Neidio i'r prif gynnwy

Prif ganlyniadau

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu dros 1.2 biliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darparwyd tua 523 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
  • Yn y saith niwrnod hyd at ddydd Sul 23 Ionawr 2022, darparwyd dros 13 miliwn o eitemau.
  • Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 10 miliwn ac eithrio'r wythnos a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2021 pan ddarparwyd 31.5 miliwn o eitemau.
Tabl 1: Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 23 Ionawr 2022
Ffedogau 182,864,325 1,157,100
Bagiau cyrff 12,230 25
Cyfarpar amddiffyn llygaid 1,640,266 100
Masgiau Math I a Masgiau Math II 1,651,800 1,350
Masgiau Math IIR 229,700,607 1,880,625
Masgiau FFP2 127,114 0
Masgiau FFP3 (3M) 4,140,037 46,750
Masgiau FFP3 (arall) 191,100 200
Feisorau wyneb 7,110,969 25,031
Gosod citiau profi a darnau sbâr 46,877 40,528
Menyg 688,898,350 8,761,800
Menyg â chyffiau 1,528,900 26,600
Gynau (gwrth-hylif) 3,919,619 37,157
Gynau (arall) 858,990 4,043
Hylif diheintio dwylo (cyffredinol) 661,979 5,718
Hylif diheintio dwylo (arall) 3,629,600 1,237,200
Clytiau diheintio dwylo 101,616,080 215,225
Cyflau anadlyddion 106 0
Hidlyddion anadlyddion 35,273 0
Cyfanswm 1,228,634,222 13,439,452

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru   

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.

O fis Mai 2021, mae masgiau FFP3 wedi cael eu rhannu yn ddau gategori: masgiau FFP3 (3M) a masgiau FFP3 (arall). Mae’r categorïau hyn yn darparu dadansoddiad pellach o lefelau stoc er mwyn gallu monitro’n fanylach ac maent wedi’u hôl-ddyddio i fis Gorffennaf 2020 yn y datganiad a’r tablau cysylltiedig ar StatsCymru.

Mae Tabl 1 yn cynnwys y data ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf. Bydd tablau manylach sy’n cynnwys y dadansoddiadau fesul wythnos ers y cyhoeddiad blaenorol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Image
Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 10 miliwn ac eithrio'r wythnos a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2021 pan ddarparwyd 31.5 miliwn o eitemau.

Ceir amrywiadau yn nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd pan fydd storfeydd lleol yn defnyddio eu stociau presennol sy'n arwain at lai o eitemau wedi’u darparu ar gyfer yr wythnos honno. Bydd gwyliau banc hefyd yn cael effaith ar faint o stoc a archebir a gall arwain at ostyngiad yn ystadegau'r wythnos ganlynol. Mae gostyngiad yn yr eitemau a ddarperir yn ystod yr wythnos ddiweddaraf oherwydd uwchraddiad i’r system ond byddai hyn wedi cael iawndal yn yr wythnosau blaenorol.

Darparir PPE ar gyfer pecynnau brechu mewn swmp ac yna fe'i defnyddir dros nifer o wythnosau. Gall hyn arwain at niferoedd uwch o rai eitemau a ddarparwyd (fel masgiau Math IIR) am rai wythnosau. Dyma achos y cynnydd mewn eitemau a ddarparwyd ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar Fawrth 28 2021.

Mae’r data sy’n cyd-fynd â’r siart ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Mae’r byrddau iechyd lleol yn archebu eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) drwy system ar-lein. Yna caiff yr eitemau eu dosbarthu o warysau NWSSP drwy slotiau dosbarthu a drefnwyd. Mae prosesau ar waith hefyd i fyrddau iechyd lleol ofyn am gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar frys os oes angen, ac mae'r danfoniadau brys hyn wedi'u cynnwys yn y data hyn. Mae'n bosibl i rai eitemau gael eu dogni o bryd i'w gilydd os yw'r stociau'n isel. Mae’r byrddau iechyd lleol yn cadw eu stociau PPE eu hunain ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn cael gafael ar gyflenwadau ar wahân i'r broses hon. Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Darparir PPE ar gyfer pecynnau brechu mewn swmp ac yna fe'i defnyddir dros nifer o wythnosau. Gall hyn arwain at niferoedd uwch o rai eitemau a ddarparwyd (fel masgiau Math IIR) am rai wythnosau

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Lloegr: Ystadegau dosbarthu PPE (Lloegr) (GOV.UK) ar Ystadegau a dadansoddi Coronafeirws (COVID-19) (GOV.UK)

Yr Alban: Ystadegau dosbarthu cyfarpar diogelu personol Coronafeirws (COVID-19) (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon: Ystadegau Coronafeirws (COVID-19) (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)

Ni ellir cymharu'r data hyn oherwydd bod gan y gwledydd ddiffiniadau a dadansoddiadau gwahanol o eitemau cyfarpar diogelu personol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 23 Ionawr 2022.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Dydd Iau 3 Mawrth 2022.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 36/2022