 1,561,550 3,100
Masgiau Math IIR 218,489,087 1,230,200
Masgiau FFP2 127,044 0
Masgiau FFP3 (3M) 3,750,926 30,547
Masgiau FFP3 (arall) 186,700 600
Feisorau wyneb 6,902,589 26,095
Gosod citiau profi a darnau sbâr 6,260 16
Menyg 635,112,000 5,877,700
Menyg â chyffiau 1,475,400 2,200
Gynau (gwrth-hylif) 3,577,433 43,432
Gynau (arall) 825,517 3,444
Hylif diheintio dwylo 615,426 5,274
Clytiau diheintio dwylo 92,707,650 1,249,325
Cyflau anadlyddion 104 0
Hidlyddion anadlyddion 35,273 0
Cyfanswm 1,140,654,947 10,877,780

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru   

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.

O fis Mai 2021, mae masgiau FFP3 wedi cael eu rhannu yn ddau gategori: masgiau FFP3 (3M) a masgiau FFP3 (arall). Mae’r categorïau hyn yn darparu dadansoddiad pellach o lefelau stoc er mwyn gallu monitro’n fanylach ac maent wedi’u hôl-ddyddio i fis Gorffennaf 2020 yn y datganiad a’r tablau cysylltiedig ar StatsCymru.

Mae Tabl 1 yn cynnwys y data ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf. Bydd tablau manylach sy’n cynnwys y dadansoddiadau fesul wythnos ers y cyhoeddiad blaenorol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Image
Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 10 miliwn ac eithrio'r wythnos a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2021 pan ddarparwyd 31.5 miliwn o eitemau.

Ceir amrywiadau yn nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd pan fydd storfeydd lleol yn defnyddio eu stociau presennol sy'n arwain at lai o eitemau wedi’u darparu ar gyfer yr wythnos honno. Bydd gwyliau banc hefyd yn cael effaith ar faint o stoc a archebir a gall arwain at ostyngiad yn ystadegau'r wythnos ganlynol. Mae gostyngiad yn yr eitemau a ddarperir yn ystod yr wythnos ddiweddaraf oherwydd uwchraddiad i’r system ond byddai hyn wedi cael iawndal yn yr wythnosau blaenorol.

Darparir PPE ar gyfer pecynnau brechu mewn swmp ac yna fe'i defnyddir dros nifer o wythnosau. Gall hyn arwain at niferoedd uwch o rai eitemau a ddarparwyd (fel masgiau Math IIR) am rai wythnosau. Dyma achos y cynnydd mewn eitemau a ddarparwyd ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar Fawrth 28 2021.

Mae’r data sy’n cyd-fynd â’r siart ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Mae’r byrddau iechyd lleol yn archebu eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) drwy system ar-lein. Yna caiff yr eitemau eu dosbarthu o warysau NWSSP drwy slotiau dosbarthu a drefnwyd. Mae prosesau ar waith hefyd i fyrddau iechyd lleol ofyn am gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar frys os oes angen, ac mae'r danfoniadau brys hyn wedi'u cynnwys yn y data hyn. Mae'n bosibl i rai eitemau gael eu dogni o bryd i'w gilydd os yw'r stociau'n isel. Mae’r byrddau iechyd lleol yn cadw eu stociau PPE eu hunain ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn cael gafael ar gyflenwadau ar wahân i'r broses hon. Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Darparir PPE ar gyfer pecynnau brechu mewn swmp ac yna fe'i defnyddir dros nifer o wythnosau. Gall hyn arwain at niferoedd uwch o rai eitemau a ddarparwyd (fel masgiau Math IIR) am rai wythnosau

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Lloegr: Ystadegau dosbarthu PPE (Lloegr) (GOV.UK) ar Ystadegau a dadansoddi Coronafeirws (COVID-19) (GOV.UK)

Yr Alban: Ystadegau dosbarthu cyfarpar diogelu personol Coronafeirws (COVID-19) (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon: Ystadegau Coronafeirws (COVID-19) (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)

Ni ellir cymharu'r data hyn oherwydd bod gan y gwledydd ddiffiniadau a dadansoddiadau gwahanol o eitemau cyfarpar diogelu personol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 28 Tachwedd 2021.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Mae amlder y datganiad hwn wedi newid o bob pythefnos i bob mis, ac mae’n cynnwys data ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf. Bydd tablau manylach sy’n cynnwys y dadansoddiadau fesul wythnos ers y cyhoeddiad blaenorol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 6 Ionawr 2022.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 380/2021